Hysbysiadau Digwyddiad Dros Dro

Sut mae gwneud cais am HDDD?

Cofrestr Digwyddiad Dros Dro

Mae HDDD yn costio £21.00 a rhaid ichi roi'r hysbysiad o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad - gweler y wybodaeth ynghylch HDDD hwyr.

Nid yw'r diwrnod y derbynnir yr hysbysiad, diwrnod cyntaf y digwyddiad, Gwyliau Banc na phenwythnosau yn gynwysedig yn y 10 niwrnod.

Sicrhewch eich bod yn darllen y canllawiau ynghylch HDDD cyn cyflwyno'r cais gan na fydd yr Adran Trwyddedu yn ad-dalu ffi ceisiadau annilys neu geisiadau a gaiff eu gwrthod.

Rhaid i HDDD gynnwys y wybodaeth ganlynol: -

  • Y gweithgareddau trwyddedadwy a fydd yn cael eu cynnal.
  • Cyfanswm hyd y digwyddiad (heb fod dros 168 awr).
  • Yr amserau ystod y digwyddiad lle bydd y gweithgareddau trwyddedadwy yn cael eu cynnal.
  • Y nifer uchaf o bobl a ganiateir ar y safle ar unrhyw adeg (heb fod yn fwy na 499) (gweler y diffiniad o gynulleidfa).
  • P'un ai y bydd gwerthiant alcohol yn cael ei wneud i'w yfed ar neu oddi ar y safle (neu'r naill a'r llall). Rhaid i'r holl werthiant alcohol gael ei wneud gan, neu dan awdurdod, yr unigolyn sy'n cyflwyno'r Hysbysiad.
  • Unrhyw faterion eraill penodedig gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Ni ellir ond rhoi un Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro ar bob ffurflen. Ni ellir ystyried hysbysiadau lluosog a gaiff eu rhoi ar yr un ffurflen.

Mewn achos lle bydd digwyddiad yn cael ei gynnal ar gae neu ar ddarn o dir, rhaid i'r hysbysiad nodi manylion o'r union gyfeirnod map arolwg ordnans. Os na chynhwysir y manylion hyn, gellid gwrthod yr hysbysiad.

Gallwch roi HDDD yn y ffyrdd canlynol :-

Drwy'r post:

A fyddech cystal â phostio eich HDDD wedi ei gwblhau i'r Adran Trwyddedu. Rhaid i ffi o £21.00 gael ei chynnwys ynghyd â'r HDDD, dylid arwyddo sieciau yn daladwy i Gyngor Sir Penfro. Ni ddylid anfon arian parod drwy'r post.

Cyngor Sir Penfro
Adran Trwyddedu
Is-adran Diogelu'r Cyhoedd
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP

E-bost: licensing@pembrokeshire.gov.uk

Rhaid ichi hefyd anfon copi o'ch cais at yr Heddlu ac at y Tîm Rheoli Llygredd gan ddefnyddio'r cyfeiriadau isod:

Heddlu Dyfed Powys
Swyddog Trwyddedu'r Heddlu
Swyddfa'r Heddlu Hwlffordd
Bryn Myrddin
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1PE

Cyngor Sir Penfro
Tîm Rheoli Llygredd
Is-adran Diogelu'r Cyhoedd
Neuadd y Sir
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 1TP

E-bost: pollution.control@pembrokeshire.gov.uk

Drwy e-bost:

Gall HDDD gael ei anfon dros e-bost at yr Adran Trwyddedu, at licensing@pembrokeshire.gov.uk. Bydd y Tîm Trwyddedu yn anfon y HDDD ymlaen at

Heddlu Dyfed Powys ac at Dîm Rheoli Llygredd Cyngor Sir Penfro cyn diwedd y diwrnod gwaith.

Mae'r ffi o £21 yn daladwy i Gyngor Sir Penfro ac angen ei dalu wrth gyflwyno'r cais - ni ymdrinnir â'r cais o gwbl nes bydd y ffi wedi cael ei thalu. 

ID: 2050, adolygwyd 08/02/2023