Dweud eich dweud
Dyfodol Hwlffordd Digwyddiad Ymgysylltu â'r Gymuned
Helpwch ni i lunio’r weledigaeth ar gyfer eich tref
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Diolch am ymuno â’r digwyddiad hwn am ddyfodol canol tref Hwlffordd. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth yn fawr wrth i ni gydweithio i roi bywyd newydd a bywiogrwydd i galon ein tref.
Ein nod yw sicrhau bod yr hyn sy’n cael ei gynnig ar gyfer Hwlffordd yn gyffrous ac yn fywiog - nod ein cynlluniau yw:
- Adfywio canol y dref drwy wella’r amgylchedd a’r tir cyhoeddus.
- Bywiogi glan yr afon a denu busnesau newydd i greu canolfan fywiog ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr.
- Gwella’r seilwaith trafnidiaeth drwy’r gyfnewidfa newydd, llwybrau hygyrch i gerddwyr a beicwyr a dynodwyr llwybrau yng nghanol y dref.
- Creu mannau agored newydd a mwy o fannau gwyrdd ar hyd glan yr afon i’r gymuned eu mwynhau.
- Gwella’r hyn sydd gan Hwlffordd i’w gynnig o ran treftadaeth, y celfyddydau a diwylliant.
- Parhau i gefnogi grwpiau cymunedol a busnesau sy’n bodoli eisoes.
Cymerwch eiliad i gwblhau’r Arolwg Ymgysylltu Cymunedol Dyfodol Hwlffordd a rhoi adborth ar yr hyn sydd bwysicaf i chi.
Bydd yr adborth a gaiff ei gasglu yn chwarae rôl hollbwysig wrth lywio’r cynlluniau sy’n cael eu datblygu ar gyfer Canol Tref Hwlffordd.
Wrth i gynlluniau gael eu datblygu, bydd digwyddiadau dilynol yn cael eu cynnal yn ddiweddarach eleni, gan gynnig cyfleoedd pellach i drafod ac i roi mewnbwn.
Allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pennau ein hunain – mae eich llais chi’n bwysig!
Gallwch roi eich barn drwy lenwi Arolwg Ymgysylltu Cymunedol Dyfodol Hwlffordd
Cwblhewch yr arolwg erbyn 31 Awst 2024.
Crynodeb o’r Ymgynghoriad ar y Brand
Isod ceir crynodeb byr o ganfyddiadau ymgynghoriad blaenorol ar yr hunaniaeth brand ar gyfer y dref.
“Ei hymdeimlad o hanes a rhai o’r adeiladau hyfryd, yr afon.”
Beth yw’r peth gorau am Hwlffordd?
“Mae ganddon ni afon yn llifo drwy’r dref, mae llwybrau cerdded ar gael yn lleol. Mae popeth o fewn pellter cerdded. Mae rhai masnachwyr annibynnol hyfryd. Marchnad Ffermwyr; Gŵyl fwyd; Haverhub.”
“Mae llawer o bobl ymroddedig sydd eisiau gwneud eu gorau ar gyfer y dref. Cyngor tref blaengar. Strydlun a phensaernïaeth cyfoethog, hanesyddol.”
“Dyma’r dref agosaf aton ni (rydym yn byw 10 milltir i ffwrdd), ac felly mae’n hanfodol bod gwasanaethau cyhoeddus ar gael yno, siopau a chyfleusterau hamdden da.”
Beth yw’r meysydd i’w gwella?
“Gormod o unedau siopa gwag, mae Stryd y Bont wedi dirywio ac yn edrych fel pe bai wedi’i hesgeuluso. Does dim digon o amrywiaeth o siopau i annog pobl i ymweld â’r dref neu i aros yn hirach.”
“Mae’r Stryd Fawr a’r ffyrdd o’i chwmpas wedi dirywio.”
Beth mae Hwlffordd yn ei olygu i chi?
