Gwybodaeth i Ddysgwyr

Hysbysiadau Preifatrwydd

Ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd 

Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn 

Am fwy o wybodaeth:

Llywodraeth Cymru - Hysbysiad Preifatrwydd (yn agor mewn tab newydd)

Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg - Hysbysiad Preifatrwydd y Dysgwyr (yn agor mewn tab newydd)

Learner registration Service (yn agor mewn tab newydd)

WJEC (yn agor mewn tab newydd)

Agored Cymru (yn agor mewn tab newydd)

BCS (yn agor mewn tab newydd) 

 

 

ID: 3548, adolygwyd 06/03/2025

Cadw lle a thalu am gwrs

I gadw lle dros y ffôn ar gyfer cwrs i chi’ch hun neu rywun arall cysylltwch ag un o'n Canolfannau Dysgu Cymunedol.

I gadw lle ar-lein bydd angen Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro sy'n gysylltiedig â Sir Benfro yn Dysgu.

Nid oes modd cadw lle ar-lein:

  • os nad oes botwm gwyrdd Cadw Lle a Thalu ar dudalen manylion y dosbarth
  • os ydych am gadw lle neu dalu am gwrs i rywun arall
  • os hoffech wneud taliad rhannol, trafod opsiynau talu neu gymorth ariannol
  • os yw'r dosbarth eisoes wedi dechrau.

I gael gwybodaeth am gadw lle ar-lein ewch i’r dudalen Cadw lle, talu a chofrestru ar-lein.

Costau eraill

Yn ogystal â chostau/ffioedd i'r cyrsiau, efallai y bydd disgwyl i ddysgwyr ddarparu eu gwerslyfrau, deunydd ysgrifennu a deunyddiau eu hunain neu efallai y bydd cost ychwanegol. Bydd y tiwtoriaid yn gallu darparu cyngor pellach ar hyn. 

Ydych chi wedi cadw eich lle trwy Ganolfan Dysgu Cymunedol? Gallwch barhau i dalu am eich dosbarth ar-lein. Ewch i Cadw lle, talu a chofrestru ar-lein  am ragor o wybodaeth.

Cofrestru ar-lein

Pan fyddwch wedi cadw lle a thalu am eich cwrs, mewn canolfan neu ar-lein, gallwch llenwi ar-lein eich ffurflen gofrestru cwrs. Bydd angen Fy Nghyfrif Cyngor Sir Penfro arnoch chi. Ewch i Cadw lle, talu a chofrestru  am ragor o wybodaeth.

ID: 1978, adolygwyd 18/07/2024

Gwybodaeth i Ddysgwyr

Mae'r adran hon yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol sydd angen arnoch os rydych wedi cofrestru ar gwrs Dysgu Sir Benfro.

GIG 111 Cymru - Gofalwch am eich iechyd meddwl

Yn teimlo’n isel neu’n bryderus?
Mae cymorth ychwanegol ar gyfer eich lles meddyliol ar gael ledled Cymru, ar-lein a dros y ffôn.
Mae’r adnoddau hyn yn ddiogel, am ddim, ac nid oes angen atgyfeiriad arnoch, felly cymerwch olwg i weld beth all eich helpu chi heddiw.

GIG 111 Cymru Iechyd, Cymorth a Lles (yn agor mewn tab newydd)

ID: 1949, adolygwyd 26/04/2024

Ffioedd y cwrs

Mae ffioedd y cyrsiau yn gymorthdaledig ac maent yn berthnasol i ddysgwyr sy’n talu dros eu hunain yn unig.  Dylai cyflogwyr gysylltu â’r Cydlynydd Dysgu Gydol Oes yn y ganolfan ddysgu gymunedol, a fydd yn cytuno’r ffioedd priodol.

Ffi gyfan

I’w thalu gan y rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer y gostyngiadau sydd wedi eu rhestru isod

Ffi ratach – yn berthnasol gyda rhai cyrsiau ar gyfer:

  • Y rhai 16 oed
  • Myfyrwyr llawn amser
  • Pobl sy’n cael budd-daliadau a lwfansau’r wladwriaeth a restrir:
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith ar sail Incwm (IBJSA). Nid yw Lwfans Ceisio Gwaith ar Sail Cyfraniadau (CBJSA) yn rhoi hawl
  • Elfen Warant y Credyd Pensiwn Gwladol
  • Credydau Treth Plant yn unig, gydag incwm blynyddol yr aelwyd dan £16,190
  • Cymorth dan ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Cysylltiedig ag Incwm (IR)
  • Credyd Cynhwysol
  • Budd-dal Profedigaeth
  • Lwfans Gofalwr

Mae’n rhaid cyflwyno tystiolaeth o’r hawl i ffioedd rhatach un ai’r amser y bydd rhywun yn talu ffi’r cwrs neu yn ystod eich dosbarth cyntaf. Os methir gwneud hyn, bydd rhaid talu’r ffi gyfan.

