![]()
Mae'r canllawiau hyn ar gyfer Cymru a Lloegr
Yn y rhan fwyaf o achosion ni fydd gennych broblem gyda nwyddau diffygiol neu gynnwys digidol neu bydd gennych gyn am wasanaeth gwael. Os felly, bydd y masnachwr fel arfer yn derbyn cyfrifoldeb ac yn cytuno i unioni pethau trwy gynnig ad-daliad, atgyweiriad, amnewidiad, gostyngiad pris neu drwy ailadrodd y gwasanaeth. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fyddwch mewn anghydfod gyda'r masnachwr oherwydd na allwch gytuno ar yr hyn a achosodd y broblem a phwy sy'n gyfrifol am ei datrys. Efallai y bydd y masnachwr yn mynnu bod y gwasanaeth wedi'i gyflawni'n iawn, mai chi a achosodd y difrod neu fod y broblem wedi'i achosi oherwydd traul. Fodd bynnag, efallai y credwch fod y gwasanaeth yn is na'r safon neu fod y nwyddau neu'r cynnwys digidol a ddarparwyd yn ddiffygiol.
Efallai y bydd angen i chi brofi eich hawliad, sy'n golygu bod angen i chi gasglu cymaint o dystiolaeth ag y gallwch. Efallai y bydd angen i chi gael barn rhywun arall hyd yn oed. Sut ydych chi'n gwybod bod gan y person hwn y sgiliau, y wybodaeth, y cymwysterau a'r profiad gofynnol i roi barn? Beth sy'n digwydd os nad yw'r masnachwr yn cytuno i archwiliad ac adroddiad? Sut ydych yn profi bod y masnachwr wedi eich camarwain neu wedi defnyddio arfer masnachol ymosodol? Bydd y canllaw hwn yn rhoi'r wybodaeth ymarferol sydd ei hangen arnoch i gael tystiolaeth.
Y GYFRAITH
Mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn rhoi hawliau i chi pan fyddwch yn gwneud contract gyda masnachwr ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaethau a chynnwys digidol. Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le, efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i brofi'ch hawliad.
NWYDDAU
Os byddwch yn arfer eich hawl tymor byr i wrthod am ad-daliad (hynny yw, gwrthod y nwyddau o fewn 30 diwrnod) yna efallai y bydd yn rhaid i chi brofi bod y nwyddau yn ddiffygiol ar yr adeg y cawsant eu cyflenwi i chi, oni bai fod y nam yn amlwg.
Fodd bynnag, os byddwch yn dewis rhwymedi gwahanol, megis atgyweirio neu amnewid, a bod nam yn cael ei ddarganfod o fewn chwe mis i dderbyn y nwyddau, tybir bod y nam yno pan brynoch y nwyddau. Weithiau nid yw diffygion yn dod i'r amlwg ar unwaith ond roeddent serch hynny yn bresennol yn y nwyddau. Mater i'r masnachwr yw profi fel arall; gallant, er enghraifft, gredu eich bod wedi difrodi neu gamddefnyddio'r nwyddau. Gelwir hyn yn gyffredin yn 'faich prawf wedi'i wrthdroi'.
Ar l chwe mis, mae'r baich yn newid yn l i chi i brofi bod nam os ydych am wneud hawliad yn erbyn y masnachwr oherwydd bod y nwyddau'n ddiffygiol.
Gweler 'Gwerthu a chyflenwi nwyddau: eich hawliau i ddefnyddwyr' am fwy o wybodaeth
CYNNWYS DIGIDOL
Os darganfyddwch nam gyda'r cynnwys digidol o fewn chwe mis i'r dyddiad y'i cyflenwyd i chi, yna tybir bod y bai yno yn y dechrau. O ran nwyddau, cyfeirir at hyn yn gyffredinol fel y 'baich prawf a gaiff ei wrthdroi'.
