Gwybodaeth Cyngor

Rhestr Cydnabyddiaeth ariannol aelodau 2022-23

Mae'r Cynllun hwn yn cael ei wneud o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â Rheoliadau’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol Cymru sy'n gymwys i daliadau a wneir i aelodau ac aelodau cyfetholedig awdurdodau lleol.

Cyflog Sylfaenol

  1. Bydd Cyflog Sylfaenol yn cael ei dalu i bob Aelod etholedig o'r Awdurdod
  2. Yn unol â'r Rheoliadau, bydd cyfradd y Cyflog Sylfaenol yn cael ei hadolygu bob blwyddyn fel a benderfynir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
  3. Lle mae cyfnod swydd Aelod yn dechrau neu'n gorffen heblaw am ar ddechrau neu ddiwedd blwyddyn, bydd ei hawl ef / hi i gael y Cyflog Sylfaenol ar sail pro-rata.
  4. Nid oes mwy nag un Cyflog Sylfaenol yn daladwy i Aelod o'r Awdurdod.

Uwch Gyflogau a Chyflogau Dinesig

  1. Bydd Aelodau mewn swyddi penodol yn cael Uwch Gyflog fel a nodir yn Atodlen 1.
  2. Yn unol â'r Rheoliadau, bydd cyfraddau’r Uwch Gyflogau a Chyflogau Dinesig yn cael eu hadolygu'n flynyddol fel a bennir gan Adroddiad Blynyddol neu Atodol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
  3. Dim ond un Uwch Gyflog neu Gyflog Ddinesig sy’n daladwy i Aelod o'r Awdurdod
  4. Ni all Aelod o'r Awdurdod gael Uwch Gyflog a Chyflog Ddinesig.
  5. Mae pob Uwch Gyflog a Chyflog Ddinesig yn cynnwys y Cyflog Sylfaenol.
  6. Ni chaiff Uwch Gyflog ei dalu i fwy na nifer yr aelodau a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ei Adroddiad Blynyddol ac ni all fod yn fwy na hanner cant y cant o gyfanswm aelodaeth yr awdurdod, ac eithrio i gynnwys deiliad swydd Uwch Gyflog dros dro sy’n cyflenwi ar gyfer absenoldeb teuluol y deiliad swydd a benodwyd.
  7. Ni all Aelod o'r Awdurdod sy’n derbyn Uwch Gyflog gael cyflog gan unrhyw Awdurdod Parc Cenedlaethol neu Awdurdod Tân ac Achub y mae ef / hi wedi cael ei enwebu iddynt.
  8. Lle mae tymor Aelod sy’n derbyn Uwch Gyflog neu Gyflog Ddinesig yn dechrau neu'n gorffen ar adeg heblaw am ddechrau neu ddiwedd blwyddyn, bydd ei hawl ef/hi i Gyflog ar sail pro-rata.

Penderfyniad i Ildio Hawl am Lwfans

  1. Gall Aelod, drwy hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i Swyddog Priodol yr awdurdod, yn bersonol ddewis ildio unrhyw ran o’i hawl i unrhyw gyflog, lwfans neu ffi sy'n daladwy o dan y Cynllun hwn o'r dyddiad a nodir yn yr hysbysiad.

Atal Aelod Dros Dro

  1. Pan fydd Aelod o'r Awdurdod yn cael ei atal dros dro, yn llwyr neu’n rhannol, o'i gyfrifoldebau neu ddyletswyddau fel Aelod o'r Awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Ymddygiad Aelodau), neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf, bydd rhan y Cyflog Sylfaenol sy'n daladwy iddo / iddi mewn perthynas â'r cyfnod y mae ef neu hi yn cael ei atal yn cael ei ddal yn ôl gan yr Awdurdod (Adran 155 (1) o'r Mesur).
  2. Pan fydd Aelod sy’n derbyn Uwch Gyflog yn cael ei atal dros dro, yn llwyr neu’n rhannol, rhag bod yn Aelod o'r Awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Ymddygiad Aelodau), neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf, rhaid i'r Awdurdod beidio â gwneud taliadau Uwch Gyflog i’r Aelod drwy gydol y cyfnod y caiff yr Aelod ei atal (Adran 155 (1) o'r Mesur). Os yw'r atal rhannol yn ymwneud ag elfen cyfrifoldeb penodol y taliad yn unig, gall yr Aelod gadw'r Cyflog Sylfaenol.

