Hamdden yn yr Awyr Agored

E-Feiciau

Mae Cyngor Sir Penfro yn llawn cyffro i gyhoeddi cyflwyno cynllun talu wrth ddefnyddio e-feiciau yn Hwlffordd, yn Abergwaun ac Wdig ac yn Ninbych-y-pysgod am gyfnod prawf o 12 mis gan ddechrau yn 8 Ebrill 2024.

Mae beiciau trydan (e-feiciau) yn gyfuniad o feic confensiynol gyda modur sy'n cymryd rhywfaint o'r ymdrech allan o bedlo ar gyfer y beiciwr. Gall e-feiciau deithio mwy o bellter mewn llai o amser a chyda llai o ymdrech na beiciau confensiynol. 

Diweddariad Mehefin 2024: Nid yw'r e-feiciau ar gael i'w llogi yn Hwlffordd ar hyn o bryd oherwydd gwaith atgyweirio angenrheidiol. Byddwn yn rhoi diweddariad maes o law pan fyddant wedi'u dychwelyd ac yn barod i'w defnyddio. Mae'r e-feiciau yn parhau i fod ar gael i'w llogi yn safleoedd treialu eraill y prosiect, sef Dinbych-y-pysgod, Abergwaun ac Wdig.

Beth yw diben y prosiect? 

Nod Cyngor Sir Penfro yw rhoi dull teithio amgen i bobl leol ac ymwelwyr yn hytrach na gorfod dibynnu ar gerbydau modur. Bydd hyn yn ei dro yn creu Sir Benfro iachach wedi’i datgarboneiddio ac yn ein symud tuag at ein targedau datgarboneiddio cenedlaethol. 

Sut mae'r prosiect hwn yn mynd i gael ei gyflawni?

Rydym wedi nodi tri lleoliad i gynnal y cynllun prawf i ddechrau, sef: Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod ac Abergwaun ac Wdig.

Bydd y cynllun i bob pwrpas yn cael ei reoli gan Zeus mobility gan ddechrau gyda thua 30 o e-feiciau, 10 ar gyfer pob ardal a bydd hyd at 50 yn cyrraedd erbyn dechrau'r yr haf.

Bydd tri phrif orsaf wefru wedi'u gosod, un ym mhob lleoliad, yna bydd nifer o gilfannau lloeren lle gallwch orffen eich taith a pharcio'r e-feic.

Er mwyn defnyddio e-feic, bydd angen i chi osod ap ar eich ffôn Zipp Mobility (yn agor mewn tab newydd). Unwaith y bydd yr ap wedi'i osod, bydd gofyn i chi dalu ffi fach i ddatgloi'r beic. Ar ôl talu, gallwch fynd ar yr e-feic a beicio i ben eich taith.

Pan gyrhaeddwch ben eich taith, tynnwch lun o'r e-feic mewn cilfan dynodedig trwy'r ap a bydd eich taith wedi'i chwblhau.

e-feiciau newydd Sir Benfro: Canllaw defnyddiwr (yn agor mewn tab newydd)

Faint mae'n costio?

Mae prisiau llogi e-feic fel a ganlyn:

£3.00 am yr awr gyntaf a 5c y funud ar ôl hynny.

£7.99 am y diwrnod, bydd hyn yn rhoi hyd at 4 awr i chi a 5c y funud ar ôl hynny.

£29.99 am yr wythnos a fydd yn rhoi 2 awr y dydd i chi a 5c y funud ar ôl hynny dros gyfnod o 7 diwrnod.

Gellir dod o hyd i'r holl wybodaeth ar ap Zipp Mobility. Bydd Zipp Mobility yn atebol am holl gostau yswiriant a chynnal a chadw'r beiciau yn ystod y cyfnod prawf.

Ble mae'r beiciau?

Defnyddiwch y map rhyngweithiol isod i ddod o hyd i'r e-feic agosaf atoch chi.  Yn syml, dewiswch leoliad o'r gwymplen a gweld ble mae'r gilfan e-feiciau wedi'i lleoli. Fel arall, gallwch edrych ar yr ap am yr holl leoliadau.

I ddod o hyd i'n llwybrau beicio yn y sir, ewch i'n tudalen we Beicio Sir Benfro.

Cofiwch fod yr E-feiciau wedi'u cloi o hanner nos ar ddydd Sadwrn tan 5am fore Sul.

