Dweud eich dweud

Gwobrau Sbotolau Sir Benfro 2025

Mae Gwobrau Sbotolau Sir Benfro yn ddigwyddiad gwobrwyo blynyddol i gydnabod a dathlu plant a phobl ifanc sy’n cyflawni pethau eithriadol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae'r gwobrau yn gyfle i chi enwebu rhywun rydych chi'n teimlo sy'n haeddu cydnabyddiaeth am ei gyflawniadau rhagorol.

Gallwch enwebu unigolion neu grwpiau o blant a phobl ifanc ar gyfer gwobr ar draws 12 categori. Gall unrhyw un enwebu ac mae hyd yn oed hunan-enwebiadau yn cael eu derbyn.

Cymerwch eiliad i gwblhau’r Ffurflen enwebu (yn agor mewn tab newydd).

Os hoffech gopi papur, anfonwch neges e-bost at Nicky.Edwards@pembrokeshire.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 20 Hydref 2025.

Mae BAM Nuttall, Aberaeron CDS a Pure West Radio, yn garedig iawn yn noddi’r fenter hon ar y cyd rhwng y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc, sydd wedi trefnu i’r digwyddiad hwn gael ei gynnal eto eleni, a Gwasanaethau Plant o fewn Cyngor Sir Penfro.

ID: 14126, revised 30/10/2025