Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro
Pwy all Wneud Cais?
- Gall unrhyw un sy'n 18 oed neu'n hŷn cyflwyno HDDD, ond ni all gael ei gyflwyno gan fusnes na sefydliad.
- Yr un sy'n cyflwyno’r hysbysiad yw ‘defnyddiwr y safle'.
- Gall unrhyw un sydd â thrwydded bersonol dan Ddeddf Trwyddedu 2003 cyflwyno hyd at 50 HDDD yn ystod un flwyddyn galendr, a gall hyd at 10 ohonynt fod yn HDDD ‘hwyr'.
- Caiff unrhyw un nad oes ganddynt drwydded bersonol gyfredol eu cyfyngu i gyflwyno 5 HDDD yn ystod blwyddyn galendr, a gall hyd at 2 ohonynt fod yn HDDD hwyr.
- Mae HDDD arferol a rhai hwyr, ym mha bynnag gyfuniad, yn cyfri tuag at y nifer cyfyngedig o HDDD.
- Mae HDDD sy'n berthnasol ar gyfer digwyddiad a gynhalir ar draws 2 flynedd galendr yn cyfri yn erbyn y nifer cyfyngedig o hysbysiadau sydd gan yr unigolyn yng nghyd-destun y ddwy flynedd galendr.
- Gellir rhoi uchafswm o 15 HDDD ar gyfer un safle yn ystod blwyddyn galendr (yn berthnasol ers 1 Ionawr 2016).
- Gellir defnyddio safle ar gyfer gweithgareddau wedi eu hawdurdodi gan HDDD am ddim mwy na 21 diwrnod yn ystod blwyddyn galendr.
Nodwch fod partner priod, partner sifil, aelod o'r teulu er enghraifft plentyn, rhiant, ŵyr/wyres, nain/taid neu frawd/chwaer, asiant neu weithiwr cyflogedig yn cael eu diffinio fel cymdeithion wrth ystyried y nifer o HDDD a ganiateir. Bydd HDDD sy'n cael ei gyflwyno yn enw unrhyw un o'r cymdeithion hyn yn cyfri tuag at y nifer a ganiateir ar gyfer defnyddiwr y safle.
ID: 2045, adolygwyd 01/02/2023