Ar l chwe mis, mae'r baich prawf yn newid yn l i chi i brofi bod nam os ydych am wneud hawliad yn erbyn y masnachwr oherwydd bod y cynnwys digidol yn ddiffygiol.
Gweler 'Cyflenwi cynnwys digidol: eich hawliau defnyddiwr'.
GWASANAETHAU
Os na chaiff gwasanaeth ei gyflawni gyda gofal a medrusrwydd rhesymol, am bris rhesymol, o fewn amser rhesymol neu os na chaiff ei gyflawni yn unol gwybodaeth a roddir i chi (boed ar lafar neu'n ysgrifenedig) yna mae'r masnachwr yn torri'r contract. Mae hyn yn golygu bod gennych hawl i rhwymedi ond efallai y bydd angen i chi brofi eich hawliad.
Gweler 'Cyflenwi gwasanaethau: eich hawliau fel defnyddiwr'.
TELERAU ANNHEG MEWN CONTRACTAU A HYSBYSIADAU DEFNYDDWYR
Os ydych yn credu bod rheolau contract (a elwir yn delerau) rhyngoch chi a masnachwr yn annheg oherwydd eu bod wedi'u pwysoli'n drwm o blaid y masnachwr ac felly'n rhoi mwy o faich arnoch, mae gennych hawl i'w herio. Mae hysbysiadau sy'n 'hysbysiadau defnyddwyr' hefyd wedi'u cynnwys ac ni ddylent wadu neu gyfyngu ar gyfrifoldeb masnachwr i chi. Mae'r mathau hyn o hysbysiadau i'w cael yn aml mewn meysydd parcio, cyfleusterau hamdden ac ar wefannau. Mae gennych hawl i gwyno am derm neu rybudd sy'n annheg yn eich barn chi ond efallai y bydd angen i chi brofi'ch achos.
Gweler 'Telerau annheg mewn contractau a hysbysiadau defnyddwyr'.
MASNACHU ANNHEG
Os byddwch yn ymrwymo i gontract ar l i fasnachwr eich camarwain neu oherwydd bod masnachwr wedi defnyddio ymarfer masnachol ymosodol, mae Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008 yn rhoi hawliau iawndal i chi: yr hawl i ddadddirwyn y contract, yr hawl i ddisgownt a'r hawl i iawndal. Efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi'ch cais. Mae'r canllaw 'Ymarferion camarweiniol ac ymosodol: hawliau iawndal' yn rhoi mwy o wybodaeth.
CONTRACTAU DEFNYDDWYR
O dan Reoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013, mewn perthynas chontract gwerthu (contract ar gyfer gwerthu nwyddau neu gyflenwi nwyddau gyda gwasanaeth), mae gennych hawl i wirio'r nwyddau ar l eu danfon (fel y byddech mewn siop) i wneud yn sir eich bod yn hapus nhw.
Os byddwch yn penderfynu canslo a dychwelyd y nwyddau a bod y masnachwr yn credu eich bod wedi'u defnyddio'n fwy nag sy'n angenrheidiol i benderfynu a ydynt yn addas, efallai y byddant yn gallu hawlio iawndal gennych, hyd at bris y contract. Gall masnachwr ddidynnu hwn o'r swm yr ydych i fod i gael ei ad-dalu, neu rhaid ei dalu gennych chi i'r masnachwr. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gymwys os na wnaeth y masnachwr roi'r wybodaeth ofynnol gyfreithiol i chi am yr hawl i ganslo'r contract. Y mae yn ddoeth i gadw tystiolaeth o gyflwr y nwyddau cyn i chi eu dychwelyd.
Mae'r canllawiau 'Prynu o'r cartref: egluro contractau oddi ar y safle' a 'Phrynu ar y rhyngrwyd, ffn ac archebu drwy'r post: egluro contractau o bell' yn egluro'r rheolau'n fanylach.
PA FATH O DYSTIOLAETH DDYLECH CHI EI CHAEL?
