Iechyd a Lles Anifeiliaid
Rheoli Clefydau a Chlefydau Hysbysadwy
Rheoli Clefydau - Bioddiogelwch
Pwrpas bioddiogelwch yw atal clefydau rhag cael eu trosglwyddo i neu oddi ar safleoedd lle mae da byw'n cael eu cadw. Gall cyfryngau sy'n achosi clefydau fod yn bresennol mewn anadl, baw, wrin, semen, llaeth, secretiadau trwynol a phoer anifeiliaid. Ffynonellau eraill o heintiad yw gwellt dan anifeiliaid, llociau ac offer wedi'u halogi.
Yr allwedd i fioddiogelwch yw arferion hylendid da; mae hyn yn lleihau'r risg o dda byw yn cael eu heintio gan glefyd newydd ac mae'n gwella proffidioldeb y fferm. Bydd defnyddio arbenigedd eich milfeddyg a datblygu cynllun iechyd fferm ysgrifenedig yn gwella iechyd eich da byw.
Mae nifer helaeth o ddeddfwriaeth da byw wedi'i chynllunio i leihau'r risg o glefyd yn lledaenu, ac mae'n gorgyffwrdd bioddiogelwch: cyfnodau cau (dim symud), glanhau cerbydau da byw, trwyddedu symudiadau ac ati.
Mae clefyd yn cael ei ledaenu gan |
Lleihau'r risg |
---|---|
Cyswllt ag anifeiliaid eraill |
Osgoi cyswllt ag anifeiliaid eich cymydog, cynnal ffensys. |
Symud anifeiliaid & chyflwyno anifeiliaid newydd |
Holi ynglŷn â chyflwr iechyd unrhyw anifeiliaid a brynwch, eu cadw ar wahân i'ch anifeiliaid eraill, cynllunio a gweithredu triniaethau (holwch eich milfeddyg). |
Halogi gan fermin |
Gweithredu rhaglen rheoli pla. |
Ymwelwyr: pobl a cherbydau |
Sicrhau bod ymwelwyr yn ymolchi a diheintio, yn enwedig os ydynt yn trin anifeiliaid (e.e. milfeddygon, technegwyr tarw potel). |
Rhannu offer |
Osgoi rhannu offer milfeddygol. Glanhau unrhyw offer a rennir yn drylwyr. |
Dŵr, porfa a gwely anifeiliaid wedi'u halogi |
Cadw cafnau dŵr yn lân, rhoi hoe i borfeydd. |
CHI |
Glanhau esgidiau, dwylo a dillad. Byddwch yn wyliadwrus mewn marchnadoedd ac ar ffermydd eraill. Diheintiwch EICH HUN! |
Yn aml bydd y prif risg i ddiogelwch yn cael ei esgeuluso: y ffermwr ei hun! Ni ellir lleihau ffactorau risg os nad yw'r ffermwr yn eu gweithredu. Mae symudiadau'r ffermwr oddi ar y fferm yn arwyddocaol hefyd: mae mynd i farchnadoedd a lleoedd eraill lle mae anifeiliaid yn casglu a ffermydd eraill yn ffynonellau risg allweddol os na wneir y rhagofalon priodol.
"Cofiwch: Ymwelwyr, milfeddygon, fermin a cherbydau"
Clefydau Hysbysadwy
Mae cyfrifoldeb ar Gyngor Sir Penfro i atal lledaeniad Clefydau Anifeiliaid Hysbysadwy fel Clwy'r Traed a'r Genau, Tafod Glas, Anthracs, Y Gynddaredd a Ffliw Adar. Os bydd clefyd hysbysadwy yn dechrau mae'n hanfodol bod y Cyngor yn darparu ymateb cyflym ac effeithiol.
I wneud hyn mae gan y Tîm Lles Anifeiliaid Gynllun Wrth Gefn Generig ar gyfer Clefyd Anifeiliaid Hysbysadwy. Cynllun a gaiff ei ddefnyddio gydag atodiadau sy'n cyfeirio at glefydau anifeiliaid unigol ac yn amlinellu ein rôl benodol ar gyfer y clefyd hwnnw.
Os bydd clefyd yn dechrau
Os bydd clefyd yn dechrau yn Sir Benfro bydd y Tîm Iechyd & Lles Anifeiliaid, ynghyd â DEFRA a chyrff perthnasol eraill, yn chwarae rhan bwysig i geisio cyfyngu a rheoli'r clefyd,
Os ydych yn amau bod Clefyd Hysbysadwy wedi dechrau
Gallwch gysylltu â'r Cyngor ar 01437 764551 neu 01437 771891 (argyfwng tu allan i oriau swyddfa)
Llinell gymorth Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) ar 08459 33 55 77