Hygyrchedd
Datganiad Hygyrchedd
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i'r wybodaeth ar:
Defnyddio'r wefan hon
Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon.
Gallwch:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo mewn heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin
Nid yw pob rhan o’n gwefan yn gwbl hygyrch
- nid yw rhai tudalennau a dogfennau sydd wedi’u hatodi wedi’u hysgrifennu’n glir
- nid yw rhai penawdau yn gyson
- nid yw teitlau rhai tudalennau yn unigryw
- nid yw rhai labeli ffurflenni yn unigryw
- nid oes testun amgen da ar gyfer rhai delweddau
- Mae rhai tudalennau yn sgrolio mewn dau ddimensiwn ar sgriniau bach
- mae sawl dogfen mewn fformat PDF ac nid ydynt yn hygyrch
Bodloni gofynion hygyrchedd
Daeth Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 i rym ar 23 Medi 2018.
Rydym yn gweithio tuag at sicrhau'r canlynol:
- Bod testun ein gwefan mor syml â phosib i’w ddeall
- Bod y testun yn gryno, mewn iaith glir ac ar ffurf syml
- Ein bod, yn ddiofyn, yn rhoi'r holl gynnwys o fewn corff yr erthygl ar ein gwefan, ac osgoi cyhoeddi dogfennau PDF lle bo'n bosibl
- Os na ellir osgoi creu dogfennau PDF, byddant yn bodloni safonau hygyrchedd cyn bod ar gael i'r cyhoedd
Adborth a manylion cyswllt
Os oes arnoch angen gwybodaeth ar y wefan hon mewn fformat arall fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei deall, recordiad sain neu Braille, cysylltwch drwy un o’r dulliau canlynol:
e-bost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
ffôn: (01437) 764551
Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig â hygyrchedd ein gwefan
Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd ein gwefan. Os dewch yn ymwybodol o unrhyw broblemau neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â:
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS) (yn agor mewn tab newydd).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n F/fyddar, sydd â nam ar eu clyw, neu sydd â nam lleferydd.
Mae dolenni sain i’w cael yn ein swyddfeydd, neu os cysylltwch â ni cyn i chi ymweld, gallwn drefnu i ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fod yn bresennol.
e-bost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk
ffôn: (01437) 764551
Am fwy o wybodaeth ynghylch ein trefniadau hygyrchedd, cysylltwch â:
Jessica Hatchett, Swyddog Mynediad Cyngor Sir Penfro
e-bost: jessica.hatchett@pembrokeshire.gov.uk
ffôn: (01437) 775148
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Rydym wedi ymrwymo i wneud ein gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG) (yn agor mewn tab newydd) , o ganlyniad i’r elfennau nad ydynt yn cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch – Rheoliadau diffyg cydymffurfio
- Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:
- Nid oes penawdau i’r rhesi mewn rhai tablau pan fo’u hangen. Maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 A 1.3.1 (Gwybodaeth a chysylltiadau).
- Nid yw’r penawdau ar rai tudalennau mewn trefn resymegol. Maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 A 1.3.1 (Gwybodaeth a chysylltiadau).
- Nid yw penawdau rhai tudalennau yn unigryw. Nid ydynt yn disgrifio testun neu ddiben y dudalen yn fanwl gywir. Maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 [LH1] 2.4.2 A (Teitlau tudalennau).
- Nid yw’r testun ar gyfer dolenni cyswllt yn nodi diben y ddolen maen prawf llwyddiant. Maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.4 A (Diben dolenni (Yn y cyd-destun)).
- Nid oes testun amgen addas ar gyfer delweddau ar dudalennau bob amser. Nid oes testun amgen ar gyfer rhai delweddau ac mae’r testun ar gyfer rhai ohonynt yn anghyflawn Maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 A (Cynnwys heb destun).
- Nid yw rhai tudalennau’n caniatáu i fysellfwrdd gael ei ddefnyddio i gael mynediad at yr holl gynnwys a nodweddion. Maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.1.1 (Bysellfwrdd)
- Ni chyflwynir y cynnwys heb golli gwybodaeth na swyddogaeth a heb y sgrolio gofynnol mewn dau ddimensiwn WCAG 2.1 1.4.10 (Reflow)
Rydym yn cynnal adolygiad gwe llawn o'n gwefan gorfforaethol ar hyn o bryd, er mwyn datrys y cynnwys nad yw'n hygyrch a nodwyd uchod. Bwriedir i'r adolygiad gael ei gwblhau a'r newidiadau gael eu gweithredu ar draws y wefan erbyn mis Awst 2022.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Dogfennau PDF a dogfennau eraill
Dylai dogfennau newydd rydym yn eu cyhoeddi o ran cyrchu ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.
Fodd bynnag, rydym yn gwybod nad yw rhai o'n dogfennau hŷn yn hygyrch. Er enghraifft, nid yw rhai ohonynt:
- wedi eu marcio mewn modd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr rhaglenni darllen sgrin eu deall
- wedi eu tagio'n gywir – er enghraifft, nid ydynt yn cynnwys penawdau cywir
- wedi eu hysgrifennu mewn Cymraeg clir
- ag iaith benodol wedi’i phriodoli
Mae rhai o'r dogfennau hyn yn ddogfennau hanesyddol ac nid ydynt yn hanfodol i ddarparu'n gwasanaethau. Mae'r mathau hyn o ddogfennau wedi eu heithrio o'r rheoliadau. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i'w gwneud yn hygyrch.
