Gyrru yn y Gaeaf

Ynglŷn â Gwasanaeth Cynnal a Chadw'r Gaeaf

Mae gan Sir Benfro arwynebedd o 616 o filltiroedd sgwâr ac mae ei rhwydwaith o heolydd yn cynnwys cefnffyrdd, priffyrdd, heolydd nad ydyn nhw'n briffyrdd a heolydd di-ddosbarth.  Mae'n rhwydwaith gwledig ar y cyfan ond gyda rhan sylweddol ohono mewn trefi hefyd.    

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am gynnal a chadw'r cefnffyrdd yng Nghymru.  Mae Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru ( South Wales Trunk Road Agency (SWTRA)) yn gyfrifol am gynnal a chadw'r rhan fwyaf o rwydwaith y cefnffyrdd yn Sir Benfro.   

Mae cefnffordd yr A487 o Gapel Newydd i ffin y Sir yn cael ei chynnal a'i chadw gan Asiantaeth Cefnffyrdd y Canolbarth (Mid Wales Trunk Road Agency (MWTRA)). Mae Cyngor Sir Penfro yn is-asiantau ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn y gaeaf o fewn  ffiniau'r Sir ar gyfer SWTRA.    

Bydd Cyngor Sir Penfro yn gwneud pob ymdrech i ddarparu Gwasanaeth Cynnal a Chadw'r Gaeaf a fydd, cyn belled ag y bo modd rhesymol, yn fodd i i gerbydau deithio'n ddiogel ar y rhannau o rwydwaith yr heolydd sydd o bwys strategol a sicrhau y bydd cyn lleied ag y bo modd o oedi a damweiniau oherwydd tywydd garw.  

ID: 191, adolygwyd 13/10/2017