“Does ganddi hi ddim yr harddwch rydych chi’n meddwl amdano pan fyddwch chi’n meddwl am Sir Benfro ond, mewn llawer o ffyrdd, mae’n ganolbwynt Sir Benfro. I fi, mae’n ganolbwynt sy’n cysylltu llawer o leoedd o ddiddordeb.
“Y dref sirol lle ges i fi ngeni, lle es i i’r ysgol, ac rwy’n ymweld â hi bob wythnos o leiaf. Fyddwn i eisiau iddi fod yn ganolfan gymdeithasol i bobl leol yn hytrach na chael ei throi’n gyrchfan dwristiaeth.”
“Y dref sirol rydw i wedi byw ynddi drwy gydol fy mywyd. Mae ganddon ni gastell hardd ac afon hyfryd yn llifo drwy ganol y dref.”
Beth rydym wedi’i wneud hyd yn hyn?
Dathlu datblygiadau newydd yng nghanol tref Hwlffordd
Hwlffordd nawr
Y Llyfrgell a’r Oriel Genedlaethol
Mae Llyfrgell, Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Glan-yr-afon wedi’u lleoli mewn man canolog. Maent yn lleoedd hanfodol ar gyfer ymgynulliadau cymunedol, rhaglenni addysgol a digwyddiadau diwylliannol, ac maent yn gwella gwead cymdeithasol Hwlffordd.
Mae amgylchedd cynhwysol y llyfrgell yn adlewyrchu hanfod cymuned ffyniannus a chydgysylltiedig, gan sicrhau ei bod yn rhan annatod o hunaniaeth a chymeriad Hwlffordd.
Canolfan Siopa Glan-yr-afon
Mae gan Ganolfan Siopa Glan-yr-afon, a brynwyd gan y cyngor, y potensial i chwarae rhan hollbwysig yn adfywiad y dref.
Mae’r broses o brynu’r ganolfan wedi arwain at welliannau, gan gynnwys tenantiaid newydd, sydd wedi creu awyrgylch siopa mwy deinamig a byrlymus yn gyffredinol.
Glan Cei’r Gorllewin
Mae’r gwaith o drawsnewid hen siop adrannol Ocky White yn ardal ddatblygedig newydd, Glan Cei’r Gorllewin, yn foment arwyddocaol o ran adfywiad y dref.
Disgwylir i Glan Cei’r Gorllewin ddod yn ganolbwynt bywiog ar gyfer allfeydd bwyd a diod. Mae ei lleoliad strategol ar hyd glan y cei yn ysgogydd allweddol ar gyfer twf economaidd y dref.
Prosiectau Cyfredol
Mentrau cyffrous sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd
Castell Hwlffordd
Mae prosiect Calon Sir Benfro yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, gyda ffocws allweddol ar adfywio Castell Hwlffordd. Mae’r fenter uchelgeisiol hon yn cynnwys sawl datblygiad cyffrous: atyniad treftadaeth blaenllaw i ymwelwyr yn Adeilad y Carchar, sydd wedi’i ailddatblygu, adnewyddu Tŷ’r Llywodraethwr i arddangos hanes cyfoethog Hwlffordd, ac ardal digwyddiadau awyr agored â 500 o seddi gyda rhaglen dymhorol fywiog y disgwylir iddi agor yng Ngwanwyn 2027.
Bydd gwarchod muriau’r castell yn diogelu’r heneb ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bydd arwyddion a mynediad gwell ym mhob rhan o’r dref yn creu amgylchedd croesawgar ac yn sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau trysorau hanesyddol a diwylliannol y castell.
Sgwâr y Castell a’r Cyswllt â’r Castell
Ym mis Ebrill 2024, gwahoddwyd pobl Hwlffordd i gymryd rhan yn y gwaith o lywio dyfodol Sgwâr y Castell. Casglwyd barn y gymuned drwy ddigwyddiadau dros dro, sesiynau creadigol a chyfleoedd i sgwrsio.
