COVID-19: Bydd unrhyw wybodaeth benodol yn ymwneud â Sir Benfro yn cael ei diweddaru ar www.sir-benfro.gov.uk/coronafeirws

Harbwr

Yr Harbwr yng Nghwm Gwaun

Cyd-drefi Abergwaun ac Wdig yw'r trefi mwyaf gogleddol yn Sir Benfro ac mae ganddynt harbwr yr un. Yr harbwr hynaf yw'r un yng Nghwm Gwaun a Chyngor Sir Penfro sy'n ei berchen a’i redeg.

Mae’r ardal hon yn enwog am ei golygfeydd godidog o'r arfordir garw ac am ei llwybrau arfordirol; mae Rhodfa'r Môr yn ddolen gyswllt rhwng Wdig a Chwm Gwaun ac mae hi'n dilyn yr arfordir sy'n cael ei gysgodi gan y prif forglawdd.  Ac wrth gerdded ar hyd-ddi gellir cael golygfeydd o'r ddau harbwr islaw. 

Trefi marchnad bychan a chartrefol ydynt sy'n gyforiog o hanes, ac fe gawsant eu dal am bridwerth gan yr herwlongwr, y Tywysog Du ym 1779.  Yn y fan hon hefyd y digwyddodd y goresgyniad olaf ar Brydain Fawr, sef Glaniad y Ffrancod ym mis Chwefror 1797

Saif Tref Abergwaun ar gopa bryn lle gellir sefyll i  fwynhau golygfeydd bendigedig o'r môr a'r ddau harbwr a golygfeydd tua gogledd-ddwyrain y sir hyd at ben pellaf Sir Benfro a Phen Cemaes, lle mae'r fynedfa i Aber Afon Teifi, sy'n arwain i dref Aberteifi. 

O ran y ddau harbwr, Harbwr Cwm Gwaun yw'r hynaf o bell ffordd.  Ym 1894 y dechreuwyd adeiladu Harbwr Abergwaun a chafodd y gwaith ei gwpla ym 1906 ar gyfer y fasnach llongau fferi i Iwerddon.  Ac ym 1907 fe gychwynnodd y fasnach drawsiwerydd i Efrog Newydd trwy gyfrwng y llong fawr foethus, RMS Mauretania. 

Mae Clwb Hwylio Bae Abergwaun yn darparu rhaglen hwylio llawn mynd i bobl ifanc, yn ogystal â threfnu digwyddiadau hwylio bob blwyddyn. 

Efallai taw Cadlanciau'r Môr T S Skirmisher sydd ag un o'r unedau arddwr mwyaf darluniadol a phrysur yng Nghymru.  Un o'r hoff weithgareddau eraill yw môr-geufadu o ddyfroedd cysgodol yr harbwr. 

Yn ogystal â cheufadu a rhodl-fyrddio mae teithiau mewn cychod i fynd i wylio dolffiniaid hefyd ar gael.  Mae yma hefyd Gymdeithas Cychod Hir Sir Benfro yn yr ardal leol ac mae'r gweithgaredd i'r teulu, "dala crancod", wastad yn atyniad poblogaidd.  Ambell waith mae'n anodd gwybod yn iawn pwy sy'n dwlu fwyaf ar "ddala crancod", y plant neu eu rhieni! 

Cewch fynediad rhwydd i'r harbwr, ac mae yno ddigonedd o fannau parcio.

Ymholiadau ynghylch angori yn Harbwr Gwaun

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch yr angorfeydd sydd ar gael byddwch cystal â ffonio'r Harbwrfeistr ar 01834-842717 neu 07812-559482 neu anfon e-bost at: lowerfishguard.harbour@pembrokeshire.gov.uk

Cysylltwch â ni


Ffôn: 01834-842717 Symudol: 0781-2559482 (Chris Salisbury)
E-bost: lowerfishguard.harbour@pembrokeshire.gov.uk

 

Angorfeydd ar gyfer ymwelwyr

Mae gan ran allanol harbwr Cwm Gwaun angorfeydd arhosiad byr i ymwelwyr, ar gyfer badau sy'n gallu tirlanio yn ystod y llanwau mawr.

 

Atyniadau i Ymwelwyr

  • Hwylio
  • Ceufadu
  • Rhodl-fyrddio
  • Gwylio dolffiniaid
  • Dala crancod

Mae gwybodaeth am yr uchod i'w chael trwy glicio ar wefan Croeso Sir Benfro neu drwy gysylltu'n uniongyrchol â'r Harbwr.

http://www.visitpembrokeshire.com/explore-pembrokeshire/towns-villages/fishguard-goodwick

Cysylltwch a ni

Harbwr Cwm Gwaun Abergwaun 

Cynorthwyydd Gwasanaethau Harbwr Chris Salisbury ar 01834-842717 neu 07812-559482

Ble'r ydym ni 

Teithio yn y car:  y cod post ar gyfer gyrwyr sy'n defnyddio llywio â lloeren. SA65 9NB

Cyfarwyddiadau i bobl sy'n teithio o ganolbarth Lloegr a gogledd Lloegr

Ewch ar draffordd yr M5 i'r de cyn belled â Chyffordd 8, yn union ar ôl mynd heibio Safle Gwasanaeth Strensham, lle dylech fynd oddi ar yr M5 er mwyn mynd ar yr M50.

