Iechyd a Lles Anifeiliaid
Iechyd a Lles Anifeiliaid
Mae'r Tîm Iechyd & Lles Anifeiliaid yn gyfrifol am roi cyngor, gwybodaeth a gorfodi deddfwriaeth iechyd anifeiliaid a thrwyddedu i'r rhai sy'n cadw da byw.
Prif amcanion y Cyngor hwn yw:
- I atal, rheoli a dileu clefydau anifeiliaid
- I amddiffyn lles anifeiliaid ar ddaliadau amaethyddol, wrth eu cludo ac mewn marchnadoedd
- I ddiogelu iechyd pobl a'r gadwyn fwyd rhag clefydau trosglwyddadwy
- I drwyddedu sefydliadau anifeiliaid yn cynnwys siopau anifeiliaid anwes, sŵau, mannau lletya anifeiliaid, bridiwr cŵn a sefydliadau marchogaeth
Bydd Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yn gorfodi holl agweddau'r ddeddfwriaeth berthnasol ac mae eu dyletswyddau'n cynnwys:
- Mynychu lladd-dai, marchnadoedd/cynulliadau a gwerthiannau da byw, i sicrhau bod y ddogfennaeth yn gywir, ffitrwydd y da byw a defnyddio'r dulliau cywir o drin a chorlannu.
- Archwiliadau fferm i sicrhau cydymffurfiad gyda chadw cofnodion a lles.
- Archwilio unrhyw gwynion ynglŷn â lles.
- Gweithredu'n ffurfiol yn erbyn troseddwyr lle mae unrhyw weithredu arall wedi bod yn aflwyddiannus.
Dydyn ni ddim yn delio â lles anifeiliaid anwes, e.e. ceffylau neu gŵn a chathod mewn amgylchedd domestig.
Cysylltwch â ni:
Tîm Iechyd a Lles Anifeiliaid
FFôn: 01437 764551
E-bost: AnimalWelfareMailbox@pembrokeshire.gov.uk
Mae'r hysbysiad hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn
ID: 2423, adolygwyd 13/07/2023