Gwybodaeth Llyfrgell
Amdanom ni ac Ein Hamcanion
Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Benfro yn rhan o'r adran Gwasanaethau Diwylliannol, sydd hefyd yn rheoli ein celfyddydau, Archifau a Gwasanaethau Amgueddfa, yn ogystal â Pharc Gwledig Maenordy Scolton
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Benfro’n bodoli er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl; i leihau anfantais; i ysbrydoli dysgu cydol oes, ac i greu cymunedau cryfach ac iachach.
Byddwn ni’n gwneud hyn drwy: ddarparu gwasanaethau sy’n gyson ardderchog; drwy dargedu ein gweithgaredd i gyfeiriad y bobl a’r cymunedau mwyaf anghenus, a thrwy weithio ar y cyd er mwyn darparu mwy nag y gallem ei wneud ar ein pen ein hun.
Rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 roedd ein llyfrgelloedd wedi cael:
- 275,980 ymweliad
- 265,349 benthyciad llyfr ac adnoddau eraill
- 18,021 defnydd o’n cyfrifiaduron sy’n cynnig mynediad rhad ac am ddim i’r rhyngrwyd
Fe wnaethon ni ofyn i’n cwsmeriaid beth oedd eu barn nhw am ein llyfrgelloedd. Roedd:
- 99.5% o oedolion
- 99% o blant
- 98% o arddegwyr yn fodlon neu’n fodlon iawn â’n gwasanaeth
Beth mae ein defnyddwyr yn ei ddweud:
'Rwy’n dwlu ar y llyfrgell. Mae’n fy helpu gyda fy ngwaith cartref a phopeth arall. Mae’n rhagorol.'
Defnyddiwr llyfrgell Abergwaun sydd yn ei arddegau
'Mae’r staff yn gymwynasgar ac yn gyfeillgar yn ddi-ffael'
Defnyddiwr llyfrgell Hwlffordd
Ysbrydolwyd ein blaenoriaethau gan ein dadansoddiad o’r hyn y mae’r llyfrgelloedd gorau’n eu darparu. Ein huchelgais yw bod yn eu plith – gallu cynnig y gwasanaeth llyfrgell gyhoeddus orau yng Nghymru. Byddwn ni’n cyflawni hyn drwy ddarparu’r tair blaenoriaeth gyffredinol hyn:
Blaenoriaeth 1: Creu cymunedau cryfach ac iachach
Blaenoriaeth 2: Lleihau tlodi
Blaenoriaeth 3: Darparu rhagoriaeth, yn effeithiol