Gwybodaeth y Dreth Gyngor
Y Dreth Gyngor Nodiadau Esboniadol
Gwybodaeth Presept Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (yn agor mewn tab newydd)
Bandiau Prisio’r Dreth Gyngor
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi gosod pob annedd yng Nghymru yn un o naw band pris yn unol â’i gwerth cyfalaf ar y 1af o Ebrill 2003. Mae eich bil Treth Gyngor yn dangos y band ar gyfer eich annedd chi. Y bandiau ar gyfer Cymru yw:-
-
A Hyd at £44,000
-
B £ 44,001 - £65,000
-
C £ 65,001 - £91,000
-
D £ 91,001 - £123,000
-
E £123,001 - £162,000
-
F £162,001 - £223,000
-
G £223,001 - £324,000
-
H £324,001 - £424,000
-
I £424,001 ac uwch
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich band cewch gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar 03000 505 505.
Apeliadau
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn prisio eiddo domestig ar gyfer y dreth gyngor. Defnyddir y prisiad hwn i osod eich band treth gyngor. Efallai y bydd angen i chi gysylltu â'r Asiantaeth os credwch fod eich band treth gyngor yn anghywir.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bryd y gallwch herio eich band a beth sydd angen i chi ei wneud yn Herio’ch band Treth Gyngor (yn agor mewn tab newydd)
Os byddwch yn herio'ch band, mae'n rhaid i chi barhau i dalu'r dreth gyngor ar eich band presennol hyd nes y penderfynir ar eich apêl.
Gallwch gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn Cysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio (yn agor mewn tab newydd)
Os na allwch ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein, gallwch hefyd gysylltu â'r Asiantaeth ar 03000 505 505.
Efallai y byddwch am apelio yn erbyn rhai penderfyniadau a wneir gan y Cyngor (ee materion yn ymwneud ag atebolrwydd, anheddau trethadwy a chyfrifiadau’r Dreth Gyngor). Yn yr amgylchiadau hyn, dylech ysgrifennu at y Cyngor fel y gellir adolygu eich achos. Os nad ydych yn hapus ag ateb y Cyngor, gallwch apelio i Dribiwnlys Prisio.
Os yw eich galwad am dalu eich treth gyngor yn dangos eich bod yn cael disgownt / eithriad neu unrhyw ostyngiad arall, darllenwch y nodiadau esboniadol.
Os ydych yn ystyried eich bod â hawl o hyd i'r bil gostyngedig, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau gweithredu pellach. Fodd bynnag, os yw eich amgylchiadau wedi newid ac nad oes hawl gennych i'r gostyngiad, mae'n ofynnol i chi yn ôl y gyfraith i roi gwybod i’r cyngor ar unwaith.
Isod mae disgrifiad byr o'r eithriadau a'r disgowntiau sydd ar gael. Mae'r wybodaeth er arweiniad yn unig; mae manylion llawn eithriadau a disgowntiau unigol ar gael ar gais.
Anheddau Eithriedig
Bydd y rhan fwyaf o anheddau yn destun y dreth gyngor, ond bydd rhai wedi’u heithrio ac ni fydd unrhyw dreth gyngor i’w thalu arnynt. Sef:
-
A - Eiddo gwag ac heb lawer iawn o ddodrefn, sydd angen neu yn cael gwaith trwsio neu addasiadau strwythurol sylweddol, neu wedi cael yn y gorffennol, i'w wneud yn addas i fyw ynddo. Mae'r eithriad yn parhau am chwe mis ar ôl cwblhau'r gwaith neu am uchafswm o 12 mis, pa un bynnag yw’r cyfnod byrraf.
-
B - Eiddo sydd ym mherchnogaeth elusen, a ddefnyddiwyd ddiwethaf i ddibenion elusennol ac sydd wedi bod yn wag am gyfnod o hyd at chwe mis.
-
C - Eiddo sydd, ac sydd wedi bod, heb ei feddiannu a heb ei ddodrefnu, i raddau helaeth, am gyfnod o hyd at chwe mis.
-
D - Eiddo sydd heb ei feddiannu ac a oedd, neu a fydd, yn unig neu'n brif breswylfa i berson sydd yn y ddalfa.
-
E - Eiddo sydd heb ei feddiannu ac a oedd yn unig neu'n brif breswylfa i rywun sydd mewn ysbyty, cartref gofal preswyl, cartref nyrsio, cartref nyrsio meddwl neu hostel.
-
F - Eiddo sydd heb ei feddiannu ac sy'n cael ei ddal gan gynrychiolwyr personol person ymadawedig, am gyfnod o hyd at 6 mis ar ôl rhoi profiant.
-
G - Eiddo sydd heb ei feddiannu lle y gwaherddir meddiannaeth gan y gyfraith.
