Hamdden yn yr Awyr Agored

Traethau a Diogelwch Dwr

Yma yn Sir Benfro yr ydym wedi'n bendithio â thraethau sydd gyda'r gorau ym Mhrydain, efallai yn y byd hyd yn oed! Mae'r arfordir mor brydferth fel ei fod wedi ei ddynodi fel yr unig barc cenedlaethol arfordirol yn y DU. Mae ein traethau wedi derbyn nifer o anrhydeddau dros y blynyddoedd, gan gynnwys Safle Picnic Gorau y DU 2006 a ddyfarnwyd gan y cylchgrawn Country Life i Fae Barafundle.

Mae gwobrau poblogaidd fel hyn wedi'u cefnogi gan amrywiaeth eang o wobrau ansawdd ar gyfer 2015:

  •  Traethau Baneri Glas - traethau gwyliau o safon uchel sydd wedi cyrraedd  y safonau dŵr angenrheidiol
  •  Gwobrau Glan Môr - cydnabod rheolaeth, ansawdd  a phoblogrwydd y traeth, naill ai cyrchfan neu wledig, sydd wedi cyrraedd y safonau dŵr gorfodol
  •  Gwobrau Arfordir Glas - cydnabod ansawdd amgylcheddol a gwledig y traeth sydd wedi cyrraedd y safonau dŵr angenrheidiol

 Mae'r holl wobrau hyn yn ganlyniad ein hymrwymiad i wella'n barhaus y gwasanaeth a ddarperir gennym, gan wneud y mwyaf o'n hadnoddau naturiol ar gyfer eich mwynhad  chi. 

Mae Wardeiniaid Traeth yn gwylio'r traethau o Fehefin i Fedi gan wirio bod y safonau clodwiw yn cael eu cynnal, yn diweddaru'r hysbysfyrddau, yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych ac yn ymateb i unrhyw ddigwyddiadau fel sy'n briodol.

Mae Offer Diogelwch yn y Dŵr megis gwregysau achub bywyd, llinellau taflu a ffonau argyfwng yn cael eu lleoli o gwmpas arfordir ac afonydd Sir Benfro. Mae ein hachubwyr bywyd a'n staff sy'n gweithio ar y glannau yn archwilio, cynnal a'u hailosod yn ôl yr angen trwy'r flwyddyn.

Mae Achubwyr Bywyd Traeth RNLI yn eu lle ar y traethau mwyaf prysur.

Mae'r rhain wedi'u hyfforddi'n llawn i safonau cenedlaethol mewn achub bywyd a chymorth cyntaf, ac maen nhw'n gallu ymateb i sefyllfaoedd o argyfwng a chynorthwyo'r gwasanaethau brys. Mae hyfforddiant pellach mwy diweddar  yn digwydd trwy'r haf.

Mae'n nodweddiadol fod yr RNLI yn cyflogi 55 achubwr bywyd bob tymor ac yn darganfod eu bod yn dychwelyd yma blwyddyn ar ôl blwyddyn gan greu tîm hyderus, sgilgar gyda chyfoeth o wybodaeth leol.

Prif ddyletswyddau achubwr bywyd yw:

  • Ymateb cyntaf mewn sefyllfaoedd o argyfwng
  • Rhoi cyngor diogelwch a thraeth yn gyffredinol
  • Helpu i ddod o hyd i blant neu oedolion sydd ar goll
  • Goruchwyliaeth gyffredinol o'r traeth
  • Gwylio mannau nofio
  • Cynghori ynglŷn â deddfau lleol am gŵn

Os ydych chi'n edrych am waith fel achubwr bywyd yn Sir Benfro, gwiriwch wefan yr RNLI

Pa fath bynnag o draeth sydd orau gennych: 

  • Neilltuedig a thywodlyd
  • Hygyrch ac yn le da i'r teulu
  • syrffio, syrffio barcud, canŵio
  • bach ac anghysbell
  • mannau agored llydan 
  • yn dda  i gŵn
  • dim anifeiliaid anwes 

Cliciwch yma i gael mynediad i Ganllaw Hamdden Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau sy'n cynnwys diagram o'r gamlas a lleoliadau'r pontydd.

Sylwch- mae yna bontydd cychod eraill ar hyd yr afon Cleddau ond  perchnogion preifat sy'n eu rheoli ac ni ddylid eu defnyddio heb ganiatâd ymlaen llaw gan y perchnogion.

Rydyn ni'n sicr fod gennym y traeth i chi! 

Dolenni Defnyddiol Eraill: 

Traethau Sir Benfro

MCA Sea Smart Scheme

RNLI Shorething Scheme

RNLI homepage

BBC Coast & Tides

MagicSeaweed.com

BBC Tywydd

Dwr Ymdrochi Yn Sir Benfro

ID: 1631, adolygwyd 22/02/2023