Gwybodaeth Llyfrgell
Digwyddiadau Llyfrgell
Dim Digwyddiadau Llyfrgell
Ffioedd
*Mae cyfraddau gostyngol ar gael i’r grwpiau canlynol:
- Plant a Phobl lfanc 17 oed neu iau
- Pobl sy’n 60 oed neu’n hŷn
- Pobl ddi-waith
- Pobl mewn addysg llawn amser*
- Pobl ag anableddau*
- Gofalwyr*
Gweler y Polisi llawn am Ddiffiniadau
Taliadau benthyca
Llyfrau Llafar
Oedlion
Tâl benthyca - £2.50
Ffioedd hwyr - 15c y dydd (uchafswm yr eitem - £5.00)
Gostyngol*
Tâl benthyca - £1.70
Ffioedd hwyr - 10c y dydd (uchafswm yr eitem - £5.00)
Eithriad
Tâl benthyca - plant 0-17 oed a benthycwyr anabl - Am ddim
Ffioedd hwyr - plant 0-17 oed - am ddim
Benthyciadau rhwng llyfrgelloedd
£6.00
Taliadau neilltuo
Oedolion
Tâl – gall cwsmeriaid neilltuo pum eitem: £1.50 yr eitem
Consesiynau*
Tâl – gall cwsmeriaid neilltuo pum eitem: £1.00 yr eitem
Eithriad
Tâl gall cwsmeriaid archebu dwy eitem, yn rhad ac am ddim - Plant 0-17 oed - am ddim
Os yw’r eitem yr ydych chi’n chwilio amdani mewn stoc ond nad yw wedi’i lleoli yn eich llyfrgell leol, gallwch ofyn am gadw’r eitem ar eich cyfer, drwy fewngofnodi i’ch cyfrif neu drwy ofyn i aelod o staff.
Byddwn ni’n rhoi gwybod i chi pan fydd yr eitem yn barod i’w chasglu.
Ceisiadau
Os nad oes eitem mewn stoc, llenwch nodyn cais ac fe wnawn ni ystyried prynu’r eitem ar gyfer ein stoc.
Benthyca rhwng Llyfrgelloedd (atal)
Efallai y byddwn ni’n gallu benthyca’r eitem sydd ei hangen arnoch chi oddi wrth awdurdod llyfrgell arall yn y DU.
Mae’r gwasanaeth hwn yn eithaf drud i’r gwasanaeth llyfrgell, felly hoffem pe byddech chi’n ystyried yn ofalus a oes angen yr eitem arbennig hon arnoch.
Uchafswm o lyfrau cadw / ceisiadau
Uchafswm y nifer o lyfrau cadw / ceisiadau y gall un darllenydd eu cael ar un adeg yw 2.
Taliadau eraill
Eitemau a gollwyd neu a niweidiwyd - Codir tâl yn unol â’r eitem a gollwyd
Eitemau a gollwyd neu a ddifrodwyd
Codir 50% o'r gost o ailosod eitem
Cerdyn o'r newydd
Cardiau a gollwyd - £2.00
Cardiau gafodd eu dwyn (mae ganddo rif trosedd) - dim tâl
Llungopïo ac argraffu
A4 du a gwyn - 20c fesul dalen
A4 lliw - 60c fesul dalen
A3 du a gwyn - 40c fesul dalen
A3 lliw - £1.00 fesul dalen
Llogi Orielau Celf Llyfrgell
£60.00 y mis calendr (Yn Abergwaun a Doc Penfro yn unig)
Ffilmio
Cwmni teledu'n ffilmio ar safle - £150 y dydd
Tai Mynediad Tapestri Glaniad y Ffrancod
Oedolion (18 oed ac y hyn) £3.50
Plentyn (0-17 oed)
Sgyrsiau - £1.00 y pen. Archebu ymlaen llaw yn unig
Oedolion a cherdyn Llyfrgell Sir Benfro (rhaid dod ag ef) - Am ddim
Mynediad am ddim. i bawb, bob blwyddyn ar 22 Chwefror (Pen-blwydd y Glaniad)
Llogi ystafelloedd Hwb Oes
Abergwaun: £10.00 yr awr
Doc Penfro: £10.00 yr awr
Hwlffordd: £15.00 yr awr
Aberdaugleddau: £15.00 yr awr
Archebion nid-er-elw: Dim tâl
Amdanom ni ac Ein Hamcanion
Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Benfro yn rhan o'r adran Gwasanaethau Diwylliannol, sydd hefyd yn rheoli ein celfyddydau, Archifau a Gwasanaethau Amgueddfa, yn ogystal â Pharc Gwledig Maenordy Scolton
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Benfro’n bodoli er mwyn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl; i leihau anfantais; i ysbrydoli dysgu cydol oes, ac i greu cymunedau cryfach ac iachach.