-
H - Eiddo sydd heb ei feddiannu ac sy’n cael ei ddal fel un sydd ar gael i'w feddiannu gan Weinidog yr Efengyl.
-
I - Eiddo sydd heb ei feddiannu, a gafodd ei feddiannu ddiwethaf gan berson sy'n breswylydd mewn man arall lle mae’n derbyn gofal.
-
J - Eiddo sydd heb ei feddiannu, a gafodd ei feddiannu ddiwethaf gan berson sy'n preswylio mewn man arall ac yn darparu gofal.
-
K - Eiddo sydd heb ei feddiannu, a gafodd ei feddiannu ddiwethaf gan fyfyriwr neu fyfyrwyr yn unig.
-
L - Eiddo sydd heb ei feddiannu, sy’n eiddo i’r morgeisai o dan y forgais.
-
M - Eiddo sy'n neuadd breswyl i fyfyrwyr.
-
N - Eiddo sy'n cael ei feddiannu gan fyfyriwr neu fyfyrwyr yn unig.
-
O - Eiddo sy'n eiddo i'r Weinyddiaeth Amddiffyn a ddelir i ddibenion llety ar gyfer y lluoedd arfog.
-
P - Eiddo lle mae o leiaf un person atebol yn aelod o lu, neu'n oedolyn sy'n ddibynnol ar aelod o lu sy'n ymweld.
-
Q - Eiddo sydd heb ei feddiannu ac sy'n cael ei ddal gan ymddiriedolwr mewn methdaliad.
-
R - Eiddo sy'n cynnwys llain neu angorfa nad yw'n cael ei feddiannu gan garafán neu gwch.
-
S - Eiddo sy'n cael ei feddiannu gan berson neu bersonau o dan 18 oed yn unig.
-
T - Eiddo sydd heb ei feddiannu ac sy’n ffurfio rhan o eiddo unigol sy'n cynnwys annedd arall ac na chaniateir ei osod ar wahân i'r annedd arall honno heb dorri rheolau cynllunio.
-
U - Eiddo sy'n cael ei feddiannu gan berson neu bersonau sydd â nam meddyliol difrifol yn unig.
-
V - Eiddo lle mae o leiaf un person atebol yn ddiplomydd neu'n berson y rhoddir breintiau diplomyddol iddo.
-
W - Eiddo sydd, neu sy’n debyg i, anecs ac sy'n cael ei feddiannu gan berthynas dibynnol.
-
X - Eiddo sy'n cael ei feddiannu gan un neu fwy o rai sy'n gadael gofal ac mae pob preswylydd naill ai'n unigolyn sy'n gadael gofal, yn fyfyriwr neu'n berson â nam meddyliol difrifol.
Os ydych yn credu y gallai eich eiddo fod wedi'i eithrio, dylech gysylltu â'r Cyngor.
Pobl ag Anableddau
Os ydych chi, neu rywun sy’n byw gyda chi, angen ystafell ychwanegol neu ofod ychwanegol yn eich cartref, ee ar gyfer defnyddio cadair olwyn, oherwydd anabledd, efallai y gallwch gael gostyngiad yn eich bil. Byddai’r gostyngiad hwn yn tybio bod eich cartref wedi’i roi yn y band prisio sy’n cwmpasu cartrefi yn union o dan y band gwirioneddol. Os yw eich cartref yn Fand A, gallwch fod yn gymwys ar gyfer gostyngiad nawr o hyd. Cysylltwch â'r Cyngor am ragor o wybodaeth os credwch y gallech fod yn gymwys.
Disgowntiau
Mae disgowntiau ar gael i leihau eich rhwymedigaeth treth gyngor, gall hyn fod yn ddisgownt o 25% neu 50% yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Er enghraifft, os mai chi yw'r unig unigolyn sy'n byw mewn annedd, byddai gennych hawl i ostyngiad o 25%. Fodd bynnag, os oes mwy nag un preswylydd, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i gael disgownt o 25% neu 50% yn dibynnu ar amgylchiadau'r preswylwyr. Nid yw'r bobl a restrir isod yn cael eu cyfrif fel preswylwyr ac os credwch y gallech fod â hawl i ddisgownt, dylech gysylltu â'r Cyngor.