Ad-dalu cyflogau, lwfansau neu ffioedd

  1. Pan fydd taliad unrhyw gyflog, lwfans neu ffi wedi cael ei wneud i Aelod o'r Awdurdod neu Aelod Cyfetholedig mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan fydd yr Aelod dan sylw:
    •  wedi’i hatal / hatal neu ei atal / hatal dros dro o ddyletswyddau neu gyfrifoldebau Aelod / Aelod Cyfetholedig yn unol â Rhan 3 o Ddeddf 2000 neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno
    • yn peidio â bod yn Aelod o'r Awdurdod neu'n Aelod Cyfetholedig
    • mewn unrhyw ffordd arall heb yr hawl i dderbyn cyflog, lwfans neu ffi mewn cysylltiad â'r cyfnod hwnnw,

bydd yr Awdurdod yn ei wneud yn ofynnol bod y cyfryw ran o'r lwfans sy'n ymwneud ag unrhyw gyfnod o'r fath yn cael ei had-dalu.

Taliadau

  1. Bydd taliadau pob lwfans yn cael eu gwneud gan y Cyfarwyddwr Adnoddau drwy gredyd banc uniongyrchol mewn rhandaliadau o un rhan o ddeuddeg o hawl flynyddol yr Aelod, fel arfer ar y 25ain diwrnod o bob  mis (neu fel arall, ar y diwrnod gwaith blaenorol).
  2. Pan fydd y taliad wedi arwain at Aelod yn derbyn mwy na’i hawl i gyflogau, lwfansau neu ffioedd bydd yr Awdurdod yn gofyn bod y rhan honno sy'n ordaliad yn cael ei had-dalu.
  3. Mae'r holl daliadau yn ddarostyngedig i'r dreth briodol a didyniadau Yswiriant Gwladol.

Ad-dalu Costau Gofal

  1. Bydd costau gofal yn cael eu had-dalu i Aelod neu Aelod Cyfetholedig sydd â chyfrifoldebau gofalu am blant neu oedolion dibynnol, neu ofynion gofal personol, ar yr amod bod yr Aelod yn ysgwyddo costau yn sgil darparu’r cyfryw ofal wrth ymgymryd â dyletswyddau ‘cymeradwy’ y cyngor. 
  2. Mae ad-dalu costau gofal yn gymwys yn achos plant sy’n 15 oed neu’n iau a phersonau eraill y gall Aelod neu Aelod Cyfetholedig ddangos bod arnynt angen gofal. Os oes gan Aelod neu Aelod Cyfetholedig fwy nag un dibynnydd gall yr Aelod hawlio mwy nag un lwfans, ar yr amod y gall yr Aelod ddangos bod angen gwneud trefniadau ar wahân ar gyfer gofal.
  3. Gall Aelodau cymwys hawlio ad-daliad costau gofal ar gyfer costau gwirioneddol gyda derbynneb hyd at uchafswm nad yw’n rhagori ar hwnnw a bennwyd gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol fel a nodir yn Atodlen 1. Dylid cyflwyno pob hawliad am ad-dalu costau gofal yn ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd gan nodi amseroedd, dyddiadau a’r rhesymau dros hawlio. Rhaid darparu derbynebau ar gyfer trefniadau gofal ffurfiol ac anffurfiol. 

Absenoldeb Teuluol

  1. Mae hawl gan Aelodau o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2013 i gyfnod o absenoldeb teuluol, lle os ydynt yn bodloni'r amodau a ragnodir y mae ganddynt hawl i fod yn absennol o gyfarfodydd yr awdurdod.
  2. Wrth gymryd absenoldeb teuluol mae gan Aelodau’r hawl i gadw cyflog sylfaenol beth bynnag yw eu cofnod presenoldeb yn union cyn cychwyn yr absenoldeb teuluol.
  3. Os bydd deiliad uwch gyflog yn gymwys i gael absenoldeb teuluol bydd yn gallu parhau i dderbyn ei uwch gyflog drwy gydol yr absenoldeb.
  4. Os bydd yr awdurdod yn cytuno ei bod yn angenrheidiol penodi eilydd i ddirprwyo dros absenoldeb teuluol deiliad uwch gyflog bydd yr Aelod sy’n dirprwyo yn gymwys i dderbyn uwch gyflog hefyd os yw'r awdurdod yn penderfynu felly.
  5. Os bydd y taliad i’r eilydd a benodir yn achosi i’r awdurdod ragori ar yr uchafswm o uwch gyflogau a bennwyd ar ei gyfer, bydd caniatâd yn cael ei roi i ychwanegu at yr uchafswm hwnnw ar gyfer y cyfnod y penodir yr eilydd.

