Hunanasesiad Blynyddol 2021-22
Hunanasesiad Blynyddol 2021-22
Dyma hunanasesiad blynyddol cyntaf Cyngor Sir Penfro fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno gofynion perfformiad newydd ar gyfer awdurdodau lleol ac yn ganolog i hyn mae dyletswydd i adrodd yn flynyddol ar berfformiad trwy broses o hunanasesu. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor yng Nghymru adolygu, drwy hunan-asesu, i ba raddau y mae'n cyrraedd y 'gofynion perfformiad', hynny yw i ba raddau:
- Mae'n arfer ei swyddogaethau'n effeithiol
- Mae'n defnyddio ei adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon, ac yn effeithiol
- Mae ei drefniadau llywodraethu’n effeithiol ar gyfer sicrhau'r uchod
Rhaid llunio adroddiad hunanasesu mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol a'i gyhoeddi cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y mae'n adrodd arni. Gan hynny, dyma adroddiad hunanasesu’r Cyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22.
Mae'r adroddiad yn nodi casgliadau'r Cyngor o ran i ba raddau y mae wedi bodloni'r gofynion perfformiad yn ystod y flwyddyn ariannol honno, ac unrhyw gamau y mae'n bwriadu eu cymryd, neu y mae eisoes wedi eu cymryd, i ddwyn cynnydd wrth ystyried i ba raddau y mae'n cyrraedd y gofynion perfformiad.
Mae nifer o egwyddorion trosfwaol eang sydd wedi goleuo dull y Cyngor o gyflawni’r hunanasesiad hwn:
- Mae arweinyddiaeth a pherchnogaeth gorfforaethol yn allweddol i ddatblygu diwylliant o wella.
- Mae angen gwreiddio proses hunanasesu ym mhrosesau cynllunio, perfformiad a llywodraethu corfforaethol y Cyngor - nid digwyddiad untro na phroses annibynnol ydyw. Mae rhagor o waith i'w wneud yn hyn o beth dros y 12 mis nesaf i ateb y gofyniad hwn.
- Derbynnir y bydd y broses hunanasesu yn esblygu ac yn cael ei mireinio'n barhaus. Y pwynt pwysig yw sefydlu man cychwyn ar gyfer y broses sydd wedyn yn gallu cael ei haddasu o ddysgu'r gwersi a ddysgir trwy fynd drwy'r broses yna.
- Nid yw hyn o reidrwydd yn ymwneud â chyflwyno systemau a phrosesau newydd – yn hytrach mae’n ymwneud â defnyddio'r hyn sydd eisoes ar waith mewn ffordd fwy cydlynol, integredig ac effeithiol.
- Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi mai hunanasesiad corfforaethol yw hwn, nid asesiad o berfformiad gwasanaethau unigol.