A oes costau ychwanegol?

Disgwylir i fyfyrwyr ddarparu eu gwerslyfrau, deunydd ysgrifennu ac unrhyw ddeunyddiau eraill sydd eu hangen eu hunain.

Lle bynnag y mae defnyddiau wedi eu darparu, mae’n rhaid i’r myfyrwyr dalu am y rhain. Gyda rhai pynciau, bydd rhaid i fyfyrwyr dalu am ddefnyddiau wedi’u llungopïo y maent yn eu cadw. Mae’r myfyrwyr yn gyfrifol hefyd am dalu ffioedd arholiadau ac achrediad.  Fe gewch wybod gan eich tiwtor am y materion hyn. Dichonolrwydd – Gall y ffioedd a gyhoeddir ar gyfer cyrsiau gynyddu os na chyrhaeddir yr isafswm ar gyfer cofrestru bob tymor. Cymhwysir ffi dichonolrwydd ychwanegol os bydd dosbarth heb y niferoedd digonol am barhau.

A yw’r taliadau yn anodd i chi?

Os yw unrhyw un yn cael anhawster talu’r ffi , mae croeso i chi drafod hyn gyda’r staff yn y ganolfan briodol. Bydd eich ymholiad yn cael ei drin yn hollol gyfrinachol. Gellir gwneud trefniadau i dalu ffioedd cwrs mewn rhandaliadau neu drwy archeb sefydlog dros gyfnod y cwrs.

Polisi ad-daliadau

Dyma bolisi Sir Benfro yn Dysgu ar gyfer ad-dalu ffioedd cyrsiau:

Os bydd Sir Benfro yn Dysgu yn canslo cwrs cyn iddo gychwyn, rhoddir ad-daliad llawn.

Bydd rhaid talu ffi weinyddol o £10 os bydd y cwsmer yn canslo cyn dechrau’r cwrs. Ni fydd ad-daliad wedi dechrau’r cwrs.

Trefn apelio

Mewn amgylchiadau eithriadol bydd modd apelio am ad-daliadau i Gydlynydd Dysgu Gydol Oes yr Ardal. Codir lleiafswm tâl o £25 am gofrestru a gweinyddu.

ID: 1950, adolygwyd 04/07/2023

Dyddiadau Tymor

Dyddiadau Tymor 2024 - 2025

Mae tri thymor yn y flwyddyn academaidd

Dyddiadau Tymor y Hydref

Dechrau'r tymor: 23 Medi 2024

Hanner tymor: 28 Hydref - 1 Tachwedd 2024

Dyddiadau Tymor y Gwanwyn

Dechrau'r tymor: 13 Ionawr 2025

Hanner tymor: 24 - 28 Chwefror 2025

Dyddiadau Tymor y Haf

Dechrau'r tymor: 31 Mawrth 2025

Hanner Tymor: 26 - 30 Mai 2025

Mae dyddiadau tymor ar gyfer dosbarthiadau unigol yn gwahaniaethu yn achlysurol – fe’ch cynghorir i wirio gyda’ch tiwtor neu staff eich Canolfan Ddysgu Gymunedol ynghylch yr amrywiadau.

Yn aml, cynhelir sesiynau sefydlu yn yr wythnos cyn dechrau'r tymor. Mae gwybodaeth ynglŷn â hyd ac amser hyn i'w chael gan y ganolfan sy'n gweinyddu eich cwrs. Cysylltwch â'r ganolfan, cyn i'ch cwrs ddechrau, os na chawsoch chi wybod am hyn eisoes.

ID: 1951, adolygwyd 19/07/2024

Llawlyfr i Ddysgwyr

Mae'r llawlyfr hwn yn eich cyfeirio at wybodaeth bwysig am ein Gwasanaeth ac yn rhoi'r hyn y dylech ei wybod er mwyn cwblhau eich cwrs yn llwyddiannus. 

Datganiad Cenhadaeth

Croeso

Ein haddewid i chi

Eich addewid i ni

Gweinyddiaeth

Pa wasanaethau ychwanegol a ddarperir gan Sir Benfro yn Dysgu?

Beth sydd angen i mi ei wybod am iechyd, diogelwch a diogeledd?

Sut ydw i’n cwblhau cwrs yn llwyddiannus?

Addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang (ADCDF)

Canmol, cwyno ac awgrymiadau

Cynnwys Dysgwyr

Gweithdrefn ar gyfer apeliadau asesu

Hysbysiadau preifatrwydd a diogelu data

Cysylltiadau Sir Benfro yn Dysgu

Cysylltiadau defnyddiol eraill

Gwybodaeth am Ganolfannau

Gwybodaeth am Gyrsiau

Datganiad Cenhadaeth

Mae Sir Benfro yn Dysgu yn anelu at ddarparu ystod o gyfleodd dysgu ansawdd uchel fydd yn ymgysylltu ac yn galluogi  pob dysgwr i gasglu gwybodaeth a sgiliau, cynnydd mewn dysgu, i chwarae rôl actif yn eu cymunedau a chyfrannu at les a ffyniant economaidd Sir Benfro yn yr 21ain Ganrif.

Mae’r wybodaeth hon ar gael mewn fformatau eraill megis print mwy bras, Braille ac ar dâp.

Os oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall neu os hoffech help i ddarllen y llyfryn hwn, siaradwch â thiwtor eich cwrs neu staff gweinyddol y ganolfan.

Rydym yma i’ch helpu.

Croeso

Croeso i Ddysgu Sir Benfro – Dysgu Oedolion yn y Gymuned.

P’un ai eich bod yn ymuno â ni am y tro cyntaf neu’n  dychwelyd i barhau â’ch astudiaethau gyda ni, gobeithio y bydd eleni yn brofiad pleserus a buddiol i chi.

Mae’r llawlyfr hwn yn eich cyfeirio at wybodaeth bwysig am ein gwasanaeth ac yn rhoi’r hyn y dylech ei wybod er mwyn cwblhau eich cwrs yn llwyddiannus.

Ein haddewid i chi

Mae Sir Benfro yn Dysgu wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i bob unigolyn.

Byddwn yn ymdrechu i:

  • Darparu ystod eang o gyfleoedd dysgu a datblygu er mwyn cwrdd  â’ch anghenion – o wella iechyd a lles, adeiladu ar eich sgiliau, ennill cymwysterau neu ddatblygiad gyrfa.
  • Darparu mynediad teg i bawb at gyfleoedd dysgu i bob grŵp yn y gymuned.
  • Cyflwyno hyfforddiant o ansawdd uchel gan ddefnyddio staff medrus a phrofiadol sydd wedi ymrwymo i’ch helpu i lwyddo.
  • Darparu cyfleoedd mewn amgylcheddau diogel, hygyrch a chyfeillgar gan ddefnyddio technolegau modern, ynghyd â darparu amrywiaeth o gyrsiau y gellir eu hastudio ar-lein Rhoi adborth rheolaidd i chi am eich cynnydd, gan ddarparu cynllun dysgu unigol i gofnodi eich cyflawniadau personol.
  • Rhoi adborth rheolaidd i chi am eich cynnydd, gan ddarparu cynllun dysgu unigol i gofnodi eich cyflawniadau personol.
  • Eich cefnogi ag unrhyw anawsterau y gallech eu cael o ran defnyddio ein gwasanaethau, megis anabledd, cyllid a lles.

Eich addewid i ni

P'un a ydych yn dysgu ar-lein neu mewn canolfan, fel dysgwr Dysgu Sir Benfro, rydym yn disgwyl i chi wneud y canlynol:

  • Mynychu’n rheolaidd a bod yn brydlon i’r dosbarth.
  • Siarad â ni os oes gennych unrhyw bryderon arbennig neu anghenion dysgu – ni allwn eich helpu oni bai ein bod yn gwybod.
  • Cymryd rhan weithredol yn eich dysgu, gan fonitro eich cynnydd gyda’ch tiwtor a rhoi adborth i ni trwy holiaduron diwedd cwrs.
  • Ymddwyn mewn modd sy’n sicrhau eich iechyd a diogelwch cyffredinol eich hun ac eraill, gan gymryd sylw arbennig o reolau a rheoliadau diogelwch.
  • Parchu hawliau a theimladau eraill, gan hybu ethos Sir Benfro yn Dysgu o gydraddoldeb i bawb.
  • Cadw at Bolisi TG Dysgu Sir Benfro ar ddefnydd diogel o'r rhyngrwyd.

Gweinyddiaeth

Dysgu Cymraeg Sir Benfro – ar gyfer cofrestru, ffïoedd, dosbarthiadau ewch i: Dysgu Cymraeg (yn agor mewn tab newydd) a dewiswch Sir Benfro fel eich darparwr. Rhestrir manylion cyswllt Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn yr adran Cysylltiadau.