Byddwn ni’n gwneud hyn drwy: ddarparu gwasanaethau sy’n gyson ardderchog; drwy dargedu ein gweithgaredd i gyfeiriad y bobl a’r cymunedau mwyaf anghenus, a thrwy weithio ar y cyd er mwyn darparu mwy nag y gallem ei wneud ar ein pen ein hun.
Rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 roedd ein llyfrgelloedd wedi cael:
- 275,980 ymweliad
- 265,349 benthyciad llyfr ac adnoddau eraill
- 18,021 defnydd o’n cyfrifiaduron sy’n cynnig mynediad rhad ac am ddim i’r rhyngrwyd
Fe wnaethon ni ofyn i’n cwsmeriaid beth oedd eu barn nhw am ein llyfrgelloedd. Roedd:
- 99.5% o oedolion
- 99% o blant
- 98% o arddegwyr yn fodlon neu’n fodlon iawn â’n gwasanaeth
Beth mae ein defnyddwyr yn ei ddweud:
'Rwy’n dwlu ar y llyfrgell. Mae’n fy helpu gyda fy ngwaith cartref a phopeth arall. Mae’n rhagorol.'
Defnyddiwr llyfrgell Abergwaun sydd yn ei arddegau
'Mae’r staff yn gymwynasgar ac yn gyfeillgar yn ddi-ffael'
Defnyddiwr llyfrgell Hwlffordd
Ysbrydolwyd ein blaenoriaethau gan ein dadansoddiad o’r hyn y mae’r llyfrgelloedd gorau’n eu darparu. Ein huchelgais yw bod yn eu plith – gallu cynnig y gwasanaeth llyfrgell gyhoeddus orau yng Nghymru. Byddwn ni’n cyflawni hyn drwy ddarparu’r tair blaenoriaeth gyffredinol hyn:
Blaenoriaeth 1: Creu cymunedau cryfach ac iachach
Blaenoriaeth 2: Lleihau tlodi
Blaenoriaeth 3: Darparu rhagoriaeth, yn effeithiol
Sut rydym nin perfformio?
Beth yw Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru?
Set o safonau a osodwyd yn eu lle gan Lywodraeth Cymru yw’r Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus er mwyn asesu a yw Gwasanaeth Llyfrgell yng Nghymru’n cydymffurfio â’u dyletswydd fel yr amlinellir hwy yn Neddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964
Mae Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru hefyd yn helpu Llywodraeth Cymru i asesu pa mor effeithiol yw darpariaeth gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru.
Cyfleusterau TG
Cyfrifiaduron Personol Rhwydwaith y Bobl
Mae Llyfrgelloedd Sir Benfro’n darparu mynediad rhad ac am ddim i’r rhyngrwyd ymhob llyfrgell drwy gyfrwng ein Cyfrifiaduron Personol Rhwydwaith Gyhoeddus. Yn eich llyfrgell leol gallwch:
- Pori’r we
- Anfon a derbyn e-bost
- Defnyddio offer prosesu geiriau a swyddfa, megis Microsoft Word ac Excel
- Cael mynediad i Adnoddau ar-lein
- Argraffu (codir tâl)
Os ydych chi eisiau cael mynediad i un o’n cyfrifiaduron cyhoeddus, bydd angen i chi ddod yn aelod o Lyfrgelloedd Sir Benfro.
I ddefnyddio cyfleusterau TG yn unrhyw un o’n Llyfrgelloedd, rhaid i chi gytuno hefyd i’n Polisi Defnydd Derbyniol
Noder bod cyfrifiaduron y llyfrgell yn diffodd yn awtomatig 10 munud cyn amser cau.
Mynediad i Blant
Rhaid i blant rhwng 9-16 oed gael caniatâd rhieni
Wi-fi
Bydd pob un o’n llyfrgelloedd hefyd yn cynnig Wi-fi am ddim, sy’n gadael i chi fynd ar lein ar eich dyfais eich hun. Does dim angen i chi fod yn aelod o’r gwasanaeth llyfrgell i ddefnyddio’r Wi-fi.
