Hunanasesiad Blynyddol 2021-22

Crynodeb Gweithredol: SA5 - Amcanion Llesiant

I ddarparu ffordd weladwy a thryloyw o fesur lle rydym ar ein taith wella trwy amser caiff pob is-thema ei sgorio gan ddefnyddio'r system a nodir isod, ac mae’n darparu safbwynt sy’n ystyried y presennol ac yn edrych ymlaen.

  • Sgor 1: Perfformiad presennol-Rhagorol - Effeithiol
  • Sgor 2: Perfformiad presennol-Da - Wrthi’n gwreiddio
  • Sgor 3: Perfformiad presennol-Gweddol - Wrthi’n esblygu
  • Sgor 4: Perfformiad presennol- Gwael - Wrthi’n dod i’r amlwg

 

SA5.1: Addysg

SA5.2: Gofal Cymdeithasol

SA5.3: Tai

SA5.4: Datblygu Ac Adfywio Economaidd

SA5.5: Amgylchedd glân / Newid hinsawdd

SA5.6: Gwella a Thrawsnewid

 

SA5.1: Addysg

  • Perfformiad presennol: 3
  • Cyfnod gwella: 2

Amcan Llesiant - Sir Benfro yn lle gwych i ddysgu, byw a thyfu

Asesiad o'r perfformiad presennol (pa mor dda ydyn ni'n gwneud?)

Y cyd-destun ar gyfer ein hamcan llesiant Addysg Sir Benfro yn lle gwych i ddysgu, byw a thyfu yw Arolygiad Estyn ym mis Rhagfyr 2019. Canfu hwn gryfderau megis bod gweledigaeth uchelgeisiol wedi’i sefydlu, ond canfu hefyd feysydd lle y mae angen gwella megis dim digon o ffocws ar wella addysgu a bod yr arweinyddiaeth mewn ysgolion a’r safonau a gyflawnir gan y disgyblion ynddynt yn rhy amrywiol. 

Fe wnaeth pandemig COVID dorri ar draws dysgu ac mae wedi gwaethygu rhai o'r heriau presennol, yn enwedig cau'r bwlch cyrhaeddiad. Roedd yn anorfod bod COVID wedi torri ar draws y cynnydd o ran gwella ond mae arwyddion clir o welliant o 2019. 

Mae nifer yr ysgolion y mae ymyrraeth ffurfiol gan Estyn yn ofynnol ar eu cyfer wedi gostwng i un yn unig. 

Cydnabu Estyn fod y taflwybr ar gyfer gwella’n gadarnhaol ac y bu newid sylweddol mewn diwylliant ac yn yr ymrwymiad ar bob lefel i wella addysg. Roedd cydnabyddiaeth i’r canlynol:

  • Bod y weledigaeth ar gyfer addysg yn cael ei deall
  • Bod strategaethau a chamau gweithredu’r awdurdod lleol yn effeithio ar ysgolion mewn ffordd bwrpasol
  • Yr wybodaeth drawiadol sy’n bodoli ymhlith staff ac ysgolion
  • Bod penaethiaid wedi cyflawni rôl gefnogol iawn o ran cefnogi newid a gwelliant

Yng nghyd-destun y gwelliannau sylweddol hyn tynnodd Estyn sylw at yr angen i ddangos tystiolaeth o effaith barhaus gwaith gwella. Mae angen i strategaethau perthnasol a phrosesau a newidiwyd gael eu gwreiddio’n llawn. Yn gyffredin â nifer o feysydd eraill yn y Cyngor, nododd Estyn yr heriau parhaus a wynebir o ran recriwtio yn enwedig ar gyfer athrawon mewn pynciau STEM ac arweinyddiaeth ysgolion yn fwy cyffredinol. Mae strategaeth ddrafft ar gyfer y gweithlu Addysg wedi cael ei llunio mewn ymateb i hynny.

Trwy gydol y flwyddyn, cyflwynwyd diweddariadau ar gynllun Gweithredu Estyn i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion. Mae ymateb y Cyngor i'r cynllun hwn wedi cael ei gryfhau gan fewnbwn gan yr ymgynghoriaeth ISOS a chyflwynwyd trywydd i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion ym mis Mehefin 2021.

Yn gryno, y camau a gymeron ni yn ystod 2021-22 oedd

  • Canolbwyntio ar addysgu o ansawdd ym mhob ystafell ddosbarth. Mae ysgolion yn mabwysiadu amrywiaeth o ddulliau a oleuwyd gan dystiolaeth i gefnogi eu dulliau dysgu ac addysgu.  Mae'r prif ddulliau'n cynnwys un (neu gyfuniad) o’r canlynol: WalkThrus, Pecyn Cymorth Addysgu Gwych a Teach Like A Champ.  Ein hasesiad yw bod y gwaith hwn ar y trywydd iawn.
  • Disgwyliadau uchel i bawb gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed.  Mae'r rhaglen Codi Cyrhaeddiad Pobl Ifanc Ddifreintiedig (RADY), ynghyd â defnydd o'r grant amddifadedd disgyblion yn agweddau allweddol ar y gwaith hwn.  Mae 44 allan o 62 o ysgolion wedi mynychu’r holl hyfforddiant RADY ac mae 57 allan o 62 o ysgolion wedi mynychu o leiaf hanner y sesiynau a ddarparwyd. Ein hasesiad yw bod y gwaith hwn ar y trywydd iawn.
  • Cryfhau arweinyddiaeth ysgolion.  Roedd y camau gweithredu'n cynnwys cefnogi ffederasiynau meddal a chaled, rhoi mwy o gydnerthedd i uwch dimau arwain yn ogystal â galluogi datblygiad proffesiynol drwy'r Rhaglen Arweinyddiaeth Genedlaethol. Ein hasesiad yw bod y gwaith hwn ar y trywydd iawn.
  • Cryfhau effaith gweithio ysgol-i-ysgol.  Mae gwaith yn canolbwyntio ar gydweithio drwy glystyrau a thrwy rwydweithiau uwch arweinwyr ac arweinwyr y cwricwlwm.  Ein hasesiad yw bod cynnydd yn cael ei wneud gyda’r gwaith hwn, ond ei fod yn dal yn ei gamau cynnar.
  • Gweithredu Partneriaeth yn lle ERW, y consortiwm gwella ysgolion rhanbarthol.  Mae'r gwaith yma wedi ei gwblhau yn ei hanfod ac mae'r consortiwm newydd bellach ar waith.

Mae ymgynghorwyr her yn gweithio'n uniongyrchol gydag ysgolion i'w cynorthwyo i ddadansoddi eu data yn ôl yr angen. Mae ystod ehangach o strategaethau yn effeithio ar wella ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth ac mae'r strategaethau hyn wedi cael eu hariannu a'u cefnogi gan y Cyngor. Ar lefel gorfforaethol, mae'r Cyngor yn cymryd camau cryf ac amserol gydag ysgolion sy’n achosi pryder a, pan fo’n briodol, adroddir ar hyn yn uniongyrchol o dan eitem gyfrinachol yn y Bwrdd Gwella Addysg.

Mae cryn dipyn o waith wedi'i gwblhau ar ddiwygio ADY yn sgîl y Ddeddf ADY ac ar waith mewn partneriaeth gyda'r gwasanaeth iechyd (er enghraifft therapi iaith a lleferydd). Fe wnaethom barhau i gyflwyno Ysgolion sy’n Deall Trawma (TIS) a Chynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol, er enghraifft, fe gofrestrodd 19 o ysgolion ar gyfer y Prosiect ELSA ym mis Medi 2022.

Mae'r cymorth ar gyfer cerddoriaeth a chwaraeon yn dal i fod â ffocws newydd ar bobl ifanc ddifreintiedig neu’r rhai a oedd yn debygol o gymryd rhan. Er enghraifft, o ganlyniad i brosiect mewn un ysgol uwchradd o dan faner Codi Cyrhaeddiad Pobl Ifanc Ddifreintiedig cafodd carfan o 50+ o ferched CA3 fudd o sesiynau chwaraeon a gweithgarwch corfforol ychwanegol, gan eu cyflwyno i rwydwaith cymdeithasol ehangach a gwella eu hempathi tuag at eraill. Mae rhaglen 'Celfyddydau Creadigol' 

Gwasanaeth Cerddoriaeth Sir Benfro yn dal i gael ei chyflwyno mewn 10 ysgol o amgylch y sir.  Ar ôl bwlch o 2 flynedd, mae Gwasanaeth Cerddoriaeth Sir Benfro wedi llwyddo i ailddechrau ymarferion Ensemble Sirol wyneb yn wyneb gyda thros 70 o bobl ifanc yn mynychu'n wythnosol.

Un maes lle mae angen datblygiad pellach o hyd yw'r broses yr ydym yn ei defnyddio i werthuso ein cynnydd ein hunain.  Mae dwy her wahanol i'w goresgyn. Y gyntaf yw cyflwyno gwybodaeth deg sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau am gyrhaeddiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi symud i ffwrdd o gyflwyno gwybodaeth sy'n cael ei choladu ar lefel awdurdod lleol ac mae hefyd wedi rhoi’r gorau i’r broses categoreiddio ysgolion. Yr ail yw canfod pa mor dda y mae'r Cyngor fel awdurdod addysg lleol yn cynorthwyo cyrff llywodraethu ysgolion, arweinwyr ysgolion a chymuned ehangach ysgolion i godi cyrhaeddiad. Ar gyfer hyn mae arnom angen mwy o fesurau ansoddol o safbwyntiau rhanddeiliaid am y cymorth yr ydym yn ei roi.  Mae fframwaith gwerthuso Guskey yn un ffordd y gellir cyflawni hyn. Ar lefel gorfforaethol, un o'r ychydig fesurau sy'n dal i fodoli yw absenoldeb disgyblion ac mae’n anorfod bod pandemig parhaus COVID wedi camystumio’r data yma. Mae ein dealltwriaeth orau am y data cymharol cyfyngedig sydd ar gael yn awgrymu bod y sefyllfa yn Sir Benfro ychydig yn well na mewn mannau eraill.

Fe wnaethom barhau i weithredu Band B Rhaglen Ysgolion 21C a sefydlu blaenoriaethau ar gyfer cyfrannau pellach. Symudodd Ysgol Gynradd Gymunedol Waldo Williams i'w safle newydd ym mis Mawrth 2022 ac fe wnaed cynnydd da yn ystod y flwyddyn ar Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd (a gwblhawyd ar amser ym mis Medi 2022). Mae trafodaethau helaeth wedi cael eu cynnal ynghylch yr opsiynau a ffefrir ar gyfer Ysgol Portfield, yr Uned Cyfeirio Disgyblion ac Ysgol Aberdaugleddau. Cafwyd cymeradwyaeth y Cabinet a'r Cyngor ar gyfer Rhaglen Amlinellol Strategol Band B ddiwygiedig ac mae gwaith wedi dechrau ar Achos Amlinellol Strategol Portfield.

