Hunanasesiad Blynyddol 2021-22
Methodoleg - dull thematig
Er mwyn darparu strwythur a ffocws clir mae'r hunanasesiad wedi'i gynllunio o amgylch fframwaith thematig a adeiladwyd o amgylch themâu corfforaethol a sefydliadol allweddol, gyda pherfformiad o dan bob un o'r themâu hyn yn cael ei asesu.
Y 5 thema yw:
- Strategaeth a pherfformiad
- Cynllunio a rheoli adnoddau
- Arweinyddiaeth, llywodraethu a diwylliant
- Gweithio gyda phartneriaid a chwsmeriaid
- Cyflawni Amcanion Llesiant
Ategir pob thema gan set o is-themâu i ategu ein dealltwriaeth am sut yr ydym yn perfformio ym mhob maes.
SA1: Strategaeth a Pherfformiad
SA1.1 Y Rhaglen Weinyddu a'r Strategaeth Gorfforaethol
SA1.2 Rheoli perfformiad corfforaethol
SA1.3 Cynllunio gwasanaethau yn y tymor canolig
SA2 Cynllunio a rheoli adnoddau
SA2.1 Gosod a monitro cyllideb flynyddol
SA2.2 Cynllunio ariannol tymor canolig
SA2.3 Eiddo/asedau
SA2.4 Cynllunio'r gweithlu
SA2.5 Caffael
SA3 Arweinyddiaeth, llywodraethu a diwylliant
SA3.1 Trosolwg a Chraffu
SA3.2 Democratiaeth a chyfranogiad
SA3.3 Archwilio a llywodraethu
SA3.4 Diogelu
SA4 Gweithio gyda phartneriaid a chwsmeriaid
SA4.1 Partneriaethau strategol
SA4.2 Gweithio’n rhanbarthol
SA4.3 Ymgynghori ac ymgysylltu
SA5 Amcanion Llesiant
SA5.1 Addysg
SA5.2 Gofal Cymdeithasol
SA5.3 Tai
SA5.4 Yr Economi
SA5.5 Amgylchedd glân / Newid hinsawdd
SA5.6 Gwella a thrawsnewid
Mae hunanasesu yn ddadansoddiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan ddeall beth mae amrywiaeth o wybodaeth feintiol ac ansoddol sydd ar gael i'r cyngor yn ei ddatgelu am sut mae'n arfer ei swyddogaethau, yn defnyddio ei adnoddau ac yn llywodraethu ei hun. Rydym wedi gofyn 3 chwestiwn allweddol i ni'n hunain er mwyn asesu perfformiad o dan bob is-thema, sef:
- Pa mor dda ydyn ni'n gwneud? - Asesiad o berfformiad ar hyn o bryd gan ddefnyddio gwybodaeth ansoddol a meintiol
- Sut ydym ni'n gwybod? - Darparu tystiolaeth
- Beth allwn ni ei wneud yn well a sut? - Adnabod camau gwella wrth edrych ymlaen
Mae'r hunanasesiad yn tynnu ar ystod o ffynonellau mewnol ac allanol, gan sicrhau sylfaen dystiolaeth eang i oleuo'r camau y bydd y cyngor yn eu cymryd i ddwyn cynnydd wrth ystyried i ba raddau y mae'n bodloni'r gofynion perfformiad yn y dyfodol. Yr enghreifftiau isod yw'r math o wybodaeth a ddefnyddiwyd fel sylfaen dystiolaeth:
- Adrannau hunanasesu mewn cynlluniau gwasanaethau
- Adroddiadau rheoleiddio allanol
- Adolygiadau allanol o wasanaethau
- Cerdyn Sgorio Perfformiad Corfforaethol
- Canfyddiadau ac argymhellion craffu
- Ymarferion ymgysylltu ac ymgynghori â dinasyddion
- Datganiad Llywodraethu Blynyddol
- Adroddiadau monitro’r gyllideb
- Adroddiadau statudol eraill e.e. Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
I ddarparu ffordd weladwy a thryloyw o fesur lle rydym ar ein taith wella trwy amser caiff pob is-thema ei sgorio gan ddefnyddio'r system a nodir isod, ac mae’n darparu safbwynt sy’n ystyried y presennol ac yn edrych ymlaen.
- Sgor 1: Perfformiad presennol-Rhagorol - Effeithiol
- Sgor 2: Perfformiad presennol-Da - Wrthi’n gwreiddio
- Sgor 3: Perfformiad presennol-Gweddol - Wrthi’n esblygu
- Sgor 4: Perfformiad presennol- Gwael - Wrthi’n dod i’r amlwg