Dweud eich dweud

Cynnig i Ffedereiddio

Cynnig i ffedereiddio Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru St Florence ac Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Penrhyn

Rhagair

Mae Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru St Florence ac Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn wedi bod yn cydweithredu fel ffederasiwn ‘anffurfiol’ ers mis Medi 2022, gyda phennaeth Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru St Florence yn gweithredu fel pennaeth gweithredol. Cyn y cyfnod hwn, roedd pennaeth Ysgol Wirfoddol Reoledig Penrhyn wedi bod yn y swydd ers i’r ysgol agor ym mis Medi 2017, cyn gadael yr awdurdod ym mis Awst 2022. 

Mae cydweithredu rhwng ysgolion yn rhan ganolog o bolisi Llywodraeth Cymru, a rôl yr awdurdod lleol yw cefnogi ysgolion o’r fath.  Fel y nodwyd uchod, yn sgil methu â recriwtio pennaeth ar gyfer Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn, mae’r corff llywodraethu, gyda chefnogaeth Cyfarwyddwr Addysg yr Esgobaeth (Yr Eglwys yng Nghymru), wedi dod i’r casgliad bod sefydlu ffederasiwn yn gam ymlaen sy’n rhesymegol ac yn synhwyrol.

Cynhaliwyd cyfarfodydd cyrff llywodraethu Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru St Florence ac Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn ar 20 Chwefror 2025 a bu trafodaethau ynghylch trefniadau arweinyddiaeth yr ysgolion yn y dyfodol. Penderfynodd y ddau gorff llywodraethu gefnogi ffederasiwn mewn egwyddor, ac y dylai’r ysgolion arwain y broses a’r awdurdod lleol ei chefnogi.  Wedi hynny, ystyriodd y cabinet fanteision sefydlu ffederasiwn yn ei gyfarfod ar 28 Ebrill 2025, gan gymeradwyo bod y Cyfarwyddwr Addysg yn dechrau ymgynghori’n statudol ar ran yr ysgolion.

Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn nodi’r achos dros newid y trefniadau arwain a llywodraethu yn Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru St Florence ac Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn, gyda’r bwriad o sefydlu ffederasiwn rhwng y ddwy ysgol.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich barn ar y cynnig hwn.

Steven Richards-Downes

Cyfarwyddwr Addysg

 

Y cynnig

Cynhaliwyd cyfarfodydd cyrff llywodraethu Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru St Florence ac Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn ar 20 Chwefror 2025 a bu trafodaethau ynghylch trefniadau arweinyddiaeth yr ysgolion yn y dyfodol. Penderfynodd y ddau gorff llywodraethu gefnogi ffederasiwn mewn egwyddor, ac y dylai’r ysgolion arwain y broses a’r awdurdod lleol ei chefnogi.

Yn ei gyfarfod ar 28 Ebrill 2025, ystyriodd cabinet y cyngor adroddiad a oedd yn amlinellu bod y ddwy ysgol eisoes mewn ffederasiwn ‘anffurfiol’ llwyddiannus, ac yn nodi anhawster Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn wrth recriwtio pennaeth. Ystyriodd yr aelodau fanteision sefydlu ffederasiwn ffurfiol, a phenderfyniad y cabinet oedd:

Nodi penderfyniadau Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru St Florence ac Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn i fwrw ymlaen i ymgynghori ar greu ffederasiwn o’r ddwy ysgol, a bod y Cyfarwyddwr Addysg yn cael ei awdurdodi i ddechrau ymgynghori ar ran y ddwy ysgol.

Mae’r cyngor yn cynnig defnyddio pwerau Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 sy’n rhoi caniatâd i sefydlu’r ffederasiwn uchod. Fodd bynnag, cyn ei weithredu, mae’n ddyletswydd ar y cyngor i ymgynghori ar y cynnig.

Mae’r term ‘ffederasiwn’ yn disgrifio cytundeb ffurfiol a chyfreithiol lle mae’r ysgolion dan sylw yn cydweithio mewn partneriaeth ffurfiol o dan un corff llywodraethu. Bydd y cyrff llywodraethu presennol yn cael eu diddymu a’u disodli gan un corff llywodraethu newydd fydd yn goruchwylio’r ddwy ysgol yn strategol.

Enw arfaethedig y ffederasiwn yw Ffederasiwn Ysgolion Gwirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru St Florence a Phenrhyn, ond gellir addasu hyn yn dilyn ymgynghori.

Os derbynnir y cynnig, bydd y ffederasiwn yn dod i fodolaeth ar 1 Ionawr 2026.

