Hunanasesiad Blynyddol 2021-22

Crynodeb Gweithredol: SA4 - Gweithio gyda phartneriaid a chwsmeriaid

I ddarparu ffordd weladwy a thryloyw o fesur lle rydym ar ein taith wella trwy amser caiff pob is-thema ei sgorio gan ddefnyddio'r system a nodir isod, ac mae’n darparu safbwynt sy’n ystyried y presennol ac yn edrych ymlaen.

  • Sgor 1: Perfformiad presennol-Rhagorol - Effeithiol
  • Sgor 2: Perfformiad presennol-Da - Wrthi’n gwreiddio
  • Sgor 3: Perfformiad presennol-Gweddol - Wrthi’n esblygu
  • Sgor 4: Perfformiad presennol- Gwael - Wrthi’n dod i’r amlwg

 

SA4.1: Partneriaethau Strategol

SA4.2: Gweithio’n rhanbarthol

SA4.3: Cyfranogiad, ymgysylltu ac ymgynghori

 

SA4.1: Partneriaethau Strategol

  • Perfformiad presennol: 3
  • Cyfnod gwella: 3

Asesiad o'r perfformiad presennol (pa mor dda ydyn ni'n gwneud?)

Mae'r Cyngor yn ymwneud â nifer o bartneriaethau strategol ac yn eu cefnogi yn ariannol ac o ran amser swyddogion. Mae’r ysgogiadau ar gyfer y partneriaethau hyn yn cynnwys deddfwriaeth a chyfarwyddebau polisi gan Lywodraeth Cymru. 

Ym mis Mawrth 2018 cymeradwyodd y Cabinet restr o drefniadau partneriaeth strategol allweddol a cheisiodd sicrhau bod trefniadau llywodraethu cadarn yn eu lle ar gyfer y partneriaethau hyn yn ogystal â datblygu dull safonedig o fonitro eu darpariaeth. Y partneriaethau strategol allweddol a nodwyd drwy'r broses hon yw:

  1. Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro
  2. Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Benfro Fwy Diogel
  3. ERW
  4. Y Bartneriaeth Dysgu a Sgiliau Ranbarthol
  5. Coleg Sir Benfro
  6. Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru
  7. Bwrdd Partneriaeth Comisiynu Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
  8. Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru: Oedolion
  9. Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru: Plant
  10. Grŵp Swyddogion Gyrfaoedd y 3 Sir
  11. Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru
  12. Bwrdd Bargen Ddinesig Bae Abertawe
  13. Partneriaeth Natur Sir Benfro
  14. Bwrdd Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau Rhanbarthol
  15. Partneriaeth Cofrestr Tai Sir Benfro

Yn ogystal â darparu sicrwydd ynghylch llywodraethu digonol, rheolaethau mewnol a rheoli risg, gwnaed gwaith hefyd ar yr adeg hon i gryfhau’r modd y mae aelodau’n goruchwylio ac yn craffu ar y partneriaethau strategol hyn drwy sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Partneriaethau penodol.  Fodd bynnag, yn dilyn adolygiad dan arweiniad aelodau o strwythurau a chylchoedd gwaith  craffu yn 2018-19, penderfynodd Cyngor ddiddymu'r Pwyllgor hwn, gyda chraffu ar y partneriaethau a restrir uchod yn dod o fewn cylchoedd gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu mwyaf perthnasol ac yn cael ei gynnwys mewn blaenraglenni gwaith. 

Yn gynnar yn 2022, cynhaliodd y tîm Archwilio Mewnol adolygiad o drefniadau partneriaethau strategol allweddol y Cyngor.  Amcan yr archwiliad oedd rhoi sicrwydd bod gan bartneriaethau strategol y Cyngor drefniadau digonol o ran llywodraethu, rheolaeth fewnol, a rheoli risg sy'n gweithredu'n effeithiol ac yn eu cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion.  Rhoddodd yr archwiliad sgôr sicrwydd 'cymedrol', ac mae rhai o'r prif ganfyddiadau yn cynnwys:

