Dweud eich dweud
Ymgynghoriad ar Bremiwm y Dreth Gyngor 2024
Mae'r ymgynghoriad hwn wedi cau.
Mae Cyngor Sir Penfro yn gofyn am eich barn ar gynigion ar bremiymau Treth y Cyngor sy’n berthnasol i ail gartrefi a chartrefi gwag hirdymor yn Sir Benfro. Mae ystyried eich barn yn rhan hanfodol o'n proses adolygu. Mae’r ymgynghoriad yn gofyn eich barn ar y canlynol:
- Premiymau treth gyngor cyfredol ar ail gartrefi
- Premiymau treth gyngorcyfredol ar gartrefi gwag hirdymor
- A ddylai’r Cyngor ddefnyddio ei ddisgresiwn yn dilyn diwygiadau Llywodraeth Cymru i drothwyon llety gwyliau hunanddarpar
Gallwch roi eich barn drwy lenwi ein arolwg ymgynghoriad ar bremiwm y dreth gyngor
Os hoffech gopi papur o'r ffurflen ymateb ffoniwch ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 01437 764551, fel y gallwn wneud trefniadau i bostio hwn atoch.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion wedi’u cwblhau yw dydd Mawrth, 27 Awst 2024.
Trefniadau Presennol Premiwm y Dreth Gyngor
Cefndir
Gall y cyngor benderfynu amrywio premiwm y Dreth Gyngor o 0% (hy dim premiwm) i 300% ond rhaid iddo ystyried y canllawiau statudol wrth wneud y penderfyniad hwn. Pwrpas y ddeddfwriaeth sy’n caniatáu i’r cynghorau godi’r premiymau hyn yw:
- dod â thai gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd i ddarparu cartrefi diogel a fforddiadwy
- cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol
Ail gartrefi
Wrth ail gartref, golygwn eiddo sy’n destun y Dreth Gyngor nad yw’n unig neu brif breswylfa rhywun.
O 1 Ebrill 2024, mae premiwm ail gartref treth gyngor o 200% yn daladwy yn Sir Benfro.Mae'r tâl hwn o 200% yn ychwanegol at gyfradd safonol y Dreth Gyngor.
Nid oes rhaid i rai eiddo dalu'r premiwm os ydynt yn gymwys ar gyfer eithriad. Gweler yr adran ‘Premiwm Ail Gartrefi’ yn gwybodaeth y dreth gyngor. Mae rhai ail gartrefi yn cael eu gosod fel llety gwyliau (yn aml ar safle archebu fel AirBnB). Mae rhai eiddo sy'n cael eu gosod fel llety gwyliau yn cael eu dosbarthu o fewn ardrethi annomestig. Gweler yr adran ar lety gwyliau isod.
Eiddo gwag
Wrth gartref gwag, rydym yn golygu eiddo sy’n destun y Dreth Gyngor ac sy’n wag a heb ddodrefn.Er mwyn i bremiwm fod yn daladwy, rhaid iddo fod wedi bod yn wag yn barhaus am o leiaf blwyddyn.
Bydd eiddo sy'n wag a heb ddodrefn yn denu tâl o 100% i ddechrau ar ôl i unrhyw esemptiad ddod i ben (esemptiad Dosbarth A neu Ddosbarth C). Gweler esemptiadau Dosbarth A ac C yn gwybodaeth y dreth gyngor. Mae premiwm y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo gwag yn cynyddu po hiraf y bydd yn wag.
Yng nghyfarfod y cyngor a gynhaliwyd gydag aelodau ar 14 Rhagfyr 2023, cytunwyd i newid y premiwm a godir ar eiddo gwag hirdymor o 1 Ebrill 2024 i:
- 100% – ar gyfer eiddo sy'n wag am ddwy flynedd
- 200% – ar gyfer eiddo sy'n wag am dair blynedd
- 300% – ar gyfer eiddo sy'n wag am bedair blynedd neu fwy
Mae’r premiwm yn ychwanegol at gyfradd safonol y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo sy’n dod o fewn y diffiniad hwn.
