Iechyd a Lles Anifeiliaid

Cyfarwyddyd Iechyd a Lles Anifeiliaid

Lles Anifeiliaid fferm: Gwartheg, Defaid, Moch, Geifr

Mae'r Tîm Iechyd & Lles Anifeiliaid yn gyfrifol am orfodi Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, Deddf Diogelwch Bwyd 1990, Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a Deddf Lles Anifeiliaid 2006.

Mae hyn yn cynnwys gweithredu:

  • Rheoli Clefydau, e.e. TB mewn gwartheg, y gynddaredd (rabies), clwy' traed a'r genau
  • Lles Anifeiliaid
  • Adnabyddiaeth Da Byw
  • Cofnodi Symudiadau & Chadw Cofnodion
  • Cofnodi Meddyginiaethau
  • Gwaredu Sgil gynhyrchion Anifeiliaid
Os ydych yn amau creulondeb i anifeiliaid neu am adrodd ar broblem lles anifeiliaid fferm yna cysylltwch â ni ar unwaith.
 

Nodyn i geidwaid newydd

Yn gyntaf, mae'n rhaid i'r safle gofrestru â'r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) (0845 603 7777) i gadw da byw. Mae'r rhain yn dyrannu Rhif y Daliad ar gyfer y darn tir lle cedwir y da byw. Unwaith y derbyniwch Rif y Daliad gallwch symud da byw i'ch daliad dan Drwydded Gyffredinol.

Yna, bydd ar bob daliad angen marc diadell/ gyrr dynodedig. Bydd hwn yn cael ei ddyrannu unwaith y bydd y math o dda byw a gedwir yn cael ei gofrestru. Cysylltwch â swyddfa'r Cynulliad yng Nghaernarfon ar 01286 674144.  (Rhaid gwneud hyn o fewn un mis i'r anifail/ anifeiliaid gyrraedd y daliad).

ID: 2424, adolygwyd 08/09/2022