Taliadau i Aelodau Cyfetholedig

  1.  Telir ffi ddyddiol Aelodau Cyfetholedig (gyda darpariaeth ar gyfer taliadau hanner diwrnod) i Aelodau Cyfetholedig, ar yr amod eu bod yn Aelodau Cyfetholedig statudol gyda hawliau pleidleisio.
  2. Dewisol - Bydd taliadau Aelodau Cyfetholedig yn cael eu capio ar uchafswm sy’n cyfateb i ddeg diwrnod llawn y flwyddyn ar gyfer pob pwyllgor y gall unigolyn gael ei gyfethol iddo.
  3. Bydd taliadau yn cymryd i ystyriaeth amser yn teithio yn ôl ac ymlaen i leoliad y cyfarfod, amser rhesymol ar gyfer paratoi cyn y cyfarfod a hyd y cyfarfod (hyd at uchafswm y gyfradd ddyddiol).
  4. Mae’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yn cael ei ddynodi fel y "swyddog priodol" a bydd yn pennu’r amser paratoi, amser teithio a hyd y cyfarfod, bydd y ffi yn cael ei thalu ar sail y penderfyniad hwn.
  5. Gall y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd benderfynu o flaen llaw a yw cyfarfod yn cael ei raglennu ar gyfer diwrnod llawn a bydd y ffi yn cael ei thalu ar sail y penderfyniad hwn hyd yn oed os yw’r cyfarfod yn dod i ben cyn bod pedair awr wedi mynd heibio.
  6. Mae cyfarfod hanner diwrnod yn cael ei ddiffinio fel un hyd at 4 awr.
  7. Mae cyfarfod diwrnod llawn yn cael ei ddiffinio fel un dros 4 awr.
  8. Mae’r ffi diwrnod a’r ffi hanner diwrnod ar gyfer Cadeiryddion y Pwyllgor Safonau a’r Pwyllgor Archwilio, fel y’u pennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, yn cael eu nodi yn Atodlen 1.
  9. Mae’r ffi diwrnod a’r ffi hanner diwrnod ar gyfer Aelodau Cyfetholedig statudol gyda hawliau pleidleisio, fel y’u pennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, yn cael eu nodi yn Atodlen 1.

Lwfansau Teithio a Chynhaliaeth 

Egwyddorion Cyffredinol

  1. Caiff Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig hawlio costau teithio wrth deithio ar fusnes yr Awdurdod ar gyfer 'dyletswyddau cymeradwy' fel y’u nodir yn Atodlen 2. Lle bo aelodau'n teithio ar fusnes yr Awdurdod disgwylir iddynt deithio gan ddefnyddio'r dull mwyaf costeffeithiol. Wrth asesu pa mor gosteffeithiol ydyw trefniadau teithio, bydd ystyriaeth yn cael ei roi i’r amser teithio. Gall hawliad Aelod nad yw'n teithio gan ddefnyddio'r dull mwyaf costeffeithiol gael ei leihau gan y swm priodol.
  2. Lle y bo’n bosibl dylai Aelodau rannu trafnidiaeth.
  3. Dylai'r pellter a hawlir am filltiroedd fod am y daith fyrraf resymol ar y ffordd o'r man ymadael at y pwynt lle mae’r ddyletswydd yn cael ei chyflawni, ac yn yr un modd o'r man lle mae’r ddyletswydd yn cael ei chyflawni i'r man dychwelyd.
  4. Mae cyfraddau Lwfansau Teithio a Chynhaliaeth Aelodau wedi'u nodi yn Atodlen 3 ac maent yn destun adolygiad blynyddol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
  5. Pan fydd Aelod yn cael ei atal / hatal yn llwyr neu’n rhannol o'i gyfrifoldebau / chyfrifoldebau neu ddyletswyddau fel Aelod o'r Awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Ymddygiad Aelodau), neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf, rhaid i unrhyw lwfansau teithio a chynhaliaeth sy’n daladwy iddo / iddi mewn perthynas â'r cyfnod y mae ef neu hi yn cael ei atal / hatal gael eu dal yn ôl gan yr Awdurdod.