Mae llawer o resymau pam y gallai eiddo fod yn wag ac mae eithriadau i’r premiwm eiddo gwag.
Gall fod rhesymau dilys hefyd pam mae rhai eiddo yn parhau’n wag am gyfnod hwy na’r terfyn amser a ganiateir cyn y codir premiymau.Mewn rhai amgylchiadau eithriadol, gallwn roi gostyngiad dewisol.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw beth uchod, cysylltwch â’r Gwasanaethau Refeniw ar 01437 764551 neu revenue.services@pembrokeshire.gov.uk.
Llety gwyliau
Mae llety gwyliau yn eiddo sy'n cael ei osod ar gyfer llety gwyliau ac sydd wedi cyrraedd y trothwyon y mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn eu defnyddio i fod yn gymwys ar gyfer trethi annomestig (yn hytrach na’r Dreth Gyngor).Penderfynodd Llywodraeth Cymru ar y trothwy gwirioneddol y mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ei ddefnyddio. Mae gan y cyngor y pŵer i roi gostyngiad dewisol o bremiwm y Dreth Gyngor ar gyfer eiddo hunanddarpar sy’n trosglwyddo o ardrethi annomestig i’r Dreth Gyngor. Ni all y cyngor newid y trothwyon nac atal eiddo a oedd yn destun ardrethi annomestig rhag trosglwyddo i’r Dreth Gyngor os nad yw bellach yn bodloni trothwy isafswm diwrnodau gosod y flwyddyn.
Newidiodd Llywodraeth Cymru y trothwyon i 182 o ddiwrnodau dan feddiant a 252 o ddiwrnodau pan hysbysir ei fod ar gael o fis Ebrill 2023.
Defnyddio premiymau'r Dreth Gyngor
Mae'r defnydd o incwm o bremiymau’r Dreth Gyngor yn cael ei bennu gan y cyngor ac mae wedi'i gynnwys yn ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Mae’r tabl canlynol yn dangos sut mae’r incwm a godwyd o’r premiwm ail gartrefi a chartrefi gwag wedi’i ddyrannu yn y blynyddoedd 2023-24 a 2024-25.
Lle dyrennir cyllid:
Ail gartrefi |
2023-24 |
2024-25 |
Tai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol | 75% | 85% |
Rhaglen tai fforddiadwy | 18.75% | 11.25% |
Cronfa Grant Gwella Sir Benfro* | 6.25% | 3.75% |
Lle dyrennir cyllid:
Eiddo gwag |
2023-24 |
2024-25 |
Sicrhau bod tai yn cael eu defnyddio unwaith eto | 100% | 0% |
Tai fforddiadwy a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol | 0% | 100% |
*Mae Cronfa Grant Gwella Sir Benfro yn cefnogi prosiectau sy’n helpu i fynd i’r afael ag effeithiau negyddol eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi, ac yn ychwanegu gwerth at gymunedau. Gallwch ddarganfod mwy am grant gwella Sir Benfro.
Gwybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i chi …
Cyd-destun tai Sir Benfro
Ym mis Rhagfyr 2023, mabwysiadodd y cyngor strategaeth dai a oedd yn canolbwyntio ar bum blaenoriaeth, a'r gyntaf ohonynt yw cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol. Ar hyn o bryd, mae prinder dybryd o dai fforddiadwy yn Sir Benfro sy'n ysgogi cyfraddau uwch o ddigartrefedd. Er bod nifer y bobl ddigartref yr oedd y Tîm Cyngor Tai yn gweithio gyda nhw wedi gostwng o 621 ym mis Ebrill 2023 i 490 ym mis Mawrth 2024, mae angen dybryd am dai o hyd. Ym mis Mawrth 2024, roedd 490 o bobl mewn llety dros dro. Mae lefelau uchel parhaus o ddigartrefedd yn cael effaith ar gyllideb y cyngor; er gwaethaf mynediad at grant Llywodraeth Cymru i liniaru digartrefedd, roedd gorwariant o £636,000 yn y gyllideb ddigartrefedd yn 2023-24.