 

Trefniadau ymgynghori

Mae’r ddogfen hon yn cynrychioli cyfrifoldebau’r cyngor o dan Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 i ymgynghori â rhanddeiliaid priodol ac i egluro’r rhesymau dros ffedereiddio, a rhoi manylion materion llywodraethu penodol. Prif bwrpas y ddogfen hon yw rhoi gwybodaeth a chasglu barn rhanddeiliaid a nodwyd.

Mae dyletswydd statudol i geisio barn y rhanddeiliaid canlynol, y bydd y cynnig yn cael ei ddosbarthu iddynt:

  • ·    Cyngor Sir Penfro – aelodau etholedig lleol yn yr ardaloedd y mae’r ysgolion yn eu gwasanaethu;
  • Penaethiaid y ddwy ysgol (os yn berthnasol);
  • Cynghorau ysgol y ddwy ysgol (mewn fformat sy’n briodol i’w hoedran);
  • Yr holl staff sy’n cael eu talu i weithio yn y ddwy ysgol;
  • Pob rhiant neu ofalwr hysbys i ddysgwr cofrestredig yn y ddwy ysgol;
  • Pob undeb llafur y gwyddys bod ganddo aelodau sy’n cael eu talu i weithio yn y ddwy ysgol;
  • Yr esgobaeth addysg (Yr Eglwys yng Nghymru);
  • Pob llywodraethwr sefydledig;
  • Unrhyw bersonau perthnasol eraill y mae’r cyrff llywodraethu yn eu hystyried ddylai weld y cynigion.

Bydd y cyngor hefyd yn dosbarthu’r ddogfen i’r canlynol:

Yr aelod seneddol sy’n cynrychioli’r ardal yn San Steffan:  

Henry Tufnell AS – Canol a De Sir Benfro

Yr aelodau sy’n cynrychioli’r ardal yn Senedd Cymru:

Samuel Kurtz AS – Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Paul Davies AS – Preseli Sir Benfro

Aelodau rhanbarthol y Senedd – Canolbarth a Gorllewin Cymru

Jane Dodds AS, Cefin Campbell AS, Joyce Watson AS, Eluned Morgan AS

Cynghorau tref / cymuned – ardal Dinbych-y-pysgod:

St Florence

Cynghorau tref / cymuned –

ardal Penfro:

Hundleton

 

Bydd copi o’r cynnig hefyd ar gael i’w weld ar bob adeg resymol ym mhob ysgol yn y ffederasiwn arfaethedig.

Bydd cyfle i ddisgyblion y ddwy ysgol gymryd rhan yn y broses ymgynghori. Bydd hyn yn digwydd gyda’r cynghorau ysgol perthnasol. Bydd yr wybodaeth a ddarperir i blant a phobl ifanc yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy’n berthnasol i’w hoedran a’u lefel debygol o ddealltwriaeth.

Bydd yr wybodaeth a gesglir o’r ymgynghoriad â disgyblion yn rhan o’r adroddiad ymgynghori a fydd yn cael ei ystyried gan y cabinet cyn ei benderfyniad.

 

Y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynnig hwn fydd 9 Mehefin 2025 tan 18 Gorffennaf 2025.

 

Yn ystod y cyfnod hwn, gallwch fynegi eich barn drwy ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Addysg gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau canlynol:

 

Ar-lein: Gallwch roi eich barn drwy lenwi’r ffurflen ymateb ar-lein (yn agor mewn tab newydd). 

 

Llythyr at:

Mr Steven Richards-Downes

Cyfarwyddwr Addysg

Neuadd y Sir, Hwlffordd SA61 1TP

 

E-bost: FederationConsultations@pembrokeshire.gov.uk

 

Ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori, bydd yr adborth o’r ymgynghoriad yn cael ei gasglu a’i grynhoi, a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o gabinet Cyngor Sir Penfro.  Bydd yr adroddiad ymgynghori hwn ar gael i bawb ei weld ar wefan y cyngor a bydd copïau caled ar gael ar gais o’r cyfeiriad isod.