  • Mae cyfarfodydd partneriaeth yn digwydd yn rheolaidd, ond mae Pandemig Covid-19 wedi cael rhywfaint o effaith ar amlder a phresenoldeb mewn cyfarfodydd.
  • Mae disgwyl i gylchoedd gorchwyl ar gyfer sawl Partneriaeth gael eu diweddaru yn ystod 2022 sy’n golygu ei bod yn amserol hefyd myfyrio ar rai gwelliannau y gellid eu gwneud i fframweithiau llywodraethu a rheolaethau
  • Mae angen adolygu a diweddaru Gweithdrefn Partneriaethau'r Cyngor, a ddatblygwyd yn wreiddiol yn 2016
  • Cadarnhaodd profion samplu y cydymffurfir â gofynion adrodd mewnol ac allanol; fodd bynnag, nid yw amlder ac ansawdd y gwaith craffu gan y pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn gyson, ac ni chraffwyd o gwbl ar rai partneriaethau, er enghraifft Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Gallai diffyg goruchwyliaeth gan Aelodau olygu nad yw’r Awdurdod yn cael sicrwydd bod y Partneriaethau yn effeithiol ac yn cyflawni eu canlyniadau bwriadedig
  • Cydnabyddir nad yw gorfodi newid bob amser o fewn gallu’r Awdurdod, ar gyfer Partneriaethau y mae’r yn aelod ohonynt yn unig.

Nododd yr adolygiad nifer o gyfleoedd i wella digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau presennol i wella ac ychwanegu gwerth at drefniadau Partneriaethau Strategol, a chafodd y rhain eu cynnwys mewn argymhellion a nodir isod fel camau gwella ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth (sut ydym ni'n gwybod?)

Daw peth o'r dystiolaeth i ategu'r casgliad hwn o ddogfennau mewnol sydd heb eu cyhoeddi.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Adolygiad Archwilio Mewnol o Bartneriaethau Strategol

Camau gwella (beth allwn ni ei wneud yn well a sut?)

  • Partneriaethau Strategol Allweddol – rhestr i'w hadolygu er mwyn sicrhau ei bod yn gyfredol ac yn gywir.
  • Gweithdrefn Partneriaethau – i'w hadolygu, ei diweddaru a'i chylchredeg i'r swyddogion arweiniol ar gyfer pob un o'r priod bartneriaethau strategol, er mwyn sicrhau bod fframwaith clir ar waith i gyflawni trefniadau llywodraethu, rheolaeth fewnol, rheoli ariannol a rheoli risg effeithiol.
  • Trefniadau llywodraethu partneriaethau - pob partneriaeth i ailystyried gwahanol bolisïau ar gyfer rheolaeth a goruchwyliaeth, gan gynnwys chwythu'r chwiban, gwrthdaro buddiannau, rhannu data a chofrestrau risg, er mwyn galluogi i aelodau'r Bartneriaeth i fod yn ymwybodol o'r broses sydd i'w dilyn pe bai unrhyw bryderon yn cael eu codi.
  • Trosolwg a Chraffu - y trefniadau i graffu ar Bartneriaethau Strategol i gael eu hadolygu er mwyn sicrhau eu bod yn gadarn, gan ystyried a yw'r trefniadau presennol yn addas ynteu a oes angen eu diwygio. Rhaid i bob Partneriaeth Strategol gael ei hadolygu o bryd i'w gilydd gan Bwyllgor Trosolwg a Chraffu, gyda her effeithiol sy'n ychwanegu gwerth at waith y Bartneriaeth

 

SA4.2: Gweithio’n rhanbarthol

  • Perfformiad presennol: 2
  • Cyfnod gwella: 2

Asesiad o'r perfformiad presennol (pa mor dda ydyn ni'n gwneud?)

Mae ein gallu i weithio'n effeithiol gydag awdurdodau cyfagos fel rhan o weithio’n rhanbarthol yn adlewyrchu pa mor dda yr ydym yn defnyddio'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i wella canlyniadau, yn enwedig cydweithio ac integreiddio. Mae tuedd tuag at fwy o weithio’n rhanbarthol ac yn ystod y flwyddyn aethom ati i wneud y gwaith paratoi ar gyfer math newydd o sefydliad cyflawni ar gyfer gwaith rhanbarthol, Cydbwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru sy'n ofynnol dan y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau. 

Mae'r Cyngor yn darparu ystod eang iawn o wasanaethau ac mae ganddo ddyletswyddau niferus. Er bod 'ôl troed' Sir Benfro yn ddelfrydol ar gyfer darparu nifer o'r rhain, ar gyfer rhai gwasanaethau, gall ôl troed daearyddol rhanbarthol mwy weithio'n well a gall ganiatáu cyfuno adnoddau. Mae enghreifftiau'n cynnwys cydlynu’r broses o integreiddio gofal cymdeithasol ac iechyd, ac agweddau ar ddatblygu economaidd, cynllunio trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir.