Os oes angen i chi gael gwybodaeth sydd yn un o'r mathau hyn o ddogfennau, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at ymholiadau@sir-benfro.gov.uk a gofynnwch am fformat gwahanol.
Fideo fyw
Nid ydym yn cynllunio ychwanegu isdeitlau i ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i esemptio rhag gorfod bodloni'r rheoliadau hygyrchedd (yn agor mewn tab newydd).
Ceisiadau Trwyddedu
Mae'r holl dempledi ffurflenni cais a ddefnyddir mewn perthynas â Deddf Trwyddedu 2003 a Deddf Gamblo 2005 yn dilyn templed statudol safonol a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref, nad oes modd inni ei ddiwygio.
Systemau a chymwysiadau Trydydd Parti
Rhydym yn cysylltu â ac yn defnyddio cynnwys a ddarperir gan wefannau eraill ac nid yw'r rhain bob amser mor hygyrch. Mae'r rhain yn cynnwys:-
- Modern.gov gwybodaeth, cyfarfodydd, agendâu a chofnodion Cynghorwyr
- Llyfrgell ar-lein
- Porth Cynllunio
- idox/EROS (Gwasanaethu Etholiadol)
- iCasework (Coflyfr Datgeliadau'n rhestru: Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.)
Rhydym wedi dechrau trafodaethau gyda'n cyflenwyr i fynd i'r afael â materion hygyrchedd ar systemau rhydym wedi'u prynu ganddynt.
Baich anghymesur
Datganiad o Gyfrifon
Oherwydd cymhlethdod y ddogfen a natur a fformat y tablau sydd wedi’u cynnwys yng Nghod y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA), mae angen ystyriaeth bellach er mwyn helpu i sicrhau bod y Datganiad o Gyfrifon yn cael ei gyflwyno mewn modd sy’n gwbl hygyrch.
Byddwn yn gweithio tuag at sicrhau cydymffurfedd, wrth gadw at gymhlethdodau'r modd y cyflwynir gofynion adrodd penodedig Cod Ymarfer CIPFA ar gyfer Cadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol.
Asesu Cymeriad y Dirwedd
Mae hon yn ddogfen gymhleth a thechnegol oherwydd y defnydd o LANDMAP. Mae hon yn system asesu unigryw, sy’n caniatáu i wybodaeth am dirwedd gael ei chasglu, ei threfnu a’i gwerthuso’n set ddata gyson genedlaethol gan ddefnyddio’r Porth LANDMAP a mapio systemau gwybodaeth ddaearyddol (Mapinfo neu ArcGIS). Oherwydd y defnydd o system asesu LANDMAP, mae’r adroddiad asesu yn cynnwys 62 o fapiau, 64 o ddelweddau atodol i gefnogi’r mapiau a data tablau o’r teclyn agweddau LANDMAP. Am y rheswm hwn, mae angen ystyriaeth bellach i edrych ar sut y gellir cyflwyno Asesiad Cymeriad y Dirwedd mewn modd sy’n gwbl hygyrch
Cynllun Datblygu Lleol
Ac ystyried bod sylfaen dystiolaeth dechnegol yn cynnwys llawer iawn o fapiau, delweddau a thablau data mae angen sicrhau bod y sylfaen dystiolaeth ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy'n gwbl hygyrch.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn wrth fwrw ymlaen, mae'r Tîm Cynllunio wedi cynnwys amod y bydd angen i unrhyw adroddiadau, asesiadau neu ymgynghoriadau a gynhyrchir gan ymgynghorwyr allanol fod ar gael mewn fformat hygyrch er mwyn bodloni'r gofynion caffael newydd.
Yr hyn yr ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Cynhelir profion ar y wefan gan ein Tîm Gwe o ran cydymffurfedd â safon A a safon AA F2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau.
Rydym yn defnyddio’r offeryn Silktide i fonitro unrhyw faterion ynghylch hygyrchedd, a’n nod yw datrys unrhyw broblem a ganfuwyd cyn gynted â phosibl. Rydym yn defnyddio gwirydd hygyrchedd Adobe Pro i wirio'r dogfennau PDF. Lle bo'n bosib, rydym yn cyhoeddi dogfennau ar ffurf HTML.
Sut y gwnaethom brofi hygyrchedd ein gwefan
Mae Silktide yn profi ein gwefan bob mis. Er mwyn gweld yr adroddiad diweddaraf, ewch i'r dudalen ganlyniadau ar wefan Silktide (yn agor mewn tab newydd).
Mae ein Tîm Digidol yn defnyddio'r Offeryn Gwerthuso WAVE ac estyniad porwr Axe ar gyfer gwirio tudalennau gwe unigol, a'r offeryn Silktide ar gyfer gwirio a monitro statws hygyrchedd y wefan gyfan.
Mae sampl o gynnwys ein gwefan yn cael ei ddefnyddio'n rheolaidd i ddiweddaru a chyfrif safle gwefan Cyngor Sir Penfro ar fynegai Silktide (yn agor mewn tab newydd)
Llunio’r datganiad hygyrchedd hwn
Lluniwyd y datganiad hwn ar 1 Tachwedd 2021.
Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 19 Gorffennaf 2023
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 3 Gorffennaf 2023.