Argraffu Wi-Fi
Mae argraffu dros Wi-Fi ar gael yn Llyfrgell Hwlffordd.
- Ffeiliau rydym yn eu derbyn: doc a docx (Word); pdf; bmp, gif, jpeg, jpg, png, tif a tiff (delweddau).
- Terfyn uwchlwytho uchaf: Uchafswm o 150 MB fesul ffeil.
Camau:
- Ewch i Archebu cyfrifiadur
- Mewngofnodwch gyda'ch rhif cerdyn llyfrgell a'ch rhif PIN.
- Ewch i'r Hafan ac Argraffu Dogfen.
- Darllenwch y cyfarwyddiadau a dewiswch Dechrau Arni.
- Dewiswch Ychwanegu Ffeil+ i uwchlwytho'r ddogfen o'ch dyfais.
- Dewch o hyd i'ch ffeil a dewiswch Cyflwyno.
- Nodwch y Rhif Cyfeirnod.
- Galwch heibio i Lyfrgell Hwlffordd i dalu a chasglu eich dogfennau sydd wedi’u hargraffu.
Ffiltro
Mae mynediad rhyngrwyd ein Cyfrifiaduron Personol a’n mynediad rhyngrwyd Wi-Fi yn cael eu ffiltro yn ein llyfrgelloedd. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn gallu cyrchu rhai gwefannau. Gellir cael rhagor o fanylion am hyn yn ein Polisi Defnydd Derbyniol.
Gwasanaeth e-Lyfrgell 24/7
Wyddech chi eich bod chi’n gallu cael mynediad i ddewis o wasanaethau e-gyfeirio ac e-fenthyca a llawer ohonynt o’ch cartref eich hun, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, am ddim.
Polisiau
Strategaeth Llyfrgelloedd Sir Benfro - Cyngor Sir Benfro
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn
I ddefnyddio cyfleusterau TG yn unrhyw un o’n Llyfrgelloedd, rhaid i chi gytuno hefyd i’n Polisi Defnydd Derbyniol
Mynediad i Gyfrifiaduron o fewn Llyfrgelloedd Sir Benfro.
- Caiff Cwsmeriaid Llyfrgell Cofrestredig fynediad i’r cyfrifiaduron trwy ddefnyddio cerdyn llyfrgell a rhif PIN.
- Rhaid i Gwsmeriaid Llyfrgell sydd heb Gofrestru, lenwi Ffurflen Ymwelwyr cyn cael defnyddio cyfrifiadur / teclyn symudol.
- Caniateir un sesiwn o hyd at awr y dydd i ddefnyddwyr. Mae amser ychwanegol yn ddibynnol ar y galw ac argaeledd. Gellir hefyd archebu cyfrifiadur cyhoeddus hyd at wythnos ymlaen llaw.
- Bydd uchafswm o ddau berson yn cael defnyddio terfynell cyfrifiadur / teclyn symudol ar unrhyw un adeg.
- Rhaid i ddefnyddwyr dan 9 oed fod dan oruchwyliaeth rhiant neu oedolyn cyfrifol (nid aelod staff). Rhaid i ddefnyddwyr rhwng 9-16 oed fod â cherdyn Clwb Cyfrifiadur gyda nhw a dangos eu cerdyn os bydd gofyn gan aelod staff. Gellir cael cerdyn Clwb Cyfrifiadur trwy lenwi ffurflen caniatâd rhieni.
- Caiff staff gynorthwyo defnyddwyr gyda swyddogaethau TGCh sylfaenol.
- Rhaid talu am bob allbrint yn ddiymdroi (gan gynnwys unrhyw gamgymeriadau). Mae costau allbrintio wedi’u harddangos ymhob llyfrgell.
- Bydd gofyn i ddefnyddwyr sydd am gysylltu â Wifi y Gwasanaeth Llyfrgell trwy declynnau symudol, gofrestru cyfrif yn gyntaf a / neu roi eu manylion cwsmer i aelod staff.
- Mae gofyn i ddefnyddwyr sydd am drydanu teclynnau TGCh personol ddefnyddio’r torwyr cylched a’r dyfeisiadau gwarchod rhag ymchwydd pŵer sydd ar gael.
Camddefnydd / defnydd annerbyniol
Gofynnwn i ddefnyddwyr llyfrgell fod yn sensitif i’r ffaith eu bod yn gweithio mewn amgylchfyd cyhoeddus sy’n cael ei rannu gyda phobl o bob oed.