Mae'r strwythurau llywodraethu a ddefnyddir ar gyfer gweithio’n rhanbarthol yn amrywio. Trefniadau cymharol anffurfiol yw rhai, tra bod strwythur a elwir yn Gyd-bwyllgor yn aml yn cael ei ddefnyddio i lywodraethu trefniadau mwy cymhleth fel ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Fel a nodwyd uchod, yn ystod y flwyddyn aethom ati i wneud y gwaith paratoi i sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru. Mae hwn yn wahanol i Gydbwyllgor gan ei fod yn sefydliad yn ei rinwedd ei hun – i bob pwrpas awdurdod lleol newydd gyda'i ddyletswyddau statudol, pwerau, cyllideb a strwythurau mewnol ei hun. Gan gwmpasu Sir Benfro, Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe, yn ogystal â Pharciau Cenedlaethol yn yr ardaloedd hyn, bydd Cydbwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru yn arwain ar drafnidiaeth ranbarthol, cynllunio defnydd tir a'r strategaeth ynni ranbarthol.  Bydd yn ategu cynlluniau datblygu economaidd y pedwar awdurdod lleol drwy ddarparu fframwaith economaidd rhanbarthol.

Roedd y gwaith a wnaed i sefydlu Cydbwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru yn cynnwys ymateb i ymgyngoriadau ar bob agwedd ar sut y dylai'r sefydliad weithio a sut y dylai integreiddio â strwythurau gweithio rhanbarthol presennol fel Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Cyfarfu uwch arweinwyr bob pythefnos i gynllunio gwaith a llunio'r protocolau a'r dogfennau sefydlu (megis ei Gyfansoddiad) a fydd yn sail i’r ffordd y mae’n gweithio. Cyfarfu Cydbwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru ddwywaith yn 2021-22 er mwyn cytuno ar ei Gyfansoddiad a'i gyllideb.  Rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar sicrhau bod Cydbwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru yn ychwanegu gwerth at ddarparu gwasanaethau a bod y fiwrocratiaeth o'i gwmpas yn cael ei lleihau i’r eithaf.  I'r perwyl hwn, mae'r rolau allweddol o fewn y Cydbwyllgor Corfforedig yn cael eu cylchdroi rhwng y pedwar awdurdod lleol. Mae pob awdurdod lleol wedi cytuno i ddarparu rhai o swyddogaethau mewnol y Cydbwyllgor Corfforedig. Er enghraifft, mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn darparu'r ysgrifenyddiaeth (ac mae agendâu a chofnodion Cydbwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru i’w gweld ar wefan Cyngor Castell-nedd Port Talbot).  Bydd Cyngor Sir Penfro yn darparu'r swyddogaeth archwilio mewnol.

Mae gwaith wedi dechrau ar gynllunio trafnidiaeth ranbarthol ac ar y Cynllun Datblygu Strategol. Cynllun defnydd tir rhanbarthol cyfryngol yw hwn a fydd yn eistedd rhwng cynlluniau datblygu lleol y Cyngor a fframwaith datblygu cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Mae gwaith hefyd ar y gweill ar gyfer datblygu economaidd.  Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu fframwaith economaidd rhanbarthol ar gyfer De Orllewin Cymru gyda'r bwriad bod rhifynnau diweddarach o'r cynllun hwn yn cael eu datblygu trwy Gydbwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru. Cafodd drafft y fframwaith yn 2022 ei gymeradwyo gan y Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Mawrth 2022. Drwy Fargen Ddinesig Bae Abertawe, gyda chyswllt agos â Chydbwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru, mae cynnydd yn cael ei wneud ar brosiectau ynni gwyrdd gyda gwaith adeiladu ym Mhorthladd Penfro yn dechrau ym mis Awst 2022.

Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru (partneriaeth ranbarthol statudol a adwaenir fel bwrdd partneriaeth rhanbarthol ac sy'n ofynnol yn ôl y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant) yn dal i arwain gwaith ar integreiddio gofal cymdeithasol ac iechyd, gan wella gwasanaethau i bobl y mae arnynt angen gofal a chymorth, a'u gofalwyr. Rydym ni’n un o aelodau'r cydbwyllgor. Mae Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru yn cyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n nodi ei chyflawniadau a'r cynnydd a wnaed yn erbyn ein blaenoriaethau rhanbarthol (nid yw adroddiad 2021-22 wedi ei gyhoeddi eto /)

