Gyrru yn y Gaeaf
Cadw'n ddiogel wrth yrru ar yr iâ a'r eira
CYN DECHRAU'R DAITH
1. Peidiwch â gyrru os nad oes rhaid
2. Rhowch ddigon o amser - ceisiwch beidio â gyrru wrth iddi nosi neu yn y nos
3. Mae llenwi'r tanc yn hanfodol bwysig - o injan y car y cewch chi'r rhan fwyaf o'ch gwres os ewch chi'n sownd.
4. Gofalwch bod pob golau yn gweithio, pob hylif lan i'r lefel iawn, defnyddiwch olchydd sgrîn cryfach rhag ofn i'r sgrîn wynt rewi, cadwch bob ffenestr yn lân a defnyddiwch ddadrewydd a theclyn crafu addas.
5. Os bydd rhaid i chi adael y cerbyd, gadewch e' yn y lle mwyaf diogel y gallwch chi.
6. Peidiwch byth â gadael yr injan yn rhedeg a neb yno gyda'r cerbyd. Os gwnewch chi hynny, fydd eich yswiriant ddim yn cyfrif os caiff y car ei ddwyn.
7. Gwisgwch ar gyfer yr amgylchiadau. Ewch â thermos o ddiod neu gawl twym a bwyd sy'n rhoi llawer o egni fel losin, siocled a thameidiau gyda glwcos ynddyn nhw.
8. Ewch â blanced neu sach gysgu a chot neu fest loyw.
9. Ewch â rhyw fath o adloniant gyda chi, yn enwedig os byddwch yn cludo plant ifanc. Ewch â sbectol haul yn erbyn golau llachar isel yr haul, gwefrydd i'r ffôn symudol, rhif ffôn y gwasanaeth torri lawr a rhowch wybod i rywun eich bod ar eich taith yn enwedig os byddwch yn gyrru mewn ardal ddiarffordd.
AR YR HEOL
1. Pan fyddwch yn gyrru, gan bwyll ar y sbardun ac wrth lywio a phwyso'r brêc - gyrru'n bwyllog ac yn gall yw'r ffordd i deithio'n ddiogel.
2. Ceisiwch symud bant yn yr ail neu'r trydydd gêr. Mewn awtomatig dewiswch yr ail gêr. Mae modd gosod rhai ceir awtomatig ar gyfer y gaeaf.
3. Watch your speed and remember that cyclists and pedestrians will be less visible than other vehicles
4. Yn yr iâ a'r eira mae eisiau lan i 10 gwaith yn rhagor o le i stopio.
5. Peidiwch byth â throi'r injan yn galed. Yr unig beth fydd hynny'n ei wneud yw rhoi sglein ar yr eira a'r iâ. Os bydd y cerbyd yn dechrau llithro, codwch eich troed gan bwyll oddi ar y sbardun a throi i mewn i'r cyfeiriad y mae'n llithro iddo. Ceisiwch beidio â brecio. Defnyddiwch y gêr cyntaf fel brêc.
6. Mae iâ du yn aml mewn mannau wedi eu cysgodi rhag yr haul, yn enwedig ar heolydd sy'n mynd o'r de i'r gogledd, felly byddwch yn garcus.
7. Er bod y cerbyd yn dwym tu mewn, mae hi'n gallu bod yn rhewi tu fas, felly cadwch lygad ar fesurydd tymheredd allanol y cerbyd.
8. Heolydd heb eu graeanu - ceisiwch beidio â gyrru ar olion olwynion eraill. Mae'n fwy tebygol y byddwch yn llithro ar eira wedi'i wasgu'n galed nag ar eira sydd heb gael ei symud.
9. Mae goleuadau wedi'u gostwng yn hanfodol bwysig er mwyn gweld a chael eich gweld. Peidiwch â defnyddio'r goleuadau niwl oni bai eich bod yn gweld llai na 100 metr o'ch blaen - maen nhw'n dallu cerbydau sy'n dod i'ch cwrdd ac mae goleuadau niwl ar y cefn yn gwneud goleuadau'r brêc yn anodd eu gweld.
10. Peidiwch â fflachio eich goleuadau blaen i gydnabod gyrwyr eraill. Mae hyn yn gallu eu dallu.
Pecyn Argyfwng:
Gwnewch becyn argyfwng ar gyfer teithiau hir, yn enwedig mewn tywydd gaeafol.
- Teclyn crafu iâ a dadrewydd.
- Tortsh.
- Dillad twym a blanced.
- Pâr o sgidiau mawr.
- Pecyn cymorth cyntaf.
- Gwifrau gwefru ar gyfer y batri.
- Rhaw.
Ewch â bwyd a diod dwym mewn fflasg pan fyddwch yn teithio mewn tywydd gaeafol.
Os byddwch mewn trafferthion
Os oes ffôn symudol gyda chi, peidiwch â'i defnyddio tra'r ydych yn gyrru. Sefwch mewn lle diogel neu gofynnwch i deithiwr arall wneud yr alwad.
Mae cerbydau wedi'u gadael yn gallu bod yn drafferth i gerbydau achub ac i'r aradr eira. Er mwyn sicrhau y bydd yr heol wedi ei chlirio cyn gynted ag y bo modd sefwch gyda'ch cerbyd hyd nes daw cymorth atoch. Os bydd rhaid i chi adael eich cerbyd i fynd am gymorth, gofalwch bod modd i gerbydau eraill eich gweld.
Cyflwr y cerbyd
Yn y gaeaf mae'n fwy pwysig fyth eich bod yn gofalu bod eich cerbyd wedi ei gynnal a'i gadw ac mewn cyflwr da. .
Cadwch eich goleuadau, ffenestri a drychau yn lân, heb iâ nac eira arnyn nhw.
Cadwch eich batri wedi ei wefru lan yn llwyr.
Ychwanegwch wrthrewydd i'r rheiddiadur ac ychwanegyn gaeaf i boteli golchi'r sgrîn wynt.
Gofalwch bod sychwyr a goleuadau yn gweithio'n dda.
Gofalwch bod gwadnau digon dwfn ar eich teiars a bod y pwysedd iawn ynddyn nhw.