Tystiolaeth (sut ydym ni'n gwybod?)

Mae’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu wedi ystyried Cynllun Gweithredu Ôl-arolygiad Estyn ac adroddiadau ar wella ysgolion

Agenda ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Ysgolion a Dysgu ar ddydd Iau, 25 Tachwedd, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Cofnodion cyfarfodydd Bwrdd Ysgolion C21.  Ystyrir y rhain gan y Cabinet trwy gydol y flwyddyn ac mae'r rhai mwyaf diweddar isod:

Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Llun, 14 Mawrth, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Llun,13 Mehefin, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Daw peth o'r dystiolaeth i ategu'r casgliad hwn o ddogfennau mewnol sydd heb eu cyhoeddi. Mae hyn yn cynnwys

  • Cynlluniau Gwasanaeth Tymor Canolig Addysg
  • Cyflwyniad Estyn i'r Uwch Dîm Arwain 2 Mawrth 2022

Camau gwella (beth allwn ni ei wneud yn well a sut?)

Mae’r camau gwella yn adlewyrchu'r rhai yn y Cynllun Gweithredu Ôl-arolygiad y cytunwyd arno gydag Estyn. Mae'r rhain yn dal i gael eu hadolygu gan y Bwrdd Gwella Addysg, a'r tro diwethaf i hynny gael ei wneud oedd 7 Mehefin 2022.

  • Llwybrau dysgu/ Cwricwlwm / hawl
  • Iechyd a lles rhagorol ar gyfer dysgwyr
  • Dysgu ac amgylchedd dysgu C21
  • Y gweithlu addysg
  • Partneriaeth
Canolbwyntio ar addysgu o ansawdd ym mhob ystafell ddosbarth, bob dydd i wella canlyniadau a chyflymu'r cynnydd i bob disgybl  

Mae pedair rhan i sut y byddwn yn gwneud hyn:

  • trwy ddefnyddio pecynnau cymorth ac adnoddau eraill i wella’r modd y caiff gwersi eu cyflwyno
  • cryfhau sut mae ysgolion yn cefnogi ei gilydd trwy glystyrau o ysgolion
  • Cryfhau arweinyddiaeth ysgolion
  • Gweithredu strategaeth i ddenu, lleoli a datblygu llywodraethwyr, a sicrhau bod y cymorth a roddwn yn ei gwneud yn bosibl proffesiynoli rôl cyrff llywodraethu.
Darparu llwybrau sy'n briodol i anghenion pob dysgwr, wedi'u seilio ar y Cwricwlwm i Gymru

Bydd hyn yn cynnwys ehangu Prentisiaethau Iau Cyfnod Allweddol 4 a chyfleoedd dysgu cyfunol yn Nghyfnod Allweddol 4/5 (e.e. gwersi trwy gyswllt fideo byw yn ogystal â mireinio darpariaeth Seren i ddisgyblion Mwy Abl a Thalentog o deuluoedd incwm isel).

Gosod disgwyliadau uchel i bawb gan gynnwys y rhai mwyaf agored i niwed

Bydd y gwaith yn cynnwys rhoi'r  rhaglen Codi Cyrhaeddiad Pobl Ifanc Ddifreintiedig ar waith, a chyflwyno Tiwtora Cymheiriaid i ddisgyblion sydd â'r hawl i Brydau Ysgol am Ddim

Cyflawni, addasu a gwreiddio'r diwygiadau cenedlaethol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol  

Bydd y gwaith yn cynnwys cefnogi llesiant plant ag ADY, sicrhau gwaith mewn partneriaeth ar draws gwasanaethau i wreiddio'r Ddeddf ADYTA a chynnig cymorth cynghori mewn perthynas ag anawsterau prosesu synhwyraidd i blant ac ysgolion

Gwreiddio Partneriaeth, y consortiwm gwella ysgolion rhanbarthol newydd

Byddwn ni'n datblygu'r strwythurau a'r cytundebau cyfreithiol ar y cyd y bydd eu hangen ar Partneriaeth yn ogystal â'r gwasanaethau y bydd y consortiwm newydd yn eu darparu i ysgolion.

Parhau i weithredu Band B Rhaglen Ysgolion 21C a sefydlu blaenoriaethau ar gyfer cyfrannau pellach

Yn amodol ar fforddiadwyedd bydd rhywfaint o fuddsoddiad yn cael ei wneud drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.  Bydd y buddsoddiad hwn o fewn y fframwaith a ddarperir gan y Cynllun Trefniadaeth Ysgolion sydd hefyd yn cynnwys ehangu Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg.

Yn ogystal â'r eitemau uchod, bydd y Cyngor yn bwrw ymlaen â'r Cynllun Strategol Cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer 2022 - 2031. 

Mae hwn yn cynnwys saith deilliant gyda ffocws penodol ar gynnig addysg cyfrwng Cymraeg i grwpiau oedran iau ac yna parhau â'r ddarpariaeth hon drwy eu taith ddysgu. Mae'r Cynllun yn gyson â gwireddu dyhead Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a dyma gonglfaen cyfraniad y Cyngor tuag at hynny.

Mae’n dod yn amlwg, oherwydd newid demograffig, y bydd angen i’r Cyngor ystyried cynllun ad-drefnu ysgolion gydag unrhyw gynllun y cytunir arno’n cael ei roi ar waith dros y tymor canolig neu o bosibl y tymor hir.

 

SA5.2: Gofal Cymdeithasol

  • Perfformiad presennol: 2
  • Cyfnod gwella: 3

Amcan Llesiant - Byddwn yn gwneud beth bynnag a allwn i gefnogi pobl i fyw’r bywyd gorau y gallant tra’n canolbwyntio ar atal a sicrhau bod pobl sy’n agored i niwed yn ddiogel.

Asesiad o'r perfformiad presennol (pa mor dda ydyn ni'n gwneud?)

Y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gofal cymdeithasol yw'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Mae hon yn pwysleisio llais defnyddwyr a rheolaeth defnyddwyr. Er gwaethaf y pwysau sydd ar wasanaethau, yn eu harolygiad diweddar fe ganfu Arolygiaeth Gofal Cymru, yn y gwasanaethau oedolion, fod llawer o bobl yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol a nodwyd ganddynt hwy eu hunain ac yn dweud eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch. Canfu AGC fod taliadau uniongyrchol yn cael eu defnyddio’n gadarnhaol, gan gynnwys gan bobl ag anghenion cymhleth. Canfu enghreifftiau cadarnhaol o oedolion a phlant yn cael cynnig gwasanaeth eirioli a’r manteision y mae hyn yn eu dwyn o ran datblygu gofal a chymorth. Canfu adroddiad AGIC hefyd broblemau sy'n deillio o gapasiti a llwyth gwaith.

Roedd ein gwaith yn 2021-22 ar gyfer Gofal Cymdeithasol yng nghyd-destun COVID. Rhoddodd hyn bwysau pellach ar weithwyr gofal cymdeithasol a oedd eisoes dan bwysau, yn y Cyngor ac yn y sector annibynnol. Fe wnaeth COVID ddatgelu’r cysylltiadau cryf rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a'r angen i integreiddio'r ddau sector yn well er ymateb i’r pwysau sylweddol mewn rhai rhannau o'r system, yn enwedig gofal heb ei drefnu. Mae COVID wedi tueddu i waethygu'r heriau (a'r cyfleoedd) a oedd yn amlwg ym maes gofal cymdeithasol ar ddechrau 2020 megis maint a chymhlethdod cynyddol y galw, trafferthion recriwtio a chadw a gweithio gyda chymunedau i gryfhau gwasanaethau ataliol. Mae'r pwysau hyn yn bodoli mewn gwasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant ond oherwydd y nifer uwch o gleientiaid, maent yn haws i’w gweld yn y gwasanaethau oedolion. Yn y gwasanaethau Plant, er ein bod yn rhyddhau mwy o ofal nag yr ydym wedi ei wneud erioed, mae’r niferoedd mewn gofal yn aros yr un fath oherwydd y galw cynyddol.

Mae angen i unrhyw farn am berfformiad yn 2021-22 ystyried y cyd-destun, ond mae angen i ni fod yn ymwybodol o hyd bod lefel absoliwt y perfformiad yn llawer is na'r lefel yr ydym yn dyheu amdano. Yng ngeiriau adroddiad diweddaraf AGC

"Mae Cyngor Sir Penfro wedi bod yn profi cyd-destun gofal cymdeithasol heriol, fel y mae awdurdodau lleol eraill ledled Cymru; gwelir cynnydd yn y galw am y gwasanaeth, a chynnydd yn y cymhlethdod ar draws y gwasanaeth, ynghyd ag 

anawsterau cyflenwi’r gweithlu. Mae hyn yn cael ei amlygu yn ymatebion staff ar draws ein gweithgarwch arolygu, ac o’r herwydd heriau cyflawni gofynion llwyth gwaith uchel. Mae’r sefyllfa staffio bresennol yn cael effaith andwyol ar allu gweithwyr i hybu llesiant plant ac oedolion."

Fe wnaethom roi nifer o fentrau yn eu lle i greu strwythur gweithlu diwygiedig sy'n adlewyrchu'r galwadau cynyddol ar y gwasanaeth. Rhan allweddol o hyn yw mynd i'r afael â recriwtio a chadw gweithlu addas i ddarparu gofal cymdeithasol. Gan bod recriwtio allanol i swyddi wedi profi’n anodd fe wnaethom gynnal ymgyrch marchnata a gafodd lwyddiant cymysg. Cawsom niferoedd da’n ymgeisio am swyddi Gweithwyr Cymdeithasol dan Hyfforddiant; fodd bynnag, nid yw hyn yn mynd i'r afael â her llenwi swyddi ar gyfer staff profiadol sydd oddeutu 10% ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion ac 8% ar gyfer gofal cymdeithasol i blant. Ar y cyfan, nid ydym wedi tyfu ein sefydliad i ateb y galw cynyddol ac mae risg y bydd maint y gwaith yn arwain at anawsterau cadw.