Mae’r gwefan Sir Benfro yn Dysgu yn rhoi manylion llawn am ein rhaglen, dyddiadau’r tymhorau a ffἵoedd.

Ffἵoedd - ceir cyfraddau ffἵoedd gwahanol gan ddibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.  Ewch i'n gwefan neu cysylltwch â'ch canolfan leol am fanylion. Nid yw hyn yn berthnasol i ddysgwyr Cymraeg Sir Benfro.

Polisi ad-daliadau - Dyma bolisi Sir Benfro yn Dysgu ar gyfer ad-dalu ffioedd cyrsiau:

  • Bydd rhaid talu ffi weinyddol o £10 os bydd y cwsmer yn canslo cyn dechrau’r cwrs.
  • Ni fydd ad-daliad wedi dechrau’r cwrs.
  • Trefn apelio:  Mewn amgylchiadau eithriadol bydd modd apelio am ad-daliadau i Gydlynydd Dysgu Gydol Oes yr Ardal. Codir lleiafswm tâl o £25 am gofrestru a gweinyddu.
  • Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu eich ffἵoedd dysgu, cysylltwch â staff gweinyddol eich canolfan leol er mwyn trafod y sefyllfa. Byddwn yn trin eich ymholiad yn hollol gyfrinachol ac mae’n bosibl y byddwn yn gallu eich helpu chi.

Mae gan Dysgu Cymraeg Sir Benfro eu polisi ffïoedd eu hunain a chronfa arian wrth gefn. Ewch i Dysgu Cymraeg - Cronfa Ariannol (yn agor mewn tab newydd) 

Dichonolrwydd – Gall y ffioedd a gyhoeddir ar gyfer cyrsiau gynyddu os na chyrhaeddir yr isafswm ar gyfer cofrestru bob tymor. Cymhwysir ffi dichonolrwydd ychwanegol os bydd dosbarth heb y niferoedd digonol am barhau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddysgwyr Cymraeg Sir Benfro.

Pa wasanaethau ychwanegol a ddarperir gan Sir Benfro yn Dysgu?

Gwybodaeth a Chyngor – Gall staff hyfforddedig Dysgu Sir Benfro eich helpu i ddeall a gwneud dewisiadau am y cyrsiau, yr opsiynau dysgu, y llwybrau cynnydd a'r cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael i chi.

Sgiliau Hanfodol – Mae gwasanaeth Sgiliau Hanfodol Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig cefnogaeth/dosbarthiadau mewn darllen, ysgrifennu, mathemateg a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill.  Siaradwch â’ch tiwtor, yn gyfrinachol, os oes angen help arnoch.

Safonau Iaith Gymraeg - Mae Cyngor Sir Penfro’n ymlynu at y safonau a amlinellir ym Mesur Iaith Gymraeg (Cymru) 2011, sy’n golygu bod yr iaith Saesneg a’r iaith Gymraeg yn cael eu trin yn gydradd ym myd busnes cyhoeddus a gweinyddiaeth cyfiawnder yng Nghymru, ynghyd â hyrwyddo a hwyluso defnydd o’r Gymraeg. Mae disgwyl felly i diwtoriaid wreiddio’r Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dosbarthiadau Hamdden a Sgiliau Hanfodol lle bo’n briodol

Os hoffech gysylltu â’n busnes yn y Gymraeg neu gymryd rhan mewn cwrs a ddarparir yn arbennig drwy’r Gymraeg, cysylltwch ar 01437 770180 os gwelwch yn dda.

Cymorth a chefnogaeth benodol - Gall Sir Benfro yn Dysgu ddarparu cymorth, cyngor ac offer/adnoddau i gefnogi eich dysgu. Siaradwch â’ch tiwtor neu Weinyddwr y Ganolfan yn gyfrinachol.

Hygyrchedd y We mewn Canolfannau Dysgu Cymunedol - Mae mynediad diwifr i’r rhyngrwyd ar gael ym mhob Canolfan. Os hoffech ddefnyddio gliniadur neu ddyfais symudol eich hunan ar eich cwrs, cysylltwch â’r Swyddog Gweinyddol yn eich Canolfan Ddysgu Gymunedol am fanylion os gwelwch yn dda.

Sgiliau Hanfodol: Llythrennedd Digidol – Bydd gwella eich sgiliau llythrennedd digidol nid yn unig yn eich galluogi chi i weithredu’n ddiogel ac yn effeithiol mewn byd digidol ond bydd hefyd yn cynyddu eich dysgu a’ch cyflogadwyedd. Os hoffech wella eich sgiliau digidol, bydd Swyddog Gweinyddol eich Swyddfa Ddysgu Gymunedol yn gallu cynnig cyngor ac arweiniad ynglŷn â’r llwybr gorau i chi.