Mae angen i’r llwybr mynediad i gerddwyr i’r castell drwy’r Cyswllt â’r Castell fod yn fwy gweladwy a hygyrch. Hefyd, mae gan y sgwâr y potensial i ddod yn fwy o ganolbwynt ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, gyda seddi, goleuadau a gwyrddni gwell lle gallai gweithgareddau a digwyddiadau i bob grŵp oedran gael eu cynnal yn rheolaidd.
Erbyn hyn, mae tîm dylunio dan arweiniad y penseiri tirwedd Austin-Smith: Lord, yn gweithio ar ddyluniadau cysyniadol i fynd i’r afael â’r holl bryderon hyn, a gaiff eu rhannu â’r cyhoedd yn Hydref 2024. Bydd y gwaith ailddatblygu yn digwydd o 2024-25.
Cynllun Paentio’r Strydlun
Mae cynllun paentio blaenau siopau wedi cael ei gyflwyno ar gyfer eiddo yng nghanol y dref. Mae’r fenter hon, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn rhan o agenda Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, yn cynnig cyfle i drawsnewid y strydoedd hanesyddol hyn, gan gefnogi busnesau i annog pobl i ymweld â nhw. Y nod yw gwella apêl weledol yr ardaloedd hyn, creu amgylchedd deniadol sy’n ennyn diddordeb preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr, cynyddu nifer yr ymwelwyr, ac ysbrydoli rhagor o weithgarwch adfywio ac economaidd.
Pont Droed Newydd
Mae’r bont droed i gerddwyr yn dod i ddiwedd ei hoes, ac mae’r prosiect hwn yn cynnwys gosod pont droed newydd i gysylltu Canolfan Siopa Glan-yr-afon a Glan Cei’r Gorllewin.
Bydd y bont newydd, ochr yn ochr â dynodwyr llwybrau gwell a gwelliannau o ran y cyswllt â’r castell, yn sicrhau bod cysylltedd gwell rhwng y ganolfan drafnidiaeth newydd a Glan Cei’r Gorllewin, Sgwâr y Castell a’r Castell ei hun.
Cyfnewidfa Drafnidiaeth Newydd
Mae’r gyfnewidfa drafnidiaeth integredig arfaethedig, yn cynnwys terfynfa fysiau a maes parcio, yn cynnig cyfle i greu lleoliad porth yn y cyfleuster modern, newydd hwn.
Bydd y gyfnewidfa, sydd wedi’i lleoli’n gyfleus yng nghanol y dref, yn dod â mwy o ymwelwyr yn uniongyrchol i Ganolfan Siopa Glan-yr-afon ac i mewn i ganol y dref.
Tref sy’n Esblygu
Stori Hwlffordd
Rydym yn croesawu eich barn ar ddyfodol canol eich tref.
- Sgwâr y Frenhines: Canolbwyntiodd y gwaith datblygu o amgylch yr amddiffynfeydd Normanaidd ar ei phorth gorllewinol tua’r tir, yn amgáu Sgwâr y Frenhines, sef canolbwynt masnachol yr anheddiad newydd a oedd yn tyfu.
- Marchnad y Santes Fair: Yn y 13eg ganrif, cafodd statws marchnad ei roi a gwelwyd newid yn ffocws masnachol Hwlffordd tua’r de i Farchnad y Santes Fair.
- Cydgrynhoi: Yn y 14eg a’r 17eg ganrif, arafwyd twf y dref gan y Pla Du a’r Rhyfel Cartref. Dechreuwyd gweld cydgrynhoad o bwyntiau ffocws ar ben gogleddol Stryd y Bont o amgylch y porth dwyreiniol ac ar ben deheuol y dref.
- Sgwâr yr Alarch a Sgwâr y Castell: Pan gyrhaeddodd y rheilffordd yn y 1850au, cadarnhawyd bod canol y dref yn lleoliad ar gyfer masnach a diwydiant, gan gynnwys dau sgwâr newydd yn cysylltu’r Stryd Fawr â Phont Newydd.
