Hyderus o ran Anabledd

Hyderus o ran Anabledd

Cyflwyniad

Mae Cyngor Sir Penfro (PCC) yn awyddus i greu amgylchedd gwaith deinamig a llawn amrywiaeth, ac i gael y gorau o dalentau a sgiliau unigolion. Drwy ymuno â chynllun Hyderus o ran Anabledd, ein nod yw gwneud y gorau o'n hamgylchedd gwaith cynhwysol ac i fanteisio ar y buddion a ddaw o ddefnyddio’r dull hwn.

Amcanion y Cynllun

Mae'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd yn helpu cyflogwyr i gael y gorau o dalentau pobl anabl yn y gweithle.
Gyda chymorth Hyderus o ran Anabledd, mae miloedd o gyflogwyr yn:

  • herio agweddau tuag at anabledd
  • gwella dealltwriaeth o anabledd
  • dileu rhwystrau i bobl anabl a'r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor
  • sicrhau bod pobl anabl yn cael cyfleoedd i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau

Diffiniad o anabledd

Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb (2010) yn diffinio anabledd fel cyflwr corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith hirdymor a sylweddol ar eich bywyd bob dydd.

Buddion yn y Gweithle

O ddod yn gyflogwr sy’n Hyderus o ran Anabledd, gall CSP sicrhau ein bod ni;

  • yn manteisio ar gronfa ehangach o dalent
  • yn cyflogi a chadw staff da sy'n fedrus, yn ffyddlon, ac yn ddiwyd
  • yn arbed amser ac arian ar gostau recriwtio a hyfforddi drwy leihau trosiant staff
  • yn cadw sgiliau a phrofiad gwerthfawr
  • yn lleihau lefelau a chostau absenoldeb oherwydd salwch
  • yn gwella morâl a brwdfrydedd gweithwyr drwy ddangos eu bod yn trin pob cyflogai yn deg

Cyfweliad

Fel rhan o'r broses ymgeisio am swydd, bydd CSP yn rhoi cyfweliad swydd i ymgeiswyr sy'n datgan bod ganddynt anabledd gwirioneddol ac sy’n bodloni'r meini prawf swydd hanfodol. 

Cymorth

Os bydd unrhyw ymgeiswyr angen cymorth gydag unrhyw agwedd o'r broses recriwtio, cysylltwch yn uniongyrchol â'r tîm recriwtio.

ID: 5395, revised 29/09/2022