Dysgu ar-lein trwy ein Parth Dysgu
Mae rhai o'n cyrsiau'n cael eu cyflwyno fel dosbarthiadau ar-lein trwy ein Parth Dysgu sy'n ei gwneud yn haws nag erioed i ddysgu, waeth lle rydych yn byw.
Mae'r Parth Dysgu yn rhoi mynediad i ddysgwyr cofrestredig i ddysgu ac adnoddau ar-lein dan arweiniad tiwtor. Mae'n galluogi cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb lle mae'r tiwtoriaid yn bresennol yn yr ystafell ddosbarth ar-lein ar gyfer bob sesiwn. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau digidol a darparu cynnwys y cwrs mewn amgylchedd diogel ar-lein.
Ewch i'n gwefan a chwilio am gwrs gan ddefnyddio'r gair 'ar-lein' er mwyn gweld yr opsiynau ar-lein rydyn ni'n eu cynnig.

Mae Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn darparu gwersi ar-lein yn defnyddio Zoom.

Grwpiau a chymdeithasau –  Mae gan bob Canolfan Dysgu Cymunedol fanylion clybiau, grwpiau a chymdeithasau sy'n cwrdd yn y ganolfan a all gynorthwyo oedolion o bob oed a gallu i gynnal a gwella lles. Gofynnwch i Weinyddwr y Ganolfan am fanylion.

Beth sydd angen i mi ei wybod am iechyd, diogelwch a diogeledd?

Mae pob un o bersonél Sir Benfro yn Dysgu wedi cael ei wirio gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol/ Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac mae pob gweithgaredd/ lleoliad wedi derbyn asesiad risg. Mae copïau o'r asesiadau risg a gynhaliwyd, gan gynnwys mesurau ataliol COVID-19, ar gael yn ein canolfannau .

Diogelu - Mae Sir Benfro yn Dysgu yn hyrwyddo lles plant ac oedolion sy’n agored i niwed, ac mae’n ymdrechu i sicrhau bod plant ac oedolion sy’n agored i niwed yn Sir Benfro yn mwynhau’r iechyd gorau posibl, ac nad ydynt yn dioddef camdriniaeth,  erledigaeth ac ecsploetiaeth. Mae manylion Polisi Diogelu Corfforaethol Sir Penfro a chanllawiau yn ymwneud â nodi oedolion sy’n agored i niwed, hynny yw, gweithgareddau rheoleiddiedig, ar gael ym mhob canolfan.

Cofnodi Damweiniau – Rhaid rhoi gwybod i’ch tiwtor am bob damwain, waeth pa mor fach neu ddibwys ydyw. Mae pecyn cymorth cyntaf a manylion swyddogion cymorth cyntaf cymwysedig ar gael ym mhob canolfan.

Gweithdrefnau Argyfwng - Sicrhewch eich bod yn ymgyfarwyddo â gweithdrefn gadael mewn argyfwng y ganolfan a’i mannau ymgynnull. Os bydd angen cymorth arnoch mewn argyfwng, trafodwch eich Cynllun Personol Gadael mewn Argyfwng â’ch tiwtor.

Eiddo personol - Un o amodau'r gwasanaethau a gynigir yw bod myfyrwyr yn cymryd cyfrifoldeb llawn dros eu heiddo personol. Ni fydd Cyngor Sir Penfro yn gyfrifol am unrhyw golli neu ddifrod i eiddo personol ac argymhellir bod myfyrwyr yn trefnu eu hyswiriant eu hunain cyn i’r cwrs ddechrau.

Canslo dosbarth – Er y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod dosbarthiadau yn cael eu cynnal yn rheolaidd, mewn rhai achosion gall fod yn angenrheidiol i ni ganslo eich dosbarth. Mewn amodau tywydd eithafol cysylltwch â’r ganolfan i gadarnhau bod y dosbarth yn cael ei gynnal.  Os yw canslo dosbarth yn angenrheidiol oherwydd salwch tiwtor, gwneir pob ymdrech i gysylltu â chi cyn yr amser dechrau a bennwyd.  Sicrhewch eich bod yn rhoi rhif cyswllt wrth gofrestru a’ch bod yn rhoi gwybod i’r ganolfan am unrhyw newidiadau.