Os ydych mewn anghydfod gyda masnachwr ynghylch contract ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaeth neu gynnwys digidol, mae'n hanfodol eich bod gyda tystiolaeth i brofi eich hawliad. Edrychwch ar yt awgrymiadau canlynol:
Os yw masnachwr yn rhoi gwybodaeth ffug i chi am y nwyddau, y gwasanaeth neu'r cynnwys digidol, mae cyflwyniad cyffredinol y nwyddau, y gwasanaeth neu'r cynnwys digidol yn gamarweiniol neu maent yn defnyddio ymarfer masnachol ymosodol (fel rhoi pwysau wrth werthu) efallai y bydd angen i chi gael mwy o dystiolaeth y gallwch ei defnyddio wrth wneud eich hawliad - er enghraifft:
BARN ARBENIGWYR: BETH SYDD ANGEN I CHI EI WYBOD
Os nad yw'r masnachwr yn derbyn unrhyw dystiolaeth y byddwch yn ei chyflwyno i gefnogi'ch cais a'ch bod yn parhau mewn anghydfod, efallai y bydd angen i chi gael barn arbenigol i ganfod beth yw'r broblem, sut y cafodd ei hachosi, beth y bydd yn ei wneud i ddatrys y broblem a phwy sydd ar fai.
I ddechrau, efallai y byddwch yn gallu cael barn masnachwr arall sy'n darparu'r un nwyddau, gwasanaeth neu gynnwys digidol 'r masnachwr yr ydych yn anghytuno ag ef. Mae'n bosibl y bydd yr ail fasnachwr yn gallu cynnig arweiniad i chi fel y gallwch gysylltu 'r masnachwr yn gyntaf gyda pheth wybodaeth i gefnogi eich hawliad. Fodd bynnag, ni fydd pob masnachwr yn barod i gymryd rhan mewn anghydfod.
Os yw'r masnachwr yr ydych mewn anghydfod hwy yn aelod o gymdeithas fasnach, mae'n bosibl mai rhan o wasanaeth y gymdeithas fasnach honno fydd cynnig cymodi neu gymrodeddu, gan gynnwys archwiliad ac adroddiad gan arbenigwr y talwyd amdano ar sail ' collwr yn talu '.
Efallai y byddwch yn gallu dod i gytundeb gyda'r masnachwr i gael adroddiad annibynnol ar y cyd, gan rannu'r gost efallai fel y gall y ddau ohonoch fod yn fodlon ynghylch didueddrwydd y farn. Wrth gwrs, nid oes rhaid i'r masnachwr gytuno i hyn, ond os byddwch yn gwneud y cais hwn yn ysgrifenedig a bod y masnachwr yn ei wrthod, efallai y byddant yn ei chael yn anodd dadlau'n ddiweddarach eu bod wedi gweithredu'n rhesymol.
Os cewch eich adroddiad annibynnol eich hun, dylech hysbysu'r masnachwr yn ysgrifenedig o'ch bwriadau cyn i chi fynd ymlaen. Cadwch gopau o'ch holl ohebiaeth. Os bydd yr adroddiad o'ch plaid, efallai y gallwch hawlio cost yr adroddiad yn l yn ogystal datrys y broblem neu hawlio'r gost o unioni'r sefyllfa.
Y terfyn ar y swm y gallwch ei hawlio yn nhrac hawliadau bach y Llys Sirol yw 10,000. Ni chaiff y llys dderbyn adroddiad yr ydych wedi ei gael cyn cymryd camau cyfreithiol a gall eich cyfarwyddo chi a'r masnachwr i benodi un arbenigwr. Os nad ydych chi a'r masnachwr yn gallu cytuno ar y dewis o arbenigwr neu'r trefniadau ar gyfer talu ffi'r arbenigwr, yna mae'n rhaid i chi neu'r masnachwr wneud cais i'r llys am gyfarwyddiadau pellach. Yna byddai'r llys yn gwneud penderfyniad am yr arbenigwr. Y terfyn ar gyfer ffioedd adennill arbenigwyr yn y llys yw 750.
