Gwybodaeth Llyfrgell
Cyfleusterau TG
Cyfrifiaduron Personol Rhwydwaith y Bobl
Mae Llyfrgelloedd Sir Benfro’n darparu mynediad rhad ac am ddim i’r rhyngrwyd ymhob llyfrgell drwy gyfrwng ein Cyfrifiaduron Personol Rhwydwaith Gyhoeddus. Yn eich llyfrgell leol gallwch:
- Pori’r we
- Anfon a derbyn e-bost
- Defnyddio offer prosesu geiriau a swyddfa, megis Microsoft Word ac Excel
- Cael mynediad i Adnoddau ar-lein
- Argraffu (codir tâl)
Os ydych chi eisiau cael mynediad i un o’n cyfrifiaduron cyhoeddus, bydd angen i chi ddod yn aelod o Lyfrgelloedd Sir Benfro.
I ddefnyddio cyfleusterau TG yn unrhyw un o’n Llyfrgelloedd, rhaid i chi gytuno hefyd i’n Polisi Defnydd Derbyniol
Noder bod cyfrifiaduron y llyfrgell yn diffodd yn awtomatig 10 munud cyn amser cau.
Mynediad i Blant
Rhaid i blant rhwng 9-16 oed gael caniatâd rhieni
Wi-fi
Bydd pob un o’n llyfrgelloedd hefyd yn cynnig Wi-fi am ddim, sy’n gadael i chi fynd ar lein ar eich dyfais eich hun. Does dim angen i chi fod yn aelod o’r gwasanaeth llyfrgell i ddefnyddio’r Wi-fi.
Argraffu Wi-Fi
Mae argraffu dros Wi-Fi ar gael yn Llyfrgell Hwlffordd.
- Ffeiliau rydym yn eu derbyn: doc a docx (Word); pdf; bmp, gif, jpeg, jpg, png, tif a tiff (delweddau).
- Terfyn uwchlwytho uchaf: Uchafswm o 150 MB fesul ffeil.
Camau:
- Ewch i Archebu cyfrifiadur
- Mewngofnodwch gyda'ch rhif cerdyn llyfrgell a'ch rhif PIN.
- Ewch i'r Hafan ac Argraffu Dogfen.
- Darllenwch y cyfarwyddiadau a dewiswch Dechrau Arni.
- Dewiswch Ychwanegu Ffeil+ i uwchlwytho'r ddogfen o'ch dyfais.
- Dewch o hyd i'ch ffeil a dewiswch Cyflwyno.
- Nodwch y Rhif Cyfeirnod.
- Galwch heibio i Lyfrgell Hwlffordd i dalu a chasglu eich dogfennau sydd wedi’u hargraffu.
Ffiltro
Mae mynediad rhyngrwyd ein Cyfrifiaduron Personol a’n mynediad rhyngrwyd Wi-Fi yn cael eu ffiltro yn ein llyfrgelloedd. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu cyrchu rhai gwefannau. Gellir cael rhagor o fanylion am hyn yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.
Gwasanaeth e-Lyfrgell 24/7
Wyddech chi eich bod chi’n gallu cael mynediad i ddewis o wasanaethau e-gyfeirio ac e-fenthyca a llawer ohonynt o’ch cartref eich hun, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, am ddim.