Yn dilyn cyfnod hir lle’r oedd gwasanaethau uniongyrchol yn cael eu rhoi ar gontract i'r sector annibynnol, rydym yn awr yn dechrau darparu ystod fwy o wasanaethau yn uniongyrchol. Mae hyn yn ymateb uniongyrchol i'r breuder yn y sector annibynnol, yn enwedig ar gyfer darparwyr gofal domestig. Mae’r broblem mor enbyd fel ein bod weithiau wedi defnyddio gwasanaethau gofal preswyl i gwsmeriaid y mae’n fwy addas eu bod yn cael cymorth gofal cartref o fewn eu cartrefi eu hunain. Ein nod yw tyfu ein gwasanaethau gofal cartref mewnol gan ddwyn cynnydd o 1000 o oriau ychwanegol yr wythnos. Bu recriwtio ychwanegol yn llwyddiannus ond dim ond wedi aros gyfuwch â cholli staff y mae felly ni welwyd cynnydd net sylweddol. Rydym wedi gweithio gyda'r bwrdd iechyd ac eraill i greu prentisiaethau ac rydym wedi cydweithio gyda rhaglen enghreifftiol Bevan.

Fe wnaethom ymgymryd ag amrywiaeth eang o fentrau i recriwtio gofalwyr maeth, i sicrhau bod plant yn cael eu lleoli yn nes at adref (gan wella ansawdd y gwasanaeth a lleihau'r gost). Roedd rhai ohonynt yn rhan o fentrau cenedlaethol, eraill yn fentrau mwy lleol megis cynllun Grantiau Adeiladau Gofalwyr Maeth. Canlyniad hyn oedd i ni gymeradwyo wyth gofalwr maeth newydd, gan olygu bod cyfanswm o ddeuddeg lleoliad newydd ar gael i blant yn Sir Benfro. Yn ystod y flwyddyn cafodd 40 o blant eu rhoi mewn lleoliadau gofal maeth mewnol ac ni chafodd yr un plentyn ei roi mewn lleoliad annibynnol dros yr un cyfnod.

Roedd diddymu Gorchmynion Gofal a defnyddio gorchmynion Gwarcheidiaeth Arbennig yn eu lle yn un o’r nodau ar gyfer 2021-22. Mae gorchymyn gofal pump o blant wedi cael ei ddiddymu ers Mehefin 2021, gyda photensial i 15 arall fynd ymlaen i'r llys i ystyried cais am ddiddymu yn ystod y 12 mis nesaf.

Ar gyfer cyfleoedd dydd mae rheolwr biwro bellach yn ei swydd ac wedi’i gysoni â rheolwr y gwasanaeth atal.  Ym Mhenfro, mae gwaith wedi dechrau ar gyfer caffi a fydd yn cael ei redeg fel menter gymdeithasol yn y Ffowndri. Bydd datblygiad Cei’r De, 

Penfro hefyd yn cynnwys darparu cyfleoedd dydd.  Er bod cyfleoedd dydd yn cynnig ystod eang o wasanaethau, mae eu datblygiad wedi'i siapio gan strategaeth a bwrdd partneriaeth anableddau dysgu llwyddiannus a chynhyrchiol.

Mae prosiectau ail-alluogi yn mynd rhagddynt, megis ailddatblygu Haverfordia House (cyflwynwyd cais cynllunio ym mis Ionawr 2022), Disgwylir i'r cyfleuster hwn gynnwys cymysgedd o 12 uned ail-alluogi ag ystafelloedd ymolchi cysylltiedig, a 25 o randai i weithredu fel tai gwarchod ar gyfer pobl dros 55.

Mae systemau rheoli achosion TG effeithiol yn lleihau llwyth gwaith 'cefn swyddfa' ac yn cefnogi arfer mwy effeithiol. Yn ystod 2021-22 parhaodd y gwaith ar baratoi ar gyfer ein system TG newydd 'Eclipse' er bod y broses o’i rhoi ar waith wedi cael ei gohirio o fis Mai tan fis Medi 2022. Nid yw Sir Benfro’n un o'r awdurdodau sy'n gweithredu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru.

Tystiolaeth (sut ydym ni'n gwybod?)

Mae'r Cerdyn Sgorio Perfformiad Corfforaethol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn cynnwys ystod o ddangosyddion perfformiad ar ofal cymdeithasol ym mis Ionawr 2022

Agenda ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar ddydd Iau, 20 Ionawr, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Mae'r agenda ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad y gwasanaethau cymdeithasol yn ogystal ag am y galw am ofal cymdeithasol ac adroddiad AGC isod

Agenda ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ar ddydd Iau, 8 Medi, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Adroddiad AGC ar Arolygiad Gwerthuso Perfformiad

Daw peth o'r dystiolaeth i ategu'r casgliad hwn o ddogfennau mewnol sydd heb eu cyhoeddi.  Mae hyn yn cynnwys:

  • Cynlluniau Gwasanaeth Tymor Canolig ar gyfer Gofal Cymdeithasol: Oedolion, Plant, Comisiynu, Perfformiad a’r Uned Fusnes

Camau gwella (beth allwn ni ei wneud yn well a sut?)

Mae mynd i’r afael â’r oedi gyda helpu pobl i gyflawni eu deilliannau (e.e. asesu neu roi gwasanaeth yn ei le) yn flaenoriaeth allweddol. Mae hyn yn effeithio ar lesiant pobl a'u boddhad gyda gwasanaethau. Bydd mynd i’r afael ag oedi yn ei gwneud hi'n haws gweithredu prosesau i atal cynnydd mewn angen ac i flaenoriaethu gwaith.  Bydd mynd i’r afael ag oedi hefyd yn cryfhau gwaith diogelu ac yn sicrhau bod cofnodion cyfoes yn bodoli. Yn ystod rhan gyntaf 2022-23, fe ymdriniwyd â’r ôl-groniad o asesiadau trwy ddefnyddio cymorth asiantaeth; fodd bynnag, yn y cyfnod hwn hefyd gwelwyd pwysau a ddeilliodd o gynnydd yn y galw a’r ffaith bod phobl wedi cymryd gwyliau dros yr haf.

Mae materion recriwtio a chadw yn thema gyffredin drwy’r hunanasesiad hwn. Mae'r materion hyn yn fwy llym ym maes gofal cymdeithasol ac yn galw am strategaeth gyfannol i fynd i'r afael â ffactorau lluosog fel cost tai. Mae'n amlwg bod angen i ni gynyddu'r adnodd staffio uwchben y cyfanswm presennol ar draws gwasanaethau plant ac oedolion er mwyn ateb y galw uwch. Byddwn yn parhau â'r dull 'tyfu ein talent ein hun' i wneud hyn, er enghraifft drwy hyfforddeiaethau Gweithwyr Cymdeithasol. Byddwn hefyd yn parhau i hyrwyddo gofal cymdeithasol fel dewis yrfa.

Mae angen cydweithio gwell gyda gweithwyr yn y sector iechyd yn enwedig mewn meysydd cymorth cymharol arbenigol fel iechyd meddwl, anableddau dysgu ac awtistiaeth. Enghraifft arall lle mae angen cydweithio gwell yw pontio rhwng gwasanaethau plant ac oedolion.

Byddwn yn parhau i gynnig cyfleoedd dydd ystyrlon a gwasanaethau seibiant i deuluoedd/ gofalwyr unigo

Gwneud gwaith pellach i ddatblygu’r tîm sy'n gweithredu'r Ddeddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) sy'n disodli’r deddfwriaeth Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid. Byddwn hefyd yn datblygu gwasanaeth Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig â buddsoddiad trwy’r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol.

Trwy ddatblygu ein dull comisiynu, mae angen i ni adeiladu marchnad amrywiol a bywiog i ddiwallu anghenion o ran y galw. Prosiect tymor hwy yw hwn a fydd yn cael ei wireddu trwy ddatblygu micro-fentrau, hyrwyddo taliadau uniongyrchol (gan gynnwys ar gyfer gofalwyr) Byddwn hefyd yn datblygu modelau gofal amgen megis defnyddio technoleg, platfformau digidol, a modelau prif ganolfan a lloerennau er mwyn ehangu'r dewis a chynyddu capasiti. Mae’r adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022 (gweler SA 4.2 Gweithio’n Rhanbarthol) yn nodi'r her yn ogystal â chyfeirio at arferion da.

Er mwyn lleihau ein dibyniaeth ar wasanaethau a gomisiynwyd ac amrywiadau o fewn y farchnad, byddwn yn parhau i ddatblygu darpariaeth fewnol ar draws gofal cymdeithasol gan gynnwys darpariaeth breswyl ar gyfer plant i ofalu am fwy’n nes at adref.

Parhau i ddatblygu amrywiaeth o fentrau atal / ymyrryd yn gynnar gan leihau'r galw ar wasanaethau statudol. Mae enghreifftiau'n cynnwys lansio'r Hyb Cymunedol (Mehefin 2022, rhan o'r Cynllun Gweithredu Adfer Cymunedau), cynyddu gweithgareddau mentrau cymdeithasol a datblygu cymunedol.

Bydd angen i ni hefyd ymateb i newidiadau tebygol yn yr agenda comisiynu rhanbarthol megis mwy o ffurfioli prosesau mewn perthynas â chomisiynu ar y cyd a pharhau â gwaith sicrhau ansawdd.

Byddwn yn parhau i weithredu'r system rheoli data Eclipse a gwella sut y mae timau cymorth yn galluogi gofal cymdeithasol, er enghraifft trwy wybodaeth reoli, adennill dyledion a buddsoddi ymhellach yn y swyddogaeth Penodeiaeth / Dirprwyaeth.

 

SA5.3: Tai

  • Perfformiad presennol: 3
  • Cyfnod gwella: 3

Amcan Llesiant - Tai: Gwneud cartrefi fforddiadwy, gweddus ac addasadwy yn bosibl i bawb mewn lleoliadau cynaliadwy

Asesiad o'r perfformiad presennol (pa mor dda ydyn ni'n gwneud?)

Cyd-destun

Mae Cyngor Sir Penfro yn un o 11 awdurdod lleol yng Nghymru sydd wedi cadw ei stoc dai ei hun. Mae ein gwaith ar dai yn perthyn i ddau gategori; ein rôl fel landlord yn rheoli, atgyweirio ac ailosod 5,500 o gartrefi a swyddogaeth dai fwy cyffredinol: rhoi cyngor a chynhorthwy i bobl sy’n wynebu risg o fod yn ddigartref, rhoi cymorth i bobl y mae arnynt angen cymorth ychwanegol i fyw yn y gymuned a gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid i ddatblygu’r holl dai yn Sir Benfro fel eu bod yn cwrdd ag anghenion cymunedau. 

