Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro
Beth am Ddigwyddiadau ar Raddfa Fawr?
Ni ellir defnyddio Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro ar gyfer digwyddiadau i dros 500 o bobl. Os ydych yn bwriadu trefnu digwyddiad o'r fath, bydd angen ichi gael trwydded safle os nad yw'r safle wedi ei drwyddedu'n barod.
Pan fo bwriad i gynnal digwyddiad mawr, gofynnir i drefnwyr gysylltu ag Adran Drwyddedu Cyngor Sir Penfro yn fuan cyn rhoi hysbysiad ffurfiol. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosib cynnal trafodaethau gyda threfnwyr ynghylch eu hamserlenni gweithredu ac osgoi gwrthwynebiadau a rhwystrau posib.
Mae Cyngor Sir Penfro wedi creu Canllaw Diogelwch Digwyddiad er mwyn cynnig cyngor ymarferol i drefnwyr digwyddiadau ynghylch sut i drefnu/baratoi digwyddiadau yn llwyddiannus, gan gydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch, anghenion trwyddedu, cau ffyrdd, ac yn y blaen, a chynnig cyngor ynghylch beth sy'n ddisgwyliedig wrth drefnu digwyddiad.
Nid oes gan Awdurdodau Trwyddedu rym i atal Digwyddiadau Dros Dro a ganiatawyd unwaith y byddant wedi dechrau, o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Fodd bynnag, mae gan yr Awdurdod Lleol bwerau statudol eraill o dan ddeddfwriaeth arall megis Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith (etc) 1974.
Os bydd digwyddiad yn cael ei gynnal heb yr awdurdod angenrheidiol o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, mae'n debygol y bydd Cyngor Sir Penfro a Heddlu Dyfed Powys yn dilyn y protocol ar gyfer digwyddiadau digymell.