Teithio mewn Cerbyd Personol

  1. Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi penderfynu mai’r cyfraddau teithio uchaf sy'n daladwy fydd y cyfraddau a nodir gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer y defnydd o geir preifat, beiciau modur a beiciau pedal yn ogystal â thâl ychwanegol am unrhyw deithwyr eraill.
  2. Mae'r cyfraddau y filltir ar gyfer cerbydau preifat fel a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi'u nodi yn Atodlen 3.
  3. Pan fydd Aelod yn defnyddio ei gerbyd / cherbyd preifat at ddibenion dyletswyddau cymeradwy, rhaid i'r cerbyd gael ei yswirio at ddefnydd busnes. Rhaid darparu prawf o yswiriant priodol i'r Awdurdod ar gais.

Teithio ar Drafnidiaeth Gyhoeddus

Taith Trên / Bws

Oni bai bod caniatâd arbennig wedi’i rhoi fel arall, bydd pob tocyn a brynir yn docyn ail-ddosbarth.

Aelodau sy'n gyfrifol am brynu tocynnau teithio addas ymlaen llaw a gallant hawlio ad-daliad am docynnau a brynir a fydd yn cael ei roi ar ôl cyflwyno’r tocyn a ddefnyddiwyd a / neu dderbynneb.

Costau Tacsi

Bydd costau tacsi ond yn cael eu had-dalu lle mae eu defnydd wedi cael ei gymeradwyo ar gyfer achosion brys, lle nad oes cludiant cyhoeddus ar gael yn rhesymol, neu os oes gan Aelod angen personol penodol. Bydd ad-daliad yn cael ei roi ar sail cyflwyno derbynneb yn unig.

Costau Teithio Awyr

Caniateir teithio mewn awyren os mai dyma'r dull mwyaf costeffeithiol o deithio. Mae’n ofynnol cael caniatâd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a bydd tocynnau yn cael eu prynu gan Gwasanaethau Pwyllgor.

Oni awdurdodir yn wahanol bydd tocynnau hedfan yn rhai rhad neu economi. Bydd tocynnau hedfan disgownt yn cael eu prynu ymhell ymlaen llaw lle bynnag y bo modd er mwyn lleihau costau. Caniateir teithio mewn awyren os mai dyma'r ffordd fwyaf cost-effeithiol o deithio. Mae angen awdurdodiad y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd a phrynir tocynnau gan Wasanaethau Pwyllgorau.

Teithio Dramor

Bydd teithio dramor ar fusnes yr Awdurdod yn cael ei ganiatáu gydag awdurdodiad Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yn unig. Bydd Gwasanaethau Democrataidd yn trefnu teithio a llety.

Costau Teithio Eraill

Bydd hawl gan Aelodau i gael ad-daliad ffioedd tollau, ffioedd parcio, garejis dros nos a chostau eraill sy'n gysylltiedig â theithio angenrheidiol. Bydd ad-daliad yn cael ei roi ar sail cyflwyno derbynneb yn unig.

Llety Dros Nos

  1. Bydd aros dros nos yn cael ei ganiatáu lle mae busnes yr Awdurdod yn ymestyn i ddau ddiwrnod neu fwy yn unig, neu os yw'r lleoliad ar bellter o'r fath y byddai teithio’n gynnar yn y bore neu’n hwyr y nos yn afresymol. Rhaid i bob arhosiad dros nos dderbyn caniatâd ymlaen llaw gan y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd.
  2. Bydd llety dros nos yn cael ei archebu gan Rheolwr Gwasanaethau Pwyllgor. Lle bynnag y bo modd, bydd y llety dros nos yn cael ei rhagdalu neu ei anfonebu.
  3. Bydd llety dros nos a archebwyd yn uniongyrchol gan Aelod yn cael ei ganiatáu mewn achos o argyfwng yn unig. Bydd ad-daliad yn cael ei roi ar sail cyflwyno derbynneb yn unig a bydd ar lefel yr ystyrir ei bod yn rhesymol ac nad yw’n rhagori ar y cyfraddau a nodir yn Atodlen 3.