Mae mynd i'r afael â materion tai yn galw am waith gwirioneddol gydweithredol ar draws y Cyngor yn ei gyfanrwydd (er enghraifft, timau comisiynu gofal cymdeithasol, y gwasanaeth ieuenctid, y tîm cynnal a chadw adeiladau, y tîm refeniw a budd-daliadau yn 

ogystal â’r gwasanaeth cynllunio) yn ogystal â chyda sefydliadau partner, er enghraifft cymdeithasau tai, y gwasanaeth iechyd a'r trydydd sector. Gellir gweld effeithiau'r argyfwng tai presennol hefyd yn yr anawsterau recriwtio i ni ein hunain a sefydliadau eraill yn ogystal ag yn ehangach mewn materion cydlyniant cymunedol.

Diweddariad ar gynnydd

Roedd y farchnad dai yn arbennig o heriol yn ystod 2021-22 gyda chynnydd ym mhrisiau tai yn effeithio ar fforddiadwyedd a gostyngiad sylweddol yn argaeledd tai rhent preifat (yn rhannol o ganlyniad i gynnydd mewn ail gartrefi/llety gwyliau, yn rhannol oherwydd canfyddiadau landlordiaid am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru)).  Canlyniad hyn fu cynnydd mewn digartrefedd yn ogystal â chynnydd yn y galw am dai cymdeithasol. Ar ddiwedd y flwyddyn roedd 418 o bobl mewn llety dros dro ac yn ddigartref gartref, cynnydd sylweddol o'i gymharu â 173 ym mis Ebrill 2021. Fe wnaeth nifer y plant o dan 16 oed yn ein llety dros dro gynyddu o 31 i 111 dros y flwyddyn. Bu cynnydd cyson mewn ceisiadau am gymorth gyda digartrefedd dros y flwyddyn hefyd, o 57 ym mis Ebrill 2021 i 113 ym mis Mawrth 2022. Mae hyn wedi arwain at bwysau llym ar staff tai ac mae llwythi achosion wedi dyblu dros y 18 mis diwethaf. 

Cynhaliwyd adolygiad integredig o’r gwasanaeth tai i gryfhau gwasanaethau cymorth tai sy'n ceisio atal digartrefedd a chynorthwyo pobl i gael llety hirdymor.  Roedd cylch gwaith yr adolygiad yn cwmpasu ystod o wasanaethau’r cyngor a chanlyniad hyn oedd recriwtio staff ychwanegol i mewn i'r gwasanaeth gan roi capasiti ychwanegol i weithio gyda chwsmeriaid ag anghenion cymhleth, pobl ddigartref gan gynnwys y rhai sy'n dod at y gwasanaeth yn aml. 

Er y gallwn gyfeirio at rywfaint o lwyddiant o ran ehangu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, mae maint yr argyfwng digartrefedd yn her sylweddol i lesiant yn y dyfodol yn ogystal ac ysgogi cynnydd sylweddol mewn gwariant.

Er i nifer y tai cymdeithasol gynyddu drwy fuddsoddiad o £11,275, cafwyd ergyd i’r cynnydd gyda’n Rhaglen Datblygu Tai ni ein hunain pan gafodd y prif ddatblygwr tai a benodwyd ar gyfer tri o'r cynlluniau ei ddiddymu. Mae hyn wedi arwain at oedi cyn cwblhau un datblygiad ac oedi cyn dechrau dau arall.  Mae contractwr arall bellach wedi'i benodi ar gyfer y cynllun parhaus yn Johnston ac mae i fod i gwblhau’r datblygiad yng ngaeaf 2022. Mae ymgynghorwyr dylunio yn eu lle ar gyfer datblygiadau Haverfordia a Brynhir, sydd ill dau’n gynlluniau sylweddol a fydd yn cael eu datblygu yn y tymor canolig.  Rydym wedi prynu 57 eiddo, gan gynnwys 46 o hen unedau eiddo’r Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn ychwanegu at bortffolio tai’r Cyfrif Refeniw Tai. Rydym hefyd wedi cymryd y cam anarferol i brynu rhai unedau eiddo a arferai berthyn i’r sector rhentu preifat pan oedd eu tenantiaid yn wynebu bygythiad o droi allan am bod ar eu landlord eisiau gwerthu'r eiddo.

Yn ystod y flwyddyn 2021-22, aeth y Cyngor trwy broses adolygu ac ymgynghori ar y lefel fwyaf priodol ar gyfer y premiymau’r dreth gyngor ar dai gwag ac ail gartrefi. O ganlyniad, cynyddwyd y premiwm ar dai gwag i 100% ar gyfer y flwyddyn 2022-23. Mae cynnydd cyfyngedig wedi'i wneud ar ddatblygu tai fforddiadwy newydd gan ddefnyddio cyllid a godwyd o'r premiymau.

Yn 2021-22 gwelwyd ffocws llawer tynnach ar newid hinsawdd. Erbyn hyn mae disgwyl i ni sicrhau bod ein stoc dai yn agos at statws carbon sero erbyn 2030. Rydym yn gwneud cynnydd, er enghraifft sicrhau cyllid o Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) Llywodraeth Cymru ar gyfer 50 o dai (tua 1% o'n stoc ar y cyfan) sydd â phroblemau gwresogi ac awyru, a fydd yn werth £298,000. Fodd bynnag, mae hon yn dasg hynod anodd i'w chyflawni o fewn yr amserlen hon a bydd angen buddsoddiad sylweddol fel y dengys cost fesul eiddo gwaith a ariennir â chyllid ORP.

Mae’r rhestr aros ar gyfer cofrestr Cartrefi Dewisedig wedi parhau i gynyddu o 4,930 i 5,545 rhwng Ebrill 21 a Mawrth 22 gyda 27% o'r rhain yn y band aur, a 60% angen llety ag 1 ystafell wely. Yn ystod naw mis cyntaf y flwyddyn, dim ond 233 o denantiaethau newydd oedd, llawer llai nag arfer, gan leihau ein gallu i ddiwallu'r angen. Fe wnaethom ni fuddsoddi i ddigideiddio'r system Cartrefi Dewisedig ac erbyn hyn mae 90% o geisiadau am eiddo yn cael eu gwneud ar-lein. Mae adolygiad o'r system dyrannu tai wedi cael ei atal am y tro oherwydd pwysau sy'n cystadlu â’i gilydd ar adnoddau ac mae'n werth nodi bod y pwysau presennol ar ddigartrefedd yn golygu y bydd cyfran uchel o unedau a ail-osodir yn dal i fod y rhai mewn lefelau uchel iawn o angen (blaenoriaeth, is-set o fewn y band aur).

Fe gynhaliom ni Arolwg Boddhad Cwsmeriaid gyda'n holl gwsmeriaid tai. Roedd hwn yn seiliedig ar dempled arfer gorau a ddefnyddir yn eang gan ddarparwyr tai yn ogystal â chwestiynau ychwanegol am wasanaethau Tai, atgyweiriadau, rhent, cyfathrebu, technoleg ddigidol, cymdogaeth a datgarboneiddio. Cawsom 923 o ymatebion gan denantiaid a ymatebodd ar ffurf copïau caled, trwy gwblhau ar-lein neu dros y ffôn. Ar y cyfan mae 74% o denantiaid yn fodlon ar y gwasanaeth a ddarperir gan y gwasanaeth Tai gyda 74% hefyd yn fodlon ar ansawdd cyffredinol eu cartref.

Yn ystod 2021-22, fe wnaethom barhau i ddal i fyny â gwaith atgyweirio a oedd wedi'i ohirio yn ystod COVID. Fe ddechreuom ni'r flwyddyn gydag ôl-groniad sylweddol o waith atgyweirio. Yn ystod 2021-22 bu cynnydd cyson yn nifer y ceisiadau am waith wrth i ni ddod allan o'r pandemig. Dyfarnwyd y Fframwaith Mân Waith newydd ym mis Chwefror 2022 a bydd hwn yn helpu i glirio'r ôl-groniad.

Fe wnaethom gynnal holiadur ymgynghori â Sipsiwn a Theithwyr a gyhoeddwyd i’r holl breswylwyr ar Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn Haf 2021. Lluniwyd adroddiad ar y canfyddiadau ynghyd â Chynllun Gweithredu. Roedd yr anfodlonrwydd a fynegwyd yn yr adborth yn ymwneud ar y cyfan â chyfathrebu a chynnal a chadw safleoedd. Mae grŵp Rhanddeiliaid wedi'i sefydlu i ddechrau mynd i'r afael â’r adborth. Fe wnaeth Adroddiad gan y Senedd ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr ledled Cymru a gyhoeddwyd ym mis Awst 2022 dynnu sylw at yr angen am fuddsoddiad ledled Cymru er ei bod hi'n werth nodi, o ran darpariaeth, bod gan Sir Benfro nifer uchel o safleoedd Sipsiwn a Theithwyr o'i gymharu ag ardaloedd cynghorau eraill.

Tystiolaeth (sut ydym ni'n gwybod?) 

Fe wnaeth y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau ystyried adroddiad ar dai, atgyweirio a chynnal a chadw adeiladau

Agenda ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau ar ddydd Llun, 14 Mawrth, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Cyfarfod y Cabinet lle cytunodd ar Gynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai 2022 – 52 sy'n nodi'r cynlluniau i fuddsoddi dros y 50 mlynedd nesaf yn stoc dai’r Cyngor ei hun.

Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Llun, 14 Mawrth, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Daw peth o'r dystiolaeth i ategu'r casgliad hwn o ddogfennau mewnol sydd heb eu cyhoeddi. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cynllun Gwasanaeth Tymor Canolig ar gyfer Tai

Camau gwella (beth allwn ni ei wneud yn well a sut?)

Datblygu Strategaeth Tai ar gyfer Sir Benfro, gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â fforddiadwyedd, cynnwys partneriaid allweddol a darparu'r fframwaith ar gyfer targedu adnoddau sydd ar gael o bremiwm y dreth gyngor, symiau gohiriedig, rhaglen y Grant Tai Cymdeithasol, perchentyaeth cost isel (LCHO) / opsiynau rhent. Bydd hyn hefyd yn cynnwys Rhaglen Datblygu Tai Cyngor gadarn ac ystyried cynlluniau 'Pecyn Parod' ar gyfer datblygwyr preifat.

Adolygu'r defnydd o elfen tai fforddiadwy premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi a thai gwag i sicrhau bod mwy o dai ar gael mewn ardaloedd gwledig er enghraifft trwy swyddog galluogi tai gwledig 

Byddwn ni'n gwella sut y mae ein Polisi Dyraniadau Tai yn gweithio trwy gynnal adolygiad o Bolisi Cartrefi Dewisedig yn Sir Benfro.

