Dweud eich dweud

Hunanasesiad Blynyddol 2023-2024

Ynglŷn â'r ymgynghoriad 

Mae angen i ni gyhoeddi hunanasesiad o'n perfformiad yn ystod pob blwyddyn.

Mae'r asesiad yn edrych i weld a ydym yn gwneud y canlynol:

  • arfer ein swyddogaethau yn effeithiol

  • defnyddio adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol

  • rhoi gwaith llywodraethu effeithiol ar waith i sicrhau’r uchod

Mae'r hunanasesiad yn ymwneud â sut mae'r sefydliad yn gweithredu yn ei gyfanrwydd; nid yw'n asesiad o berfformiad gwasanaethau unigol.

 

Eich barn

Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o'n proses adolygu.

Gallwch roi eich barn drwy lenwi ein arolwg ymgynghoriad ar hunanasesiad blynyddol 2023-24 

Mae copi o Hunanasesiad Blynyddol 2023-24 ar gael i chi ei weld.

Os hoffech gopi papur o'r ffurflen ymateb ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551, fel y gallwn wneud trefniadau i bostio hwn atoch. 



Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi’u cwblhau yw Dydd Gwener, 11 Hydref 2024.

 

ID: 11906, revised 13/09/2024