Dylech ddilyn traffordd yr M50 hon i'w phen draw cyn belled â Chyffordd 4 ar bwys y Rhosan ar Wy ac yna mynd ar hyd yr A40 i gyfeiriad Trefynwy. 

7 milltir heibio i Drefynwy, rhaid ichi gymryd y troad i Raglan a'r Fenni (D.S. - yr A40 yw'r ffordd hon o hyd).

Ewch yn eich blaen ac yna dilyn yr A465, ac arni'r arwydd am Ferthyr Tudful, Castell Nedd ac Abertawe.

Bydd yr A465 yn ymuno â'r M4 yng Nghyffordd 43, lle gallwch chi ddilyn y cyfarwyddiadau ychwanegol sydd i'w gweld isod.

Cyfarwyddiadau i bobl sy'n teithio o Lundain, Caerdydd ac Abertawe

Ewch ar hyd yr M4 tua'r gorllewin a chyn belled â Chyffordd 49, lle dylech chi ymadael â'r draffordd a dilyn yr A48 i gyfeiriad Caerfyrddin. 

Ar ôl cyrraedd Caerfyrddin, ewch yn eich blaen at yr ail gylchfan lle dylech chi droi i'r chwith er mwyn mynd ar hyd yr A40, ac arni'r arwydd am Sanclêr. 

O Sanclêr, ewch yn eich blaen ar hyd yr A40, Hwlffordd, yr A40 Abergwaun.  Ar ôl ichi gyrraedd y gylchfan yng nghanol Abergwaun dilynwch yr A487 i lawr y rhiw i Gwm Gwaun a'i harbwr.

Mae’r ardal hon yn enwog am ei golygfeydd godidog o'r arfordir garw ac am ei llwybrau arfordirol; mae Rhodfa'r Môr yn ddolen gyswllt rhwng Wdig a Chwm Gwaun ac mae hi'n dilyn yr arfordir sy'n cael ei gysgodi gan y prif forglawdd.  Ac wrth gerdded ar hyd-ddi gellir cael golygfeydd o'r ddau harbwr islaw.

ID: 1690, adolygwyd 27/03/2019

Gwybodaeth Harbwr

Cyngor Sir Penfro sy'n gyfrifol am harbwr Dinbych-y-pysgod a harbwr Cwm Gwaun Abergwaun.  

Yn y bôn harbwr hamddena yw Cwm Gwaun ond mae gan Ddinbych-y-pysgod, yn ogystal â hamdden, amrywiaeth sylweddol o weithgareddau masnachol. Yn Ninbych-y-pysgod fe geir cyfleoedd, o bryd i'w gilydd, i rentu adeiladau masnachol neu storfeydd yn ardal yr harbwr. Mae’r Cyngor yn gosod angorfeydd yn y ddau harbwr ond mae’r galw am angorfeydd yn Ninbych-y-pysgod yn uchel iawn ac felly mae cyfleoedd yn gyfunedig. 

ID: 1425, adolygwyd 21/08/2017

Harbwr Dinbych-y-pysgod

Fe leolir Harbwr Dinbych-y-pysgod mewn safle canolig yn nhref hardd Sioraidd Dinbych-y-pysgod, sy’n cael ei hadwaen yn aml fel “Un o drysorau pennaf Sir Benfro”.

Tref hardd ei llun, a hi bellach yw un o'r cyrchfannau mwyaf poblogaidd i bobl sy'n ymweld â Sir Benfro. Prif atyniad y dref, yn bendant, yw dengarwch y traethau sy'n ei hamgylchynu.

Ymholiadau am angorfeydd

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch yr angorfeydd sydd ar gael byddwch cystal â ffonio'r Harbwrfeistr ar 01834 842717 neu 07812 559482 neu anfon e-bost at: tenby.harbour@pembrokeshire.gov.uk

Angorfeydd ar gyfer ymwelwyr

Angorfeydd yn yr harbwr mewnol: Mae angorfeydd ar gyfer ymwelwyr ar gael trwy gydol tymor yr haf, ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu. Gellir archebu a chadw angorfeydd o 1 Ebrill ymlaen.

Mae amryw angorfeydd ar gael ar gyfer badau nad ydynt yn fwy na 21 troedfedd o hyd. Bydd angorfeydd yn cael eu harchebu a'u cadw fesul cyfnodau o un wythnos, o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn, hyd at bedair wythnos ar y mwyaf fesul tymor. Ni ellir neilltuo a chadw mwy na dwy wythnos yn ystod unrhyw fis penodol. Cyn i unrhyw gwch gael ei lansio, mae'n rhaid cael tystysgrif yswiriant atebolrwydd 3ydd parti am £3 miliwn, a rhaid rhoi copi ohonynt i staff yr harbwr.