Ceir nifer o strwythurau rhanbarthol llai ffurfiol sydd, serch hynny, yn cefnogi meysydd gwaith pwysig y mae Cyngor Sir Penfro yn gweithio gyda sefydliadau eraill arnynt, sef meysydd fel Cydlyniant Cymunedol a chefnogaeth i'r Lluoedd Arfog. Mae'r trefniadau hyn yn meithrin capasiti ac arfer gorau ar draws y rhanbarth.  Er enghraifft, rhoddodd y tîm cydlyniant cymunedol rhanbarthol gapasiti ychwanegol i ymateb i gartrefu ffoaduriaid o Wcráin ac mae cymorth y cydlynydd rhanbarthol ar gyfer y Lluoedd Arfog wedi helpu gyda chydnabyddiaeth drwy'r cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Ymdrinnir â threfniadau partneriaeth rhanbarthol mewn perthynas ag addysg yn adran SA5.1

Fe weithiom ni trwy Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru ar Holiadur Denu a Recriwtio i Ofal Cymdeithasol fel ffordd o fynd i'r afael â'r problemau recriwtio a chadw sydd a amlygwyd yn adran SA5.2 ar ofal cymdeithasol. Fe gomisiynodd Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad gan Brifysgol Oxford Brookes hefyd.  Mae’r adroddiad hwn, a gafodd ei ystyried gan ein pwyllgor Trosolwg a Chraffu gofal cymdeithasol ym mis Ionawr 2022, yn dadansoddi'r anawsterau sy'n bodoli yn y farchnad gofal cymdeithasol ac mae hefyd yn gwneud nifer o awgrymiadau ymarferol ar gyfer sut y gellir mynd i'r afael â'r diffyg yn y cyflenwad. 

Mae gan Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru gysylltiadau â fforymau cydweithredol rhanbarthol allweddol eraill ar gyfer diogelu, atal trais yn y cartref a thai â chymorth ar gyfer pobl agored i niwed. Mae'r agendâu hyn yn cyd-fynd yn agos â gofal cymdeithasol.

Tystiolaeth (sut ydym ni'n gwybod?)

Mae adroddiadau a chofnodion Cydbwyllgor Corfforedig De Orllewin Cymru ar gael trwy wefan Cyngor Dinas Abertawe

Bydd Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru’n cyhoeddi ei hadroddiad blynyddol ar gyfer 2021-22 ar ei gwefan. Gellir gweld adroddiadau blynyddol blaenorol yn yr adran cyhoeddiadau ar y wefan

Gellir gweld adroddiad ar waith Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru a'i hadroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad ar yr agenda ganlynol ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau Cymdeithasol

Camau gwella (beth allwn ni ei wneud yn well a sut?)

  • Mae'n anorfod bod defnyddio mecanweithiau rhanbarthol sy’n fwy agored, yn fwy tryloyw ac sy’n canolbwyntio’n fwy ar gamau gweithredu, megis y Cydbwyllgor Corfforedig, yn golygu bod angen mwy o ffurfioldeb. Er bod y gwaith i greu saernïaeth allweddol y Cydbwyllgor Corfforedig wedi'i gwblhau yn 2021-22, bydd angen i ni weithio mewn partneriaeth gydag aelodau eraill y Cydbwyllgor Corfforedig i ddatblygu ei strwythurau fel y gall gyflawni ei holl ddyletswyddau.
  • Integreiddio swyddogaethau tebyg o dan un corff.  Rhagflaenodd Bargen Ddinesig Bae Abertawe y Cydbwyllgor Corfforedig o ryw 5 mlynedd ac mae'n dod â safbwynt a buddsoddiad rhanbarthol mewn perthynas ag ynni gwyrdd, un o swyddogaethau'r Cydbwyllgor Corfforedig.  Mewn partneriaeth, byddwn yn archwilio sut y gellir symleiddio strwythurau rhanbarthol a gwnaed penderfyniad mewn egwyddor i uno strwythurau Bargen Ddinesig Bae Abertawe gyda'r Cydbwyllgor Corfforedig. 
  • Bydd gwaith rhanbarthol yn sail i brosiectau datblygu economaidd allweddol fel gwneud cais am statws Porthladd Rhydd i Borthladd Aberdaugleddau.
  • Cyflwynodd Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru gynllun gweithredu pum mlynedd, wedi'i ariannu gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2022. Bydd y cynllun hwn yn helpu i gefnogi cynlluniau'r Cyngor ei hun ar gyfer gwella gofal cymdeithasol, yn arbennig gan integreiddio gwasanaethau gydag iechyd yn ogystal â mynd i'r afael â materion sy’n ymwneud â'r gweithlu
  • Agenda ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ar ddydd Llun, 7 Mawrth, 2022, 10:00 a.m. - Cyngor Sir Penfro

 

SA4.3: Cyfranogiad, ymgysylltu ac ymgynghori

  • Perfformiad presennol: 2
  • Cyfnod gwella: 2

Asesiad o'r perfformiad presennol (pa mor dda ydyn ni'n gwneud?)

