Gwybodaeth y Dreth Gyngor
Pwy sy'n gorfod talu Treth Gyngor
Eiddo lle mae rhywun yn byw
Sut allaf i ddweud pwy sy'n gorfod talu?
Dim ond un bil Treth Gyngor sydd ar gyfer pob cartref. I weld pwy sy'n talu ar gyfer eich cartref, edrychwch ar y rhestr isod. Pan fyddwch yn cyrraedd y disgrifiad cyntaf sy'n berthnasol i rywun yn eich cartref, dyna pwy sy'n gyfrifol am y bil, sef yr ‘unigolyn atebol'.
- Rhydd-ddeiliad preswyl (mewn eiddo ym meddiant perchennog, y perchennog)
- Lesddeiliad preswyl
- Preswylydd gyda thenantiaeth statudol neu ddiogel
- Trwyddedai preswyl
- Preswylydd
- Y perchennog dibreswyl
‘Preswylydd' yw rhywun 18 oed neu hŷn sy'n byw yn y cartref fel unig neu brif gartref.
Beth os oes mwy nag un unigolyn atebol?
Mae pobl sy'n gydberchenogion neu gyd-denantiaid yn atebol ar y cyd am yr un taliad Treth Gyngor ar gyfer yr eiddo hwnnw. Mae gŵr neu wraig talwr Treth Gyngor hefyd yn gyfrifol ar y cyd am dalu'r bil. Mae hyn yn berthnasol hefyd i gwpwl dibriod sy'n byw ynghyd fel gŵr a gwraig ac i barau sy'n byw ynghyd mewn partneriaeth sifil. Mae rheolau arbennig yn berthnasol pan fo un o'r bobl atebol ag amhariad meddyliol difrifol, yn fyfyriwr, yn nyrs dan hyfforddiant, yn brentis neu'n hyfforddai ifanc.
A yw'r preswylwyr bob amser yn atebol?
Mewn rhai achosion arbennig y perchennog, nid y preswylwyr, sy'n gorfod talu Treth Gyngor. Yr achosion hyn yw:
- Eiddo lle mae mwy nag un aelwyd, pan fo'r aelwydydd yn rhannu cyfleusterau, fel coginio neu ymolchi
- Cartrefi gofal preswyl, cartrefi nyrsio (fel hosbisau), cartrefi nyrsio meddwl neu fathau arbennig o hosteli'n darparu gofal sylweddol
- Cymunedau crefyddol fel mynachlogydd neu leiandai
- Eiddo sydd heb fod yn brif gartref y perchennog, ond sy'n brif gartref rhywun neu rywrai pwy y mae'r perchennog yn eu cyflogi i weini
- Ficerdai a thai eraill lle mae gweinidog yr efengyl yn byw ac yn gweithio
- Eiddo sy'n llety ceiswyr lloches
Os ydych yn byw yn un o'r cartrefi hyn lle bo'r perchennog yn atebol, nid ydych yn gorfod talu Treth Gyngor. Os mai eich landlord yw'r unigolyn atebol, fe all ofyn i chi dalu rhywbeth tuag at y bil. Mae hyn yn dibynnu ar delerau eich cytundeb gyda'r landlord.
Eiddo gwag
Fel arfer caiff 100% o'r pris llawn ei godi ar eiddo gwag a'r perchennog sy'n atebol i dalu'r bil fel arfer. Mae eithriadau'n berthnasol dan rai amgylchiadau.