 

Eich cwestiynau

Mae cynnwys y ddogfen ymgynghori hon yn debygol o gynnig atebion i’r cwestiynau mwyaf cyffredin a fydd yn codi ynghylch y cynnig. Yn ogystal, mae Atodiad A (sgroliwch i lawr i Atodiad A: Cwestiynau Cyffredin) yn rhoi atebion gan Lywodraeth Cymru i gwestiynau cyffredin. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â David Thompson ar y cyfeiriad e-bost canlynol: FederationConsultations@pembrokeshire.gov.uk

Neu gallwch ysgrifennu at:

David Thompson

Rheolwr Mynediad i Addysg a Chydymffurfedd

Cyfarwyddiaeth Addysg

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP

 

Prif bwyntiau ynglŷn â’r ffederasiwn

Amcan polisi Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo cydweithredu rhwng pob rhan o’r system addysg er mwyn gwella deilliannau. Mae ffedereiddio ysgolion yn ffordd fwy ffurfiol o ymestyn cydweithrediad a hybu cydberthnasau gwaith agosach. Hon yw’r brif ffordd o gyflawni gweithio mewn partneriaeth yn ffurfiol ymhlith ysgolion i wella perfformiad.

Fel rhan o’i gyfrifoldeb statudol dros gynllunio darpariaeth ysgolion, mae Cyngor Sir Penfro, wrth gynllunio’n strategol ar gyfer darpariaeth ysgolion effeithiol ac effeithlon yn ystyried ffedereiddio fel un opsiwn.

Nid yw ffederasiwn yn gyfystyr ag uno, cymryd drosodd nac yn llwybr tuag at gau. Yn hytrach, mae’n bartneriaeth rhwng y ddwy ysgol sy’n rhannu gweledigaeth am fenter a fyddai’n gofalu am fuddiannau disgyblion, staff a chymunedau’r ddwy ysgol. Byddai’r ysgolion yn parhau fel sefydliadau ar wahân. Byddent yn cael eu hariannu a’u harolygu ar wahân, yn cynhyrchu cyfrifon ar wahân ac yn adrodd ar ganlyniadau eu hasesiadau ar wahân. Fodd bynnag, mae gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn y dewis o rannu cyfran o gyllideb y ddwy ysgol i wella cydweithio neu rannu staff pe bai’r cyfle’n codi.

Mae Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru St Florence ac Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn wedi bod yn cydweithredu fel ffederasiwn ‘anffurfiol’ ers mis Medi 2022, gyda phennaeth Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru St Florence yn gweithredu fel pennaeth gweithredol. Cyn y cyfnod hwn, roedd pennaeth Ysgol Wirfoddol Reoledig Penrhyn wedi bod yn y swydd ers i’r ysgol agor ym mis Medi 2017, cyn gadael yr awdurdod ym mis Awst 2022. 

Mae’r cydweithrediad wedi’i gyflawni gyda chefnogaeth lawn cyrff llywodraethu’r ddwy ysgol. Dylid nodi bod y trefniadau hyd yma wedi bod yn anffurfiol ac nad ydynt yn gyfystyr â chytundeb sy’n rhwymo’r ddwy ysgol mewn cyfraith.  Fel y mae ar hyn o bryd, gallai unrhyw barti dynnu’n ôl o’i gydweithrediad, gan arwain o ganlyniad at sefyllfa fregus.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, ac i alluogi defnydd mwy effeithlon o gyllidebau ysgolion, mae cyrff llywodraethu St Florence a Phenrhyn wedi mynegi awydd i ystyried sefydlu ffederasiwn o’r ddwy ysgol o dan un corff llywodraethu.

Bydd corff llywodraethu’r ffederasiwn yn gallu defnyddio cyllidebau dirprwyedig y ddwy ysgol fel bod cyllid yn cael ei ddefnyddio’n greadigol i wella adnoddau a threfniadau staffio’r ysgolion.  Mae hyn yn cynnwys pennu’r trefniadau parhaus i gyflogi pennaeth gweithredol.

Mae’r pennaeth gweithredol mewn sefyllfa i barhau i wella’r ddarpariaeth yn ysgolion St Florence a Phenrhyn drwy bennu cyfeiriad clir, sefydlu ethos cyffredin a datblygu arbenigedd y staff. Mae’r gwaith hwn eisoes wedi dechrau.

Mae ffedereiddio’n cynnig cyfleoedd i’r ddwy ysgol wneud y canlynol:

  • Dysgu oddi wrth ei gilydd
  • Gwella perfformiad drwy rannu arferion da, arbenigedd, deunyddiau paratoi ac adnoddau
  • Symleiddio polisïau a strwythurau
  • Cynnig cyfleoedd gwell i ddisgyblion gael profiadau ehangach
  • Cynnig cyfleoedd ehangach i staff gael datblygu’n broffesiynol
  • Cadw eu hunaniaeth a’u hethos a pharhau i fod yn agored yn eu cymunedau
  • Cynnig mwy o gyfleoedd i staff i arwain, sy’n helpu’r awdurdod lleol i ddatblygu arweinwyr y dyfodol yn ei ysgolion.