- Sgwâr Glan-yr-afon: Yn yr 20fed ganrif, ychwanegwyd pumed sgwâr yn rhan o Ganolfan Siopa Glan-yr-afon ar y lan ddwyreiniol, ac adeiladwyd pont droed newydd. Mae’r ganolfan siopa hon wedi effeithio ar fywiogrwydd y strydoedd traddodiadol, sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi erbyn hyn â thirwedd manwerthu sydd wedi newid yn radical.
Beth sy’n bwysig i chi?
Pobl a Chymuned
Cefnogaeth i Brosiectau Cymunedol
Mae gan Hwlffordd lawer i’w ddathlu!
Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi
Mae Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi, sy’n cael ei threfnu gan Fforwm Iaith Sir Benfro, gyda nawdd gan Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau a chefnogaeth Cyngor Sir Penfro, wedi bod yn tyfu bob blwyddyn.
Haverfoodfest
Mae gŵyl Haverfoodfest yn cynnig danteithion gastronomaidd i’r gymuned ac yn arddangos y cyflenwyr a’r busnesau bwyd lleol gorau – mae’n ddigwyddiad na ddylid ei fethu i bobl leol ac ymwelwyr.
Haverfordwest Yarn Bombers
Mae Haverfordwest Yarn Bombers yn ychwanegu cyffyrddiad artistig i’r dref. Mae eu campweithiau creadigol yn ennyn ymdeimlad o ryfeddod a chreadigrwydd, gan wneud y dref yn lle gweledol hudolus. Mae’n gyffrous pan fydd grwpiau creadigol ac artistiaid lleol yn cyfrannu at dapestri diwylliannol cymuned.
Haverhub
Mae presenoldeb Haverhub a’i galendr digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn yn wych. Mae grwpiau rhwydweithio cymunedol yn chwarae rhan hanfodol wrth greu cysylltiadau a meithrin ymdeimlad o undod ymhlith preswylwyr. Yn Hwlffordd, mae’n wych gweld pobl yn dod at ei gilydd i rannu ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol drwy gydol y flwyddyn.
Mae gan Hwlffordd gymaint i’w gynnig yn barod:
- Castell
- Gorymdaith Llusernau
- Parc Sglefrio
- Marchnad Ffermwyr
- Clwb Rygbi Hwlffordd
- The Bluebirds
- Clwb Beicio Haverfordwest Hornets
Hunaniaeth
Yn falch o’n treftadaeth
Treftadaeth wedi’i gwreiddio’n ddwfn
Mae gan Hwlffordd hanes hir a diddorol, a ddangosir ar y map hwn. Dros y canrifoedd, mae Hwlffordd wedi gwasanaethu fel:
- Tref ffiniol a chadarnle i’r Normaniaid
- Porthladd mawr a phrif ganolfan fasnachu ar gyfer Gorllewin Cymru
- Canolfan weinyddol ar gyfer Sir Benfro
Darganfod tref castell hanesyddol
Mae’r castell, sydd wedi’i leoli ar bren y bryn yn y dref, yn sefyll yn amddiffynnol. Wedi’i sefydlu yn ystod cyfnod y Normaniaid, mae’r castell yn dal i fod yn dirnod amlwg yn y dref, ochr yn ochr â’r Cleddau Wen.
Darganfod Hwlffordd
Mae gan ein tref y potensial i ddatblygu’n gyrchfan bwysig i dwristiaid, gan ehangu ei phresenoldeb marchnata i sicrhau proffil mwy amlwg.
Allwedd
- Castell Hwlffordd
- Capel Bedyddwyr Bethesda
- Eglwys Sant Martin o Tours
- Eglwys y Santes Fair
- Neuadd y Sir
- Tŷ Foley
- Safle Priordy Dominicaidd St Saviour
- Haverhub, y Swyddfa Bost gynt
- Priordy Hwlffordd
Tir Cyhoeddus
Uchelgais i fywiogi glan yr afon
Lle i fwyta, yfed ac ymlacio mewn lleoliad wedi’i dirlunio’n hardd wrth lan yr afon.