Diweddariad Mehefin 2024: Nid yw'r e-feiciau ar gael i'w llogi yn Hwlffordd ar hyn o bryd oherwydd gwaith atgyweirio angenrheidiol. Byddwn yn rhoi diweddariad maes o law pan fyddant wedi'u dychwelyd ac yn barod i'w defnyddio. Mae'r e-feiciau yn parhau i fod ar gael i'w llogi yn safleoedd treialu eraill y prosiect, sef Dinbych-y-pysgod, Abergwaun ac Wdig.

Dolenni defnyddiol:

Cyngor sir Penfro Newyddion

Beicio Sir Benfro

Zipp Mobility (yn agor mewn tab newydd)

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch y tîm ebikes@pembrokeshire.gov.uk

 

Cwestiynau Cyffredin


O ble mae'r arian wedi dod ar gyfer y prosiect hwn?

Mae'r cyllid gwerth £150,000 wedi dod gan Fetro Bae Abertawe a De-orllewin Cymru.

A ellid bod wedi defnyddio'r arian hwn ar gyfer unrhyw beth arall?

Na, roedd yr arian hwn yn benodol ar gyfer y treial e-feiciau hwn.

Ble mae'r prosiect yn cael ei dreialu?

Mae'r prosiect yn cael ei dreialu yn Hwlffordd, Dinbych-y-pysgod, Abergwaun ac Wdig am 12 mis.

Sut ydw i'n cofrestru?

Rydych chi'n cofrestru trwy ap Zipp Mobility sydd ar gael ar ddyfeisiau IOS (Apple) ac Android. Mae mwy o wybodaeth ar wefan Zipp Mobility (yn agor mewn tab newydd). Cofiwch y gallai gymryd hyd at 24 awr i'ch ID gael ei wirio ar yr app Zipp Mobility.

Lle gallwch chi ddod o hyd i fannau gadael a chasglu yr e-feiciau?

Mae'r rhain yn cael eu harddangos yn yr app Zipp Mobility a gallwch hefyd eu gweld ar y map isod.

A oes cyfyngiad oedran i ddefnyddio'r e-feiciau?

Oes, bydd angen i chi fod dros 18 oed i gofrestru a defnyddio'r e-feiciau. Mae'n drosedd gyfreithiol i gofrestru ar ran unrhyw un o dan 18 oed.

Beth yw'r costau i ddefnyddio'r beic?

Y gost yw £3 am yr awr gyntaf ac yna 5c y funud wedi hynny.Mae diwrnod yn costio £7.99 am bedair awr ac yna 5c y funud wedi hynny.Mae wythnos yn costio £29.99 am ddwy awr y dydd ac yna 5c y funud wedi hynny.Mae'r costau hefyd wedi'u rhestru yn ap Zipp Mobility.

Sut mae'r e-feiciau yn cael eu gwefru?

Mae Zipp Mobility yn monitro faint o wefr sydd yn y batris o bell ac yn gwefru’r batris yn ôl yr angen. Mae seilwaith gwefru pwrpasol hefyd yn cael ei ystyried ar gyfer yr ardaloedd prawf.

A fydd helmed yn cael ei ddarparu gyda'r e-feic?

Ni fydd helmed yn cael ei ddarparu gyda’r e-feic, ond byddem bob amser yn annog beicwyr i wisgo helmed. Mae cyngor defnyddio helmed hefyd yn cael ei arddangos ar yr e-feiciau.

A fydd clo gyda'r e-feic?

Ni fydd clo yn cael ei ddarparu ond ni fydd yr e-feic yn symud oni bai bod y beiciwr yn ei ddatgloi trwy'r ap.

Pwy sy'n gyfrifol am yswiriant?

Mae'r holl yswiriant yn cael ei ddarparu gan Zipp Mobilty. Cysylltwch â 01384 437808 am fwy o wybodaeth.

A gewch chi feicio ar balmentydd?

Na chewch. Fel beiciau gwthio traddodiadol, ni ddylid reidio e-feiciau ar balmentydd. Gellir eu defnyddio ar lwybrau defnydd a rennir, llwybrau beicio a ffyrdd. Byddwch yn ddiogel a byddwch yn ofalus yn ymyl cerddwyr, beicwyr a defnyddwyr eraill y ffordd. Mae clychau ar y beiciau i'w defnyddio os oes angen.

A gewch chi fynd ag un ar drên mewn un dref a’i adael mewn man dynodedig mewn tref arall?

Cewch, ar yr amod bod gan y trên fan storio ar gyfer y beic.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn dod o hyd i un o'r e-feiciau ac mae’n ymddangos ei fod wedi’i adael?

Cysylltwch â Zipp Mobility ar 01384 437808.

ID: 11325, adolygwyd 15/08/2024