Iechyd a Lles – Mae iechyd a lles ein holl ddysgwyr a staff yn bwysig iawn i ni. Mae Dysgu Sir Benfro yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ledled Sir Benfro i hyrwyddo iechyd a lles. Os oes angen cymorth arnoch, efallai y byddwn yn gallu eich cyfeirio at sefydliadau eraill a all helpu.

Sut ydw i’n cwblhau cwrs yn llwyddiannus?

Mynychwch yn rheolaidd ac yn brydlon. Rhowch wybod i ni os byddwch yn penderfynu gadael cwrs neu os na fyddwch yn gallu mynychu am unrhyw reswm. Byddwch yn cael eich tynnu allan o’r cwrs yn sgil tri absenoldeb heb ganiatâd.

Siaradwch â’ch tiwtor am unrhyw anghenion arbennig neu anawsterau.

Cymerwch ran weithredol yn eich dysgu, gan helpu eich tiwtor i gofnodi eich cynnydd a’ch cyflawniadau a rhoi adborth i ni trwy werthusiad ar ddiwedd y cwrs.

Asesir dysgu mewn gwahanol ffyrdd.

  • Pan rydych chi’n cychwyn eich dysgu bydd gofyn i chi gwblhau Cynllun Dysgu Unigol (CDI). Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i chi nodi eich targedau a monitro eich cynnydd.
  • Bydd tiwtor eich cwrs yn ymdrin â gwybodaeth am weithdrefnau asesu ar gyfer cyrsiau cymhwyso.  Rhowch wybod i diwtor eich cwrs os oes gennych unrhyw anghenion arbennig.
  • Bydd eich tiwtor yn cynnig adborth rheolaidd ar eich cynnydd.  Bydd hwn yn gyfle i chi godi unrhyw anawsterau neu broblemau y gall fod gennych â’ch cwrs.

Addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang (ADCDF)

Mae Sir Benfro yn Dysgu yn hybu diwylliant o ddatblygu cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang. 

Rydym yn eich annog yn ddysgwr i:

  • ofalu am eich hunan, gofalu am eraill a gofalu am eich amgylchedd
    • diffodd goleuadau pan na ddefnyddir ystafelloedd
    • argraffu pan fo wir angen yn unig
    • defnyddio cyfleusterau ailgylchu'r ganolfan pan fo’n bosibl
    • rhannu trafnidiaeth i ddosbarthiadau, ac oddi yno, pan fo’n bosibl
  • sylweddoli bod gennych rôl yn y gymuned dysgu oedolion, y gymuned leol a’r gymuned fyd-eang
  • darganfod, beth bynnag rydych yn ei astudio, bod cysylltiadau â phynciau, testunau a materion eraill, a hefyd â “darlun mawr” y byd ehangach
  • magu sgiliau ac ymchwilio i faterion mewn ffyrdd a fydd yn eich galluogi i benderfynu sut i ymddwyn

Canmol, cwyno ac awgrymiadau

Mae Sir Benfro yn Dysgu yn croesawu adborth.  Mae arnom angen gwybod yr hyn rydym yn ei wneud yn dda, yr hyn y gallwn ei wneud yn well a’r hyn y gallwn wella arno. Rydym yn cymryd pob sylw, awgrym a chanmoliaeth o ddifrif, er mwyn ein helpu i wella ein gwasanaeth yn gyson.

Mae Sir Benfro yn Dysgu yn cadw at bolisi Cyngor Sir Penfro. Dylid cysylltu i ddechrau â thiwtor eich cwrs neu weinyddwr y ganolfan er mwyn canmol, cwyno neu i gynnig awgrymiadau. Gobeithir y bydd unrhyw ofidion y gallai fod gennych yn cael eu datrys yn anffurfiol.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth mewn Canolfannau Dysgu Cymunedol neu ar wefan CSP.

Cynnwys Dysgwyr

Mae Sir Benfro yn Dysgu yn ymdrechu i hoelio sylw ar y dysgwr ymhob un o’i weithgareddau. Rydym yn croesawu eich cyfranogiad i’n helpu i wella ein gwasanaeth trwy werthusiadau, awgrymiadau, fforymau a phwyllgorau.  Pan fyddwch yn cofrestru ar gwrs gofynnir i chi os hoffech gymryd rhan yn ein Fforwm Ddysgwyr. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i chi roi adborth a chyfrannu at ddatblygiad ein gwasanaeth.

Os byddwch yn colli’r cyfle am ryw reswm, ond y byddech yn hoffi cyfrannu at ddatblygu’r gwasanaeth, siaradwch â’r Cydlynydd Dysgu Gydol Oes.