Er bod stoc gyfunol o dai cymdeithasol Cyngor Sir Penfro a'r tri landlord cymdeithasol cofrestredig sy'n gweithredu cofrestr tai ar y cyd wedi cynyddu, nid yw'n cyd-fynd â'r galw. Mae nifer y bobl ar y band aur â‘r flaenoriaeth uchaf wedi cynyddu o 1,590 i 1,749 (Mawrth 2024) yn y flwyddyn ddiwethaf.
Nid yw prisiau tai yn Sir Benfro wedi newid fawr ddim dros 2023-24 yn seiliedig ar ddata prisiau a dalwyd gan y Gofrestrfa Tir. Ym mis Ebrill 2023, y pris cyfartalog ar gyfer pob math o eiddo oedd £225,000; erbyn mis Mawrth 2024, roedd wedi cynyddu £1,000 i £226,000. Mae hyn yn wahanol i’r cyfnod ar ôl y cyfyngiadau symud COVID, a welodd gynnydd cyflym iawn mewn prisiau tai. Mae prisiau tai yn Sir Benfro (yn seiliedig ar werthiannau yn 2023-24) tua 8% yn uwch na chyfartaledd Cymru. Ym mis Medi 2023, y gymhareb pris tŷ / incwm yn Sir Benfro oedd 7 i 1. Mae hyn yn uwch na chyfartaledd Cymru gyfan o 6.1 i 1 ond yn is na chyfartaledd Lloegr o 8.3 i 1. Mae prisiau tai mewn llawer o ardaloedd arfordirol yn llawer uwch na chyfartaledd Sir Benfro.
Mae nifer o ardaloedd cyngor cymuned yn Sir Benfro lle mae dros 30% o'r eiddo yn ail gartrefi neu'n llety gwyliau yn y gymuned.Mae'r crynodiadau hyn yn nodweddiadol o fewn yr ardal a gwmpesir gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae Sir Benfro yn parhau i fod â'r ail nifer uchaf o ail gartrefi yng Nghymru ar ôl Gwynedd. Rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, gostyngodd nifer yr ail gartrefi a oedd yn destun y premiwm o 3,734 i 3,364. Ers y dyddiad hwn, mae nifer yr ail gartrefi wedi cynyddu’n raddol i 3,438 ym mis Ebrill 2024. Y rheswm am y cynnydd hwn yw gostyngiad cyfatebol yn nifer y llety gwyliau sy‘n destun i ardrethi annomestig. Gostyngodd nifer y rhain o 2,622 ym mis Mehefin 2023 i 2,463 ym mis Ebrill 2024.
O safbwynt tymor hwy, dyblodd nifer y llety gwyliau rhwng 2016 a 2021, gyda‘r cyfraddau twf uchaf mewn ardaloedd arfordirol lle mae niferoedd uchel o ail gartrefi. Roedd rhan o'r cynnydd hanesyddol mewn llety gwyliau oherwydd eiddo ail gartrefi yn symud i trethi annomestig. Mae newid Llywodraeth Cymru i’r trothwyon diwrnodau gosod er mwyn bod yn gymwys ar gyfer trethi annomestig yn gwrthdroi’r duedd hon ond mae’n dal yn rhy gynnar i asesu ei effaith lawn. Yn yr un modd, er bod tystiolaeth anecdotaidd bod mwy o lety gwyliau sy’n destun i ardrethi annomestig ac ail gartrefi yn cael eu rhoi ar werth, mae’n rhy gynnar i farnu effaith y cynnydd mewn premiymau a gyflwynwyd o 1 Ebrill 2024.