Mannau gwyrdd trefol newydd
Rydym yn cynnig y dylid cysylltu’r holl safleoedd datblygu â chyfres o fannau gwyrdd cyhoeddus i annog pobl i ymweld â’r safleoedd newydd. Byddwn yn hyrwyddo newid mewn dulliau teithio i feicio a cherdded ac yn ceisio dod â chysylltiadau gwrdd i galon y dref.
- Glan yr afon wrth Ganolfan Siopa Glan-yr-afon
- Parc Dôl y Bont
- Priordy Hwlffordd
- Gwarchodfa Natur Morfeydd y Priordy
- Cleddau Wen
Parciau Poced
Mae cyflwyno seilwaith gwyrdd a pharciau poced yng nghanol Hwlffordd yn gydnabyddiaeth o’i gorffennol hanesyddol. Parc Tir Jiwbilî oedd y safle yn flaenorol, ac mae wedi’i leoli ger prosiect y Gyfnewidfa sy’n dod i’r amlwg i’r dwyrain o’r Cleddau Wen.
- Golygfa o Forfeydd y Priordy
- Olion y Priordy
- Cysylltiadau ar lan yr afon
Mae Llwybr Bro Cleddau, sy’n cael ei reoli gan Gyngor Sir Penfro, yn ffordd brydferth sy’n cysylltu mannau gwyrdd â chanol y dref. Mae’r llwybr cerdded yn cynnwys Dôl y Bont ar un pen ac mae’n ymestyn o amgylch Tir yr Hen Felin. Yna, mae’n mynd o Olion y Priordy i Forfeydd y Priordy ar y pen arall.
Fel rhan o’n hymrwymiad, byddwn yn anelu at wella ac ehangu mannau gwyrdd ar hyd glan yr afon, gan gynnwys plannu mwy o goed.
Defnydd Cymysg
Canolfan drefol fywiog
Gwella Stryd y Bont a’r Stryd Fawr
Mae ein cynigion yn ceisio ailddatgan mai Stryd y Bont a’r Stryd Fawr yw’r prif graidd manwerthu yng nghanol tref Hwlffordd, gyda Sgwâr y Castell yn eu cysylltu.
Ein nod yw uwchraddio’r Stryd Fawr gyda blaenau siopau, arwynebau, goleuadau a dodrefn stryd gwell.
Dangosir y cysylltiadau â’r lonydd a’r strydoedd ochr er mwyn hyrwyddo llwybrau a dolenni i’r Stryd Fawr ac oddi yno.
Sgwâr y Castell
Nod ein strategaeth yw dathlu statws Hwlffordd fel tref farchnad hynafol drwy ddefnyddio Sgwâr y Castell fel prif Sgwâr y Farchnad a’i wella. Bydd y sgwâr yn darparu lle hyblyg ar gyfer y Farchnad Ffermwyr wythnosol a chalendr cyffrous o ddigwyddiadau, gydag arwynebau a dodrefn stryd gwell.
Arlwy manwerthu annibynnol lleol
Mae cyfle yn bodoli i ddathlu cynnyrch a chrefftau lleol Hwlffordd drwy ddefnyddio unedau gwag ar y Stryd Fawr a Stryd y Bont.
Gallai’r gofodau hyn fod yn ganolfannau ffyniannus ar gyfer busnesau cymunedol lleol, gan gyd-fynd ag egwyddorion poblogaidd yr ‘economi gylchol’.
Y weledigaeth a’r cynsail: Mae Stryd Fawr Arberth yn ffynnu ar yr economi leol ac ysbryd cymuned glos.
Symudiad
Canol tref cysylltiedig
Seilwaith a chysylltedd
Bydd y dull a fabwysiedir gennym yn edrych ar wella pyrth, mynedfeydd a ffyrdd o ddynodi llwybrau i ganol y dref drwy lwybrau cysylltiol, arwyddion a lonydd gwell.