Gweithdrefn ar gyfer apeliadau asesu

Gweithdrefn sy’n eich galluogi i herio canlyniad asesu yw apêl.

  • Dylech drafod y canlyniad â’r tiwtor dan sylw yn gyntaf.
  • Os na fyddwch yn fodlon â’r ymateb a roddir, dylech apelio yn ysgrifenedig i Gydlynydd y Ganolfan ymhen 7 diwrnod ar ôl cael y canlyniad asesu.
  • Bydd y swyddog ymchwilio yn ymchwilio i’r weithdrefn a ddilynwyd ac yn rhoi ymateb ysgrifenedig ymhen 14 diwrnod.  Ni fydd hyn yn cynnwys adolygiad o waith yr ymgeisydd.
  • Cedwir pob dogfennaeth berthnasol gan y sswyddog ymchwilio yn ystod cyfnod yr apêl.
  • Os na fyddwn yn gallu datrys eich ymholiad, byddwch yn cael eich cyfeirio at bolisi Apêl y Corff Dyfarnu perthnasol e.e. Agored Cymru, BCS, CBAC,....  Byddwch yn derbyn y newyddion diweddaraf am gynnydd eich apêl bob cam o’r ffordd.

Hysbysiadau preifatrwydd a diogelu data

Sir Benfro yn Dysgu

Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru

Defnyddio eich gwybodaeth bersonol: Caiff y wybodaeth hon a ddarparwyd gennych ei dal ar gronfa ddata Sir Benfro yn Dysgu a’i defnyddio yn y ffyrdd canlynol:

  1. At ddibenion gweinyddol a dysgu ar-lein sy’n ymwneud â Dysgu Oedolion a Dysgu yn y Gymuned.
  2. At ddibenion gweinyddol ar gyfer Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru Llywodraeth Cymru (LLWR).
  3. Er mwyn cynllunio, monitro ac archwilio gweithgarwch dysgu.
  4. Cynhyrchu ystadegau yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data a Deddf Diogelu Data 2018.

Dim ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer yr awdurdod swyddogol a freinir yn y rheolydd y caiff eich data personol eu prosesu.

Os ydych yn astudio tuag at gymhwyster neu gredyd(au), bydd angen anfon eich manylion i’r corff dyfarnu at ddibenion achredu.

Bydd hysbysiadau ynglŷn â phreifatrwydd yn cael eu harddangos ar hysbysiadau ar waliau ystafelloedd hyfforddiant, byddant ar gael gan Gydgysylltwyr Dysgu Gydol Oes, staff gweinyddol Canolfannau Dysgu Cymunedol a hefyd drwy ddolenni gwefan.

Hysbydiadau Prefatrwydd Sir Benfro yn Dysgu

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y delir eich gwybodaeth a’ch hawliau i weld gwybodaeth amdanoch a ddelir gennym, gofynnwch i’ch tiwtor neu cysylltwch â Chydgysylltydd Dysgu Gydol Oes yr ardal.

Cyfathrebu digidol: Gallwch ddewis peidio â bod yn rhan o’r trefniant hwn ar unrhyw adeg, drwy gysylltu â staff yn y Ganolfan Dysgu Cymunedol sy’n gweinyddu eich cwrs neu drwy e-bostio: learn@pembrokeshire.gov.uk

Dysgu Cymraeg Sir Benfro

Y Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg

Cyfeiriwch at: Dysgu Cymraeg Hysbysiad Preifatrwydd (yn agor mewn tab newydd)

 

Cysylltiadau Sir Benfro yn Dysgu

Sgiliau Hanfodol, ESOL , Llythrennedd Digidol: 0808 100 3302

Cymraeg: 01437 770180

Sbardun: 07500 918050

Canolfannau Dysgu Cymunedol Gogledd Sir Benfro

(Ardal Abergwaun, Crymych, Trefdraeth a Tyddewi)

Lleolir yng Nghanolfan Ddysgu Gymunedol Abergwaun
Ysgol Bro Gwaun
Abergwaun
Sir Benfro SA65 9DT

01437 770140

Canolfannau Dysgu Cymunedol Canolbarth Sir Benfro

(Ardal Hwlffordd, Aberdaugleddau a Neyland)

Lleolir yng Nghanolfan Ddysgu Gymunedol Hwlffordd
Archifdy Sir Benfro
Prendergast
Hwlffordd
Sir Benfro SA61 2PE

