![]()
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban
Os ydych yn ystyried penodi rhywun i ddylunio eich prosiect adeiladu a darparu gwasanaethau eraill sy'n gysylltiedig 'r prosiect, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn penodi gweithiwr proffesiynol sydd 'r cymwysterau priodol ac sydd wedi'i yswirio'n ddigonol. Bydd hyn yn helpu i'ch diogelu drwy gydol y broses.
Bydd gweithiwr proffesiynol cymwys yn meddu ar y wybodaeth a'r hyfforddiant gofynnol ac yn gallu rhoi cyngor arbenigol ar y ffordd orau o ateb eich gofynion.
BETH ALL GWEITHIWR PROFFESIYNOL EI WNEUD I MI?
Gall gweithwyr proffesiynol weithredu ar eich rhan o gamau cyntaf prosiect yr adeilad hyd at ei gwblhau, boed hynny:
Gall gwasanaethau proffesiynol gynnwys y gwaith dylunio yn ogystal chyd-drafod a chynghori ar ofynion statudol megis caniatd cynllunio a chymeradwyaethau rheoliadau adeiladu. Byddant yn gallu archwilio ac ardystio'r gwaith adeiladu a rhoi arweiniad ar gostau. Byddant hefyd yn cynghori a oes angen i chi gynnwys arbenigwyr eraill sy'n ymdrin dyluniad adeiladau, megis peirianwyr (strwythurol, sifil, mecanyddol a thrydanol) a syrfewyr (adeiladau a meintiau). Gallant hefyd eich helpu i ddod o hyd i'r bobl fwyaf priodol i wneud y gwaith adeiladu.
PWY DDYLWN I EI BENODI?
Mae gweithwyr proffesiynol cymwysedig yn defnyddio'r teitlau 'pensaer', 'pensaer siartredig' neu 'technolegydd pensaernol siartredig'. Er mwyn sicrhau eich bod yn gweithio gyda rhywun sy'n gymwys, mae angen i chi gysylltu 'r corff rheoleiddio perthnasol, sef yBwrdd Cofrestru Penseiri (ARB). Gallwch hefyd gysylltu ag un o'r cyrff proffesiynol sy'n cynrychioli penseiri (a restrir isod) neu ar gyfer technolegwyr pensaernol siartredig, ySefydliad Siartredig Technegwyr Pensaernol (CIAT).
BETH YW'R GWAHANIAETHAU RHWNG PENSAER, PENSAER SIARTREDIG A THECHNOLEGYDD PENSAERNOL SIARTREDIG?
PENSAER
Mae pensaer yn berson sydd wedi'i hyfforddi i gynllunio, dylunio ac archwilio adeiladu adeiladau. Yn draddodiadol, y pensaer sy'n cymryd y rl arweiniol yn y tm dylunio. Yn dibynnu ar maint a natur eich prosiect adeiladu, efallai y bydd y pensaer yn gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill, fel peirianwyr a syrfewyr.
Yr ARB yw rheoleiddiwr penseiri statudol y DU ac fe'i sefydlwyd gan y Senedd o dan Ddeddf Penseiri 1997.
Gallai busnesau neu bractisau sy'n defnyddio'r teitl 'pensaer' pan nad ydynt ar gofrestr yr ARB gamarwain defnyddwyr a thorri Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008. Mae hefyd yn drosedd o dan Ddeddf Penseiri 1997.
Os ydych yn cytuno i gontract ar l i bensaer eich camarwain neu oherwydd eu bod wedi defnyddio practis masnachol ymosodol, mae Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 yn rhoi hawliau iawndal i chi: yr hawl i ddadddirwyn y contract, yr hawl i ddisgownt a'r hawl i iawndal. Gwelwch ein canllaw'Arferion camarweiniol ac ymosodol: hawliau i wneud iawn'i gael rhagor o wybodaeth. Dylech wirio'rgofrestrar wefan ARB cyn gwneud apwyntiad.