Cynnal a gwella ansawdd a hygyrchedd y stoc dai, gan gynnwys cydymffurfiaeth barhaus â SATC, datblygu Cynllun Datgarboneiddio ar gyfer ein stoc tai cyngor, a gwneud y mwyaf o gyfleoedd ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni tai yn y sector preifat.

Gwella hygyrchedd tai trwy ddarparu addasiadau i bobl anabl ar gyfer pob deiliadaeth tai.

Sicrhau bod rhaglen gadarn o atgyweiriadau a gwelliannau ar waith ar gyfer Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr

Sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni’r Strategaeth Cyfranogiad Tenantiaid a'r Cynllun Gweithredu cysylltiedig (2020-23) i gynnwys ymgysylltu a chyfathrebu parhaus wrth drefnu atgyweiriadau a darparu adborth ac ymgysylltu’n barhaus â thenantiaid

Parhau i gyflwyno'r rhaglen ddigideiddio trwy weithredu system Northgate a system Ariannol newydd (FIMS)

Mynd i'r afael ag ôl-ddyledion rhent trwy sicrhau adolygiad cadarn o ôl-ddyledion rhent cynyddol a rhoi camau ar waith i ymdrin â thenantiaid sydd mewn perygl ac yn wynebu ôl-ddyledion rhent a'u cefnogi.

Atal a chefnogi'r rhai sy’n wynebu risg o ddigartrefedd, neu sydd yn ddigartref er enghraifft trwy gyflwyno cynllun Prydlesu ar gyfer y Sector Rhentu Preifat yn y sir fel rhan o gyflwyno'r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru a datblygu Strategaeth Cymorth Tai ar gyfer Sir Benfro a sicrhau bod hwn yn cydweddu â'r Strategaeth Digartrefedd a darparu, ar y cyd â chomisiynu gwasanaethau, gwasanaethau cymorth tai effeithiol sy'n ceisio atal digartrefedd a chynorthwyo pobl i gael llety hirdymor.

 

SA5.4: Datblygu Ac Adfywio Economaidd

  • Perfformiad presennol: 2
  • Cyfnod gwella: 2

Amcan Llesiant - Economaidd: Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i hyrwyddo Sir Benfro fel lle gwych i ymweld, byw a gweithio.

Asesiad o'r perfformiad presennol (pa mor dda ydyn ni'n gwneud?)

Mae gwaith y Cyngor ar wella canlyniadau economaidd yn cael ei lywio gan Strategaeth Adfer ac Adfywio Sir Benfro 2020-2030 y cytunwyd arno ym mis Medi 2020. Mae'r strategaeth hon wedi'i strwythuro o amgylch tri chanlyniad allweddol

  • Cysylltiedig (cysylltiadau ffisegol fel cysylltiadau rheilffyrdd cyflymach a chysylltiadau band eang/ffeibr optig)
  • Cynnig (canol trefi bywiog, cyfleoedd ynni a phorthladd, ffordd wych o fyw a chyfleoedd ar gyfer gwaith crefftus)
  • Darganfod (Cyrchfan ymwelwyr o Safon Fyd-eang a chyrchfan ‘o ddewis’ ar gyfer digwyddiadau mawr)

Mae'r rhain yn nodau tymor hir ac er bod pandemig COVID wedi arwain at heriau (yn ogystal â rhai cyfleoedd) mae'r strategaeth yn dal i fod yn berthnasol. Er bod y rhagolygon economaidd rhwng nawr a’r flwyddyn 2022-23 ar gyfer y DU gyfan yn dal i fod yn ansicr (gyda'r posibilrwydd o ddirwasgiad), ychydig o newid a fu mewn dangosyddion economaidd allweddol, megis y gyfradd ddiweithdra, yn ystod 2021-22.  3.9% oedd hi ym mis Mawrth 2021 a 3.8% ym mis Mawrth 2022, ac roedd y ddau ffigwr yn agos at eu priod gyfartaleddau Cymru gyfan.

Cynhaliodd y Cyngor her cymheiriaid economaidd yn 2021 a chafodd ei hargymhellion eu cymeradwyo gan y Cabinet ym mis Tachwedd 2021.  Roedd hyn ar ôl her cymheiriaid debyg yn 2018 a argymhellodd fod y Cyngor yn cyflawni ystod o gamau i gryfhau ei allu i lunio a chyflawni adnewyddiad economaidd.  Nododd yr her cymheiriaid lwyddiannau, er enghraifft "Mae'r Cyngor wedi cyflawni cryn dipyn o gynnydd yn y maes hwn mewn cyfnod cymharol fyr gyda chapasiti mewnol cyfyngedig, ac yntau hefyd yn ceisio rheoli effeithiau pandemig byd-eang nad oedd modd ei ragweld”.  Roedd yr adroddiad yn canmol egni ac ysgogiad y ddau aelod a swyddogion o ran mynd ar drywydd cyfleoedd datblygu economaidd, a chanfu hefyd y cyfyngir weithiau ar yr effaith lawn bosibl gan y cyfyngiadau o ran adnoddau sy'n wynebu'r Cyngor. Argymhellodd yr adolygiad fod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid preifat a chyhoeddus i fabwysiadu dull mwy strategol o ran datblygu economaidd.

Mae'r Cabinet yn cael adroddiadau diweddaru rheolaidd, ac mae'r diwethaf ym mis Mehefin 2022 yn cynnwys diweddariadau ar gynnydd yn erbyn prosiectau allweddol i gyflawni canlyniadau'r strategaeth (uchod) yn ogystal â'r argymhellion y mae'r Cabinet wedi cytuno arnynt ar sut i wella ein dull o gyflawni.  Mae datblygu economaidd ac adfywio yn enghraifft o feysydd lle mae'r weinyddiaeth bresennol a blaenorol wedi penderfynu gwneud buddsoddiadau sylweddol gyda'r nod o sbarduno buddsoddiad yn y sector preifat a gwella llesiant tymor hir.

Mae'r newid sylweddol i fuddsoddi mewn ynni gwyrdd yn ogystal â chyfleoedd trwy weithio’n rhanbarthol (gweler adran SA4.2) yn gyfleoedd sylweddol i Sir Benfro adeiladu ar y sgiliau o fewn y llafurlu ym meysydd ynni, olew a nwy i sefydlu Sir Benfro fel prifddinas ynni gwyrdd y DU.  Mae'r cyngor yn parhau i gefnogi'r sector amaethyddol ac yn ystod y flwyddyn gwnaed cynnydd sylweddol ar barc bwyd y Llwyn Helyg.

Galluogi: Cydlynu gweithgarwch chyllid allanol

Mae hyn yn mynd i'r afael â'r argymhelliad lefel uchel yn her cymheiriaid economaidd 2021 i gryfhau gwaith mewn partneriaeth rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus ym maes datblygu economaidd.  Sefydlu Bwrdd Uchelgais Economaidd Sir Benfro. Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym mis Mehefin 2022 ac mae'r Cylch Gorchwyl a'r aelodaeth yn debyg i'r dull rhanbarthol a fabwysiadwyd.  Sefydlwyd partneriaeth sectoraidd Clwstwr Ynni Gwyrdd y Dyfodol Dyfrffordd y Ddau Gleddau gyda lansiad swyddogol yn Nhŷ'r Cyffredin ym mis Mehefin 2022.  .

Rydym yn parhau i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd a gynigir gan gyllid allanol ac rydym wedi denu tua £50m o gyllid adfywio. Fe wnaethom beth wmbredd o waith i gynllunio ar gyfer cyflwyno'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a chyflwyno cynnig am gyllid o’r Gronfa Ffyniant Bro ar gyfer prosiectau yng nghanol trefi Hwlffordd a Phenfro.  Fe wnaethom gyflwyno cais a chyrraedd y rhestr hir ar gyfer prosiect STEP a noddir gan UKAEA, cyfle sylweddol ar gyfer buddsoddiad mewn ynni. Roedden ni'n llwyddiannus ond mae hyn wedi codi proffil Sir Benfro yn sylweddol gan roi'r hyder inni ddatgan yr uchelgais i fod yn Brifddinas Ynni Gwyrdd y DU. Gan ddefnyddio adnoddau o bremiwm y dreth Cyngor ar ail gartrefi, rydym yn darparu Grant Gwella Sir Benfro sydd wedi dyfarnu £3,325,914 i 186 o brosiectau llwyddiannus yn Sir Benfro gan greu £4,815,368 yn ychwanegol mewn arian cyfatebol i'r sir.

Cysylltiedig

Mae band eang yn cynnig y cyfle i gael y gorau o ddaearyddiaeth ymylol Sir Benfro trwy roi’r un cyfleoedd i fusnesau a phobl gyfathrebu ag sydd gan ardaloedd trefol. Yn ystod 2021-22 parhaodd amrywiaeth o fentrau, gyda chefnogaeth tîm band eang cymunedol bach gyda'r nod o ddod â band eang ffeibr llawn ar draws cymunedau a gwelwyd cynnydd sylweddol yn y gweithgarwch a alluogwyd gan y Tîm.  Trwy Broadway a'r cynllun talebau, gwnaed cysylltiadau byw mewn ardaloedd gwledig yn Dale ac mewn ardaloedd gwledig eraill. Mae'r rhan fwyaf o'n hadeiladau bellach wedi'u cysylltu gan ffeibr 1GB. Mewn partneriaeth ag Ogi mae bron i 5,000 o unedau eiddo wedi cael ffeibr llawn, yn bennaf mewn ardaloedd trefol. 

Cynnig: Canol Trefi

Yn sail i'n dull o wella canol trefi, mae cynlluniau adfywio a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â'r gymuned a rhanddeiliaid.  I Hwlffordd, mae'r cynllun yn canolbwyntio ar asedau allweddol y dref, yr afon, y castell a'r craidd hanesyddol.  Ar gyfer glan cei'r Gorllewin (safle Ocky White) yn ystod gwaith adeiladu daethpwyd o hyd i arteffactau hanesyddol pwysig ar y safle - olion hen briordy. Mae hyn yn helpu i adrodd hanes y dref, hanes na fyddem wedi gallu ei ddarganfod heb y prosiect.  Mae'r datblygiad hwn yn ffinio â phrosiect trawsnewidiol sy'n canolbwyntio ar Gastell Hwlffordd a ariennir gan £17.7m o’r Gronfa Ffyniant Bro (Llywodraeth y DU).  Bydd hyn yn agor mynediad at y Castell, gan sicrhau ei adeiladau yn barod i'w ddatblygu'n ddiweddarach yn atyniad treftadaeth blaenllaw.  Bydd y prosiect hefyd yn agor mynediad ar draws yr afon ar hyd pont newydd at Gyfnewidfa Trafnidiaeth Hwlffordd a chanolfan siopa Glan yr Afon.  Yn ystod rhan olaf 2021-22 a dau chwarter cyntaf 2022-23, cafodd y lleiniau tir bwrdais canoloesol eu hadnewyddu.