01437 770150
07557 191452

Canolfan Ddysgu Gymunedol Doc Penfro

Sgwâr Albion
Doc Penfro
Sir Benfro SA72 6XF

01437 770170

Canolfan Ddysgu Gymunedol Dinbych-y-pysgod

Rhodfa Greenhill
Dinbych-y-Pysgod
Sir Benfro SA70 7LH

01437 770190

Canolfan Gymunedol Bloomfield

Tŷ Bloomfield
Heol Redstone
Arberth
Sir Benfro SA67 7ES

01437 770136 / 01834 860293

Ar gyfer pob ymholiad arall

Tŷ Bloomfield
Heol Redstone
Arberth
Sir Benfro SA67 7ES

01437 770130
07500 127146

Ebost: learn@pembrokeshire.gov.uk

Gwefan: Sir Benfro yn Dysgu

Facebook: Learning Pembrokeshire (yn agor mewn tab newydd) 

Cysylltiadau defnyddiol eraill

Gyrfa Cymru

Gwybodaeth a chyngor gyrfaol 0800 0284844
Pob mater arall 0300 1233833
Gwybodaeth a chyngor gyrfaoedd 0800 100 900

Wefan: Gyrfa Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro

01437 769422

Wefan: PAVS (yn agor mewn tab newydd)

Coleg Sir Benfro

0800 9776788

Wefan: Coleg Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)

Cyngor Sir Penfro

01437 764551

Wefan: Cyngor Sir Benfro

DEWIS

Wefan: Dewis (yn agor mewn tab newydd) 

Gwybodaeth am Ganolfannau

Darperir gwybodaeth benodol am ganolfannau, megis y cyfleusterau sydd ar gael, manylion cyswllt a gwybodaeth iechyd a diogelwch gan diwtor eich cwrs / gweinyddwr y ganolfan.Gwybodaeth am Gyrsiau

Gwybodaeth am Gyrsiau

Darperir gwybodaeth benodol am gyrsiau, megis trefniant cyrsiau, asesu ac iechyd a diogelwch gan diwtor eich cwrs.

ID: 1952, adolygwyd 05/10/2023

Cymorth i Ddysgwyr

Pa wasanaethau ychwanegol a ddarperir gan Sir Benfro yn Dysgu?

  • Cyfarwyddyd i Oedolion - Gall staff hyfforddedig Sir Benfro yn Dysgu eich helpu i ddeall a gwneud dewisiadau am gyrsiau, opsiynau dysgu a'r llwybrau dilyniant sydd ar gael i chi. Am ragor o wybodaeth, casglwch daflen Cyfarwyddyd i Oedolion o'r Ganolfan Ddysgu Gymunedol.
  • Sgiliau Hanfodol - Mae gwasanaeth Sgiliau Hanfodol Sir Benfro yn Dysgu yn cynnig cefnogaeth/dosbarthiadau mewn darllen, ysgrifennu, mathemateg, sgiliau digidol a Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Siaradwch a'ch tiwtor, yn gyfrinachol, os oes angen help arnoch.
  • Cynllun Iaith Gymraeg Cyngor Sir Penfro - Mae Cyngor Sir Penfro wedi mabwysiadu'r egwyddor o drin yr iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg yn gydradd wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Derbyniodd Cynllun y Cyngor gymeradwyaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg o dan Adran 14 (1) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg ar y 5 Mehefin 2006. 
  • Cefnogaeth anabledd - Gall Sir Benfro yn Dysgu ddarparu cefnogaeth, cyngor ac adnoddau i helpu a'ch dysgu. Siaradwch yn gyfrinachol a'ch tiwtor neu Weinyddwr y Ganolfan
  • Cymorth gyda'r ffioedd – os yw talu am ffioedd dosbarthiadau yn achosi problem ariannol, gallwch siarad â gweinyddwyr y canolfan yn gyfrinachol, a gallant drafod yr opsiynau cyllido sydd ar gael ac unrhyw drefniadau posibl. 

 

 

ID: 1953, adolygwyd 19/07/2023

Polisi Ad-daliadau

Dyma bolisi Sir Benfro yn Dysgu ar gyfer ad-dalu ffioedd cyrsiau:

  • Os bydd Sir Benfro yn Dysgu yn canslo cwrs cyn iddo gychwyn, rhoddir ad-daliad llawn.
  • Bydd rhaid talu ffi weinyddol o £10 os bydd y cwsmer yn canslo cyn dechrau'r cwrs. Ni fydd ad-daliad wedi dechrau'r cwrs.
  • Trefn apelio: Mewn amgylchiadau eithriadol bydd modd apelio am ad-daliadau i Gydlynydd Dysgu Gydol Oes yr Ardal. Codir lleiafswm tâl o £25 am gofrestru a gweinyddu.
ID: 1954, adolygwyd 29/09/2022