Iechyd a Lles Anifeiliaid
Hylendid Bwyd a Phorthiant Cynnyrch Cynradd
Hylendid bwyd i ffermwyr a thyfwyr
Mae'r ddeddfwriaeth hon yn helpu sicrhau hygrededd bwyd, o'r Fferm i'r Fforc, trwy ddiogelu hylendid bwydydd a gynhyrchir ar fferm. Mae'n rhaid i ffermwyr a thyfwyr ddilyn gweithdrefnau hylendid i sicrhau bod peryglon fel halogiad pridd, dŵr, gwrteithiau, plaleiddiaid a thrafod gwastraff yn cael eu hatal. Yn ogystal, mae'n ofynnol cadw cofnodion perthnasol i ddiogelwch bwyd.
Pa fath o fusnesau mae'n cwmpasu?
Unrhyw ffermydd da byw, ffermydd pysgod, ffermydd âr, casglu ffrwythau a llysiau eich hun, gerddi masnachol neu geidwaid gwenyn sy'n cynhyrchu bwyd i'w fwyta gan bobl.
Hylendid porthiant i ffermwyr a thyfwyr (dolen 1c parhad)
Mae'r Cyngor yn helpu sicrhau bod porthiant da byw yn rhydd o unrhyw halogwyr, ychwanegion a chynhwysion a allai beryglu iechyd pobl. Mae'n rhaid i gynhyrchwyr porthiant anifeiliaid a ffermwyr sy'n defnyddio a storio porthiant anifeiliaid gymryd camau i gydymffurfio â'r amodau hyn. Yn ogystal dylent fod â system wedi'i sefydlu sy'n sicrhau y gellir olrhain ac adalw porthiant os bydd unrhyw ddigwyddiad ynglŷn â diogelwch porthiant.
Mae'r ddeddfwriaeth yn gofyn bod busnesau porthiant yn cael eu cymeradwyo neu eu cofrestru gyda'u hawdurdod lleol.
Pa fath o fusnesau mae'n cwmpasu?
- cynhyrchwyr porthiant
- mewnforwyr porthiant
- gwerthwyr porthiant
- cludwyr porthiant
- storfeydd porthiant
- cwmnïau bwyd sy'n gwerthu cydgynnyrch neu warged bwyd i'w ddefnyddio mewn porthiant (gwastraff popty)
- cynhyrchwyr bwyd anifeiliaid anwes
- ffermydd da byw, ffermydd pysgod neu ffermydd âr sy'n tyfu a defnyddio neu werthu cnydau ar gyfer porthiant
Rhagor o wybodaeth:
Canllawiau i Gymysgwyr Porthiant ar y Fferm
Cynhyrchu eich bwyd anifeiliaid anwes eich hun
Manwerthu bwyd anifeiliaid anwes