Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro

Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro (HDDD)

Mae angen Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro (HDDD) os dymunwch gynnal digwyddiad sy'n cynnwys hyd at 499 o bobl, lle bydd cynnal un neu fwy o weithgareddau trwyddedadwy lle nad ydynt wedi eu hawdurdodi gan drwydded safle bresennol neu dystysgrif safle clwb.

Hysbysiad yw'r HDDD i'r Awdurdod Trwyddedu i roi gwybod iddynt fod unigolyn yn bwriadu cynnal gweithgareddau trwyddedadwy am gyfnod heb fod dros 168 awr neu 7 diwrnod.

Pan gaiff HDDD ei roi yn gytûn a Rhan 5 Deddf 2003, mae HDDD yn cynnwys awdurdodiad oni bai iddo gael ei dynnu'n ôl neu ei ganslo yn sgil hysbysiad cyferbyniol gan yr Awdurdod Trwyddedu.

 

Cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu am ragor o wybodaeth ar 01437 764551 neu drwy e-bost licensing@pembrokeshire.gov.uk

ID: 2038, adolygwyd 30/10/2024