 

Gwybodaeth gefndirol am gydweithrediad rhwng yr ysgolion

Ysgol cyfrwng Saesneg gymysg i blant 3-11 oed yw St Florence. Mae’n ysgol wirfoddol Reoledig gan yr Eglwys yng Nghymru gyda lle i 95 o ddisgyblion. Ysgol cyfrwng Saesneg gymysg i blant 3-11 oed yw Penrhyn. Mae’n ysgol wirfoddol Reoledig gan yr Eglwys yng Nghymru gyda lle i 120 o ddisgyblion.  Mae gan Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru St Florence bennaeth (Mrs Julie Davies) sy’n gweithredu fel pennaeth gweithredol ar gyfer y ddwy ysgol.

Mae St Florence a Phenrhyn wedi bod yn cydweithredu dan arweinyddiaeth weithredol Mrs Davies ers mis Medi 2022. Mae Mrs Davies yn rhannu ei hamser yn gyfartal rhwng y ddwy ysgol. Mae hi’n arwain ac yn gweithredu ar ran y ddwy ysgol bob amser, e.e. wrth fynychu cyrsiau, cynadleddau a chyfarfodydd penaethiaid ysgolion a’r esgobaeth.

Ers mis Medi 2022 mae staff o ysgolion St Florence a Phenrhyn wedi bod yn cydweithio pryd bynnag y bo modd ac wedi nodi arferion cydweithredol. Er enghraifft, mae staff yn cydweithio’n effeithiol i greu cwricwlwm deniadol sydd wedi arwain at amrediad eang o gyfleoedd dysgu i ddisgyblion. Maent yn cynllunio ar y cyd ac yn agos gyda chydweithwyr yn y ddwy ysgol, ac mae disgyblion wedi ymweld ag ysgolion ei gilydd i rannu a gweld arferion da. Bu troeon dysgu a chyfarfodydd ar y cyd i gwblhau craffu ar waith – mae hyn yn galluogi sicrhau ansawdd, cymedroli a rhannu arferion da.

Mae’r tîm arwain ar y cyd yn cydweithio’n agos, ac mae hyn wedi arwain at raglen o fonitro, gwerthuso ac adolygu wedi’i chynllunio. Lle mae blaenoriaethau’n cyd-fynd â chynllun datblygu’r ysgol, mae’r pennaeth wedi gallu gweithio gydag arweinwyr y meysydd dysgu a phrofiad yn y ddwy ysgol i greu cynlluniau pwrpasol ar gyfer pob ysgol sy’n tynnu ar gronfa ehangach o arbenigedd.

Mae’r ysgolion yn rhannu adnoddau fel ymweliadau â chwmnïau theatr, a theithiau preswyl i Fae Morfa a theithiau undydd fel y rhai i Ynys Sgomer. Mae hyn yn caniatáu i’r ddwy ysgol rannu staff ac adnoddau. Mae ysgol St Florence yn defnyddio cyfleusterau ysgol a bws mini Penrhyn tra bod cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol ysgol Penrhyn a swyddog gweinyddol o ysgol St Florence yn rhannu eu harbenigedd drwy’r ddwy ysgol.

Arolygwyd Ysgol Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru St Florence ddiwethaf gan Estyn ym mis Mawrth 2019, ac arweiniodd hyn at bedwar argymhelliad, fel a ganlyn:

  1. Gwella sgiliau mathemateg a rhifedd y disgyblion
  2. Gwella sgiliau siarad Cymraeg y disgyblion
  3. Sicrhau bod prosesau gwella yn canolbwyntio ar werthuso a gwella safonau’r disgyblion
  4. Sicrhau bod y ddarpariaeth addysgu yn y cyfnod sylfaen yn herio pob disgybl yn effeithiol ac yn datblygu eu hannibyniaeth

Dyma’r trosolwg o adroddiad yr arolygiad:

Mae Ysgol Gynradd Wirfoddol Reoledig St Florence ym mhentref St Florence yn awdurdod lleol Sir Benfro.  Mae 68 o ddisgyblion ar y gofrestr rhwng tair ac 11 oed, gan gynnwys pump sy’n mynd i’r feithrinfa’n rhan-amser.  Mae’r ysgol yn trefnu ei disgyblion yn dri dosbarth oedran cymysg.   Dros y tair blynedd diwethaf ar gyfartaledd, mae tua 17% o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n debyg i’r cyfartaledd cenedlaethol o 18%.  Mae’r ysgol yn nodi bod gan tua 24% o ddisgyblion anghenion dysgu ychwanegol.  Mae hyn ychydig yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol, sef 21%.  Daw ychydig iawn o ddisgyblion o gefndir lleiafrifol ethnig ac mae Saesneg yn iaith ychwanegol gan ychydig iawn.  Nid oes unrhyw ddisgybl yn siarad Cymraeg gartref.   Dechreuodd y pennaeth ar ei swydd ym mis Medi 2015.  Cynhaliwyd arolygiad blaenorol yr ysgol ym mis Mawrth 2014.

Dylid nodi bod Estyn wedi cynnal adolygiad ym mis Chwefror 2021 ac wedi barnu bod St Florence wedi gwneud cynnydd digonol o ran mynd i’r afael â’r argymhellion, ac wedi hynny cafodd ei thynnu oddi ar y rhestr o ysgolion sydd angen adolygiad gan Estyn. 

 Arolygwyd Ysgol Gynradd Wirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru Penrhyn ddiwethaf gan Estyn ym mis Medi 2022, ac arweiniodd hyn at bum argymhelliad, fel a ganlyn:

  1. Ymgorffori’r strategaethau arwain newydd i sicrhau bod prosesau monitro a gwerthuso’n gwella addysgu a chynllunio profiadau dysgu
  2. Gwella effeithiolrwydd addysgu, cynllunio ac asesu i herio pob disgybl yn gyson
  3. Gwella sgiliau ysgrifennu estynedig disgyblion
  4. Sicrhau bod disgyblion yn cymhwyso eu sgiliau rhifedd a digidol yn effeithiol ar draws y cwricwlwm
  5. Cryfhau’r ddarpariaeth i ddisgyblion siarad Cymraeg, a dysgu am ddiwylliant a threftadaeth Cymru

Dyma’r trosolwg o adroddiad yr arolygiad:

Mewn cyfnod byr iawn, mae’r pennaeth gweithredol wedi gweithio’n ddiwyd gyda chorff llywodraethu’r ysgol a’r awdurdod lleol i ddatblygu diwylliant cadarnhaol o waith tîm ymhlith y staff a’r gymuned leol. Mae hyn wedi dechrau mynd i’r afael â gwendidau pwysig yn arferion arweinyddiaeth a darpariaeth yr ysgol. 

Dros amser, nid yw arweinwyr wedi monitro na gwerthuso gwaith yr ysgol a’i heffaith ar ddysgu’r disgyblion yn ddigon gofalus. Mae hyn wedi arwain at ddiffyg profiadau dysgu digon heriol i gefnogi disgyblion i wneud cynnydd a dangos eu galluoedd gwirioneddol. Dros amser, nid yw arweinwyr wedi mynd i’r afael yn ddigon da ag agweddau hanfodol ar ddarpariaeth yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys gwella arferion addysgu ac asesu drwy ddatblygiad proffesiynol pwrpasol a gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru o fewn yr amserlenni gofynnol. 

Mae disgyblion yn rhyngweithio’n dda ag oedolion a’i gilydd ac maent yn foesgar ac yn gwrtais. Maen nhw’n mwynhau dod i’r ysgol ac yn awyddus i ddysgu. Mae hyn oherwydd y cydberthnasau gwaith cadarnhaol sydd ganddynt gyda’u hathrawon a’r staff cymorth. Mae awyrgylch croesawgar a chynhwysol yn yr ysgol ac mae disgyblion a staff yn frwdfrydig am y coridorau sydd wedi’u haddurno’n ddiweddar a’r llyfrgell a’r mannau coginio sydd wedi’u hadnewyddu a’u haildrefnu.

Mae amgylchedd yr ysgol yn hybu cyfleoedd dysgu buddiol dan do ac yn yr ardaloedd helaeth yn yr awyr agored ill dau. O fewn y meysydd dysgu deniadol hyn, mae’r holl staff yn hybu ethos cadarnhaol o ofal ac arweiniad i ddisgyblion. Mae hyn yn annog disgyblion i fod yn gyfrifol am eu llesiant a’u hymddygiad yn effeithiol ac mae’n cyfrannu at eu hagwedd gadarnhaol at fywyd ysgol. Mae’r diwylliant cefnogol hwn yn helpu disgyblion i fagu hyder ynddynt eu hunain fel unigolion, wrth iddyn nhw hefyd ddatblygu ymdeimlad cryf o barch at deimladau pobl eraill.