Cyd-destun

Mae yna lawer o resymau pam fod angen i ni ganolbwyntio ar gyfranogiad, ymgysylltu ac ymgynghori. Mae ein Cynllun Gwella Llywodraethu Corfforaethol 2022-24 wedi'i seilio o amgylch Egwyddorion Llywodraethu Da CIPFA ac mae ganddo adran ar Sicrhau bod yn agored ac ymgysylltiad cynhwysfawr â rhanddeiliaid. Cynnwys yw un o'r pum ffordd o weithio sy'n sail i'r ddyletswydd datblygu cynaliadwy. Cyflwynodd y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau ddyletswydd i ni lunio strategaeth cyfranogi. 

Heblaw am yr hyn y disgwylir i ni ei wneud gan eraill ar gyfranogiad, ymgysylltu ac ymgynghori, mae'r rhain yn feysydd yr ydym am eu gwella gan eu bod yn sail i'n gwaith ar ailddiffinio a chryfhau ein perthynas â chymunedau a gweithio mewn partneriaeth gyda nhw.

Dechreuodd y gwaith o lunio Strategaeth Cyfranogiad yn 2021-22 gan ateb gofynion a nodir yn y Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau.  Cafodd cynnig datblygu ar gyfer y Strategaeth ei ystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ac fe'i hysgrifennwyd yng nghyd-destun canllawiau newidiol Llywodraeth Cymru ar y strategaeth.  Bydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn goruchwylio'r gwaith o gynhyrchu'r strategaeth yn y flwyddyn 2022-23.  Mae cynllun deisebau hefyd wedi ei gynhyrchu a'i fabwysiadu, sy'n cysylltu â'r Strategaeth Cyfranogi, ac mae’n enghraifft o sut rydym yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddylanwadu ar gyfranogiad democrataidd yn dilyn cytuno arno ym mis Chwefror 2022.

Perfformiad

Fe wnaethom brynu’r system Engagement HQ yn 2020-21. Un o fanteision y system hon yw ei bod yn ein galluogi i gynnal trosolwg ar ymgyngoriadau, i ba raddau y mae pobl yn cymryd rhan a gwybodaeth eang am bwy sy'n ymgysylltu. Nid yw’r holl ymgyngoriadau yr ydym yn eu cynnal yn mynd drwy'r system Engagement HQ. Y llynedd roedd tua 35,000 o ymweliadau â’r rhan o’n gwefan sydd wedi’i neilltuo i ymgyngoriadau. Yn seiliedig ar ddadansoddiad y system o sut y defnyddiodd pobl hi, mae ychydig dros hanner y rhain ‘wedi’u hysbysu’ ac oddeutu un rhan o bump yn ymgysylltu.  Mae tua thraean o'r bobl ddefnyddiodd y system dros 65 oed, gyda'r mwyafrif helaeth o ddefnyddwyr eraill o oedran gweithio. Er bod y gyfran o ddynion a menywod a ymgysylltodd yn cyfateb i broffil Sir Benfro gyfan, mae cyfran y bobl o leiafrif ethnig ac, i raddau llai, o bobl anabl yn is nag yn y gymuned gyfan.

Roedd enghreifftiau o'r prosiectau mawr y gwnaeth pobl edrych ar wybodaeth amdanynt neu ymgysylltu arnynt yn cynnwys materion yn seiliedig ar wasanaeth fel yr Adolygiad o Ail Gartrefi a Chartrefi Gwag Hirdymor, newidiadau i Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu ac Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio ar y Parc Eco.  Fe ymgysylltodd pobl hefyd â materion ehangach fel ein cynlluniau ar gyfer cyflawni statws Carbon Sero Net erbyn 2030 - Y Cynllun Gwyrdd Mawr.  Mae Adran SA2.1 yn gwneud sylwadau ar yr ymgynghori a'r ymgysylltu a fu fel rhan o'r broses o bennu’r gyllideb flynyddol. 