1. Unigolion yn y carchar
2. Unigolion â nam meddyliol difrifol
3. Unigolion y mae Budd-dal Plant yn daladwy ar eu cyfer
4. Y rhan fwyaf o fyfyrwyr amser llawn
5. Rhai cleifion Ysbyty
6. Cleifion mewn cartrefi gofal preswyl, cartrefi nyrsio, cartrefi nyrsio meddwl
7. Rhai gweithwyr gofal
8. Unigolion sy'n byw mewn hosteli neu lochesi nos penodol
9. Aelodau o Bencadlys rhyngwladol a Sefydliad Amddiffyn (e.e. NATO)
10. Aelodau o gymunedau crefyddol
11. Rhai ymadawyr ysgol
12. Aelodau o luoedd sy'n ymweld a'u dibynyddion sy'n oedolion
Disgownt Person Sengl - preswylwyr sy’n cyrraedd 18 mlwydd oed
Sylwch na fydd y disgownt unigolyn sengl yn berthnasol mwyach pan fydd unrhyw breswylydd arall yn cyrraedd 18 oed, oni bai eu bod yn cael eu diystyru at ddibenion y dreth gyngor. Cyfeiriwch at y rhestr uchod neu cysylltwch â'r Gwasanaethau Refeniw am ragor o wybodaeth.
Ail Gartrefi
Mae eiddo sy'n wag ac wedi'u dodrefnu yn dod o dan Reoliadau (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru). Mae'r Cyngor wedi penderfynu peidio â rhoi unrhyw ddisgownt i eiddo sy'n dod o fewn y dosbarthiadau diffiniedig hyn.
Premiwm Ail Gartrefi
Y diffiniad o ail gartref yw annedd nad yw’n unig neu’n brif gartref i unigolyn ac sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol. Roedd y Cyngor eisoes wedi penderfynu codi premiwm o 50% o 1.4.17, gan ei godi i 100% o 1.4.22. Mae penderfyniad arall bellach wedi'i wneud sy'n cynyddu cyfradd premiwm ail gartref o 1.4.24 i 200%. Mae’r premiwm yn ychwanegol at gyfradd safonol y dreth gyngor ar gyfer eiddo sy’n dod o fewn y diffiniad hwn.
Mae’r rheoliadau’n rhagnodi 7 dosbarth o anheddau sydd wedi’u heithrio o’r premiwm: -
Dosbarth 1 – Anheddau sy’n cael eu marchnata fel rhai ar werth – gyda therfyn amser o un flwyddyn
Dosbarth 2 – Anheddau sy’n cael eu marchnata fel rhai ar osod – gyda therfyn amser o un flwyddyn
Dosbarth 3 - Anecsau sy'n ffurfio rhan, neu sy'n cael eu trin fel rhan, o’r brif annedd
Dosbarth 4 – Anheddau fyddai'n unig neu brif breswylfa rhywun pe na bai yn preswylio yn llety'r Lluoedd Arfog
Dosbarth 5 – Safleoedd carafanau ac angorfeydd cychod
Dosbarth 6 – Anheddau lle mae amod cynllunio yn atal deiliadaeth am gyfnod di-dor o 28 diwrnod o leiaf mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, fel cabanau gwyliau a thai gwyliau pwrpasol
Dosbarth 7 – Anheddau sy'n cael eu meddiannu o bryd i'w gilydd, gan fod gofyn i unigolyn breswylio yn rhywle arall mewn llety sy'n gysylltiedig â swydd
Eiddo Gwag
Codir tâl o 100% ar eiddo sy’n wag ar ôl i unrhyw eithriad Dosbarth A neu Ddosbarth C ddod i ben.
Yng nghyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2023, penderfynodd yr Aelodau ddiwygio’r premiwm a godir ar eiddo gwag hirdymor (yn wag a heb ddodrefn) o 1 Ebrill 2024 i:
-
Ar gyfer eiddo sy'n wag am 2 flynedd 100%
-
Ar gyfer eiddo sy'n wag am 3 blynedd 200%
-
Ar gyfer eiddo sy'n wag am 4 blynedd neu fwy 300%
Mae’r premiwm yn ychwanegol at gyfradd safonol y dreth gyngor ar gyfer eiddo sy’n dod o fewn y diffiniad hwn.
Mae’r penderfyniad uchod yn disodli’r penderfyniad a wnaed yng nghyfarfod y Cyngor ar 19 Hydref 2017, pan benderfynodd yr Aelodau gyflwyno premiwm o 1.4.19 ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag (heb ei feddiannu a heb ddodrefn) am fwy na 3 blynedd fel a ganlyn:
-
O 1 Ebrill 2019, premiwm y dreth gyngor fyddai 25%, hynny yw 125% o’r Dreth Gyngor flynyddol yn cael ei chodi ar eiddo sy’n wag ers tair blynedd neu fwy.
-
O 1 Ebrill 2020, premiwm y dreth gyngor fyddai 50% ar gyfer eiddo sy’n wag am bedair blynedd neu fwy, hynny yw 150% o’r Dreth Gyngor flynyddol.
-
O 1 Ebrill 2021, premiwm y dreth gyngor fyddai 100% ar gyfer eiddo sy’n wag am 5 mlynedd neu, hynny yw 200% o’r Dreth Gyngor flynyddol.
