Gyrru yn y Gaeaf

Sut maen nhw'n dodi halen

Mae'r rhwydwaith y maen nhw'n dodi halen arno ‘rhag ofn' yn ymestyn ar hyd 11 o heolydd, sy'n sicrhau mewn amgylchiadau arferol bod y gwaith halltu wedi ei wneud o fewn dwy awr.  Mae pob lori halltu wedi ei chynnal a'i chadw'n ofalus i sicrhau ei bod yn lledaenu'r maint iawn o halen ar yr heolydd, ac  mae pob gyrrwr wedi ei hyfforddi'n llwyr.     

Mae'r halen yn dod o bwll halen yn Sir Gaer.  Rydym yn cadw cyflenwadau o halen o dan do i sicrhau nad yw'n mynd yn llai effeithiol o ganlyniad i ddeunyddiau gweithredol yn llifo mas a bod cyn lleied ag y bo modd hefyd o effeithiau amgylcheddol arno.      

ID: 187, adolygwyd 13/10/2017