Heblaw'r teitlau 'pensaer', 'pensaer siartredig' a 'thechnolegydd pensaernol siartredig' ceir rhai a all ddefnyddio disgrifiadau eraill. Gall y rhain gynnwys 'pensaernaeth ', ' ymgynghorydd pensaernol' a 'dylunydd pensaernol'. Byddwch yn ofalus gan nad yw'r disgrifiadau hyn o angenrheidrwydd yn golygu bod y person yn gofrestredig neu'n aelod o gorff proffesiynol.
Fe sefydlwydCymdeithas Penseiri Ymgynghorol (ACA) i hyrwyddo a chefnogi arferion pensaernol y DU.
PENSAER SIARTREDIG
Defnyddir y teitl 'pensaer siartredig' gan y penseiri hynny sy'n aelodau o'rSefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA), Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW)neu Chorff Brenhinol Penseiri yn yr Alban (RIAS). Mae manylion cyswllt ar gyfer y cyrff proffesiynol hyn i'w gweld ar ddiwedd y canllaw hwn.
TECHNOLEGYDD PENSAERNOL SIARTREDIG
Mae technolegydd pensaernol siartredig yn defnyddio gwyddoniaeth pensaernaeth ac mae'n arbenigo ym maes dylunio ac adeiladu adeiladau. Mae'r teitl ' technolegydd pensaernol siartredig ' yn cael ei ddefnyddio gan rywun sy'n aelod o'rCIAT.
Mae technolegwyr pensaernol siartredig yn meddu ar gymwysterau gwahanol i benseiri; nid ydynt wedi'u cofrestru gydag ARB ac o'r herwydd ni chnt ddefnyddio'r teitl 'pensaer'.
PWYNTIAU I'W HYSTYRIED
Rhaid i benseiri, penseiri siartredig a thechnolegwyr pensaernol siartredig ymlynu at gd ymddygiad eu corff rheoleiddio neu broffesiynol. Mae'n rhaid iddynt ymddwyn mewn ffordd briodol a moesegol, a disgwylir iddynt, ymhlith pethau eraill, fod yn onest, gweithredu gyda gonestrwydd, bod yn gymwys, yn ddibynadwy, ystyried effaith ehangach eu gwaith a datgan gwrthdaro buddiannau.
Er enghraifft, mewn achosion lle:
Gallwch gysylltu 'r ARB a CIAT i gwyno am achosion o dorri eu codau ymddygiad.
Mae'r codau yn ei gwneud hi'n ofynnol i aelodau fod ag yswiriant indemniad proffesiynol ar gyfer gwasanaethau a gynigir i chi. Pan fyddwch yn penodi eich gweithiwr proffesiynol, sicrhewch fod yswiriant digonol a phriodol ar waith ar gyfer eich prosiect adeiladu. Noder bod yr yswiriant hwn ar wahn i warant adeilad, sef yr yswiriant y gall eich contractwr ei gynnig i chi ar gyfer diffygion adeiladu.
Siaradwch chleientiaid blaenorol i ganfod eu profiad o'r gweithiwr proffesiynol; gofynnwch am gael edrych ar waith blaenorol (tebyg i'ch prosiect) y maent wedi eu cwblhau a hefyd gofynnwch am dystlythyrau.
Os yw eich prosiect yn un arbenigol mewn unrhyw ffordd, sicrhewch fod ganddo sgiliau arbenigol yn y maes hwnnw.
Sicrhewch bod telerau'r penodiad yn cael eu rhoi i chi yn ysgrifenedig a'ch bod yn eu deall. Dylent nodi'n glir pa wasanaethau y bydd eich gweithiwr proffesiynol penodedig yn eu darparu a thros ba gyfnod o amser, eu costau (gan gynnwys costau tebygol) a chostau ychwanegol fel ffioedd ymgeisio i awdurdodau lleol, a hefyd a oes angen arbenigwyr ychwanegol a pha gostau ychwanegol a all ddod yn ei sgl.
Gyda phenseiri gwiriwch gyda'r rheoleiddiwr (ARB) bod y pensaer a ddewiswyd gennych wedi'i gofrestru, neu gyda'r corff proffesiynol perthnasol i wirio fod y pensaer yn aelod go iawn o'r corff hwnnw. Ar gyfer technolegwyr pensaernol siartredig, dylech wirio gyda CIAT.
