Gyrru eich hun

Gyrru eich hun

Cwrs Gloywi i Yrwyr

Os ydych chi yn 65+, yn gyrru’n rheolaidd ac yn awyddus i ddiweddaru eich sgiliau gyrru a gwella eich hyder, mae Cyngor Sir Penfro yn cynnig cyrsiau gloywi i yrwyr yn rhad ac am ddim.  Mae ‘Drive for Life’ yn gwrs gloywi undydd a gynhelir yn Hwlffordd. Mae’r cwrs yn cynnwys dysgu yn y dosbarth a sesiwn o yrru ymarferol gyda hyfforddwr gyrru cymwys. Mae’n gwrs gwirfoddol ac nid oes asesiad na phrawf. Mae’n bosibl i hyfforddwyr ymdrin ag unrhyw agweddau ar yrru yr hoffech chi eu gloywi, fel parcio paralel, cylchfannau neu dechnegau gyrru mwy diogel.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Diogelwch ar y Ffordd ar 01437 775144 neu e-bostiwch road.safety@pembrokeshire.gov.uk

Cynllun Motability

Os ydych yn derbyn cyfradd uchaf cydran symudedd Lwfans Byw i’r Anabl, Cyfradd Uwch Cydran Symudedd Taliad Annibyniaeth Personol, Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel neu Daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (gweler Budd-daliadau a Lwfansau) mae’n bosibl ei ddefnyddio i brynu neu i brydlesu car sydd wedi’i addasu’n arbennig at eich defnydd chi drwy’r Cynllun Motability. 

Motability Operations (yn agor mewn tab newydd)

Os nad ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn gallwch wneud eich trefniadau eich hun i gael car wedi ei addasu drwy gysylltu â gwerthwyr ceir lleol sy’n gwneud gwaith ‘motability’ – chwiliwch am gwmni sydd wedi’i achredu i wneud gwaith Motability (motability accredited) yn yr Yellow Pages 'Advice for disabled drivers'

Gall gyrwyr anabl gael cyngor am yrru, asesiad o’u gallu, a chyngor am addasiadau i geir a/neu ddewis car gan y Fforwm Canolfannau Symudedd (yn agor mewn tab newydd).

Gwasanaeth Asesu Symudedd a Gyrru De Cymru (yn agor mewn tab newydd)

yn cynnig asesiadau i yrwyr a theithwyr gyda’r nod o ddarparu atebion tymor hir i broblemau symudedd.

 

 

ID: 1983, adolygwyd 14/08/2024