Mae 4 eithriad statudol i’r premiwm fel y manylir isod:
Dosbarth 1 - Eithriad ar gyfer anheddau sy'n cael eu marchnata i'w gwerthu.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, mae'n rhaid i annedd fod ar y farchnad ar werth am bris rhesymol. Wrth ystyried a yw pris yn rhesymol, bydd cymariaethau'n cael eu gwneud gydag eiddo eraill sydd ar werth/wedi’u gwerthu yn yr ardal. Bydd angen tystiolaeth bod yr eiddo ar werth.
Sylwch fod yr eithriad hwn yn gyfyngedig o ran amser i flwyddyn. Fodd bynnag, gellir ymestyn y cyfnod hwn os bydd gwerthiant ar fin digwydd. Bydd angen i chi wneud cais ysgrifenedig, mae ein ffurflen ar-lein ar gael yn y Broses Apeliadau: Premiwm Treth Gyngor ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor, Premiwm Eiddo Gwag Hirdymor.
Dosbarth 2 – Anheddau sydd ar y farchnad i’w gosod.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn, mae’n rhaid i annedd fod ar y farchnad i’w rhentu am rent rhesymol. Bydd angen tystiolaeth fod yr eiddo ar y farchnad i’w rentu.
Sylwch fod yr eithriad hwn yn gyfyngedig o ran amser i flwyddyn. Fodd bynnag, gellir ymestyn y cyfnod hwn os bydd ar fin cael ei osod. Bydd angen i chi wneud cais ysgrifenedig, mae ein ffurflen ar-lein ar gael yn y Broses Apeliadau: Premiwm Treth Gyngor ar gyfer Eiddo Gwag Hirdymor, Premiwm Eiddo Gwag Hirdymor.
Dosbarth 3: Eithriad ar gyfer anecs sy’n ffurfio rhan o’r brif annedd.
Mae’r eithriad hwn yn gymwys lle mae perchennog wedi addasu ei annedd er mwyn darparu anecs, a bod yr anecs nawr yn cael ei ddefnyddio fel rhan o’r brif annedd.
Dosbarth 4: Eithriad ar gyfer Anheddau a fyddai’n unig neu’n brif breswylfa unigolion os na fyddent yn preswylio yn llety’r lluoedd arfog.
Mae’r eithriad hwn yn berthnasol i anheddau a fyddai’n unig neu’n brif breswylfa ar gyfer unigolion os na fyddent yn preswylio yn llety’r lluoedd arfog.
Mae hefyd yn berthnasol i bersonél y lluoedd arfog nad ydynt yn byw yn eu cartrefi gan eu bod yn byw dramor, yn llety’r lluoedd arfog.
Mae proses apêl hefyd wedi cael ei dyfeisio er mwyn caniatáu disgownt dewisol am gyfnod dros dro, fel y gall y trethdalwr gael rhagor o amser cyn y bydd y premiwm yn cael ei godi. Bydd ystyriaethau’n cael eu rhoi i drethdalwyr sydd ar hyn o bryd yn rhentu eiddo wrth iddynt geisio adfer eiddo i’w ddefnyddio fel eu prif gartref, lle mae oedi yn sgil presenoldeb ystlumod neu faterion cynllunio, neu fod yr eiddo yn adeilad rhestredig a/neu lefel y gwaith sydd ei angen ar yr eiddo. Bydd unrhyw gais hefyd yn destun prawf ariannol.
Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor
Bydd Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn helpu pobl ar incwm isel i dalu eu biliau treth gyngor. Er enghraifft, os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith (Seiliedig ar Incwm), Credyd Gwarant Credyd Pensiwn a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – yn Seiliedig ar Incwm, ni fyddwch fel arfer yn talu unrhyw dreth gyngor. Efallai y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad os ydych yn cael Credyd Cynhwysol neu’n gweithio a bod eich incwm yn is na lefel benodol. Cysylltwch â'r Gwasanaethau Refeniw am ragor o fanylion.
Gostyngiad Dewisol
Cyflwynodd Deddf Llywodraeth Leol 2003 bwerau dewisol newydd i awdurdodau lleol mewn perthynas â gostyngiadau’r dreth gyngor. Roedd hyn yn rhoi mwy o ryddid i awdurdodau lleol bennu neu amrywio disgowntiau ac eithriadau rhag y dreth gyngor er mwyn ystyried problemau lleol fel llifogydd a thrychinebau naturiol eraill. Gellir cymhwyso disgowntiau hefyd mewn achosion unigol.
Y Fenter Twyll Genedlaethol – Rhannu Data
Mae dyletswydd ar y Cyngor Sir i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu. I'r perwyl hwn o dro i dro, efallai y bydd yn defnyddio gwybodaeth a roddir iddo ar gyfer atal a chanfod twyll a'i rannu â chyrff eraill sy'n gweinyddu arian cyhoeddus i’r dibenion hyn yn unig.