Yn ystod 2021-22, parhaodd trafodaethau ar sicrhau partner i ddatblygu canolfan siopa Glan yr Afon a fydd yn digwydd yng nghyd-destun mynd ati’n ofalus i ail-lunio a chrebachu elfen fanwerthu canol y dref ac arallgyfeirio i gynnwys defnyddiau eraill megis hamdden a diwylliant. Yn ystod 2021-22 cafwyd rhai datblygiadau cadarnhaol fel Rhif 5 (llyfrgell o bethau) sy'n cyfrannu at yr economi gylchol a'r agenda gwrthdlodi. O dan berchnogaeth CSP, mae gwarged net o £200k am y flwyddyn ar gyfer Glan yr Afon a fydd yn cael ei ail-fuddsoddi. 

Mae prosiectau adfywio sylweddol yn mynd rhagddynt mewn trefi eraill.  Ym Mhenfro mae Cei'r De nawr yn dod yn ei flaen yn dda yn dilyn problemau sylweddol gan gynnwys to yn cwympo a malurion asbestos drwy’r adeilad. Bydd Cei'r De yn ymgorffori Hyb Penfro gwerth £4.3m, prosiect ar y cyd â’r sector gofal cymdeithasol.  Mae Cei'r De yn enghraifft o sut y gellir ysgwyddo costau ychwanegol sylweddol os na wneir gwaith cynnal a chadw ataliol i adeiladau. Yn Aberdaugleddau, mae’r gwaith i ddatblygu’r marina dan arweiniad yr Awdurdod Porthladd yn mynd yn ei flaen ac fe gwblhawyd Tŷ Hotel o fewn y flwyddyn 2021-22. Mae'r atyniad hwn o ansawdd da yn cael ei reoli a'i weithredu gan y tîm sy'n gyfrifol am Westy Hamdden eiconig y Celtic Manor.

Cynnig: ynni gwyrdd

Fe symudom ni ymlaen at gam cyflawni prosiect Hwb Morol Doc Penfro, rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Trwy Deyrnas Ynni Aberdaugleddau rydym yn gweithio gyda phartneriaid i archwilio potensial hydrogen di-garbon ochr yn ochr â thrydan adnewyddadwy i ddiwallu ein holl anghenion ynni yn y dyfodol ar gyfer adeiladau, cynhyrchu pŵer a thanwydd ar gyfer trafnidiaeth. Gweler 

Darganfod

2021-22 oedd y flwyddyn lawn gyntaf i Croeso Sir Benfro, sydd bellach yn Bartneriaeth Rheoli Cyrchfan, fod yn weithredol. Mae hyn yn cyfuno adnoddau o bob rhan o'r sector cyhoeddus a phreifat i farchnata diwydiant twristiaeth Sir Benfro, cyflawni yn erbyn cynllun rheoli y cytunwyd arno a rhoi llais cyfunol i'r diwydiant. Roedd 2021-22 yn flwyddyn eithriadol o brysur i ddiwydiant twristiaeth Sir Benfro ac roedd gallu'r bartneriaeth i roi neges gyson ar reoli rhywfaint o'r pwysau sy'n dod yn sgîl nifer uchel o ymwelwyr yng nghyd-destun pandemig parhaus yn help mawr. Ceir enghreifftiau o'r gwaith hyrwyddo a wnaed gan Croeso Sir Benfro

Tystiolaeth (sut ydym ni'n gwybod?)

Mae’r Cabinet yn ystyried diweddariadau 6 misol o weithgareddau adfywio

Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Llun,4 Hydref, 2021, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Llun, 13 Mehefin, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Ystyriwyd yr Her Cymheiriaid Datblygu Economaidd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 29 Tachwedd 2021

Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Llun, 29 Tachwedd, 2021, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Ystyriwyd yr adroddiad ar ddatblygu economaidd rhanbarthol neu strategaethau ynni ym mhob un o gyfarfodydd canlynol y Cabinet

Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Llun, 10 Ionawr, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Llun, 14 Chwefror, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Llun, 14 Mawrth, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Camau gwella (beth allwn ni ei wneud yn well a sut?)

Mae’r blaenoriaethau ar gyfer gwella yn dal i fod yr un rhai ag a fynegir yn Strategaeth Adfer ac Adfywio Sir Benfro

Ar gyfer gwaith i ddatblygu 'Sir Benfro fel Prifddinas Werdd y DU' bydd angen gweithio mewn partneriaeth ar draws y rhanbarth ac mae'r cyfeiriad strategol ar gyfer hyn wedi'i gytuno er enghraifft Fframwaith Economaidd Rhanbarthol y De Orllewin. Enghraifft arall yw'r Cynllun Ynni Ardal Leol Sero Net 2030.

Gweithio drwy argymhellion ehangach yr Adolygiad Cymheiriaid i osod Datblygu Economaidd ac Adfywio yn fwy strategol o fewn y Cyngor a sicrhau cefnogaeth strategol galluogi timau o fewn y Cyngor megis eiddo a chynllunio (ymdrinnir â Rheoli Asedau Strategol yn adran SA 2.3)

Datblygu cynlluniau creu lleoedd ar gyfer chwe thref.  I rai trefi, mae cynlluniau'n mynd rhagddynt yn well na'i gilydd. Cytunwyd ar bortffolio sylweddol o brosiectau ar gyfer Hwlffordd a'r flaenoriaeth yw cyflawni'r rhain ac mae creu lleoedd yn fwy datblygedig, er enghraifft brandio.  Mae nodyn cynghori interim ar ganol trefi a oedd i fod i gael ei ystyried gan y Cabinet ym mis Medi 2022 yn awgrymu newidiadau i gynllunio er mwyn hwyluso mwy o amrywiaeth yng nghanol trefi a llai o ddibyniaeth ar fanwerthu. Bydd angen monitro prosiectau adfywio’n amlwg o safbwynt ariannol o ystyried y pwysau chwyddiant a brofir gan y sector adeiladu.

Datblygu dull rheoli cyfrif ar gyfer y 50 uchaf o blith cwmnïau lleol a chefnogi mewnfuddsoddiad. Rydym eisoes yn cynhyrchu mwy o ymholiadau ynghylch mewnfuddsoddi na siroedd eraill yn Ne Orllewin Cymru.

Cyllid allanol. Mae adroddiad gan y Cabinet dyddiedig 25 Gorffennaf 2022 yn rhoi'r manylion diweddaraf am y Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd, i bob pwrpas, yn disodli arian yr UE. Mae Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol wedi cael ei gytuno. Ar gyfer Sir Benfro, mae'r cyllid dros dair blynedd o 2022-23 i 2024-25, gyda chyfanswm dyraniad tebygol o £23.1M ar gyfer Sir Benfro, y bydd oddeutu 85% ohono’n gyllid refeniw.  Mae'r rhaglen yn ymdrin â sgiliau a chyfleoedd i fuddsoddi mewn lleoedd.

 

SA5.5: Amgylchedd glân / Newid hinsawdd

  • Perfformiad presennol: 1
  • Cyfnod gwella: 2

Amcan Llesiant - Byddwn yn hyrwyddo balchder yn Sir Benfro gan geisio gwella ei henw da fel lle am ansawdd amgylcheddol eithriadol

Asesiad o'r perfformiad presennol (pa mor dda ydyn ni'n gwneud?)

Mae ein hamcan llesiant yn canolbwyntio ar yr hyn yr ydym yn ei wneud i ddiogelu amgylchedd naturiol eithriadol Sir Benfro ac mae'n cyfeirio at ein dull gweithredu, sef adeiladu ar y balchder sydd gan gymunedau yn eu cymdogaethau i helpu i reoli materion amgylcheddol. 

Mae gan y Cyngor wasanaeth gwastraff ac ailgylchu da, ac yn 2020-21 mae gan CSP y gyfradd ailgylchu uchaf o blith holl gynghorau Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol. 73% yw ffigyrau ailgylchu interim 2021-22 (ffigyrau heb eu dilysu eto) sy’n ganran debyg i 2021-22. Mae sawl awdurdod lleol wedi gwella eu ffigyrau ailgylchu yn sylweddol yn ystod 2021-22 ac rydym yn hyderus y bydd ein perfformiad y llynedd ymysg y gorau yng Nghymru. Yr ysgogiad ar gyfer y gwelliant hwn oedd y system gwastraff ac ailgylchu newydd a fabwysiadwyd ym mis Tachwedd 2019.  Mae hyn hefyd wedi golygu bod cyfanswm y gwastraff gweddilliol a gesglir gan CSP yn dal i ostwng, o dros 26000 yn 2018-19 (cyn y newid i’r gwasanaeth) i 18,900 o dunelli yn 2021-22 – gostyngiad o 27%.  Mae ansawdd y gwasanaeth yn uchel a dim ond 0.1% o'r casgliadau a gollwyd.  Mae adolygiad o dipio anghyfreithlon ledled y sir wedi cael ei gynnal hefyd; mae hyn wedi dangos y bu gostyngiad yn lefelau blynyddol yr achosion swyddogol o dipio anghyfreithlon ers y newid i’r gwasanaeth a chyflwyno system archebu mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff.

Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom gwblhau adolygiad o Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu. Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ac adolygiad gan Weithgor Gwastraff Trawsbleidiol, y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyn Penderfynu a'r Cabinet. Yn dilyn ymarfer ymgynghori ac ymgysylltu â staff fe gyflwynwyd y newidiadau i oriau a diwrnodau agor o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Mae'r system archebu wedi ei datblygu ymhellach yn 2021-22 ac mae cyfleuster i archebu ar yr un diwrnod bellach ar gael.

Wrth i nifer y cartrefi a ddefnyddir fel llety gwyliau gynyddu, cynyddu hefyd a wnaeth problem pobl ddiegwyddor yn esgus mai gwastraff cartref yw gwastraff a gynhyrchir gan dai gwyliau (sy'n wastraff masnachol y codir tâl am ei waredu). Mewn ymateb, sefydlwyd tasglu gwastraff masnach i fynd i'r afael â'r broblem hon.

