Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro
Sut i dalu am HDDD
Mae amryw o ffyrdd i dalu.
- Taliad ar-lein - gellir gwneud taliadau diogel ar-lein drwy Fy Nghyfrif
- Dros y ffôn - Gellir gwneud taliadau gyda cherdyn debyd neu gredyd dros y ffôn. Gall y ganolfan gyswllt brosesu eich taliad yn syth. Rhoddir i chi rif derbynneb sy'n cadarnhau'r taliad.
- Drwy'r post gyda sieciau yn daladwy i Gyngor Sir Penfro - mae pob siec yn cael ei anfon ymlaen at arianwyr y cyngor er mwyn eu prosesu. Caiff derbynneb ei hanfon atoch ynghyd â'ch hysbysiad digwyddiad dros dro.
- Cyflwyno'r taliad eich hunan - Gydag arian parod, siec, cerdyn debyd neu gredyd at unrhyw un o ddesg arian Cyngor Sir Penfro yn Hwlffordd. Nid oes modd i'r Tîm Trwyddedu dderbyn taliadau arian parod drwy'r post.
ID: 2051, adolygwyd 12/08/2024