Newidiadau deddfwriaethol eraill sy'n effeithio ar ail gartrefi a llety gwyliau
Newidiadau i ddeddfwriaeth gynllunio
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau i ddeddfwriaeth gynllunio, sy’n sefydlu dosbarthiadau ‘defnydd’ newydd ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi disgresiwn i awdurdodau lleol roi caniatâd cynllunio ar gyfer newid dosbarthiadau defnydd mewn rhai ardaloedd neu bob un ohonynt (Cyfarwyddyd Erthygl 4). Ein dealltwriaeth ni yw bod Gwynedd yn bwriadu cyflwyno’r newid hwn ond nid oes gan Gyngor Sir Penfro nac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro gynlluniau i gyflwyno’r newid hwn o fewn 2025-26. Gan y byddai unrhyw newid o'r fath yn gofyn am ymgynghori penodol a rhoi rhybudd, credwn ei bod yn annhebygol iawn y bydd y rhain yn cael eu gweithredu ar gyfer y flwyddyn 2025-26.
Ardoll ymwelwyr dewisol
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi’r gallu i awdurdodau lleol godi ardoll ymwelwyr ar arosiadau dros nos.
Bydd yr ardoll yn cael ei thalu gan ymwelwyr ac, os caiff ei phasio drwy’r Senedd, bydd angen i bob cyngor benderfynu a yw am gyflwyno ardoll. Byddai angen inni ymgynghori â’n cymunedau cyn gwneud y penderfyniad hwn. Rhoddir cyfnod rhybudd hefyd i sicrhau bod busnesau ac ymwelwyr yn barod. Drwy’r broses uchod, mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif mai’r cynharaf y gallai ardoll ymwelwyr fod yn ei lle mewn unrhyw ran o Gymru yw 2027.
Adran manylion technegol
Ail gartrefi
Diffinnir ail gartrefi yn Neddf Tai Cymru 2014. Mae’r Ddeddf yn diffinio ail gartrefi fel “cartref nad yw’n unig neu brif breswylfa unigolyn ac sydd wedi’i ddodrefnu’n sylweddol.”
Beth yw cartref gwag hirdymor?
Diffinnir "annedd wag hirdymor" fel un sydd wedi bod yn wag ac yn sylweddol heb ei ddodrefnu am gyfnod parhaus o flwyddyn o leiaf yn Neddf Tai Cymru 2014. Nid yw rhai o'r eiddo gwag y gallwch eu gweld yn Sir Benfro yn dod o dan y diffiniad hwn. Gall hyn fod oherwydd eu bod yn cael eu dosbarthu fel eiddo masnachol (ee gwesty gwag) neu oherwydd bod esemptiad penodol (ee os yw perchennog y cartref mewn ysbyty neu ofal hirdymor).
Eithriadau
Mae nifer o ddosbarthiadau eithrio ar gyfer ail gartrefi neu gartrefi gwag hirdymor. Pan fo ail gartref neu gartref gwag hirdymor yn dod o fewn un o’r dosbarthiadau hyn, ni fydd y premiwm yn berthnasol. Mae gwybodaeth am eithriadau ail gartrefi neu gartrefi gwag hirdymor ar gael.
Ym mis Tachwedd 2022, diweddarodd y cyngor ei bolisi ar ostyngiadau dewisol i’r Dreth Gyngor i ddileu eiddo ag anecs ar wahân i’r brif annedd, ac sy’n cael eu defnyddio at ddibenion domestig yn unig, rhag atebolrwydd am y premiwm ail gartref neu gartref gwag hirdymor.
Mae pob annedd arall, nad yw'n unig gartref neu'n brif gartref i berson ac sydd wedi'i dodrefnu'n sylweddol (ac nad yw'n gymwys ar gyfer dosbarth eithrio nac yn bodloni'r trothwy trethi annomestig uchod) yn gymwys i dalu premiwm y Dreth Gyngor y cytunwyd arno ar gyfer ail gartref.