Rhoddodd y Cyngor gymorth hefyd i ddatblygu Asesiad Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro ar gyfer ei Gynllun Llesiant newydd yn ogystal ag ymgynghoriad diweddar ar amcanion llesiant ar gyfer ei Gynllun 2023-2028.

Bu cynnydd yn y defnydd o ymgynghorwyr allanol ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori ar rai prosiectau, yn enwedig y rhai sy'n cael eu hariannu drwy'r rhaglen gyfalaf lle mae'r ymgynghoriad wedi ei gynnwys yn natblygiad ac yng nghyllid y prosiect ei hun. Mae enghreifftiau'n cynnwys ail-alinio'r A487 yn Niwgwl, adfywio Castell Hwlffordd ac ysgol gynradd Cyfrwng Cymraeg newydd ym Mhenfro.  Rydym hefyd wedi cyfeirio aelodau'r gymuned at ymgyngoriadau ar faterion trafnidiaeth, fel Teithio Llesol a cheir trydan sy'n cael eu cynnal gan Lywodraeth Cymru neu gyrff rhanbarthol. Un o fanteision defnyddio ymgynghorwyr allanol yw ei fod yn gwneud defnydd o safbwyntiau gwahanol yn ogystal â rhyddhau capasiti ein staff ni ein hunain.

Un o'r camau sydd wedi'u cynnwys yn ein Cynllun Gwella Llywodraethu Corfforaethol yw cynnal arolwg staff a datblygu cynllun gweithredu yn seiliedig ar ei ganlyniadau. Rydym wedi contractio gyda darparwr allanol, Culture Amp, i ymgymryd â'r gwaith hwn. Mae gwaith maes yn dechrau ym mis Medi 2022 gyda’r canlyniadau’n cael eu hystyried a chynllun gweithredu’n cael ei ddatblygu o fis Hydref 2022.

Yn ogystal â datblygu strategaeth cyfranogiad, mae'r Cynllun Gwella Llywodraethu Corfforaethol yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu a chyflawni strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu ar gyfer rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

Tystiolaeth (sut ydym ni'n gwybod?)

Trafodwyd y Cynllun Gwella Llywodraethu Corfforaethol yng nghyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, 11 Mawrth 2022. Cafodd drafft diweddaraf y Cynllun ei ystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 27 Medi 2022.

Agenda ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar ddydd Gwener, 11 Mawrth, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Agenda ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar ddydd Gwener, 27 Medi, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Mae gan bob adroddiad Cabinet adran ar asesiadau effaith ac mae hyn yn cynnwys ymgynghori

Dolen i gyfarfodydd y Cabinet o 6 Medi 2021 – Cyngor Sir Penfro

Mae adroddiadau cynnydd ar y Strategaeth Cyfranogiad yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd

Agenda ar gyfer y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ar ddydd Llun, 27 Mehefin, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Daw peth o'r dystiolaeth i ategu'r casgliad hwn o ddogfennau mewnol sydd heb eu cyhoeddi.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Adroddiad o Engagement HQ

Camau gwella (beth allwn ni ei wneud yn well a sut?)

Mae llawer o'r camau gweithredu yn yr adran hon yn brosiectau tymor canolig a byddant yn parhau yn ystod y flwyddyn 2022-23 fel y strategaeth cyfranogiad. Mae hwn yn ddarn sylweddol o waith ac rydym wedi datblygu cynllun ar gyfer sut i lunio'r strategaeth hon yn y flwyddyn 2022-23. Bydd y strategaeth hon yn ategu gwaith arall yn y Rhaglen Weinyddu o ran sut rydym yn cryfhau ein perthnasoedd â chymunedau a sut, trwy fwy o gyfranogiad ac ymgysylltu, y gallwn wella gallu cymunedau i wella eu llesiant eu hunain

Mae arnom eisiau gwella'r mecanweithiau adborth sydd ar waith yn dilyn ymgynghoriad fel bod pobl yn gwybod sut rydym yn defnyddio eu barn.

Mae arnom eisiau ehangu pwy sy'n ymgysylltu trwy gyfranogiad, ymgysylltu neu ymgynghori fel bod y rhai sy'n cymryd rhan yn adlewyrchu demograffeg Sir Benfro yn well. Nid yw diffyg cynrychiolaeth ddigonol o rai rhannau o'r gymuned yn unigryw i Gyngor Sir Penfro ac rydym eisoes yn cefnogi nifer o fecanweithiau ymgysylltu a chyfranogiad, yn enwedig i bobl ifanc.

 

ID: 9652, adolygwyd 08/03/2023