Rydym yn defnyddio system reoli a ddyfeisiwyd gan Cadwch Gymru'n Daclus i fesur a yw strydoedd yn rhydd o sbwriel yn ogystal â materion eraill sy'n effeithio ar ansawdd amgylcheddol fel graffiti. Yn 2021-22 dyfarnwyd gradd B neu uwch i 95.4% o strydoedd (strydoedd â lefel dderbyniol o lendid yn ôl y meini prawf gwerthuso). Nid oes modd cymharu â'r flwyddyn flaenorol oherwydd newidiadau yn y meini prawf gwerthuso. Y math mwyaf cyffredin o sbwriel a gofnodwyd yn Sir Benfro oedd sbwriel sy’n ymwneud ag ysmygu (bonion sigaréts yn bennaf), a ddarganfuwyd ar 76.8% o strydoedd.

Mae peth o'r seilwaith yr ydym yn dibynnu arno i ddarparu gwasanaethau amgylcheddol lleol, yn enwedig toiledau cyhoeddus, yn heneiddio ac mae angen buddsoddi ynddo. Drwy'r strategaeth toiledau cyhoeddus y cytunwyd arni, mae gennym gyfleusterau mewn 69 o leoliadau ar draws yr Awdurdod. Fodd bynnag, mae gennym gontract yn ei le gyda Danfo tan 2024 a chytundebau â 10 Cyngor Tref/Cymuned a 3 cytundeb gyda'r Gefnffordd i reoli a chynnal a chadw’r cyfleusterau ar eu rhan. Mae'r trefniant hwn wedi golygu ein bod yn gyson wedi perfformio'n uchel yng ngwobrau cenedlaethol Tŷ Bach y Flwyddyn.

Mae statws Ardal Gadwraeth Arbennig gan lawer o afonydd ac amgylcheddau morol Sir Benfro, ac felly maent wedi’u cwmpasu gan ddeddfwriaeth amgylcheddol drylwyr. Ym mis Ionawr 2020 cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru ganllawiau Ffosffadau newydd sydd wedi’u bwriadu i leihau swm y ffosffadau (y mae rhai ohonynt yn cael eu cynhyrchu gan weithgaredd dynol a'u rhyddhau i afonydd drwy waith trin carthffosiaeth hŷn). Mae'r canllawiau newydd yma yn arwain at oedi gyda nifer sylweddol o geisiadau cynllunio ac wedi achosi oedi gyda'r Cynllun Datblygu Lleol newydd.  Yn ystod 2021-22 buom yn cydweithio gyda Chynghorau Sir Ceredigion a Sir Gâr i ddechrau a rheoli Byrddau Rheoli Maethynnau i fonitro afonydd Cleddau, Teifi a Thywi. Eu rôl yw adnabod a chyflawni Cynllun Rheoli Maethynnau a chamau gweithredu i gyrraedd y targedau cadwraeth a ddiffiniwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Heb y gwaith hwn mae risg wirioneddol y bydd rhai datblygiadau tai fforddiadwy, ynghyd â thai marchnad, yn cael eu gohirio'n sylweddol.

Rydym yn parhau i gyflawni ein Cynllun Gweithredu tuag at Ddod yn Awdurdod Lleol Carbon Sero Net erbyn 2030. Mae hwn yn ddarn o waith arwyddocaol ac yn ystod y flwyddyn buom yn ymgynghori â rhanddeiliaid i gael syniadau pobl am yr hyn y dylid ei gynnwys yn ogystal â'r hyn y gallent ei wneud i helpu i leihau allyriadau. Yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, gwnaethom hefyd gyhoeddi ein ffigyrau adrodd carbon sero newydd cyntaf a fydd yn cael eu defnyddio i gyfrifo'r llinell sylfaen ar gyfer Cymru gyfan.  

Ar wahân i'r gwaith ar hyrwyddo'r sector ynni gwyrdd, yr ydym eisoes wedi gwneud sylwadau arno, fe wnaethom barhau i ddatgarboneiddio ystâd ac asedau presennol a newydd y Cyngor (mae allyriadau o adeiladau bellach wedi haneru) a sicrhau anghenion ynni'r awdurdod (mae ein cyflenwad trydan yn dod o ynni yr ardystiwyd fod 100% ohono’n adnewyddadwy). Bydd prosiect Goleuadau Salix Street yn lleihau allyriadau carbon o 322 o dunelli’r flwyddyn ac yn arbed £205,000 y flwyddyn mewn costau trydan, yn ogystal ag arbed costau cynnal a chadw parhaus.

Tystiolaeth (sut ydym ni'n gwybod?)

Fe wnaeth cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, 20 Ionawr 2022, ystyried y Cerdyn Sgorio Corfforaethol a'r mesurau a gynhwysir ynddo, y mae rhai ohonynt yn ymwneud â gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu:

Agenda ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar ddydd Iau, 20 Ionawr, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Cynllun gweithredu tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030

Daw peth o'r dystiolaeth i ategu'r casgliad hwn o ddogfennau mewnol sydd heb eu cyhoeddi. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cynllun Gwasanaeth Tymor Canolig Gwasanaeth yr Amgylchedd
  • Cynllun Gwasanaeth Tymor Canolig y Gwasanaeth Cynllunio

Camau gwella (beth allwn ni ei wneud yn well a sut?)

Ar hyn o bryd, Sir Benfro sydd â'r gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu sy'n perfformio orau yng Nghymru, a gellid dadlau eu bod gyda’r goreuon yn y byd.  Yr her yw cynnal y safon uchel yma a chyrraedd targedau Llywodraeth Cymru o ran bod yn ddi-wastraff a'r economi gylchol.  Mae'r targedau hyn gan Lywodraeth Cymru ar flaen y gad – nid yw'r holl dechnolegau y mae eu hangen i wneud hyn wedi eu profi, ac nid yw pob marchnad ar gyfer deunyddiau nad ydynt yn cael eu hailgylchu/eu hail-ddefnyddio ar hyn o bryd yn eu lle.  Gan bod Sir Benfro’n ardal wledig mae ein cerbydau gwastraff ac ailgylchu yn teithio gryn bellter ac mae angen datgarboneiddio'r fflyd.

Byddwn ni'n cynnal ein perfformiad fel un o'r awdurdodau ailgylchu gorau yn y DU trwy welliannau o ran ailgylchu ac ailddefnyddio i aelwydydd a busnesau yn Sir Benfro. Yn y tymor byr byddwn yn gweithredu Ail Gam yr Adolygiad o’r Gwasanaeth Gwastraff – gan ymgorffori gofynion y Rheoliadau Ailgylchu i Fusnesau. Bydd datblygiad y gwasanaeth yn y tymor canolig yn cyd-fynd â "Tuag at Ddyfodol Di-wastraff" a "Mwy Nag Ailgylchu" gan gynnwys gwelliannau o ran opsiynau Ailddefnyddio yn y Sir a newidiadau i gasgliadau o ganlyniad i ddeddfwriaeth newydd gan gynnwys cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer poteli diodydd a Chyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer gwastraff deunydd pacio

Byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau i wella cydnerthedd trwy brosiectau fel darparu Parc Eco Sir Benfro. Bydd hwn, a ariennir yn rhannol â Grant gwerth £9.5m gan Lywodraeth Cymru, yn gweithredu fel gorsaf trosglwyddo gwastraff, cyfleuster rheoli a chynnal a chadw fflyd ar gyfer trosglwyddo i gerbydau allyriadau isel iawn a chanolfan gwastraff ac ailgylchu i ddisodli safle presennol Winsell.

Byddwn yn datgarboneiddio ein fflyd o gerbydau casglu sbwriel (yn ogystal â datgarboneiddio'r fflyd yn gyffredinol). Mae treialon presennol ar gyfer cerbydau casglu sbwriel trydan wedi dangos, er y gallai'r dechnoleg bresennol fod yn ymarferol mewn ardaloedd trefol, nad yw'r dechnoleg eto'n ddigon datblygedig i ymdrin â’r pellteroedd mwy y mae cerbydau mewn ardaloedd gwledig yn teithio drostynt. Byddwn ni'n parhau i archwilio opsiynau ar gyfer datgarboneiddio dros y tymor canolig gan gynnwys y potensial ar gyfer cerbydau a yrrir gan hydrogen. Byddwn ni'n parhau i ddisodli cerbydau a faniau llai a yrrir gan danwyddau ffosil â cherbydau trydan.

Byddwn yn cynnal ac yn ceisio gwella ansawdd yr amgylchedd lleol, fel glendid strydoedd a thraethau, parciau a mannau agored.

Byddwn ni'n edrych ar sut rydym yn rheoli ein tir i wella seilwaith gwyrdd gan gynnwys er enghraifft creu coridorau bywyd gwyllt gan ei gwneud hi'n haws i rywogaethau symud o un ardal i'r llall a helpu poblogaethau presennol rhywogaethau allweddol i fod yn fwy cydnerth.

Byddwn yn parhau i ddatblygu a chyflawni ein Cynllun Gweithredu tuag at ddod yn awdurdod lleol carbon sero net erbyn 2030.

 

SA5.6: Gwella a Thrawsnewid

  • Perfformiad presennol: 2
  • Cyfnod gwella: 2

Amcan Llesiant – Trawsnewid: Technoleg; Diwylliant a Pherthynas

Asesiad o'r perfformiad presennol (pa mor dda ydyn ni'n gwneud?)

Mae strwythur ein rhaglen Trawsnewid a Gwella yn parhau i fod yn seiliedig ar dechnoleg, diwylliant a pherthnasoedd. Yn ystod blwyddyn 2021-22 roedd ffocws cynyddol ar faterion gwella corfforaethol ac ar lywodraethu gyda chymorth capasiti ychwanegol gan y Gymdeithas Llywodraeth Leol.  Cytunodd y Cyngor ar Raglen Wella yn ei gyfarfod ym mis Mai 2021 a oedd yn cyfuno canfyddiadau'r Her Cymheiriaid Corfforaethol a'r Her Cymheiriaid Cyfathrebu (ill dwy wedi’u cynnal yn 2020). Roedd y Rhaglen wella yn ategu'r rhaglen waith trawsnewid bresennol ac fe gyffyrddir arni yn SA3.3 hefyd.

