Gyrru yn y Gaeaf

Gwasanaeth Cynnal a Chadw'r Gaeaf

Mae Gwasanaeth y Gaeaf yn rhan bwysig o waith cynnal a chadw'r Cyngor.  Mae hyn yn cynnwys dodi halen ar y prif ffyrdd pan yw rhew yn debygol, clirio'r eira ac ymateb i lifogydd a choed sydd wedi cwympo.      

Mae halen yn cael ei ddefnyddio i iselhau pwynt rhewi'r dŵr pan yw'r tywydd yn rhewi.  Mae hyn yn lleihau'r iâ sy'n ffurfio a'r perygl o lithro neu ddamweiniau mwy difrifol ar yr heol.  Wedi ei storio mewn ysguborion halen o amgylch Sir Benfro, mae'r Cyngor yn gallu mynd ag e' mas yn glou pan yw rhagolygon y tywydd yn dweud ei bod yn mynd i rewi. 

ID: 183, adolygwyd 24/04/2019