Gwybodaeth i Ddysgwyr
Cadw lle, talu a chofrestru ar-lein
Ar y dudalen hon:
Cysylltwch eich Fy Nghyfrif a'ch gyfrif Sir Benfro yn Dysgu
Chwilio, cadw lle a thalu ar-lein am gwrs
I ddefnyddio'r system archebu ar-lein bydd angen Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro – Sut wyf yn cofrestru.
Pan fydd gennych Fy Nghyfrif mae angen i chi ei gysylltu â'ch cyfrif Sir Benfro yn Dysgu. Nid oes angen i chi gael cyfrif dysgwr Sir Benfro yn Dysgu sy'n bodoli eisoes.
Pan fyddwch wedi cysylltu eich cyfrifon gallwch Chwilio, cadw lle a thalu ar-lein am gwrs.
Pan fyddwch wedi cadw lle a thalu am eich cwrs, mewn canolfan neu ar-lein, byddwch yn gallu llenwi ar-lein eich ffurflen gofrestru.
Cysylltwch eich Fy Nghyfrif a'ch gyfrif Sir Benfro yn Dysgu
- Mewngofnodi i Fy Nghyfrif
- Cliciwch Creu Dangosfrwdd Wrth Fesur
- Cliciwch ar y botwm Ychwanegu Teclyn ar eich dangosfwrdd.
- Dewiswch Ysgolion a Dysgu o'r rhestr o declynnau.
- Dewiswch y teclyn Sir Benfro yn Dysgu.
- Ychwanegir y teclyn i'ch Dangosfwrdd. Bydd angen ichi ychwanegu unrhyw declynnau eraill yr ydych yn eu defnyddio i'ch dangosfwrdd unigryw ee Fy Nhreth Gyngor, Balansau Arlwyo Heb Arian.
- Cliciwch Cysylltu eich cyfrif.
Nid oes angen i chi gael cyfrif dysgwr Sir Benfro yn Dysgu sy'n bodoli eisoes.
Bydd angen i chi ddarparu rhywfaint o wybodaeth i'n helpu i'ch adnabod:
- Dyddiad Geni
- Cyfenw yn 16 oed, os yn wahanol
- Rhif adnabod dysgwr os oes un gennych
Os ydych mewn dosbarth bydd eich archebion yn dangos ar sgrin Fy Nosbarthiadau.
Sylwch y bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru, naill ai ar-lein neu yn eich dosbarth cyntaf.
Mewngofnodi i Fy Nghyfrif
Chwilio, cadw lle a thalu ar-lein am gwrs
Gallwch ddefnyddio hyn i reoli eich archebion:
- Chwilio am gyrsiau
- Talu ffioedd
I chwilio am gwrs, cliciwch ar y botwm Chwilio am Gwrs.
I dalu am gwrs:
- Cliciwch ar y botwm Rheoli eich Lleoedd ar Gyrsiau
- Cliciwch ar y botwm Talu Balans neu'r botwm Talu Isafswm (os yw ar gael)
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin dalu
Os oes gennych unrhyw broblemau cysylltwch â'r Ganolfan Ddysgu Gymunedol.
Ffurflen gofrestru ar-lein
Gallwch ddefnyddio eich teclyn Sir Benfro yn Dysgu i gwblhau eich ffurflen gofrestru ar gyfer cwrs.
- Cliciwch ar Rheoli eich lleoedd ar gyrsiau.
- Cliciwch ar y botwm Cwblhau cofrestru.
- Cwblhewch yr holl feysydd, cliciwch i’r dudalen nesa i gwblhau pob tudalen.
- Ar ddiwedd y ffurflen gofrestru, bydd gennych yr opsiwn i ddewis y dosbarth(iadau) yr ydych am gofrestru ar ei gyfer / eu cyfer.
- Cliciwch ar Gorffen yn y bar gwyrdd ar y gwaelod.