Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro

Beth os bydd Gwrthwynebiad?

Gall yr Heddlu a/neu'r Tîm Rheoli Llygredd wrthwynebu'r digwyddiad dros dro ar y sail nad yw'n hyrwyddo un neu ragor o'r amcanion trwyddedu canlynol;

  • Atal trosedd ac anhrefn
  • Atal niwsans i'r cyhoedd
  • Diogelwch y cyhoedd
  • Gwarchod plant rhag niwed

Mae gan yr Heddlu a'r Tîm Rheoli Llygredd 3 diwrnod gwaith i wneud unrhyw wrthwynebiad ar sail yr amcanion hyn.

Yna, mae'n rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu gynnal gwrandawiad i ystyried yr hysbysiad  gwrthwynebu, oni bai fod y defnyddiwr safle, a roddodd yr hysbysiad gwrthwynebu, a'r Awdurdod Trwyddedu yn cytuno nad oes angen gwrandawiad.

Yn y gwrandawiad, os bydd yr Is-bwyllgor Trwyddedu yn ei ystyried yn addas ar gyfer hyrwyddo amcanion trwyddedu, gall:

  • Roi Gwrth-hysbysiad i ddefnyddiwr y safle yn nodi'r rhesymau dros ei benderfyniad (a chopi hefyd i'r Heddlu ac i'r Tîm Rheoli Llygredd). Effaith y Gwrth-hysbysiad fyddai atal y digwyddiad rhag digwydd; neu
  • Gosod amodau ar yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro safonol os yw'n ei ystyried yn addas ar gyfer hyrwyddo'r amcanion trwyddedu, a bod yr amodau hynny eisoes yn amodau ar y drwydded safle bresennol neu ar dystysgrif safle clwb presennol sydd mewn grym ar gyfer yr un safle â'r Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro, ac nad yw'r amodau yn anghyson â chynnal gweithgareddau trwyddedadwy dan yr HDDD; neu
  • Cyn y gwrandawiad, gall yr Heddlu neu'r Tîm Rheoli Llygredd addasu'r HDDD (gyda chydsyniad y defnyddiwr safle). Wrth wneud hynny, caiff eu hysbysiad gwrthwynebu ei dynnu'n ôl a chaiff y digwyddiad fynd yn ei flaen yn gytûn â'r hysbysiad diwygiedig.

Bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn cyflwyno hysbysiad penderfyniad i gynnal gwrandawiad yn rhoi manylion ynghylch y rheswm am y penderfyniad hwnnw.

Os yw'r Heddlu neu'r Tîm Rheoli Llygredd yn gwrthwynebu HDDD ‘hwyr', rhiad i'r Awdurdod Trwyddedu roi Gwrth-hysbysiad i'r defnyddiwr safle. O ganlyniad, bydd HDDD hwyr yn aneffeithiol, ac nid oes hawl i gael gwrandawiad nac i apelio.

Rhaid i'r Awdurdod Trwyddedu wneud penderfyniad a rhoi hysbysiad o leiaf 24 awr cyn i'r digwyddiad a nodwyd yn yr HDDD ddechrau.

Rhoddir Gwrth-hysbysiadau hefyd pryd bynnag y torrir unrhyw un o'r cyfyngiadau a ganiateir fel y nodwyd ynghynt yn y canllaw hwn.

ID: 2054, adolygwyd 17/03/2023