Mae sgiliau Saesneg y disgyblion wrth siarad, gwrando, darllen, creu a gwneud ymarfer corff yn gwneud cynnydd da wrth iddyn nhw symud drwy’r ysgol, ac maent yn defnyddio’r sgiliau hyn yn effeithiol ar draws llawer o feysydd y cwricwlwm. Fodd bynnag, nid yw sgiliau ysgrifennu, rhifedd, digidol a llafaredd Cymraeg y disgyblion yn datblygu’n ddigon da, o ystyried y mannau cychwyn cadarnhaol yn yr ysgol.

Ers ymgymryd â’i rôl, mae’r pennaeth gweithredol wedi rhannu cyfrifoldebau’n effeithiol ymhlith staff ac wedi cynnig cyfleoedd perthnasol ar gyfer dysgu proffesiynol. Mae hyn wedi dechrau datblygu a chyfrannu at ethos ysgol gyfan ffyniannus, lle mae staff a disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi am eu cyfraniadau at fywyd yr ysgol.

Dylid nodi bod Estyn wedi cynnal ymweliad monitro ym mis Mawrth 2024 ac wedi barnu bod Penrhyn wedi gwneud cynnydd digonol ar yr argymhellion yn dilyn yr arolygiad craidd diweddar, ac wedi hynny cafodd ei thynnu oddi ar y rhestr o ysgolion sydd angen gwelliant sylweddol. 

Barn yr awdurdod lleol yw y bydd symud ymlaen i ffederasiwn yn gwella’r gallu i wella arweinyddiaeth wasgaredig ac addysgu a dysgu yn y ddwy ysgol.

Drwy ymuno â ffederasiwn, gall y ddwy ysgol gydweithio o dan arweinyddiaeth a rennir i ddefnyddio eu cryfderau i wella safonau ar draws y ffederasiwn a mynd i’r afael â meysydd sydd angen eu gwella gyda’i gilydd.

Drwy ffedereiddio o dan un corff llywodraethu, gellir cryfhau ymhellach yr hinsawdd o ymddiriedaeth, didwylledd a pharodrwydd i gydweithio sydd eisoes yn bodoli, a bydd cyfuno cyllidebau yn gwella adnoddau ac yn rhoi mwy o amser i’r pennaeth gweithredol a’r tîm arwain reoli ac arwain y ddwy ysgol yn briodol, er mwyn sicrhau gwelliant pellach. Bydd corff llywodraethu’r ffederasiwn yn sicrhau bod tegwch wrth ddyrannu’r gyllideb i’r ddwy ysgol.

 

Beth mae’n ei olygu i’r ysgolion?

Mae manteision cydweithrediad rhwng ysgolion gwirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru St Florence a Phenrhyn eisoes yn amlwg. Bydd y trefniant hwn yn cael ei ffurfioli a’i wella ymhellach drwy sefydlu ffederasiwn rhwng cyrff llywodraethu’r ddwy ysgol. Wrth symud ymlaen, byddai’r ysgolion yn gallu blaenoriaethu’r un pethau pan fo’n briodol, gan arwain at weithio mwy effeithlon ac effeithiol. Byddai hyn yn cefnogi gwelliant parhaus yr ysgolion. Byddai cael mwy o gapasiti o ran y staff yn cryfhau cyfleoedd ar gyfer eu datblygiad proffesiynol parhaus. Byddai’n cefnogi datblygu cwricwla pwrpasol, ond cysylltiedig, i bob ysgol. O ganlyniad bydd yr ysgolion yn cydweithio’n agosach i ddarparu addysg gryfach i bob disgybl, ac ar yr un pryd yn cynnal eu hunaniaethau unigol.

Bydd y cyrff llywodraethu presennol yn peidio â bod a bydd corff llywodraethu newydd, gyda chynrychiolwyr o’r ddwy ysgol a’u cymunedau, yn arwain gwaith y ffederasiwn. Bydd hyn yn golygu bod modd rhannu rhai rhannau o gyllidebau’r ddwy ysgol gan arwain at arbedion effeithlonrwydd. Gall y corff llywodraethu unigol rannu adnoddau ac arbenigedd rhwng yr ysgolion a gweithio i godi safonau, a gwella addysgu, dysgu a chanlyniadau i ddisgyblion yn y ddwy ysgol. Fodd bynnag, materion i gorff llywodraethu’r ffederasiwn eu penderfynu yw’r rhain.