Lwfans Cynhaliaeth

  1. Mae'r gyfradd gynhaliaeth ddyddiol i gwrdd â chostau prydau bwyd a lluniaeth mewn cysylltiad â dyletswyddau cymeradwy (gan gynnwys brecwast pan nad yw’n cael ei ddarparu fel rhan o lety dros nos) yn cael ei nodi yn Atodlen 3
  2. Mae'r gyfradd ddyddiol uchaf yn cwmpasu cyfnod o 24 awr a gellir ei hawlio ar gyfer unrhyw bryd bwyd sy'n berthnasol, ar yr amod bod cais o'r fath yn cael ei gefnogi gan dderbynneb / derbynebau)
  3. Nid oes darpariaeth ar gyfer hawliadau cynhaliaeth o fewn y Bwrdeistref Sirol.

Ceisiadau a Thaliadau

  1.  Rhaid i hawliad am lwfansau teithio a chynhaliaeth gael ei wneud yn ysgrifenedig o fewn tri mis o ddiwedd y mis calendr y mae hawl i lwfans yn berthnasol iddo a rhaid cyflwyno’r derbynebau perthnasol gyda’r hawliad.
  2. Bydd lwfansau yn cael eu talu gan y Cyfarwyddwr Cyllid  trwy gredyd banc uniongyrchol.

Pensiynau

  1. Bydd yr Awdurdod yn galluogi ei Aelodau sy'n gymwys i ymuno â'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Cefnogi gwaith Aelodau’r Awdurdod

  1.  Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn disgwyl i Aelodau gael digon o gymorth i ymgymryd â’u dyletswyddau a bod y cymorth a ddarperir yn ystyried anghenion penodol Aelodau unigryw. Mae’n ofynnol i Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yr Awdurdod adolygu lefel y cymorth a ddarperir i Aelodau a dylai gyflwyno cynigion ar gyfer cymorth rhesymol i’r cyngor llawn. 
  2. Dylid rhoi cyfleusterau ffôn, e-bost a rhyngrwyd digonol i Aelodau etholedig ac Aelodau Cyfetholedig i roi iddynt fynediad electronig at wybodaeth briodol.
  3. Dylid rhoi cymorth o’r fath heb unrhyw gost i unrhyw Aelod. Ni ddylid didynnu o dâl Aelodau fel cyfraniad at gost cymorth y mae’r Awdurdod wedi penderfynu sy’n angenrheidiol er mwyn i Aelodau weithredu’n effeithiol a neu’n effeithlon.

Cydymffurfiaeth

  1. Yn unol â'r Rheoliadau, rhaid i'r Awdurdod gydymffurfio â gofynion Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn perthynas â monitro a chyhoeddi taliadau a wnaed i Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig fel a nodir yn Atodlen 4.

Atgoffir Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig bod hawliadau am dreuliau yn destun archwilio mewnol ac allanol.

Atodlen 1

Aelodau sydd a'r hawl i gyflog syfaenol

Swm bylnyddol y cyflog sylfaenol: £16,800

Mae’r aelodau etholedig canlynol yn derbyn cyflog sylfaenol gan yr Awdurdod:

  • Steve Alderman
  • Maureen Bowen
  • Alistair Cameron
  • Aaron Carey
  • Di Clements
  • John Cole
  • John Davies
  • Terry Davies
  • Alan Dennison
  • Andrew Edwards
  • Jonathan Grimes
  • Nicola Gwynn
  • Brian Hall
  • Simon Hancock
  • Delme Harries
  • David Howlett
  • Mike James
  • Rhys Jordan
  • Phil Kidney
  • Peter Morgan
  • Elwyn Morse
  • Reg Owens
  • Mel Phillips
  • Bethan Price
  • Shon Rees
  • Jordan Ryan
  • Sam Skyrme-Blackhall
  • Mike Stoddart
  • Viv Stoddart
  • Aled Thomas
  • Vanessa Thomas
  • Marc Tierney
  • Anji Tinley
  • Iwan Ward
  • Michele Wiggins
  • Tony Wilcox
  • Chris Williams
  • Michael Williams
  • Simon Wright
  • Steve Yelland
  • Danny Young

Hawl i uwch gyflogau (yn cynnwys cyflog sylfaenol)

