Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro
Beth fydd yr Awdurdod Trwyddedu yn ei wneud nesaf?
Bydd y Cyngor yn dychwelyd yr hysbysiad a gymeradwywyd i'r sawl sy'n rhoi'r hysbysiad o fewn 2 ddiwrnod gwaith.
Yr hysbysiad a gymeradwywyd fydd yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro ac mae'n rhaid ei gadw'n ddiogel, ei arddangos mewn lle amlwg yn ystod y digwyddiad a rhaid gallu ei gyflwyno ar gais swyddogion awdurdodedig yr Awdurdod Trwyddedu a/neu gwnstabl yr Heddlu.
Os byddwch yn colli'r Hysbysiad Dros Dro, gallwch wneud cais am gopigan yr Awdurdod Trwyddedu a chodir tâl o £10.50.
ID: 2053, adolygwyd 01/02/2023