Dweud eich dweud

Dewch i Siarad Byw yn Sir Benfro

Mae Dewch i Siarad: Byw yn Sir Benfro yn arolwg am breswylwyr sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Sir Benfro.

Mae eich llais yn bwysig.

Trwy ymateb i'r arolwg hwn byddwch yn helpu Cyngor Sir Penfro i ddeall yn well:

  • Beth sy'n bwysig i chi
  • Eich profiad o'ch ardal leol
  • Sut rydych chi'n gweld ac yn rhyngweithio â'r Cyngor

Yn y pen draw, bydd eich barn yn helpu i lunio eich ardal leol a'ch gwasanaethau lleol. Felly, mae'n bwysig clywed gan gymaint o breswylwyr â phosibl.  Anogwch eich teulu, ffrindiau a chymdogion i gwblhau'r arolwg hwn.

Sut y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio

Mae Data Cymru yn cynnal yr arolwg hwn ar ran Cyngor Sir Penfro. Mae'r cwestiynau craidd sy'n cael eu gofyn i chi hefyd yn cael eu gofyn mewn llawer o gynghorau lleol eraill ledled Cymru fel rhan o ddull ehangach o glywed gan breswylwyr.

Bydd gwybodaeth a allai eich adnabod yn cael ei gweld gan Gyngor Sir Penfro a Data Cymru yn unig. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw am 3 blynedd o'r dyddiad y mae'r arolwg yn cau yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 (yn agor mewn tab newydd) a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol y DU (UK GDPR) - yn agor mewn tab newydd. Bydd eich cyfeiriad IP yn cael ei gasglu i helpu i adnabod ymatebion dyblyg neu amhriodol. Mae rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich data ei ddefnyddio ym mholisi preifatrwydd y Cyngor a pholisi preifatrwydd Data Cymru (yn agor mewn tab newydd).

Eich Barn

Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o bennu'r gyllideb a'r broses gynllunio ariannol tymor canolig. 

Gallwch roi eich barn drwy lenwi’r ffurflen ymateb ar-lein (yn agor mewn tab newydd).   

Os hoffech gael copi papur, ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551 neu e-bostiwch ymholiadau@sir-benfro.gov.uk fel y gallwn wneud trefniadau i anfon hyn atoch.  Mae fersiynau hawdd eu deall ar gael hefyd. Mae copïau papur a fersiynau hawdd eu deall hefyd ar gael i’w casglu o brif dderbynfa Neuadd y Sir a derbynfeydd llyfrgelloedd a chanolfannau hamdden. 

Cwblhau’r arolwg

Mae'r arolwg yn cynnwys 11 adran fer a bydd yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau.

A fyddech chi cystal ag ymateb erbyn 22 Mehefin 2025.

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach, neu os cewch unrhyw anhawster wrth gwblhau’r arolwg ar-lein, e-bostiwch policy@pembrokeshire.gov.uk.

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau technegol, cysylltwch ag arolygon@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.

Hysbysiad preifatrwydd: Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol

ID: 13107, revised 07/05/2025