Mae'r canllaw 'Ysgrifennu llythyr cwyn effeithiol' yn cynnwys llythyr templed at fasnachwr yn gofyn iddo ystyried adroddiad arbenigol ar y cyd.
BLE ALLWCH CHI DDOD O HYD I ARBENIGWR?
Weithiau gall fod yn anodd dod o hyd i arbenigwr annibynnol felly cysylltwch gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth am arweiniad. Edrychwch ar hysbysebion, gwefanau, negeseuon e-byst a dogfennau busnes y masnachwr i weld a ydynt yn hawlio eu bod yn aelod o gymdeithas fasnach. Os ydyn nhw, cysylltwch llinell gymorth defnyddwyr y gymdeithas fasnach i gael cyngor ar sut i gwyno am aelod. Os nad ydych yn sir a yw'r masnachwr yn aelod o gymdeithas fasnach, gweler y canllaw 'Cymdeithasau masnach a chyrff rheoleiddio', sydd rhestr o fanylion cyswllt ar gyfer rhai o'r prif gymdeithasau. Gallwch hefyd ymchwilio i gymdeithasau masnach ar-lein.
Os ydych yn ei chael hi'n anodd cael barn annibynnol, ystyriwch ddefnyddio dulliau amgen o ddatrys anghydfodau fel ffordd o ddatrys eich cwyn heb fynd i'r llys (mae'r canllaw Meddwl am fynd ag achos i'r Llys Sirol? yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu). Bydd y dystiolaeth yr ydych wedi'i chael hyd yma yn ddefnyddiol i'ch achos.
BETH DDYLAI ADRODDIAD YR ARBENIGWR EI GYNNWYS?
Dylech sicrhau bod eich arbenigwr yn cynnwys y canlynol yn eu hadroddiad:
Os nad ydych yn sir ynghylch cael adroddiad, gofynnwch i'r arbenigwr ddangos enghraifft i chi o'r math o adroddiadau y maent yn eu cynhyrchu. Dylech bob amser ganfod faint fydd yr adroddiad yn ei gostio, gan gadw mewn cof derfyn 750 ar adennill costau'r arbenigwr yn y llys.
BETH I'W WNEUD OS BYDD PETHAU'N MYND O CHWITH
Mae'r canllawiau 'Gwerthu a chyflenwi nwyddau: beth i'w wneud os fydd pethau'n mynd o'i le', 'Cyflenwi gwasanaethau: beth i'w wneud os pethau'n mynd o'i le a 'Chyflenwi cynnwys digidol: beth i'w wneud os fydd pethau'n mynd o'i le' yn rhoi mwy o wybodaeth am yr hyn y i'w wneud os ydych mewn anghydfod gyda masnachwr.
YN Y DIWEDDARIAD HWN
Dim newidiadau mawr
Adolygwyd/Diweddarwyd ddiwethaf: Hydref 2023
DEDDFWRIAETH ALLWEDDOL
Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr Rhag Masnachu Annheg 2008
Rheoliadau Contractau Defnyddwyr (Gwybodaeth, Canslo a Thaliadau Ychwanegol) 2013
Noder
Bwriedir y wybodaeth hon fel canllaw yn unig; dim ond y llysoedd all roi dehongliad awdurdodol o'r gyfraith.
Efallai na fydd dolenni 'deddfwriaeth allweddol' y canllaw ond yn dangos fersiwn wreiddiol y ddeddfwriaeth, er bod dolenni ar wahn i rywfaint o ddeddfwriaeth ddiwygiedig sy'n uniongyrchol gysylltiedig chynnwys y canllawiau. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar ddiwygiadau i ddeddfwriaeth y ar y tab 'Mwy o Adnoddau' ym mhob dolen.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 'r gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sy'n darparu cyngor cyfrinachol a diduedd ar faterion defnyddwyr yn rhad ac am ddim. Ewch i wefan Cyngor ar Bopeth neu ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.
© 2025 itsa Ltd.