Byddwn yn anelu at wella llwybrau presennol a chysylltiadau rhwng Stryd y Bont ac ardaloedd ar draws yr afon, gan ddefnyddio’r lonydd presennol a’u gwneud yn gyrchfan yn eu rhinwedd eu hunain.
Cysylltu’r holl strydoedd cefn â’r afon, gan ddarparu arwyddion ar y strydoedd hyn a defnyddio’r lonydd, gan eu gwneud yn gyrchfan yn eu rhinwedd eu hunain.
- Skinners Lane
- Hole in the Wall
- Riverside Arcade
- Friar’s Lane
Gallai creu llwybr cylchol clir o amgylch canol y dref fod yn strategaeth dylunio trefol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar gysylltedd y dref, gan wella dynodwyr llwybrau a hybu ymgysylltu cymunedol.
Creu tref amrywiol, gysylltiedig
Mae cyflwyno seilwaith gwyrdd yn cynnig cyfle i wella dynodwyr llwybrau a chysylltiadau yng nghanol y dref.
Nod y fenter yw gwella’r gymuned breswyl ac atgyfnerthu’r arlwy manwerthu gydag uchelgais i fywiogi glan yr afon a gwella’r seilwaith gwyrdd.
Bydd strategaeth y safle yn canolbwyntio ar ddyluniad integredig sy’n cysylltu â threftadaeth, parthau defnydd cymysg, ardaloedd diwylliannol a chanolfannau trafnidiaeth effeithlon. Felly, bydd yn creu canol tref sydd wedi’i gysylltu’n ddeinamig gyda chymysgedd cyfoethog o asedau diwylliannol a masnachol.
Ardal bosibl ar gyfer datblygu
*Sgwâr newydd ar lan yr afon
Potensial i fywiogi ardal glan yr afon
Beth sydd bwysicaf i chi?
Dweud Eich Dweud...
- Gwaith
- Cyfarfod â ffrindiau a chymdeithasu
- Digwyddiadau cymunedol
- Siopa
- Ymweld â chaffis, bariau a bwytai
- Gweithgareddau i’r teulu/chwarae
- Eistedd ac ymlacio
- Dathlu’r dreftadaeth leol
- Ymarfer corff
Diolch
Rydym eisiau clywed eich barn!
Diolch am gymryd yr amser i ddod i’r digwyddiad ymgysylltu hwn. Cymerwch eiliad i gwblhau’r ffurflen adborth ar-lein a rhoi eich barn ar yr hyn sydd bwysicaf i chi.
Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth yn fawr. Bydd yr adborth a gaiff ei gasglu o’r digwyddiad wyneb yn wyneb hwn a’r ffurflen adborth ar-lein yn chwarae rôl hollbwysig wrth lunio’r cynlluniau sy’n cael eu datblygu ar gyfer Canol Tref Hwlffordd.
Wrth i gynlluniau gael eu datblygu, bydd digwyddiadau dilynol yn cael eu cynnal yn ddiweddarach eleni, gan roi cyfleoedd pellach i drafod a rhoi mewnbwn.
Camau Nesaf
Ar ddiwedd y digwyddiad hwn, byddwn yn dadansoddi’r adborth a gafwyd i ddeall pryderon a blaenoriaethau’r dref a’i phreswylwyr.
Caiff yr holl syniadau a chynigion eu gwerthuso a’u datblygu yn unol â Siarter Creu Lleoedd Cymru sy’n hyrwyddo’r egwyddorion canlynol wrth gynllunio, dylunio a rheoli lleoedd newydd a phresennol:
- Pobl a Chymuned
- Lleoliad
- Symudiad
- Cymysgedd o Ddefnyddiau
- Tir Cyhoeddus
- Hunaniaeth
Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl gynigion yn ategu ei gilydd, gan gyfrannu at weledigaeth integredig ar gyfer datblygu Hwlffordd.