Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro

Oes modd i mi apelio?

Mae proses apelio ar gael i'r defnyddiwr safle, i'r Heddlu, ac i'r Tîm Rheoli Llygredd, os ydynt yn anfodlon â phenderfyniad yr Is-bwyllgor Trwyddedu.

Rhaid i unrhyw apeliadau gael eu gwneud yn y Llys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o'r dyddiad y gwnaed y penderfyniad i gynnal gwrandawiad. Fodd bynnag, ni ellir gwneud apêl dim hwyrach na phum diwrnod gwaith cyn diwrnod cyntaf y digwyddiad.

Os oes gennych gŵyn ynghylch y ffordd y proseswyd eich hysbysiad digwyddiad dros dro, cysylltwch yn gyntaf â'r Tîm Trwyddedu.

Diffiniad o Gynulleidfa

I ddibenion adloniant rheoledig, mae'r term ‘cynulleidfa' yn cyfeirio at unrhyw berson y darperir gweithgareddau trwyddedadwy ar ei gyfer (yn rhannol o leiaf). Nid oes rhaid i aelod o'r gynulleidfa gael, na bod eisiau, ei ddifyrru: yr hyn sy'n cyfri yw bod cynulleidfa'n bresennol ac mai pwrpas y gweithgaredd drwyddedadwy (yn rhannol o leiaf) yw difyrru unrhyw un sy'n bresennol. Ni fydd y gynulleidfa yn cynnwys perfformwyr, nac unrhyw un sy'n cyfrannu sgiliau technegol er mwyn rhoi cefnogaeth sylweddol i berfformiwr (er enghraifft, peiriannydd sain neu dechnegydd llwyfan) yn ystod unrhyw weithgareddau cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys y gwaith gosod cyn yr adloniant, seibiannau rhesymol (gan gynnwys egwyliau) rhwng gweithgareddau a phacio offer wedyn. Yn yr un modd, ni fydd staff diogelwch na'r gweithwyr yn y bar yn ffurfio rhan o'r gynulleidfa tra byddant yn cyflawni eu dyletswyddau, sy'n cynnwys seibiannau rhesymol.

Rhaid i unrhyw un sy'n rhoi Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro sicrhau nad yw cynulleidfaoedd yn  cynyddu neu'n symud fel bod y gynulleidfa'n fwy na'r uchafswm perthnasol ar gyfer unrhyw un perfformiad neu ddigwyddiad ar unrhyw adeg.

ID: 2055, adolygwyd 01/02/2023