Gwybodaeth Llyfrgell
Polisiau
Strategaeth Llyfrgelloedd Sir Benfro - Cyngor Sir Benfro
I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn
I ddefnyddio cyfleusterau TG yn unrhyw un o’n Llyfrgelloedd, rhaid i chi gytuno hefyd i’n Polisi Defnydd Derbyniol
Mynediad i Gyfrifiaduron o fewn Llyfrgelloedd Sir Benfro.
- Caiff Cwsmeriaid Llyfrgell Cofrestredig fynediad i’r cyfrifiaduron trwy ddefnyddio cerdyn llyfrgell a rhif PIN.
- Rhaid i Gwsmeriaid Llyfrgell sydd heb Gofrestru, lenwi Ffurflen Ymwelwyr cyn cael defnyddio cyfrifiadur / teclyn symudol.
- Caniateir un sesiwn o hyd at awr y dydd i ddefnyddwyr. Mae amser ychwanegol yn ddibynnol ar y galw ac argaeledd. Gellir hefyd archebu cyfrifiadur cyhoeddus hyd at wythnos ymlaen llaw.
- Bydd uchafswm o ddau berson yn cael defnyddio terfynell cyfrifiadur / teclyn symudol ar unrhyw un adeg.
- Rhaid i ddefnyddwyr dan 9 oed fod dan oruchwyliaeth rhiant neu oedolyn cyfrifol (nid aelod staff). Rhaid i ddefnyddwyr rhwng 9-16 oed fod â cherdyn Clwb Cyfrifiadur gyda nhw a dangos eu cerdyn os bydd gofyn gan aelod staff. Gellir cael cerdyn Clwb Cyfrifiadur trwy lenwi ffurflen caniatâd rhieni.
- Caiff staff gynorthwyo defnyddwyr gyda swyddogaethau TGCh sylfaenol.
- Rhaid talu am bob allbrint yn ddiymdroi (gan gynnwys unrhyw gamgymeriadau). Mae costau allbrintio wedi’u harddangos ymhob llyfrgell.
- Bydd gofyn i ddefnyddwyr sydd am gysylltu â Wifi y Gwasanaeth Llyfrgell trwy declynnau symudol, gofrestru cyfrif yn gyntaf a / neu roi eu manylion cwsmer i aelod staff.
- Mae gofyn i ddefnyddwyr sydd am drydanu teclynnau TGCh personol ddefnyddio’r torwyr cylched a’r dyfeisiadau gwarchod rhag ymchwydd pŵer sydd ar gael.
Camddefnydd / defnydd annerbyniol
Gofynnwn i ddefnyddwyr llyfrgell fod yn sensitif i’r ffaith eu bod yn gweithio mewn amgylchfyd cyhoeddus sy’n cael ei rannu gyda phobl o bob oed.
Rhaid peidio:
- Ymwneud neu ymgymryd ag unrhyw weithgareddau anghyfreithlon.
- Creu neu fynd at unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, aflan, pornograffig, annymunol neu ddifrïol.
- Defnyddio iaith anweddus, ffiaidd neu ymosodol.
- Newid, dileu, ychwanegu neu ymyrryd â’r cyfarpar neu’r meddalwedd a ddarperir.
- Torri hawlfraint trwy wneud copïau heb awdurdod.
- Creu firysau cyfrifiadurol neu hacio cronfeydd data lle mae mynediad wedi’i wrthod.
- Darlledu sain neu gerddoriaeth o gyfrifiadur / teclyn symudol.
- Gwylio fideos cerddoriaeth / ffilmiau os oes mwy nag un person yn eistedd wrth y cyfrifiadur / teclyn symudol gan y gellir dynodi hyn fel darlledu cyhoeddus.
- Gwylio teledu byw (e.e. BBC iPlayer) gan nad ydy Llyfrgelloedd Sir Benfro wedi’u trwyddedu ar gyfer hyn.
- Mynd at wefannau lle byddwch o dan y cyfyngiad oedran a ganiateir gan y gwefannau hynny ar gyfer defnydd, h.y. Facebook / YouTube ayyb.
Rhaid:
- Parchu preifatrwydd defnyddwyr eraill cyfrifiaduron / teclynnau symudol
- Defnyddio clustffonau os am wrando ar sain / cerddoriaeth o’r cyfrifiaduron / teclynnau symudol.
- Terfynu eich sesiwn a gadael y cyfrifiadur / teclyn symudol / gwasanaeth Wifi yn ddiymdroi os bydd aelod staff yn gofyn.
- Cadw at delerau ac amodau’r gwefannau rydych yn mynd atyn nhw, gan gynnwys cadw at unrhyw gyfyngiad oedran a osodir gan wefannau er mwyn cael mynediad atyn nhw a chreu cyfrifon.
- Cadw at y polisi hwn.
Ffiltro
- Caiff gwybodaeth ar y rhyngrwyd ei ffiltro gorau y gallwn ni er mwyn atal arddangos deunydd ffiaidd, annymunol neu anghyfreithlon. Fodd bynnag, ni allwn warantu ein bod wedi gwahardd deunydd annymunol yn llwyr.
- Mae ffiltro’r rhyngrwyd hefyd wedi’i gymhwyso i’n gwasanaethau Wifi. Darparwyr gwasanaethau’r Wifi sy’n gosod y lefelau ffiltro ar y gwasanaethau hyn.
Gwadiad
- Dydy Cyngor Sir Penfro ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, ariannol neu fel arall, neu niwed personol, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, a ddioddefir fel canlyniad i ddefnyddio adnoddau cyfrifiadurol a TGCh Llyfrgell Sir Benfro.
- Dydy Cyngor Sir Penfro ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb, ansawdd nac argaeledd gwybodaeth a geir trwy fynediad i’r rhyngrwyd.
- Mae Cyngor Sir Penfro yn cadw’r hawl i fonitro defnydd Rhyngrwyd y Llyfrgell ac adnoddau a chyfarpar cyfrifiadurol eraill trwy wiriadau meddalwedd a gweledol. Gall unrhyw ymgais gan ddefnyddwyr i gael mynediad i wefannau sydd wedi’u gwahardd neu unrhyw ddeunydd arall sydd heb ei awdurdodi, olygu cymryd camau, gan gynnwys atal mynediad i’r Rhyngrwyd. Gall unrhyw gamddefnydd sy’n groes i’r gyfraith olygu bod y digwyddiad yn cael ei riportio i’r heddlu.
- Gall fethiant i gydymffurfio â’r polisi hwn olygu ymyrraeth gan staff. Bydd rhaid i ddefnyddwyr derfynu eu sesiwn a gadael y cyfrifiadur / teclyn symudol / rhwydwaith diwifr os bydd aelod staff yn gofyn hynny, ni waeth faint o amser sy’n weddill o’u sesiwn. Mae’n bosib y bydd defnyddwyr sy’n dal ati i ymddwyn yn annerbyniol yn cael eu gwahardd rhag defnyddio’r gwasanaeth dros dro neu’n barhaol.
- Mae mynediad i’r rhyngrwyd yn ôl risg y defnyddiwr ei hun.
ID: 456, adolygwyd 08/05/2024