Bydd y ddwy ysgol yn parhau i gael eu hariannu ar wahân ar sail nifer y disgyblion ym mhob un, ac yn unol â fformiwla ariannu’r awdurdod lleol. Yn 2024-2025, y cyllid fesul disgybl (heb gynnwys AAA) yn ysgol St Florence oedd £4,529; yn ysgol Penrhyn y cyllid oedd £5,070 fesul disgybl. Rhaid nodi fod y ffigyrau yma’n cynnwys ariannu fesul plentyn, ac ariannu ar gyfer elfennau eraill o fewn fformiwla cyllido’r Awdurdod Leol a bod hyn yn esbonio’r gwahaniaeth yng nghyllido’r ddwy ysgol.

Bydd cyllid ar gyfer y pennaeth yn cael ei ariannu gan bob ysgol ar sail ystod fformiwla y cytunwyd arni gan yr awdurdod lleol yn ôl maint yr ysgol. Bydd Ystod Unigol Ysgol ar gyfer arweinwyr y ffederasiwn yn cael ei bennu gan nifer y disgyblion yn y ddwy ysgol.

Er mai mater i gorff llywodraethu’r ffederasiwn fydd penderfynu ar strwythur staffio ysgolion y ffederasiwn, bydd cyngor ar gael gan ymgynghorydd gwella’r ysgolion er mwyn archwilio amrywiaeth o opsiynau gyda’r bwriad o sicrhau bod y strwythur a ddewisir yn gynaliadwy ac yn annog arweinyddiaeth wasgaredig.

Gan eu bod yn ysgolion gwirfoddol Reoledig, Cyngor Sir Penfro yw cyflogwr cyffredinol y staff addysgu a’r staff nad ydynt yn addysgu ar hyn o bryd. O dan y cynnig, ni fyddai unrhyw newid i delerau ac amodau cyflogaeth presennol y staff.

Ni ellir gorfodi staff presennol i weithio yn y ddwy ysgol ond gellir gwneud hyn drwy drafod. Gellir penodi aelodau o staff yn y dyfodol i weithio yn y ddwy ysgol gan gynnig arbenigedd na allai un ysgol ar ei phen ei hun ei fforddio. Ni ddisgwylir y bydd hyn yn arwain at ddisgyblion yn cael nifer o athrawon. Yn hytrach, mae’n rhoi’r hyblygrwydd i athrawon o’r ddwy ysgol elwa ar gydweithio a rhannu arbenigedd, gan leihau dyblygu ymdrech a chael mwy o gyfleoedd i ddatblygu gyrfaoedd drwy weithio mewn ffederasiwn o ysgolion. Bydd cronfa fwy o adnoddau ac arbenigedd y gellir eu defnyddio’n fwy hyblyg ar draws yr ysgolion.

Gall disgyblion elwa ar amrediad ehangach o gyfleoedd ac adnoddau addysgol a chanlyniadau gwell o ganlyniad i’r nifer fwy o staff yn cydweithio i sicrhau gwelliannau mewn addysgu a dysgu. Gall disgyblion hefyd elwa ar brofiadau cymdeithasol ehangach a mwy o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol.

Efallai y bydd arbedion hefyd trwy swmpbrynu. Yn ogystal, bydd un cynllun datblygu ysgol ar gyfer y ddwy ysgol a dim ond i un corff llywodraethu y bydd yn rhaid i’r pennaeth adrodd. Bydd dewis hefyd i’r ddwy ysgol rannu polisïau cyffredin, fel y’u cymeradwywyd gan y corff llywodraethu ffederal.

Bydd rhaid cynhyrchu cyfrifon ar wahân ar gyfer pob ysgol fel y bydd modd monitro i sicrhau bod pob ysgol yn cael ei thrin yn deg o ran ei chyfran o’r gyllideb. Bydd yn rhaid i bob ysgol adrodd ei chanlyniadau ar wahân. Bydd pob ysgol yn cael ei harolygu ar wahân, er bod Estyn, yn gynyddol, yn arolygu pob ysgol mewn ffederasiwn ar yr un pryd.

I grynhoi, bydd y ddwy ysgol yn parhau fel endidau ar wahân, wedi’u rheoli gan un corff llywodraethu ffederal, gyda mwy o gyfleoedd i gydweithio rhwng y ddwy ysgol.

