Help u Dwr Cymru
Help U: Dwr Cymru
Cynllun Help U – helpu i dalu eich biliau dŵr
Beth yw Help U?
Mae’r tariff hwn yn helpu’r aelwydydd â’r incwm isaf yn ein rhanbarth. I fod yn gymwys ar gyfer HelpU mae’n rhaid i’r cyflenwad dŵr i’r aelwyd fod at ddefnydd domestig yn unig, mae’n rhaid bod rhywun ar yr aelwyd yn derbyn o leiaf un budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd, ac mae’n rhaid i incwm cyfunol blynyddol yr aelwyd fod ar y trothwy neu o dan y trothwy ar gyfer maint yr aelwyd a ddangosir yn y tabl isod.
Maint yr Aelwyd: 1 Trothwy Incwm: £8,900
Maint yr Aelwyd: 2 Trothwy Incwm: £13,400
Maint yr Aelwyd: 3 Trothwy Incwm: £15,300
Mae'n bwysig eich bod yn cynnwys yr holl incwm y mae eich cartref yn ei dderbyn gan bob oedolyn sy'n byw yn eich eiddo sy'n 16 mlwydd oed a throsodd.
Help U Dwr Cymru (yn agor mewn tab newydd)
ID: 3526, revised 20/07/2023