Gwybodaeth i Ddysgwyr
Cymorth i Ddysgwyr
Pa wasanaethau ychwanegol a ddarperir gan Sir Benfro yn Dysgu?
-
Cyfarwyddyd i Oedolion - Gall staff hyfforddedig Sir Benfro yn Dysgu eich helpu i ddeall a gwneud dewisiadau am gyrsiau, opsiynau dysgu a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi. Am ragor o wybodaeth, casglwch daflen Cyfarwyddyd i Oedolion o'r Ganolfan Ddysgu Gymunedol.
-
Sgiliau Hanfodol - Mae gwasanaeth Sgiliau Hanfodol Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig cefnogaeth/dosbarthiadau mewn darllen, ysgrifennu, mathemateg, sgiliau digidol a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Siaradwch a'ch tiwtor, yn gyfrinachol, os oes angen help arnoch.
-
Cynllun Iaith Gymraeg Cyngor Sir Penfro - Mae Cyngor Sir Penfro wedi mabwysiadu'r egwyddor o drin yr iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg yn gydradd wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Derbyniodd Cynllun y Cyngor gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg o dan Adran 14 (1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg ar y 5 Mehefin 2006.
-
Cefnogaeth anabledd - Gall Sir Benfro yn Dysgu ddarparu cefnogaeth, cyngor ac adnoddau i helpu a'ch dysgu. Siaradwch yn gyfrinachol a'ch tiwtor neu Weinyddwr y Ganolfan
-
Cymorth gyda'r ffioedd – os yw talu am ffioedd dosbarthiadau yn achosi problem ariannol, gallwch siarad â gweinyddwyr y canolfan yn gyfrinachol, a gallant drafod yr opsiynau cyllido sydd ar gael ac unrhyw drefniadau posibl.
ID: 1953, adolygwyd 19/07/2023