Un o'r prif egwyddorion sydd wrth wraidd y Rhaglen Wella yw cynyddu deialog ac ymgysylltu ar draws y Cyngor. Mae'r newidiadau'n cynnwys sefydlu Tîm Arwain Estynedig sy'n cynnwys yr Uwch Dîm Arwain a Phenaethiaid Gwasanaeth - tua 25 o bobl sy'n cwrdd deirgwaith y mis.  Mae grŵp ehangach byth o reolwyr wedi'i sefydlu hefyd ac yn cwrdd yn fisol.  Mae gan y grwpiau hyn rôl ehangach na chyfathrebu ac mae'r ddau yn enghreifftiau o sut mae ystod ehangach o safbwyntiau'n cael eu clywed wrth wneud penderfyniadau. Roedd y Rhaglen Wella yn cynnwys ymrwymiad i archwilio’r posibilrwydd o gynnal fersiwn beilot o’r asesiad panel cyn i hyn ddod yn ddyletswydd statudol. Ystyriwyd hyn ond fe brofodd anymarferol bwrw ymlaen â hyn oherwydd agosrwydd etholiadau Mai 2022. Cynhaliodd y Bwrdd waith a oedd yn ymwneud â gwelliannau mwy cyffredinol i drefniadau llywodraethu gan gynnwys sefydlu aelodau newydd a llunio'r cynllun swyddogion cyswllt.

Mae'r Bwrdd Gwella a Thrawsnewid (a ailenwyd yn Fwrdd y Rhaglen Wella Gorfforaethol o fis Mai 2022) wedi goruchwylio'r Rhaglen Wella ac fe gyflwynir ei gofnodion i'r Cabinet. 

Yn ystod 2021-22 roedd y Tîm Trawsnewid yn dal i fod yn rhan fawr o'r ymateb uniongyrchol i bandemig COVID gan leihau capasiti i weithio ar gefnogi gwaith gwella. 

Technoleg

Lansiwyd nifer o systemau a chymwysiadau newydd yn ystod 2021 gan gynnwys FIMS ein platfform rheoli ariannol. Mae FIMS yn rhan allweddol o seilwaith y Cyngor a bydd yn ei gwneud yn bosibl integreiddio llawer o systemau lle nad oedd hyn yn bosibl 

o'r blaen. Yn ei dro, bydd hyn yn arwain at fwy o ymarferoldeb yn y systemau ‘cyhoeddus’ y mae cwsmeriaid yn eu defnyddio.  Cafodd Microsoft Teams ei gyflwyno, gan gefnogi cyfathrebu a chydweithio ynghyd â Fy Nghyfrif sy'n allweddol i'n hagenda newid sianeli ac sy'n darparu'r sylfaen ar gyfer cyflymu ein hymgysylltiad digidol a'n harlwy o ran gwasanaethau.  Estynnwyd ymarferoldeb Fy Nghyfrif gan Track-IT ar gyfer ceisiadau mewn perthynas â goleuadau stryd. Mae hyn yn galluogi cwsmeriaid i weld y cynnydd gyda nam ar olau stryd y rhoddwyd gwybod amdano’n flaenorol.

Estynnwyd systemau cyhoeddus ar gyfer cwsmeriaid trwy ddefnyddio Forge ein datrysiad ffurflenni ar gyfer ceisiadau cyllid sy'n gysylltiedig â Covid-19 (Grantiau i Fusnesau, Taliadau Ynysu, Taliadau Tanwydd Gaeaf) ac amrywiaeth o systemau archebu (Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu, Archebu Desg, apwyntiadau yn y Dderbynfa Tai, casglu profion Llif Unffordd Covid-19).

Diwylliant a chyfathrebu

Cynyddwyd y capasiti ar gyfer Cyfathrebu Strategol trwy benodi secondai â phrofiad sylweddol yn y maes hwn o awdurdod lleol arall.  Mae hyn wedi arwain at ganolbwyntio ar gyfathrebu digidol ar gyfer ymgysylltu trwy'r cyfryngau cymdeithasol ac ar gyfer dathlu Sir Benfro a'i chymunedau.  Mae straeon sy’n rhoi atgyfnerthiad cadarnhaol a straeon am wirfoddolwyr o amryw fentrau wedi cael eu rhannu drwy'r Cyfryngau Cymdeithasol. Cynhaliwyd ymgyrchoedd pellach i: hyrwyddo democratiaeth a phartneriaethau gyda Croeso Sir Benfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro; hybu'r Gymraeg ac mae ymgysylltu â Chydweithwyr yn digwydd hefyd.

Yn ystod y flwyddyn, fe wnaeth y Bwrdd Gwella a Thrawsnewid ystyried y problemau gyda pha mor hawdd mae cwsmeriaid yn ei chael wrth geisio cysylltu â'r cyngor. Roedd hyn yn canolbwyntio ar berfformiad y ganolfan gyswllt gan bod amseroedd aros ar gyfer galwadau yn llawer is na'r targed i ateb o fewn dau funud ac roedd cyfran y galwadau a oedd yn cael eu methu wedi cynyddu hefyd.  Mewn ymateb aethpwyd ati i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ateb galwadau drwy'r cyngor gyda nifer o fesurau yn cael eu rhoi ar waith gan gynnwys cyfleuster i adael negeseuon llais, i anfon galwadau ymlaen a ffonau meddal. Mae'r gwaith hwn wedi profi'n effeithiol ac mae amseroedd ateb galwadau bellach yn well o lawer. Fe wnaed mwy o waith datblygiadol hefyd ac ystyriodd y Bwrdd arfer gorau a mewnwelediadau gan gwmni yn y sector preifat yr oedd ei daith wella wedi’i gwreiddio ym mhrofiad y cwsmer.

O ran diwylliant sefydliadol, yn ystod 2021-22, datblygwyd system arfarnu perfformiad newydd ynghyd â hyfforddiant helaeth, i'w defnyddio ar draws y sefydliad o fis Ebrill 2022. Mae'r system newydd yn seiliedig ar y safonau ymddygiad a gytunwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol ac mae’n gwahaniaethu rhwng rolau swyddi lle mae tasgau'n tueddu i fod yn debyg trwy gydol y flwyddyn a'r rhai lle mae'r tasgau’n amrywio.

Perthynas

Mae'r ymateb i COVID a sut y gwnaeth cymunedau yn eu cyfanrwydd gamu i’r adwy i gefnogi eu haelodau mwy bregus wedi dylanwadu'n fawr ar ein gwaith ar berthnasoedd â chymunedau. Cyffyrddwyd ar ail-lansiad yr Hyb Cymunedol trwy Gymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro yn SA5.2

Mae gwaith arall a aeth rhagddo yn 2021-22 yn cynnwys ail-lansio cynllun gwirfoddoli'r Cyngor ei hun lle mae cyflogeion yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol trwy roi absenoldeb ychwanegol sy’n cyfateb i ymdrech gwirfoddolwyr. Cefnogir y cynllun trwy gydweithwyr yng Nghymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro.

Fe wnaethom fywiogi ein perthynas â Chynghorau Tref a Chymuned trwy gyfres o weithdai a oedd yn agored i bob Clerc a Chynghorydd, sef Gweithio'n WellGyda'n Gilydd. Fe wnaethon ni hefyd weithio gyda PLANED ac Un Llais Cymru i ddod â chapasiti ychwanegol i mewn er mwyn i Gynghorau Tref a Chymuned Sir Benfro gydweithio'n well gyda'i gilydd - dechreuodd y prosiect ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Buom hefyd yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned ar ystod o brosesau  Trosglwyddo Asedau Cymunedol – adroddir ar y cynnydd trwy ddiweddariadau i'r Cabinet.

Tystiolaeth (sut ydym ni'n gwybod?)

Mae cofnodion y Bwrdd Gwella a Thrawsnewid yn cael eu hystyried gan y Cabinet

  • Cofnodion 23 Tachwedd 2021 Bwrdd Gwella a Thrawsnewid
  • Cofnodion 14 Rhagfyr 2021 Bwrdd Gwella a Thrawsnewid

Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Llun, 14 Mawrth, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

  •  Cofnodion 21 Chwefror 2022 Bwrdd Gwella a Thrawsnewid

Agenda ar gyfer y Cabinet ar ddydd Llun,13 Mehefin, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Cytunwyd ar y Rhaglen Gwella gan y Cyngor yn ei gyfarfod ym mis Mai 2021

Agenda'r Cyngor ar ddydd Iau, 13 Mai, 2021, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Cafodd Cerdyn Sgorio Perfformiad Corfforaethol mis Tachwedd 2021 ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol

Agenda ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar ddydd Iau, 20 Ionawr, 2022, 10:00a.m. - Cyngor Sir Penfro

Camau gwella (beth allwn ni ei wneud yn well a sut?)

Bu mwy o gynnydd ar yr agweddau sy’n ymwneud â thechnoleg a diwylliant yn y Rhaglen Gwella a Thrawsnewid (mae'r Rhaglen Wella wedi cael ei hymgorffori yn y Cynllun Gweithredu Gwella Llywodraethu Corfforaethol i symleiddio pethau) er bod cyflymder newid technolegol yn golygu bod angen gwaith datblygiadol bob amser yn enwedig mewn perthynas â’r cyfleoedd sy'n bodoli ar gyfer gwneud gwell defnydd o ddata.  Yn yr un modd, gyda diwylliant sefydliadol, mae angen safbwynt tymor canolig i fynd i'r afael ag agweddau megis y berthynas rhwng aelodau etholedig a swyddogion y cyngor.

Mae'n debygol, yn y dyfodol, y dylai ffocws Bwrdd y Rhaglen Gwella a Thrawsnewid Corfforaethol, y mae'r Cabinet wedi cytuno y dylai barhau, fod ar yr hyn oedd o fewn yr agwedd perthnasoedd ar drawsnewid yn ogystal â’r elfennau diwylliant sefydliadol o’r Cynllun Gweithredu Gwella Llywodraethu Corfforaethol. 

Mae union ffocws gwaith yn y dyfodol yn amodol ar y Rhaglen Weinyddu ond mae'n debygol y bydd gwneud dinasyddion, cymunedau a busnesau’n ganolog i’r hyn a wnawn yn thema gref. Bydd hyn o fewn cyd-destun helpu cymunedau i wneud mwy drostynt eu hunain gan newid o ‘reoli angen’ i 'greu gallu'. Mae gwaith ataliol i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yn debygol o fod yn elfen allweddol o hyn.

Bydd gallu'r sefydliad i wneud newidiadau i wasanaethau i gyflawni effeithlonrwydd yn cael ei wella trwy uno'r cronfeydd wrth gefn Buddsoddi i Arbed ac Ad-drefnu Gwasanaethau i ffurfio Cronfa Fenter newydd, gyda'r diben o ddarparu adnoddau i'r Cyngor eu buddsoddi mewn prosiectau gwella a gwireddu cyfleoedd i osgoi costau / arbed ar gyllidebau yn y dyfodol.

ID: 9653, adolygwyd 08/03/2023