Gwybodaeth Cyngor

Diddordeb mewn bod yn Gynghorydd?

Dod yn gynghorydd sir yn Sir Benfro (2027–2032)

 

Gwnewch wahaniaeth yn eich cymuned

Mae sefyll fel cynghorydd sir yn gyfle i gynrychioli eich cymuned leol, dylanwadu ar benderfyniadau pwysig a helpu i lywio dyfodol Sir Benfro.

Mae cynghorwyr wrth wraidd democratiaeth yn lleol, gan sicrhau bod lleisiau trigolion yn cael eu clywed a'u hadlewyrchu ym mhenderfyniadau'r cyngor.

 

Beth mae cynghorydd sir yn ei wneud?

Fel cynghorydd sir, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Cynrychioli barn, anghenion a phryderon trigolion lleol
  • Mynychu cyfarfodydd y cyngor llawn a phwyllgorau
  • Helpu i lywio polisïau, gwasanaethau a phenderfyniadau strategol
  • Gweithio gyda swyddogion y cyngor a sefydliadau partner
  • Craffu ar benderfyniadau a wneir gan yr awdurdod a'u dwyn nhw i gyfrif

 

Meysydd allweddol o wneud penderfyniadau

Mae cynghorwyr yn cyfrannu at benderfyniadau ar draws ystod o wasanaethau pwysig, gan gynnwys y canlynol:

  • Cynllunio a datblygu
  • Addysg ac ysgolion
  • Gwasanaethau gofal cymdeithasol
  • Gwasanaethau cyhoeddus lleol
Enghreifftiau o effaith
  • Cymeradwyo neu wrthod ceisiadau cynllunio
  • Gosod cyllidebau a lefelau’r dreth gyngor
  • Gwella gwasanaethau lleol fel casglu gwastraff neu drwsio tyllau yn y ffordd

 

Pwy all ddod yn gynghorydd?

I sefyll mewn etholiad yn Sir Benfro, rhaid i chi gyflawni’r canlynol:

  • Bod yn 18 oed o leiaf
  • Bod yn ddinesydd Prydeinig, yn ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad, yn ddinesydd yr UE, neu'n ddinesydd tramor cymwys
  • Bodloni o leiaf un o'r canlynol:
    • Bod wedi’ch cofrestru fel etholwr llywodraeth leol yn yr ardal
    • Wedi byw yn ardal yr awdurdod lleol am y 12 mis blaenorol
    • Wedi gweithio yn yr ardal am y 12 mis blaenorol
    • Wedi meddiannu tir neu eiddo yn yr ardal am y 12 mis blaenorol

 

Ystyriaethau pwysig

Gall cyfyngiadau fod yn berthnasol os:

  • Rydych chi'n cael eich cyflogi gan yr awdurdod lleol mewn rolau penodol
  • Rydych chi'n dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol
  • Rydych chi'n ddarostyngedig i gyfyngiadau cyfreithiol neu ariannol penodol
  • Rydych chi wedi cael euogfarnau troseddol difrifol yn ddiweddar

Os nad ydych yn siŵr, dylai ymgeiswyr geisio cyngor proffesiynol neu gyfreithiol cyn cyflwyno papurau enwebu.

 

 

Sut i sefyll mewn etholiad

Cynhelir yr etholiadau llywodraeth leol nesaf ar 6 Mai 2027.

 

Camau i ddod yn ymgeisydd
  1. Gwiriwch eich cymhwysedd
  2. Cofrestrwch fel ymgeisydd drwy lenwi papurau enwebu drwy dudalen Gwisveina a Etholiadau
  3. Penderfynwch sut i sefyll:
    • Fel aelod o blaid wleidyddol
    • Fel ymgeisydd annibynnol

4. Ymgyrchwch yn eich cymuned leol i ennill cefnogaeth gan bleidleiswyr

 

Cyflog, Cefnogaeth ac Ymrwymiad

Lwfansau

Mae cynghorwyr yn cael cyflog blynyddol sylfaenol (£20,000* ar hyn o bryd, yn amodol ar gadarnhad)

Gall taliadau ychwanegol fod ar gael ar gyfer rolau uwch fel aelodau cabinet neu fel cadeiryddion pwyllgorau trosolwg a chraffu

Mae ymgeiswyr anabl hefyd yn gymwys ar gyfer y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru, y gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth amdani yma - Cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru - Anabledd Cymru (yn agor mewn tab newydd)

 

Ymrwymiad amser
  • Mae'r rôl yn hyblyg, gyda'r oriau'n amrywio o wythnos i wythnos, yn dibynnu ar a ydych chi'n aelod o bwyllgorau neu'n dal swydd uwch
  • Mae llawer o gynghorwyr yn gweithio'n llawn amser neu mae ganddyn nhw ymrwymiadau gwaith eraill ochr yn ochr â'u rôl
  • Gall ymrwymiad amser gynnwys mynychu cyfarfodydd, darllen agendâu ac ymgysylltu â'r gymuned
  • Y tu allan i gyflawni ymrwymiadau, gallwch ddewis sut rydych chi'n cydbwyso'ch amser rhwng gwaith a dyletswyddau'r cyngor – gwiriwch gyda'ch cyflogwr i weld pa drefniadau y gellir eu gwneud.
  • Mae gweithio hybrid yn opsiwn i'r rhai na allant fynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb, gan ddefnyddio system gyfunol o feddalwedd Microsoft Teams a Public-i.

 

Y cymorth a ddarperir
  • Darperir hyfforddiant a chyfarwyddyd gan y Gwasanaethau Democrataidd drwy gydol eich tymor, gyda sesiynau'n amrywio o hyder ar gyfer siarad yn gyhoeddus i sut i gadeirio cyfarfodydd yn effeithiol
  • Gall y tîm etholiadau ddarparu cymorth yn ystod y broses enwebu
  • Offer digidol (e.e. gliniadur) i'ch cynorthwyo gyda'ch rôl a rhoi mynediad i chi at eich cyfeiriad e-bost unigryw
Amrywiaeth

 

 

Pam dod yn gynghorydd sir?

Buddion y rôl

  • Gwneud gwahaniaeth go iawn: Dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar bobl a gwasanaethau lleol
  • Cynrychioli eich cymuned: Bod yn llais dros drigolion a hyrwyddo blaenoriaethau lleol
  • Datblygu sgiliau newydd: Ennill profiad mewn arweinyddiaeth, gwneud penderfyniadau a gwasanaeth cyhoeddus
  • Adeiladu rhwydweithiau: Gweithio gyda swyddogion, partneriaid ac aelodau etholedig eraill
  • Rôl hyblyg: Yn aml gellir ei gydbwyso â gwaith, teulu ac ymrwymiadau eraill

Daw cynghorwyr o ystod eang o gefndiroedd ac maent yn dod â safbwyntiau amrywiol, gan helpu i sicrhau bod penderfyniadau cynhwysol a chynrychioliadol yn cael eu gwneud.

 

Rhagor o fanylion

Am ganllawiau pellach, dyddiadau allweddol a chymorth:

 

Gwasanaethau Democrataidd

Cyngor ar rôl y cynghorydd a chefnogaeth barhaus

Gwasanaethau Etholiadol

Gwybodaeth am y broses enwebu a gofynion etholiadol

 

Dolenni defnyddiol eraill

Ystyriwch sefyll yn 2027 a helpwch i lywio dyfodol Sir Benfro.

 

*Gwybodaeth yn gywir ar adeg cyhoeddi, Gorffennaf 2026. 

ID: 4880, adolygwyd 02/07/2026