  • Arweinydd Councillor David Simpson: £56,700
  • Dirprwy Arweinydd Councillor Paul Miller:£39,690
  • Aelod Cabinet– Addysg a'r Gymraeg Councillor Guy Woodham: £34,020
  • Aelod Cabinet – Cynllunio a Darparu Tai Councillor Jon Harvey: £34,020
  • Aelod Cabinet - Gweithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddiol Councillor Michelle Bateman: £34,020
  • Aelod Cabinet – yr Amgylchedd, Diogelu’r Cyhoedd a’r Gymraeg Councillor Neil Prior: £34,020
  • Aelod Cabinet – Gofal Cymdeithasol a Diogel Councillor Tessa Hodgson: £34,020
  • Aelod Cabinet – Cyllid Corfforaethol Councillor Alec Cormack: £34,020
  • Aelod Cabinet – Gwasanaethau Preswylwyr a Hamdden Councillor Rhys Sinnett: £34,020
  • Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu Councillor Huw Murphy: £25,593
  • Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol Councillor Michael John: £25,593
  • Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau Councillor Mark Carter: £25,593
  • Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Partneriaethau Councillor David Bryan: £25,593
  • Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Polisi a Chyn Penderfynu Councillor Joshua Beynon: £25,593
  • Pwyllgor Cynllunio Councillor Jacob Williams: £25,593
  • Pwyllgor Trwyddedu Councillor Tim Evans: £25,593
  • Arweinydd yr Wrthblaid fwyaf Councillor Jamie Adams: £25,593

Gall uchafswm o 18 o uwch gyflogau gael ei dalu ar gyfer Cyngor Sir Penfro ac nis ragorwyd ar hwn.

Hawl i gyflogau dinesig

Cadeirydd y Cyngor Councillor Pat Davies: £25,593
Is-gadeirydd y Cyngor Councillor Thomas Tudor: £20,540

Hawl fel aelodau cyfetholedig statudol

Cadeirydd y Pwyllgor Safonau Ms Corinna Kershaw: £268 Ffi Ddyddiol  £134 Ffi ½ Diwrnod

Cadeirydd y Pwyllgor Llwodraethu ac Archwilio Mr John Evans £268 Ffi Ddyddiol £134 Ffi ½ Diwrnod

Aelodau Cyfetholedig Statudol – Aelod Cyffredin

£210 Ffi Ddyddiol £105 Ffi ½ Diwrnod

Pwyllgor Safonau

Mr P Richardson
Mrs Sian Vaughan
Ms Suzanne Lewis
Mr Nick Watt
Community Councillor David Edwards
Community Councillor Hugh Watchman

Pwyllgor Llwodraethu ac Archwilio

Mr M Veale
Dr N Barry

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu

Rev John Cecil
Mr Tom Moses
Ms Alison Kavanagh

Cyfraniad tuag at gostau gofal a chymorth personol

Pob Aelod

• Costau gofal ffurfiol (wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru) i’w talu yn unol â thystiolaeth.

• Costau gofal anffurfiol (heb gofrestru) i’w talu hyd at gyfradd uchaf sy’n gyfwerth â Chyflog Byw Gwirioneddol y DU ar yr adeg pan aethpwyd i’r costau.

Cymorth Aelodau – beth a ddarperir yn nhermau ffôn, y rhyngrwyd neu e-bost (gweler Penderfyniad 6)

Cymorth Swyddfa a TG/Cyfathrebu - ychwanegol: £500

Atodlen 2

Dyletswyddau cymeradwy:   

  • bod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Awdurdod neu unrhyw bwyllgor o'r Awdurdod neu unrhyw gorff y mae'r Awdurdod yn gwneud penodiadau neu enwebiadau iddo neu unrhyw bwyllgor o'r fath corff;
  • bod yn bresennol mewn cyfarfod o unrhyw gymdeithas o awdurdodau y mae'r Awdurdod yn aelod ohoni;
  • bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod arall y mae ei gynnal wedi cael ei awdurdodi gan yr Awdurdod neu gan bwyllgor o'r Awdurdod neu gan gyd-bwyllgor o'r Awdurdod ac un neu ragor o Awdurdodau eraill
  • dyletswydd a ymgymerir at ddiben cyflawni swyddogaethau'r Cabinet, neu mewn cysylltiad â hynny;
  • dyletswydd a ymgymerir yn unol â rheol sefydlog sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod neu Aelodau fod yn bresennol pan agorir dogfennau tendro;
  • dyletswydd a ymgymerir mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw swyddogaeth o'r Awdurdod sy'n grymuso’r Awdurdod, neu’n ei gwneud yn ofynnol iddo, archwilio neu awdurdodi archwilio eiddo
  • bod yn bresennol mewn unrhyw ddigwyddiad hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwywyd gan yr Awdurdod neu ei Gabinet;
  • unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr Awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd arall o ddosbarth a gymeradwyir, a wneir at bwrpas, neu mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r Awdurdod neu unrhyw un o’i Bwyllgorau.