Ar hyn o bryd mae cychod hwylio yn defnyddio prif wal y cei sydd hefyd yn gallu derbyn llongau mwy. Mae gyda ni ysgolion â ffendrau, rhyng-gysylltiadau trydan a dŵr ffres ar gael, ynghyd â chawodydd, toiledau, man cegin, lolfa a chyfleusterau ymolchi/golchi a sychu i bobl eu defnyddio.

Yn Harbwr Dinbych-y-pysgod y mae Clwb Hwylio Dinbych-y-pysgod  ac un o adrannau diwyd Cadlanciau'r Môr

Digwyddiadau - Bydd llawer o sefydliadau lleol fel y Ford Gron, y Rotari, y Llewod a'r RNLI yn manteisio ar leoliad Harbwr Dinbych-y-pysgod gan ei fod yn amffitheatr naturiol lle gellir cynnal digwyddiadau blynyddol.

 

Am y storfeydd wrth yr Harbwr sydd ar gael i'w gosod ar hyn o bryd, mae croeso ichi un o'r tim eiddo ar 01437 775874 neu anfon e-bost at: propertyymholiadau@sir-benfro.gov.uk

 

Cysylltwch â ni

Swyddfa Harbwr Dinbych-y-pysgod,Prif Wal y Cei,Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro,SA70 8BY

Ffôn: 01834-842717 Symudol: 0781-2559482 (Chris Salisbury) 

E-bost: tenby.harbour@pembrokeshire.gov.uk

Rhif argyfwng: 08456 015522

Materion gweithredol yr Angorfeydd a'r Harbwr: dylech ffonio 0781-2559483 neu anfon e-bost at tenby.harbour@pembrokeshire.gov.uk

Ymholiadau am Eiddo: Ynghylch Eiddo dylech ffonio 01437-775746 neu anfon e-bost at jonathan.hickin@pembrokeshire.gov.uk

Mewn argyfwng gallwch ddefnyddio'r ddau uchod

Cyfarwyddiadau i bobl sy'n teithio o ganolbarth Lloegr a gogledd Lloegr

  • Ar gyfer Dinbych-y-pysgod Ewch ar draffordd yr M5 i'r de cyn belled â Chyffordd 8, yn union ar ôl mynd heibio Safle Gwasanaeth Strensham, lle dylech fynd oddi ar yr M5 er mwyn mynd ar yr M50.
  • Dylech ddilyn traffordd yr M50 hon i'w phen draw cyn belled â Chyffordd 4 ar bwys y Rhosan ar Wy ac yna mynd ar hyd yr A40 i gyfeiriad Trefynwy.
  • 7 milltir heibio i Drefynwy, rhaid ichi gymryd y troad i Raglan a'r Fenni (D.S. - yr A40 yw'r ffordd hon o hyd).
  • Ewch yn eich blaen ac yna dilyn yr A465, ac arni'r arwydd am Ferthyr Tudful, Castell Nedd ac Abertawe.
  • Bydd yr A465 yn ymuno â'r M4 yng Nghyffordd 43, lle gallwch chi ddilyn y cyfarwyddiadau ychwanegol sydd i'w gweld isod

Cyfarwyddiadau i bobl sy'n teithio o Lundain, Caerdydd ac Abertawe

  • Ar gyfer Dinbych-y-pysgod; Ewch ar hyd yr M4 tua'r gorllewin a chyn belled â Chyffordd 49, ac yna dilyn yr A48 i gyfeiriad Caerfyrddin.
  • Ar ôl cyrraedd Caerfyrddin, ewch yn eich blaen at yr ail gylchfan lle dylech chi droi i'r chwith er mwyn mynd ar hyd yr A40, ac arni'r arwydd am Sanclêr.
  • O Sanclêr, ewch yn eich blaen ar hyd yr A477 am oddeutu 11 milltir ac wedyn ar yr A478 i gyfeiriad Dinbych-y-pysgod. Bydd yr A478 yn mynd â chi trwy Pentlepoir, Wooden, Llan-Fair ac wedyn i lawr y rhiw ac i mewn i Ddinbych-y-pysgod.
  • Unwaith y byddwch chi wedi mynd heibio i'r arwydd "Croeso i Ddinbych-y-pysgod" dylech gymryd y troad 1af i'r chwith ac arno'r arwydd am Draeth y Gogledd. Ewch yn eich blaen ar hyd Heol Arberth am oddeutu 3/4 milltir, ac yna byddwch yn cyrraedd Sgwâr Tudur. Gyrrwch i lawr trwy'r sgwâr ac ymhen 400 llath byddwch chi'n cyrraedd yr harbwr. Sylwer bod y rhan fwyaf o ganol y dref yn barth rhydd o gerbydau yn ystod yr haf a gellir gweld yr amserau ar y tudalen Dinbych-y-pysgod i Gerddwyr
  • Does dim mannau parcio cyhoeddus yn yr Harbwr ac felly'r peth gorau ichi ei wneud yw defnyddio'r maes parcio aml-lawr.
  • Mewn Cwch: Lledred 51°40'.42 i'r Gogledd, Hydred 004°42'.93 i'r Gorllewin, Siartiau'r Morlys 1482, 1076, 1179, ac 158 yr Arolwg Ordnans  
ID: 1426, adolygwyd 27/03/2019