 

Cyfansoddiad arfaethedig y corff llywodraethu

Mae rheoliadau’n pennu’r nifer gofynnol o lywodraethwyr o wahanol gategorïau a ganiateir ar gorff llywodraethu ffederal.  O ran ffederasiwn arfaethedig ysgolion gwirfoddol Reoledig yr Eglwys yng Nghymru St Florence a Phenrhyn, crynhoir y dewisiadau yn y tabl isod ac maent yn cydymffurfio â’r gofynion statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ffederal ysgolion gwirfoddol Reoledig. Mae argymhelliad yr awdurdod lleol ar gyfer cyfansoddiad y corff llywodraethu fel a ganlyn:

 

Categori llywodraethwr Nifer a ganiateir gan reoliadau Nodiadau Argymhelliad y cyrff llywodraethu - St Florence Argymhelliad y cryff llywodraethu - Penrhyn
Rhiant (etholedig) 1–2 fesul pob ysgol yn y ffederasiwn O leiaf un, ond dim mwy na dau riant-lywodraethwr wedi’u hethol neu eu penodi i bob ysgol ffederal. 1 1
Athro (etholedig) 1–2 O leiaf un, ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr. 1 1
Staff (etholedig) 1–2 O leiaf un, ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr. 1 1
Awdurdod lleol 2-4 O leiaf ddau, ond dim mwy na phedwar llywodraethwr awdurdod lleol. 2 2
Cymuned 2-4 O leiaf ddau, ond dim mwy na phedwar llywodraethwr cymunedol. 1 1
Sefydledig 2-5 O leiaf ddau, ond dim mwy na phump o lywodraethwyr sefydledig. 1 1
Cymunedol ychwanegol  Nid yw'n berthnasol Yn achos unrhyw ysgol gynradd neu ysgol feithrin mewn ffederasiwn sydd wedi’i lleoli mewn ardal cyngor cymuned, rhaid i’r corff llywodraethu gynnwys llywodraethwr cymunedol ychwanegol yn ogystal â’r rhai a restrir uchod. 1 rhwng 2 ysgolion 1 rhwng 2 ysgolion
Pennaeth  Nid yw'n berthnasol (a) pennaeth neu bennaeth dros dro’r ffederasiwn os penodir un, neu bennaeth neu bennaeth dros dro pob ysgol yn y ffederasiwn oni bai bod y bobl hynny’n ymddiswyddo fel llywodraethwr. 1 rhwng 2 ysgolion 1 rhwng 2 ysgolion

 

Cyfan = 16

 

Trefniadau derbyn

Bydd y trefniadau derbyn ar gyfer pob ysgol yn parhau yn ddigyfnewid. Yr awdurdod lleol yw’r awdurdod derbyn ar gyfer pob ysgol. Bydd rhieni’n gwneud cais am le i’w plentyn yn yr ysgol ddewisol, nid yn y ffederasiwn, gan fod pob ysgol yn y ffederasiwn yn ysgol ar wahân. Os na roddir lle i’r plentyn yn yr ysgol ddewisol, bydd yn rhaid gwneud cais ar wahân iddo fynychu ysgol wahanol. Mae hyn yn wir hyd yn oed os mai’r ail ysgol y gwneir cais amdani yw’r ysgol arall yn y ffederasiwn. Rhaid gwneud ceisiadau ar gyfer y naill ysgol neu’r llall gan ddefnyddio’r system ar-lein ar wefan Cyngor Sir Penfro.

 

Trefniadau staffio presennol ac arfaethedig

Mae’r trefniadau staffio cytundebol cyfredol yn y ddwy ysgol fel a ganlyn:

St Florence 

Pennaeth 

Cyfwerth ag amser llawn (0.5)

Athrawon 

Cyfwerth ag amser llawn (2.5)

 

Penrhyn 

Pennaeth 

Cyfwerth ag amser llawn (0.5)

Athrawon

Cyfwerth ag amser llawn (2.9)

 

Bydd y trefniadau staffio arfaethedig yn dilyn gweithredu’r ffederasiwn fel a ganlyn:

St Florence 

Pennaeth 

Cyfwerth ag amser llawn (0.5)

Athrawon 

Cyfwerth ag amser llawn (2.5)

 

Penrhyn 

Pennaeth 

Cyfwerth ag amser llawn (0.5)

Athrawon

Cyfwerth ag amser llawn (2.9)

 

Ar-lein: Gallwch roi eich barn drwy lenwi’r ffurflen ymateb ar-lein (yn agor mewn tab newydd).  

ID: 13428, revised 10/06/2025