Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro
Faint o rybudd sydd angen i mi ei roi?
Rhaid rhoi HDDD dim hwyrach na 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad, ond gofynna Cyngor Sir Penfro i chi roi HDDD i'r Cyngor ac i'r Heddlu o leiaf 28 diwrnod cyn y digwyddiad er mwyn galluogi'r Cyngor i ddatrys unrhyw broblemau mewn da bryd.
Nid yw'r diwrnod y derbynnir yr hysbysiad, diwrnod cyntaf y digwyddiad, Gwyliau Banc na phenwythnosau yn gynwysedig yn y 10 niwrnod, felly mae angen gadael digonedd o amser ar gyfer hyn.
Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro Hwyr
Os ydych wedi colli'r terfyn amser o 10 diwrnod gwaith clir ar gyfer yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro ‘safonol', gall defnyddiwr safle roi hysbysiad ‘hwyr', dim hwyrach na 5 diwrnod gwaith ond dim cynharach na 9 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad. Os caiff yr hysbysiad ei roi yn hwyrach na'r 5 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad, bydd yr Awdurdod Trwyddedu yn dychwelyd yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro fel dogfen ddi-rym ac ni fydd darpariaethau'r gweithgareddau trwyddedadwy wedi eu hawdurdodi.
Awgrymir y dylai unrhyw amlen sy'n cynnwys HDDD gael ei marcio'n glir â ‘Temporary Event Notice' neu ‘Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro' er mwyn inni ei hadnabod yn glir a rhoi sylw iddi ar unwaith.