Gwybodaeth i Ddysgwyr

Ffioedd y cwrs

Mae ffioedd y cyrsiau yn gymorthdaledig ac maent yn berthnasol i ddysgwyr sy’n talu dros eu hunain yn unig.  Dylai cyflogwyr gysylltu â’r Cydlynydd Dysgu Gydol Oes yn y ganolfan ddysgu gymunedol, a fydd yn cytuno’r ffioedd priodol.

Ffi gyfan

I’w thalu gan y rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer y gostyngiadau sydd wedi eu rhestru isod

Ffi ratach lai – yn berthnasol gyda rhai cyrsiau ar gyfer:

  • Y rhai 16 oed
  • Myfyrwyr llawn amser
  • Pobl sy’n cael budd-daliadau a lwfansau’r wladwriaeth a restrir:
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith ar sail Incwm (IBJSA). Nid yw Lwfans Ceisio Gwaith ar Sail Cyfraniadau (CBJSA) yn rhoi hawl
  • Elfen Warant y Credyd Pensiwn Gwladol
  • Credydau Treth Plant yn unig, gydag incwm blynyddol yr aelwyd dan £16,190
  • Cymorth dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Cysylltiedig ag Incwm (IR)
  • Credyd Cynhwysol
  • Budd-dal Profedigaeth
  • Lwfans Gofalwr

*Mae’n rhaid cyflwyno tystiolaeth o’r hawl i ffioedd rhatach un ai’r amser y bydd rhywun yn talu ffi’r cwrs neu yn ystod eich dosbarth cyntaf. Os methir gwneud hyn, bydd rhaid talu’r ffi gyfan.*

A oes costau ychwanegol?

Disgwylir i fyfyrwyr ddarparu eu gwerslyfrau, deunydd ysgrifennu ac unrhyw ddeunyddiau eraill sydd eu hangen eu hunain.

Lle bynnag y mae defnyddiau wedi eu darparu, mae’n rhaid i’r myfyrwyr dalu am y rhain. Gyda rhai pynciau, bydd rhaid i fyfyrwyr dalu am ddefnyddiau wedi’u llungopïo y maent yn eu cadw. Mae’r myfyrwyr yn gyfrifol hefyd am dalu ffioedd arholiadau ac achrediad.  Fe gewch wybod gan eich tiwtor am y materion hyn. Dichonolrwydd – Gall y ffioedd a gyhoeddir ar gyfer cyrsiau gynyddu os na chyrhaeddir yr isafswm ar gyfer cofrestru bob tymor. Cymhwysir ffi dichonolrwydd ychwanegol os bydd dosbarth heb y niferoedd digonol am barhau.

A yw’r taliadau yn anodd i chi?

Os yw unrhyw un yn cael anhawster talu’r ffi , mae croeso i chi drafod hyn gyda’r staff yn y ganolfan briodol. Bydd eich ymholiad yn cael ei drin yn hollol gyfrinachol. Gellir gwneud trefniadau i dalu ffioedd cwrs mewn rhandaliadau neu drwy archeb sefydlog dros gyfnod y cwrs.

Polisi ad-daliadau

Dyma bolisi Sir Benfro yn Dysgu ar gyfer ad-dalu ffioedd cyrsiau:

Os bydd Sir Benfro yn Dysgu yn canslo cwrs cyn iddo gychwyn, rhoddir ad-daliad llawn.

Bydd rhaid talu ffi weinyddol o £10 os bydd y cwsmer yn canslo cyn dechrau’r cwrs. Ni fydd ad-daliad wedi dechrau’r cwrs.

Trefn apelio

Mewn amgylchiadau eithriadol bydd modd apelio am ad-daliadau i Gydlynydd Dysgu Gydol Oes yr Ardal. Codir lleiafswm tâl o £25 am gofrestru a gweinyddu.

ID: 1950, adolygwyd 10/05/2023