Gwybodaeth y Dreth Gyngor

Sut mae'r Dreth Gyngor yn Cael ei Gwario

Gwybodaeth i drethdalwyr y Cyngor ynglŷn â gwariant arfaethedig a lefel y dreth Gyngor yn 2023-24

Isod, dangosir costau’r gwasanaethau a weinyddir gan y Cyngor Sir. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r Cynghorau Tref a Chymuned yn mynd ati’n annibynnol i bennu eu lefelau gwariant eu hunain ynghyd â’r ardollau a’r praeseptiau sy’n deillio o’r rheini.

Setliad Cyllid Llywodraeth Leol:

£296.1 miliwn yw’r Asesiad o Wariant Safonol (yr angen i wario) a gyfrifir gan Lywodraeth Cymru, ac mae hynny’n cymharu â gwariant net Cyngor sy’n £287.6 miliwn ac a ddangosir isod.

Buddsoddiad Cyfalaf: 

Cynlluniwyd rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf gwerth cyfanswm o £138.5 miliwn ar gyfer 2023-24, gan gynnwys llithriant o’r blynyddoedd blaenorol. Gellid ychwanegu at hyn os cymeradwyir cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn.

Cronfeydd Ariannol wrth gefn:

Cronfeydd refeniw wrth gefn – Amcangyfrifir y bydd balans gweithio’r Cyfrif Refeniw Tai (£0.7m) a balans gweithio’r Gronfa Gyffredinol (£8.0m) yn aros yn ddigyfnewid yn ystod 2023-24. Mae gwariant net Gwasanaethau’r Cyngor Sir a amlinellir isod yn cynnwys y dyraniadau net arfaethedig o gronfeydd wrth gefn o £5.9m a glustnodwyd at ddibenion penodol (gan gynnwys £3.8m o Bremiwm y Dreth Gyngor ar Ail Gartrefi)

Gwariant Refeniw Arfaethedig:

Gellir ychwanegu at y gyllideb refeniw - ceir crynodeb ohoni isod – os cymeradwyir cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn.

Gellir cael copïau o adroddiadau’r gyllideb integredig gan y Cyfarwyddwr Cyllid, Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP neu drwy chwilio’r cyfarfodydd a’r agendâu

 

Gwasanaethau'r Cyngor Sir
Gross Gwariant 2023-24 (£'000)
Incwm 2023-24 (£'000)
Cronfeydd 2023-24 (£'000)
Gwariant Amcangyfrifiedig 2023-24 (£'000)
Gwariant Amcangyfrifiedig 2022-23 £'000)

Addysg a Gwasanaethau Plant

139,674

(22,147)

(5,472)

112,055

104,678

Gwasanaethau Plant

25,839

(6,010)

36

19,865

17,083

Gwasanaethau Gofal Oedolion

107,954

(33,533)

(2,312)

72,109

65,200

Gwasanaethau Tai Eraill

26,859

(24,667)

27

2,219

1,191

Tai Cyngor

22,337

(28,970)

6,633

0

0

Priffyrdd, Ffyrdd a Gwasanaethau Cludiant

26,495

(15,002)

328

11,821

9,966

Gwasanaethau Diwylliannol a Chysylltiadig

13,862

(5,779)

(343)

7,740

6,417

Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu

8,230

(5,373)

188

3,045

2,530

Gwasanaethau Amgylcheddol

23,301

(6,641)

748

17,408

16,930

Cynllun Gostyniadau'r Dreth Cyngor

13,022

(2,136)

(1,930)

8,956

10,800

Gwasanaethau Canolog, Corfforaethol a Democrataidd

9,939

0

0

9,939

10,080

Gwasanaethau Llys

443

(111)

0

332

326

Arbed Ailstrwythuro Corfforaethol

0

0

(3,765)

(3,765)

0

Rheoli Swyddi Gwag

(995)

0

0

(995)

(1,000)

Wrth Gefn

940

0

0

940

0

Ariannu Cyfalaf a Incwm Buddsoddi

2,510

0

0

2,510

0

Ailddyrannu cyfrifon daliadol gwasanaeth cefnogi a gweithredol ar draws pob maes gwasanaeth

14,712

(1,419)

3

13,296

12,992

Cost Gwasanaethau'r Cyngor Sir 

435,122

(151,788)

(5,859)

277,475

257,193

 

 

Ardollau a Phraepetiau Cymunedol
Gwariant Amcangyfrifiedig 2023-24 £'000 
Gwariant Amcangyfrifiedig 2022-23 £'000

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

1,084

1,134

Gwasanaethau Tân ac Achub Canolberth a Gorllewin Cymru

8,749

7,439

Phraepetiau  Cynghorau Tref a Chymuned

2,428

2,366

Gofyniad y Gyllideb

289,736

268,132

Ychwanegu: Rhyddhad Ardrethi yn ôl Disgresiwn

290

290

Llai: Praespetiau Cynghorau Tref a Chymunedol

(2,428)

(2,366)

Gwariant net y cyngor sir ac ardoliau

287,598

266,056

Llai: Grant cynnal refeniw

(171,737)

(150,387)

Cyfran yr ardrethi annomestig

(40,938)

(45,870)

Cyfanswm a godir ar drethdalwyr am wasanaethau'r Cyngor Sir ac ardoliau

74,923

69,799

 

Cyfrifiad Treth Gyngor

Praeseptau Lleol

ID: 138, adolygwyd 20/03/2023