Rhaid peidio:
- Ymwneud neu ymgymryd ag unrhyw weithgareddau anghyfreithlon.
- Creu neu fynd at unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, aflan, pornograffig, annymunol neu ddifrïol.
- Defnyddio iaith anweddus, ffiaidd neu ymosodol.
- Newid, dileu, ychwanegu neu ymyrryd â’r cyfarpar neu’r meddalwedd a ddarperir.
- Torri hawlfraint trwy wneud copïau heb awdurdod.
- Creu firysau cyfrifiadurol neu hacio cronfeydd data lle mae mynediad wedi’i wrthod.
- Darlledu sain neu gerddoriaeth o gyfrifiadur / teclyn symudol.
- Gwylio fideos cerddoriaeth / ffilmiau os oes mwy nag un person yn eistedd wrth y cyfrifiadur / teclyn symudol gan y gellir dynodi hyn fel darlledu cyhoeddus.
- Gwylio teledu byw (e.e. BBC iPlayer) gan nad ydy Llyfrgelloedd Sir Benfro wedi’u trwyddedu ar gyfer hyn.
- Mynd at wefannau lle byddwch o dan y cyfyngiad oedran a ganiateir gan y gwefannau hynny ar gyfer defnydd, h.y. Facebook / YouTube ayyb.
Rhaid:
- Parchu preifatrwydd defnyddwyr eraill cyfrifiaduron / teclynnau symudol
- Defnyddio clustffonau os am wrando ar sain / cerddoriaeth o’r cyfrifiaduron / teclynnau symudol.
- Terfynu eich sesiwn a gadael y cyfrifiadur / teclyn symudol / gwasanaeth Wifi yn ddiymdroi os bydd aelod staff yn gofyn.
- Cadw at delerau ac amodau’r gwefannau rydych yn mynd atyn nhw, gan gynnwys cadw at unrhyw gyfyngiad oedran a osodir gan wefannau er mwyn cael mynediad atyn nhw a chreu cyfrifon.
- Cadw at y polisi hwn.
Ffiltro
- Caiff gwybodaeth ar y rhyngrwyd ei ffiltro gorau y gallwn ni er mwyn atal arddangos deunydd ffiaidd, annymunol neu anghyfreithlon. Fodd bynnag, ni allwn warantu ein bod wedi gwahardd deunydd annymunol yn llwyr.
- Mae ffiltro’r rhyngrwyd hefyd wedi’i gymhwyso i’n gwasanaethau Wifi. Darparwyr gwasanaethau’r Wifi sy’n gosod y lefelau ffiltro ar y gwasanaethau hyn.
Gwadiad
- Dydy Cyngor Sir Penfro ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, ariannol neu fel arall, neu niwed personol, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, a ddioddefir fel canlyniad i ddefnyddio adnoddau cyfrifiadurol a TGCh Llyfrgell Sir Benfro.
- Dydy Cyngor Sir Penfro ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb, ansawdd nac argaeledd gwybodaeth a geir trwy fynediad i’r rhyngrwyd.
- Mae Cyngor Sir Penfro yn cadw’r hawl i fonitro defnydd Rhyngrwyd y Llyfrgell ac adnoddau a chyfarpar cyfrifiadurol eraill trwy wiriadau meddalwedd a gweledol. Gall unrhyw ymgais gan ddefnyddwyr i gael mynediad i wefannau sydd wedi’u gwahardd neu unrhyw ddeunydd arall sydd heb ei awdurdodi, olygu cymryd camau, gan gynnwys atal mynediad i’r Rhyngrwyd. Gall unrhyw gamddefnydd sy’n groes i’r gyfraith olygu bod y digwyddiad yn cael ei riportio i’r heddlu.
- Gall fethiant i gydymffurfio â’r polisi hwn olygu ymyrraeth gan staff. Bydd rhaid i ddefnyddwyr derfynu eu sesiwn a gadael y cyfrifiadur / teclyn symudol / rhwydwaith diwifr os bydd aelod staff yn gofyn hynny, ni waeth faint o amser sy’n weddill o’u sesiwn. Mae’n bosib y bydd defnyddwyr sy’n dal ati i ymddwyn yn annerbyniol yn cael eu gwahardd rhag defnyddio’r gwasanaeth dros dro neu’n barhaol.
- Mae mynediad i’r rhyngrwyd yn ôl risg y defnyddiwr ei hun.