Hunanasesiad Blynyddol 2022-23
Methodoleg- Dull Thematig
Er mwyn darparu ffocws a strwythur clir, cynlluniwyd yr hunanasesiad ar sail fframwaith thematig o themâu corfforaethol a sefydliadol allweddol, gan asesu perfformiad o dan bob un o'r themâu hyn.
Y 5 thema yw:
SA1 - Strategaeth a pherfformiad.
SA2 - Cynllunio a rheoli adnoddau.
SA3 - Arwain, llywodraethu a diwylliant.
SA4 - Gweithio gyda phartneriaid a chwsmeriaid.
SA5 - Amcanion Llesiant.
Cefnogir pob thema gan set o is-themâu i ategu ein dealltwriaeth o’n perfformiad ym mhob maes.
SA1 – Strategaeth a pherfformiad
- SA1.1 Cynllunio strategol, corfforaethol a gwasanaeth.
- SA1.2 Rheoli perfformiad corfforaethol.
SA2 – Cynllunio a rheoli adnoddau
- SA2.1 Gosod a monitro'r gyllideb flynyddol.
- SA2.2 Cynllunio ariannol tymor canolig.
- SA2.3 Rheoli asedau strategol.
- SA2.4 Cynllunio'r gweithlu.
- SA2.5 Caffael.
SA3 - Arwain, llywodraethu a diwylliant
- SA3.1 Trosolwg a chraffu.
- SA3.2 Cyfranogiad democrataidd.
- SA3.3 Archwilio a llywodraethu.
- SA3.4 Cydraddoldeb.
- SA3.5 Y Gymraeg.
SA4 – Gweithio gyda phartneriaid a chwsmeriaid
- SA4.1 Gweithio mewn partneriaeth.
- SA4.2 Ymgynghori ac ymgysylltu.
- SA4.3 Cwynion a chanmoliaeth.
SA5 – Amcanion Llesiant
- SA5.1 Addysg.
- SA5.2 Gofal Cymdeithasol.
- SA5.3 Yr Economi.
- SA5.4 Tai.
- SA5.5 Amgylchedd glân / newid hinsawdd.
- SA5.6 Gwella a thrawsffurfio.
Mae hunanasesu yn ddadansoddiad sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan ddeall yr hyn y mae ystod o wybodaeth feintiol ac ansoddol sydd ar gael i'r Cyngor yn ei ddatgelu am y ffordd y mae'n arfer ei swyddogaethau, gan ddefnyddio ei adnoddau a llywodraethu ei hun. Rydym wedi gofyn tri chwestiwn allweddol i’n hunain i asesu perfformiad o dan bob is-thema, sef:
- Pa mor dda ydyn ni'n ei wneud? (Asesu perfformiad cyfredol gan ddefnyddio gwybodaeth ansoddol a meintiol)
- Sut ydyn ni'n gwybod? (Darparu tystiolaeth briodol i arddangos yr uchod)
- Beth allwn ni ei wneud yn well a sut? (Nodi camau gweithredu gwella blaengar)
Mae'r hunanasesiad yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau mewnol ac allanol, gan sicrhau sylfaen dystiolaeth eang i lywio'r camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd i gynyddu’r graddau y mae'n bodloni'r gofynion perfformiad yn y dyfodol. Ceir isod amrywiaeth o enghreifftiau o'r math o wybodaeth yr ydym wedi'i defnyddio fel sail dystiolaeth:
- Adrannau hunanasesu cynllun gwasanaeth.
- Adroddiadau rheoleiddio allanol.
- Adolygiadau gwasanaeth allanol.
- Cerdyn Sgorio Perfformiad Corfforaethol.
- Canfyddiadau ac argymhellion craffu.
- Ymarferion ymgysylltu ac ymgynghori â dinasyddion.
- Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
- Adroddiadau monitro'r gyllideb.
- Adroddiadau statudol eraill e.e. Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.
Meini prawf sgorio:
Yn yr un modd â’r llynedd, er mwyn darparu ffordd weladwy a thryloyw o fesur lle rydym ar ein taith wella dros amser, caiff pob is-thema ei sgorio gan ddefnyddio'r system a nodir isod, gan ddarparu safbwynt cyfredol a blaengar.
Dylid nodi bod y sgôr, yn ôl ei natur, yn ddangosol i raddau helaeth, gan gymryd meysydd thematig neu wasanaeth mawr a chymhleth fel y mae ac asesu ystod eang o weithgarwch a thystiolaeth a gynhwysir ym mhob un mewn modd gwrthrychol a chytbwys. Er y derbynnir y gallai’r dull hwn fod yn ddiffygiol o ran naws o ran nodi amrywiaeth mewn perfformiad o fewn meysydd thematig neu wasanaeth eang, serch hynny mae’n darparu pwynt cyffwrdd defnyddiol i ddeall sut mae’r sefydliad yn perfformio ar hyn o bryd yn gyffredinol o fewn maes arbennig ac mewn cyfnod penodol o amser. Yn yr un modd, mae'n bwysig nodi na ddylid ystyried sgôr y ‘cyfnod gwella’ mewn modd cadarnhaol neu negyddol, ond yn hytrach ac yn syml, y cam lle rydym yn meddwl ein bod ni o ran y daith wella.
Sgôr:
1- Ardderchog (perfformiad cyfredol), Effeithiol (cyfnod gwella).
2- Da (perfformiad cyfredol), Effeithiol (cyfnod gwella).
3- Gweddol (perfformiad cyfredol), Yn esblygu (cyfnod gwella).
4- Gwael (perfformiad cyfredol), Yn dod i'r amlwg (cyfnod gwella).