[Mae penderfynu a yw dyletswydd yn ‘ddyletswydd wedi’i chymeradwyo’ yn cael ei dirprwyo i Bennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig]

Atodlen 3

Costau Milltiroedd

Cerbydau modur preifat o bob maint

Hyd at 10,000 milltir: 45 ceiniog y filltir
Dros 10,000 milltir: 25 ceiniog y filltir

Beiciau modur preifat: 24 ceiniog y filltir

Beiciau pedal:20 ceiniog y filltir

Tâl ychwanegol am deithwyr eraill: 05 ceiniog y filltir

Lwfans Cynhaliaeth

Hyd at uchafswm o £28 yw’r gyfradd gynhaliaeth ddyddiol ac mae’n cwmpasu cyfnod o 24 awr. Gellir ei hawlio ar gyfer unrhyw bryd bwyd, os berthnasol, ar yr amod bod derbynebau i gefnogi’r fath hawliad.

Ni chaniateir ad-daliad ar gyfer diodydd alcoholig.

Llety dros nos

£200 yw uchafswm y lwfansau ar gyfer Llundain, a £95 ar gyfer mannau eraill. Mae uchafswm o £30 ar gael ar gyfer aros dros nos gyda ffrindiau neu berthnasau wrth ymgymryd â dyletswydd gymeradwy.

Atodlen 4

Cydymffurfiaeth

  • Bydd yr Awdurdod yn trefnu i gyhoeddi ar wefan y cyngor y cyfanswm a dalwyd ganddo i bob Aelod ac Aelod Cyfetholedig o ran cyflogau, lwfansau, ffioedd ac ad-daliadau ddim hwyrach na 30 Medi yn dilyn diwedd y flwyddyn y mae'n berthnasol iddi. Er budd tryloywder, bydd hyn yn cynnwys taliadau cydnabyddiaeth ar gyfer pob penodiad gwasanaethau cyhoeddus a ddelir gan Aelodau etholedig.
  • Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi ar wefan y cyngor ddatganiad o gyfrifoldeb sylfaenol cynghorydd a disgrifiadau rôl ar gyfer deiliaid swyddi uwch gyflog, sy’n nodi'n glir y dyletswyddau disgwyliedig.
  • Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi ar wefan y cyngor yn flynyddol y Rhestr o Gydnabyddiaeth Ariannol Aelodau ddim hwyrach na 31 Gorffennaf y flwyddyn y mae’r Rhestr yn cyfeirio ati.
  • Bydd yr Awdurdod yn anfon copi o'r Rhestr i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ddim hwyrach na 31 Gorffennaf y flwyddyn y mae’r Rhestr yn cyfeirio ati.
  • Bydd yr Awdurdod yn cadw cofnodion o bresenoldeb Aelodau / Aelodau Cyfetholedig mewn cyfarfodydd o'r cyngor, cabinet a phwyllgorau a dyletswyddau cymeradwy eraill y mae Aelodau / Aelodau Cyfetholedig yn cyflwyno hawliad am ad-daliad amdanynt.
  • Bydd yr Awdurdod yn trefnu i gyhoeddi ar wefan y cyngor yr adroddiadau blynyddol a baratoir gan Aelodau.
  • Pan fydd yr Awdurdod yn cytuno i dalu am eilydd ar gyfer cyfnod o absenoldeb teuluol, bydd yn rhoi gwybod i'r Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o fewn 14 diwrnod o’r penderfyniad gyda’r manylion gan gynnwys y swydd benodol a hyd y dirprwyad.

 

 

 

 

 

 

 

ID: 8933, adolygwyd 09/08/2022