Meddyliwch yn ofalus cyn defnyddio rhywun sy'n cynnig gwasanaethau pensaernol ond nad yw wedi'i gofrestru nac yn aelod o un o'r cyrff proffesiynol.
Cysylltwch 'ch awdurdod lleol i weld a yw'n rhedeg cynllun masnachwr da;mae penseiri a thechnolegwyr pensaernol siartredig yn weithwyr proffesiynol a gallant fod yn rhan o gynllun o'r fath.
Mae gwefan y Bwrdd Cofrestru Penseiri yn cynnwys ffurflen o'r enwCyfarfod eich Pensaer, sydd wedi'i gynllunio i'ch helpu y tro cyntaf y byddwch yn cwrdd darpar benseiri.
BETH YW FY HAWLIAU OS BYDD PETHAU'N MYND O CHWITH?
Yn ogystal 'ch hawliau o dan Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 (y soniwyd amdanynt uchod) mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn rhoi hawliau a rhwymedau i chi pan fyddwch yn gwneud contract gyda masnachwr sy'n darparu gwasanaethau pensaernol.
Dyma'ch hawliau allweddol:
Gwelwch ein canllawiau'Cyflenwi gwasanaethau: eich hawliau fel defnyddiwr'a'Cyflenwi gwasanaethau: beth i'w wneud os bydd pethau'n mynd o chwith'am fwy o wybodaeth am eich hawliau a pha rwymedi y mae gennych hawl iddo.
Mae'n rhaid i ddarparwyr gwasanaethau pensaernol gydymffurfio Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013 pan fyddant yn gwerthu eu gwasanaethau o'u mangre busnes (contractau ar y safle), heb gysylltiad wyneb yn wyneb chi (contractau o bell) ac i ffwrdd o'u safle busnes (contractau oddi ar y safle).
Mae gennych hawl i ganslo'r rhan fwyaf o gontractau oddi ar y safle a chontractau o bell a'r cyfnod canslo yw 14 diwrnod. Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau pensaernol roi gwybodaeth benodol i chicyniddyn nhw'n wneud contract chi. Mae'n rhaid iddyn nhw gael cytundeb clir os ydyn nhw am godi tl 'ychwanegol' arnoch.
Mae'r canllawiau'Prynu o adeiladau busnes: esbonio contractau ar y safle','Prynu o adref: egluro contractau oddi ar y safle 'a'Phrynu drwy'r rhyngrwyd, ffn ac archeb bost: esbonio contractau o bell' yn rhoi rhagor o wybodaeth am Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013.
MANYLION CYSWLLT AR GYFER Y CORFF RHEOLEIDDIO A CHYRFF PROFFESIYNOL
Bwrdd Cofrestru Penseiri (ARB)
8 Stryd Weymouth, Llundain, W1W 5BU
Ffn: 020 7580 5861, e-bostinfo@arb.org.uk
www.arb.org.uk
Cymdeithas Penseiri Ymgynghorol (ACA)
West Wing, Gunton Hall, Hanworth, Gogledd Norfolk, NR11 7HJ
E-bostoffice@acarchitects.co.uk
www.acarchitects.co.uk
Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain (RIBA)
66 Portland Place, Llundain, W1B 1AD
Ffn: 020 7307 5355, e-bostinfo@riba.org
www.architecture.com
Hefyd:Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru (RSAW)
Corff Brenhinol Penseiri yn yr Alban
15 Rutland Square, Caeredin, EH1 2BE
Ffn: 0131 229 7545, e-bostinfo@rias.org.uk
www.rias.org.uk
Sefydliad Siartredig Technegwyr Pensaernol (CIAT)
397 City Road, Llundain, EC1V 1NH
Ffn: 020 7278 2206, e-bostinfo@ciat.org.uk
www.architecturaltechnology.com
Adolygwyd/Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 2022
DEDDFWRIAETH ALLWEDDOL
Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008
Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahn i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2025 itsa Ltd.